Bywyd yn y carchar
Gofal iechyd yn y carchar
Mae gan garcharorion yr un hawl i safon o ofal iechyd a thriniaeth ag unrhyw un y tu allan i鈥檙 carchar.
Mae鈥檙 driniaeth am ddim ond rhaid iddi gael ei chymeradwyo gan feddyg carchar neu aelod o鈥檙 t卯m gofal iechyd.
Nid oes ysbyty mewn carchardai, ond mae gan lawer ohonynt welyau i gleifion mewnol.
Y t卯m gofal iechyd sy鈥檔 delio 芒鈥檙 rhan fwyaf o broblemau. Os na allant wneud hynny, gall y carchar wneud y canlynol:
- gofyn i arbenigwr ymweld 芒鈥檙 carchar
- trefnu triniaeth mewn ysbyty allanol
Gall y t卯m gofal iechyd ofyn i feddyg teulu鈥檙 carcharor am ei gofnodion, ond dim ond os yw鈥檙 carcharor yn cytuno i hynny.
Cymorth a chefnogaeth arbenigol
Gall carcharorion gael cymorth arbenigol, er enghraifft:
- os oes ganddo broblemau cyffuriau neu alcohol
- os oes ganddo HIV neu AIDS
- os yw鈥檔 anabl neu fod ganddo anhawster dysgu
Gwrthod triniaeth feddygol
Gall carcharor wrthod triniaeth. Fodd bynnag, efallai y bydd y t卯m gofal iechyd yn dewis rhoi triniaeth os nad yw鈥檙 carcharor yn gallu gwneud penderfyniadau ei hun (er enghraifft os oes ganddo gyflwr iechyd meddwl).
Lle bynnag y bo modd, bydd y t卯m gofal iechyd yn trafod hyn gyda theulu鈥檙 carcharor yn gyntaf.