ÒÁÈËÖ±²¥

Skip to main content
Emergency Alerts

This is a new service that is being trialled – your will help us to improve it.

Sut mae'r rhybuddion argyfwng yn gweithio

Mewn argyfwng, bydd mastiau ffonau symudol yn yr ardal oddi amgylch yn darlledu rhybudd. Bydd pob ffôn symudol neu lechen gydweddol o fewn cyrraedd y mastiau hyn yn cael y rhybudd.

Mae rhybuddion argyfwng yn gweithio ar bob un o rwydweithiau ffôn 4G a 5G y DU.

Does dim angen bod eich ffôn symudol na'ch llechen wedi'u cysylltu â data symudol neu wifi i gael rhybuddion.

Mae rhybuddion argyfwng yn rhad ac am ddim. Does dim angen i chi lofnodi ar eu cyfer na lawrlwytho ap.

Rhesymau na chewch chi rybuddion

Ni chewch chi rybuddion os yw eich dyfais:

  • wedi’i diffodd
  • wedi’i chysylltu â rhwydwaith 2G neu 3G
  • ar wifi yn unig
  • yn anghydnaws

Efallai na chewch chi rybuddion os yw eich dyfais:

  • yn y modd awyren

Ffonau symudol a dyfeisiau eraill cydweddol

Gwnewch yn siŵr fod gan eich dyfais yr holl ddiweddariadau meddalwedd diweddaraf.

Mae rhybuddion argyfwng yn gweithio ar y canlynol:

  • Ffonau iPhone sy'n rhedeg iOS 14.5 neu systemau diweddarach
  • Ffonau a llechi Android sy'n rhedeg Android 11 neu systemau diweddarach

Os oes gennych chi fersiwn Android cynharach, efallai y bydd modd o hyd i chi gael rhybuddion. I wirio, chwiliwch osodiadau'ch dyfais am ‘osodiadau argyfwng’.

Efallai y bydd ffonau eraill nad ydynt yn rhedeg iOS neu Android hefyd yn derbyn rhybuddion.

Os hoffech weld rhybudd eto

I weld rhybudd eto, ewch i rybuddion presennol neu rybuddion y gorffennol.

Gallwch chi hefyd chwilio am rybuddion argyfwng ar eich ffôn symudol neu'ch llechen.

Os cewch chi negeseuon atgoffa am rybudd

Efallai y caiff ffonau symudol a llechi Android fwy nag un neges atgoffa am yr un rhybudd argyfwng. Gallwch ddiffodd y negeseuon rhybudd hyn trwy'r gosodiadau ‘rhybuddion argyfwng’ ar eich dyfais.

Eich data personol

Does dim angen bod gan y gwasanaethau brys na llywodraeth y DU eich rhif ffôn er mwyn anfon rhybudd atoch chi.

Ni chaiff data amdanoch chi, eich dyfais na'ch lleoliad eu casglu na'u rhannu.