Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Printable version

1. Trosolwg

Gallech gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) os aethoch yn sâl neu’n anabl oherwydd damwain neu glefyd naill ai:

  • yn y gwaith
  • ar gynllun neu gwrs hyfforddiant cyflogaeth cymeradwy

Mae’r swm y gallech ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.

Efallai y gall eich gofalwr gael Lwfans Gofalwr os oes gennych anghenion gofalu sylweddol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd ei ddeall.

2. Beth fyddwch chi'n ei gael

Bydd lefel eich anabledd yn effeithio ar faint o fudd-dal y gallech ei gael. Caiff hyn ei asesu gan ‘gynghorydd meddygol’ ar raddfa o 1 i 100%.

Fel arfer, rhaid i chi gael eich asesu fel 14% yn anabl neu fwy i gael y budd-dal.

Canllaw yn unig yw’r holl symiau.

Lefel yr anabledd a aseswyd Swm wythnosol
100% £225.30ÌýÌý
90% £202.77ÌýÌý
80% £180.24ÌýÌý
70% £157.71ÌýÌý
60% £135.18ÌýÌý
50% £112.65ÌýÌý
40% £90.12ÌýÌý
30% £67.59ÌýÌý
20% £45.06

3. Cymhwysedd

Damweiniau

Efallai y gallwch hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) os:

  • cawsoch eich cyflogi pan ddigwyddodd y ddamwain neu’r digwyddiad
  • yr oeddech ar gynllun neu gwrs hyfforddiant cyflogaeth cymeradwy pan ddigwyddodd y ddamwain neu’r digwyddiad
  • digwyddodd y ddamwain waith neu’r digwyddiad a achosodd eich salwch neu anabledd yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban

Mae rhai eithriadau y gallwch ofyn i’ch Canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol rhanbarthol amdanynt.

Clefydau

Gallwch hawlio IIDB os oeddech yn gyflogedig mewn swydd neu os oeddech ar gynllun neu gwrs hyfforddi cyflogaeth cymeradwy a achosodd eich clefyd. Mae’r cynllun yn cwmpasu , gan gynnwys:

  • asma
  • broncitis cronig neu emffysema - a elwir hefyd yn glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)
  • byddardod
  • niwmoconiosis (gan gynnwys silicosis ac asbestosis)
  • osteoarthritis o’r pen-glin mewn glowyr
  • clefyd rhagnodedig A11 (a elwid gynt yn fys gwyn dirgryniad)
  • Crebachdod Dupuytren

Mae’r cynllun hefyd yn ymdrin â chlefydau sy’n ymwneud ag asbestos gan gynnwys:

  • niwmoconiosis (asbestosis)
  • mesothelioma ymledol
  • carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint gydag asbestosis
  • carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint heb asbestosis ond lle bu amlygiad galwedigaethol helaeth i asbestos mewn galwedigaethau penodedig
  • tewhau plewrol gwasgaredig unochrog neu ddwyochrog

Gallwch gael rhestr lawn o afiechydon o’ch canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol rhanbarthol.

Ni allwch wneud cais Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os oeddech yn hunangyflogedig.

4. Sut i wneud cais

Bydd angen i chi lenwi ac anfon ffurflen gais.

Daw’r ffurflen gyda nodiadau sy’n:

  • eich helpu i’w lenwi
  • dweud wrthych ble i’w anfon

Lawrlwytho ac argraffu ffurflen gais

Bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen wahanol yn dibynnu a ydych yn hawlio am:

  • ddamweiniau a achosir gan waith (ffurflen BI100A)
  • clefydau a achosir gan waith (ffurflen BI100PD)

Lawrlwythwch ac argraffwch y ffurflen gais briodol

Gofyn am ffurflen gais dros y ffôn

Gallwch hefyd ofyn i Ganolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol Barnsley (IIDB) anfon ffurflen gais atoch.

Canolfan IIDB Barnsley

Ffôn: 0800 121 8379
Ffôn testun: 0800 169 0314

(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 8379
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am daliadau galwadau

Fformatau amgen

Ffoniwch i ofyn am fformatau amgen, fel braille, print bras neu CD sain.

Ar ôl i chi anfon eich ffurflen

Bydd eich cais yn cael ei asesu gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir yn eich ffurflen gais, neu mewn asesiad meddygol wyneb yn wyneb.

Bydd y Ganolfan Asesiadau Iechyd ac Anabledd (CHDA) yn cysylltu â chi os oes angen asesiad meddygol wyneb yn wyneb arnoch. Byddant yn anfon gwybodaeth atoch am yr hyn i’w ddisgwyl yn yr apwyntiad. Darllenwch y canllawiau ar sut i fynychu eich asesiad wyneb yn wyneb yn ddiogel oherwydd coronafeirws (COVID-19).

Ni fydd angen i chi fynychu asesiad wyneb yn wyneb os ydych yn derfynol wael neu os oes gennych unrhyw un o’r clefydau canlynol:

  • mesothelioma ymledol
  • angiosarcoma o’r iau oherwydd amlygiad i finyl clorid monomer
  • carsinoma sylfaenol y broncws neu’r ysgyfaint drwy ddod i gysylltiad â llosgi bwriadol
  • carsinoma sylfaenol y broncws neu’r ysgyfaint drwy ddod i gysylltiad â chyfansoddion Nickel/Nickel
  • carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint lle ceir tystiolaeth ategol o asbestosis
  • carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint, drwy ddod i gysylltiad ag asbestos
  • carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint, wedi’i gysylltu â thun a chemegau penodedig eraill neu’n gweithio gyda ffwrn coke
  • carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint lle ceir silicosis sy’n cyd-fynd ag ef

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich hawliad. Gelwir hyn yn gofyn am ‘ailystyried gorfodol’.

5. Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Rhaid i chi, neu’r person sy’n hawlio ar eich rhan, ddweud wrth y swyddfa sy’n delio â’ch taliadau am unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau neu fanylion personol. Rhowch wybod iddynt ar unwaith os:

  • yw’r cyflwr yr ydych yn cael budd-dal ar ei gyfer yn gwella neu’n gwaethygu, neu os cawsoch ddiagnosis anghywir
  • ydych yn newid eich enw neu ryw
  • ydych yn priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil
  • ydych yn newid eich cyfeiriad
  • ydych yn newid eich rhif ffôn
  • ydych yn newid eich manylion banc
  • ydych yn gadael neu’n bwriadu gadael y wlad
  • ydych yn mynd i’r carchar neu’n cael eich cadw mewn dalfa
  • yw’ch statws mewnfudo yn newid, os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig
  • ydych yn newid y person sydd ag awdurdod i weithredu ar eich rhan
  • yw’ch cyflwr wedi’i achosi gan wasanaeth yn lluoedd arfog y DU ac rydych yn cael iawndal gan y llywodraeth.

Os ydych yn cael Atodiad i’r Anghyflogadwy, rhaid i chi hefyd rhoi gwybod os:

  • ydych yn symud i fyw gyda phartner
  • ydych yn aros yn yr ysbyty
  • ydych yn dechrau neu’n stopio gweithio
  • yw’ch enillion blynyddol yn cynyddu

Mae yna wahanol newidiadau y mae’n rhaid i chi roi gwybod amdanynt os ydych hefyd yn cael Lwfans Enillion Is neu Lwfans Gweini Cyson.

Gallech gael eich cludo i’r llys neu orfod talu cosb os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.

Sut i roi gwybod am newid

Ffoniwch linell gymorth Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) neu ysgrifennwch at Ganolfan IIDB Barnsley.

Llinell Gymorth Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Ffôn: 0800 121 8379
Ffôn Testun: 0800 169 0314
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 8379
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Canolfan IIDB Barnsley

Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1SY

Os ydych wedi cael eich talu gormod

Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os ydych:

  • heb roi gwybod am newid ar unwaith
  • rhoi gwybodaeth anghywir
  • wedi’u gordalu drwy gamgymeriad

Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-daliadau

6. Rhagor o wybodaeth

Budd-daliadau eraill y gallech eu cael

Lwfans Gweini Cyson (CAA)

Gallwch wneud cais am CAA ar gyfer damweiniau lle caiff eich anabledd ei asesu ar 100% ac mae angen gofal a sylw dyddiol arnoch.

Mae’r gyfradd CAA a delir i chi yn seiliedig ar asesiad o’ch anghenion.

Lwfans Anabledd Eithriadol o Ddifrifol

Gallwch wneud cais am £90.20 wedi’i dalu yn ychwanegol at y cyfraddau CAA, os cewch eich asesu ar un o’r 2 gyfradd uchaf o CAA ac angen gofal a sylw parhaol, cyson.

Lwfans Enillion Is (REA)

Gallwch gael REA os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • ni allwch wneud eich gwaith arferol neu waith arall gyda thâl tebyg oherwydd damwain neu glefyd a achosir gan waith
  • os oes gennych anabledd neu anaf a ddechreuodd cyn 1 Hydref 1990

Deddf Niwmoconiosis etc. (Iawndal Gweithwyr) 1979

Gall y Ganolfan Byd Gwaith dalu cyfandaliad i chi os oes gennych un o’r clefydau canlynol:

  • Niwmoconiosis (gan gynnwys asbestosis, silicosis, a kaolinosis)
  • byssinosis
  • mesothelioma ymledol
  • tewhau plewrol ymledol unochrog neu ddwyochrog
  • carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint sy’n ymwneud ag asbestos

I gael taliad mae’n rhaid i chi fodloni’r holl amodau canlynol:

  • rhaid i’ch clefyd sy’n gysylltiedig â llwch fod wedi’i achosi gan eich cyflogaeth
  • rydych yn cael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ar gyfer un o’r clefydau rhestredig
  • rhaid i chi wneud cais o fewn 12 mis i’r penderfyniad i ddyfarnu Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • ni allwch gymryd camau sifil neu beidio oherwydd bod eich cyn-gyflogwr wedi rhoi’r gorau i fasnachu
  • nad ydych wedi dwyn achos llys neu wedi cael iawndal gan gyflogwr mewn perthynas â’r clefyd

Efallai y gallwch wneud cais os ydych yn ddibynnydd i rywun a ddioddefodd o glefyd sy’n gysylltiedig â llwch ond sydd wedi marw. Rhaid gwneud cais dibynnydd o fewn 12 mis i farwolaeth y dioddefwr.

Taliad mesothelioma ymledol

Efallai y byddwch yn dal i allu cael taliad am salwch sy’n gysylltiedig ag asbestos os nad ydych yn gymwys i gael iawndal o dan Ddeddf Niwmoconiosis ac ati (Iawndal Gweithwyr) 1979.

Mae dau gynllun talu gwahanol.

Gallwch wneud cais am ‘gynllun 2008’ os daethoch i gysylltiad ag asbestos:

  • tra oeddech yn hunangyflogedig
  • drwy aelod o’r teulu, er enghraifft drwy olchi eu dillad

Gallwch wneud cais am y Cynllun Taliad Mesothelioma ymledol (DMPS) os cawsoch ddiagnosis o mesothelioma ymledol ar neu ar ôl 25 Gorffennaf 2012. Gallwch wneud cais am hyn hyd yn oed os ydych wedi hawlio iawndal o dan Ddeddf Niwmoconiosis ac ati (Iawndal Gweithwyr) 1979.

Gallwch ddarllen mwy am gymhwysedd ar gyfer y ddau gynllun).

Effeithiau ar fudd-daliadau eraill

Gallwch barhau i gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) os ydych yn hawlio:

Bydd IIDB yn effeithio ar y budd-daliadau canlynol os ydych chi neu’ch partner yn eu hawlio:

Gall hefyd effeithio ar Ostyngiad Treth Cyngor - cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael mwy o wybodaeth.

Canolfannau Budd-daliadau Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Ffôn Testun: 0800 169 0314
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 8379  
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm
[Darganfyddwch am gostau galwadau(/costau-galwadau)

Canolfan IIDB Barnsley

Safle trin post A
Wolverhampton
WV98 1SY