Cerbydau hanesyddol (clasurol): MOT a threth cerbyd
Printable version
1. Cymhwysedd
Mae’r dyddiad y cafodd eich cerbyd ei adeiladu neu ei gofrestru’n gyntaf yn effeithio ar p’un a oes angen:
-
cael MOT
-
talu treth cerbydÌý
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cerbydau nad oes angen MOT arnynt
Nid oes angen ichi gael MOT os:
-
cafodd y cerbyd ei adeiladu neu ei gofrestru’n gyntaf dros 40 mlynedd yn ôlÌýÌý
-
na wnaed ‘newidiadau sylweddol’ i’r cerbyd yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, er enghraifft disodli’r siasi, y corff, yr echelau neu’r injan i newid y ffordd y mae’r cerbyd yn gweithioÌý
Os nad ydych yn siŵr a fu unrhyw newidiadau sylweddol, gallwch:
-
ddarllen y canllawiau llawn ar eithriadau MOT ar gyfer cerbydau hanesyddol
-
siarad ag Ìý
Cerbydau wedi’u heithrio rhag treth cerbyd
Os adeiladwyd eich cerbyd cyn 1 Ionawr 1985, gallwch roi’r gorau i dalu treth cerbyd o 1 Ebrill 2025.
Os nad ydych yn gwybod pryd y cafodd eich cerbyd ei adeiladu, ond cafodd ei gofrestru cyn 8 Ionawr 1985, nid oes angen ichi dalu treth cerbyd o 1 Ebrill 2025.
Beth sydd rhaid ichi ei wneud
Mae’n rhaid ichi wneud cais am eithriad treth cerbyd i roi’r gorau i dalu treth cerbyd. Weithiau gelwir hyn yn rhoi cerbyd yn y ‘dosbarth treth hanesyddol’.
Nid oes rhaid ichi wneud cais i roi’r gorau i gael MOT ar gyfer eich cerbyd bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid ichi ei gadw mewn cyflwr sy’n addas i’r ffordd.
Gallwch gael dirwy o hyd at £2,500 a chael 3 phwynt cosb am ddefnyddio cerbyd mewn cyflwr peryglus.
2. Eithriad rhag talu treth ar gyfer cerbydau hanesyddol
Gallwch wneud cais i roi’r gorau i dalu am dreth cerbyd o 1 Ebrill 2025 os adeiladwyd eich cerbyd cyn 1 Ionawr 1985. Rhaid ichi drethu eich cerbyd hyd yn oed os nad oes rhaid ichi ei thalu.
Os nad ydych yn gwybod pryd y cafodd eich cerbyd ei adeiladu, ond cafodd ei gofrestru’n gyntaf cyn 8 Ionawr 1985, gallwch wneud cais o hyd i roi’r gorau i dalu treth cerbyd.
Ni fydd eich cerbyd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd os:
-
yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio neu dâl (er enghraifft, fe’i defnyddir fel tacsi ar gyfer cwsmeriaid sy’n talu)
-
yw’n cael ei ddefnyddio’n fasnachol ar gyfer masnach neu fusnes
Cysylltwch â DVLA os nad ydych yn siŵr a yw’ch cerbyd wedi’i eithrio.
Cerbydau cymwys
Gallwch wneud cais i’r cerbydau hyn gael eu heithrio:
-
ceir
-
faniau
-
beiciau modur
-
beiciau modur tair olwyn
Cerbydau mawr a bysiau
Gallwch wneud cais i’r cerbydau hyn gael eu heithrio:
-
cerbydau nwyddau trwm preifat - ni ellir eu dylunio na’u haddasu ar gyfer cludo nwyddau, na chael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant gyrwyr
-
bysiau a ddefnyddir at ddibenion gwirfoddol neu gymunedol
Cerbydau arbenigol
Gallwch hefyd wneud cais i’r cerbydau hyn gael eu heithrio:
-
craeniau a phympiau symudol
-
rholeri ffyrdd, tryciau gwaith a pheiriannau cloddio
-
peiriannau amaethyddol a pheiriannau torri gwair
-
erydr eira a pheiriannau graeanu
-
cerbydau trydan
-
cerbydau ager
3. Gwneud cais am eithriad treth cerbyd
Gwnewch gais mewn sy’n delio â threth cerbyd.
Bydd angen ichi gymryd:
-
y llyfr log (V5CW) yn eich enw
-
eich llythyr atgoffa treth cerbyd (V11W), os oes gennych un
-
tystiolaeth o MOT cyfredol (os oes angen un ar eich cerbyd) - er enghraifft, copi o hanes MOT eich cerbyd neu eich tystysgrif MOT, os oes gennych un
-
tystiolaeth os yw’ch cerbyd wedi’i eithrio rhag cael MOT (V112W)
Os nad oes gennych y llyfr log, lawrlwythwch a llenwch gais am lyfr log (V62W). Ewch ag ef i Swyddfa’r Post gyda’r ffi o £25.
Os ydych yng Ngogledd IwerddonÌý
Bydd angen ichi gymryd:
-
tystysgrif MOT sy’n ddilys pan fydd y dreth yn dechrau
-
tystysgrif yswiriant neu sicrwydd yswiriant
Beth sy’n digwydd nesaf
-
Mae Swyddfa’r Post yn anfon eich llyfr log i DVLA.
-
Bydd DVLA yn anfon llyfr log wedi’i ddiweddaru atoch.
-
Byddwch yn cael ad-daliad (os yw’n ddyledus ichi). Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi cael eich ad-daliad o fewn 6 wythnos o gael eich llyfr log wedi’i ddiweddaru.
Gallwch barhau i ddefnyddio’ch cerbyd tra bod eich cais yn cael ei brosesu.
4. Adnewyddu treth cerbyd eich cerbyd hanesyddol
Bydd DVLA yn anfon llythyr atgoffa treth cerbyd atoch cyn i’ch treth ddod i ben. Bydd angen ichi drethu eich cerbyd, ond ni fydd angen ichi dalu.
Mae’n anghyfreithlon gyrru eich cerbyd os nad ydych wedi’i drethu. Gallwch gael dirwy o £80 os na fyddwch yn trethu’ch cerbyd ar amser.Ìý