Deall codau treth eich cyflogeion
Printable version
1. Trosolwg
Rydych yn rhoi cod treth y cyflogai i mewn i’ch meddalwedd cyflogres i gyfrifo faint o dreth i’w didynnu o’i gyflog drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae canllaw ar wahân ynghylch codau treth os ydych yn gyflogai.
Yr hyn sydd angen i chi’i wneud
Pan fydd cyflogai newydd yn dechrau gweithio i chi, fel rheol rydych yn cyfrifo’i god treth (yn agor tudalen Saesneg) drwy ddefnyddio’i P45. Fel arfer, bydd y cod yn cynnwys ²õ²¹·É±ôÌý°ù³ó¾±´Ú yn ogystal â llythyren, megis 1257L.
Fel arfer, bydd angen i chi ddiweddaru cod treth eich cyflogai ar ddechrau blwyddyn dreth newydd. Os bydd y cod treth yn newid yn ystod y flwyddyn, bydd Cyllid a Thollau EM (CThEF) yn anfon e-bost atoch - dylech ddiweddaru’ch cofnodion y gyflogres cyn gynted â phosibl.
Cod Treth 1257L
1257L yw’r cod treth mwyaf cyffredin ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026. Caiff ei ddefnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o bobl sydd ag un swydd a dim incwm heb ei drethu, treth sydd heb ei thalu nac unrhyw fuddiannau trethadwy (er enghraifft car cwmni).
Mae 1257L yn god treth dros dro, dim ond os caiff ei ddilyn gydag ‘W1’, ‘M1’ neu ‘X’. Gellir defnyddio cod treth dros dro os nad oes gan gyflogai newydd ffurflen P45.
2. Ystyr y rhifau
Mae’r rhifau sy’n rhan o god treth y cyflogai yn dangos faint o incwm rhydd o dreth y mae’n ei gael yn y flwyddyn dreth honno.
Fel arfer, rydych yn lluosi’r rhif yn y cod treth â 10 er mwyn cael cyfanswm yr incwm y gall ei ennill cyn iddo dalu treth.
Er enghraifft, mae cyflogai sydd â’r cod treth 1257L yn gallu ennill £12,570 cyn talu treth. Os yw’n ennill £27,000 y flwyddyn, ei incwm trethadwy yw £14,430.
Mae’r broses yn wahanol os oes gan y cyflogai’r llythyren ‘K’ yn ei god treth.
3. Beth mae’r llythrennau yn ei olygu
Mae’r llythrennau mewn cod treth cyflogai yn cyfeirio at ei sefyllfa a sut y mae’n effeithio ar ei Lwfans Personol.
Cod | Sut mae treth yn cael ei didynnu | Pryd y defnyddir y cod hwn fel arfer |
---|---|---|
0T | O bob incwm – does dim Lwfans Personol | Pan nad yw cyflogai wedi rhoi P45 i chi, na digon o fanylion i gyfrifo’i god treth, neu pan fo’i Lwfans Personol eisoes wedi’i ddefnyddio |
BR | O bob incwm ar y gyfradd sylfaenol | Ar gyfer ail swydd neu bensiwn |
C | O incwm yn haenau treth Cymru | Ar gyfer cyflogai y mae ei brif gartref yng Nghymru |
C0T | O bob incwm – does dim Lwfans Personol | Pan nad yw cyflogai, y mae ei brif gartref yng Nghymru, wedi rhoi P45 i chi, na digon o fanylion i gyfrifo’i god treth, neu pan fo’i Lwfans Personol eisoes wedi’i ddefnyddio |
CBR | O bob incwm ar y gyfradd sylfaenol yng Nghymru | Ar gyfer ail swydd neu bensiwn |
CD0 | O bob incwm ar y gyfradd uwch yng Nghymru | Ar gyfer ail swydd neu bensiwn |
CD1 | O bob incwm ar y gyfradd ychwanegol yng Nghymru | Ar gyfer ail swydd neu bensiwn |
D0 | O bob incwm ar y gyfradd uwch | Ar gyfer ail swydd neu bensiwn |
D1 | O bob incwm ar y gyfradd ychwanegol | Ar gyfer ail swydd neu bensiwn |
L | Ar gyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol yn dibynnu ar swm yr incwm trethadwy | Ar gyfer cyflogai sydd â hawl i’r Lwfans Personol sy’n rhydd o dreth safonol |
M | Ar gyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol yn dibynnu ar swm yr incwm trethadwy | Ar gyfer cyflogai y mae ei briod neu bartner sifil wedi trosglwyddo rhywfaint o’i Lwfans Personol iddo |
N | Ar gyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol yn dibynnu ar swm yr incwm trethadwy | Ar gyfer cyflogai sydd wedi trosglwyddo rhywfaint o’i Lwfans Personol i’w briod neu bartner sifil |
NT | Ni ddidynnir treth | , er enghraifft cerddorion sy’n cael eu hystyried yn hunangyflogedig ac nad ydynt yn agored i TWE |
S | O incwm yn haenau treth yr Alban (yn agor tudalen Saesneg) | Ar gyfer cyflogai y mae ei brif gartref yn yr Alban |
S0T | O bob incwm – does dim Lwfans Personol | Pan nad yw cyflogai, y mae ei brif gartref yn yr Alban, wedi rhoi P45 i chi, na digon o fanylion i gyfrifo’i god treth, neu pan fo’i Lwfans Personol eisoes wedi’i ddefnyddio |
SBR | O bob incwm ar y gyfradd sylfaenol yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg) | Ar gyfer ail swydd neu bensiwn |
SD0 | O bob incwm ar y gyfradd ganolradd yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg) | Ar gyfer ail swydd neu bensiwn |
SD1 | O bob incwm ar y gyfradd uwch yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg) | Ar gyfer ail swydd neu bensiwn |
SD2 | O bob incwm ar y gyfradd uwch bellach yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg) | Ar gyfer ail swydd neu bensiwn |
SD3 | O bob incwm ar y gyfradd uchaf yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg) | Ar gyfer ail swydd neu bensiwn |
T | Ar gyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol yn dibynnu ar swm yr incwm trethadwy | Pan fydd angen i CThEF adolygu rhai eitemau gyda’r cyflogai |
Os oes ‘W1’ neu ‘M1’ i’w gweld ar ddiwedd cod treth y cyflogai
Codau treth dros dro yw W1 (wythnos 1) a M1 (mis 1) sydd i’w gweld ar ddiwedd cod treth y cyflogai, er enghraifft ‘577L W1’ neu ‘577L M1’. Cyfrifwch dreth eich cyflogai dim ond ar y swm y telir iddo yn y cyfnod cyflog presennol, nid y flwyddyn gyfan.
Codau treth sydd â’r llythyren ‘K’
Defnyddir y llythyren K yng nghod treth y cyflogai pan fydd didyniadau sy’n ddyledus ar gyfer buddiannau cwmni, pensiwn y wladwriaeth, neu dreth sy’n ddyledus o flynyddoedd blaenorol, yn fwy na’i Lwfans Personol.
Lluoswch y rhif yn ei god treth â 10 i ddangos y swm y dylid ei ychwanegu at ei incwm trethadwy cyn y cyfrifir y didyniadau.
Enghraifft Mae gan gyflogai sydd â’r cod treth K475 a chyflog o £27,000 incwm trethadwy o £31,750 (£27,000 a £4,750).
Ni all y didyniad treth ar gyfer unrhyw gyfnod cyflog fod yn fwy na hanner cyflog neu bensiwn y cyflogai, cyn treth.
4. Newidiadau yn ystod y flwyddyn dreth
Fel arfer, mae cod treth rhywun yn newid os bydd ei incwm rhydd o dreth (Lwfans Personol) yn codi neu’n gostwng. Er enghraifft, os yw’n dechrau cael buddiant trethadwy megis car cwmni, neu’n peidio â’i gael mwyach.
-
Bydd Cyllid a Thollau EM (CThEF) yn anfon rhybudd e-bost atoch os yw cod treth un o’ch cyflogeion yn newid.
-
Gallwch gyrchu’r cod treth newydd yn TWE Ar-lein (o dan ‘hysbysiadau codau treth’), yn y rhaglen Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE, neu yn eich meddalwedd cyflogres (os oes ganddi’r nodwedd hon). Gwiriwch fod cyflog a threth flaenorol eich cyflogai wedi’u cynnwys gyda’r cod treth newydd. Os ydynt wedi’u cynnwys, nodwch y ffigurau hyn.
-
Cyn gynted ag y bo modd, a chyn y tro nesaf i chi dalu’ch cyflogai, dylech ddiweddaru’i gofnod y gyflogres gan ddefnyddio’i god treth newydd. Ychwanegwch gyflog a threth flaenorol eich cyflogai, os cawsoch y ffigurau hyn gyda’r cod treth newydd.
Weithiau, gelwir hysbysiad cod treth yn ffurflen P6.
Os ydych yn cael cod treth newydd y cyflogai pan fo’n rhy hwyr i’w ddefnyddio yn y flwyddyn dreth, dylech ei ddefnyddio yn y flwyddyn dreth newydd.
5. Diweddaru ar gyfer y flwyddyn dreth newydd
Bydd Cyllid a Thollau EM (CThEF) yn rhoi gwybod i chi rhwng mis Ionawr a mis Mawrth am unrhyw godau treth newydd i’w defnyddio ar gyfer eich cyflogeion yn y flwyddyn dreth newydd. 6 Ebrill yw dechrau’r flwyddyn dreth.
Os nad yw cod treth y cyflogai’n newid, ni fydd CThEF yn cysylltu â chi a dylech gario cod treth y cyflogai ymlaen i’r flwyddyn dreth newydd.
Os oes ‘M1’ neu ‘W1’ (‘mis 1’ neu ‘wythnos 1’) i’w gweld ar ddiwedd cod treth y cyflogai, peidiwch â chario’r rhan hon o’r cod treth ymlaen i’r flwyddyn dreth newydd.