Y gofrestr etholiadol a'r 'gofrestr agored'

Printable version

1. Ychwanegu eich enw at y gofrestr etholiadol

Mae’r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio.Ìý

Defnyddiwch y gwasanaeth cofrestru i bleidleisio i ychwanegu eich enw at y gofrestr etholiadol.Ìý

I ddiweddaru eich manylion (er enghraifft, newid eich enw neu eich cyfeiriad) dylech naill ai:Ìý

I gadarnhau a ydych eisoes ar y gofrestr:Ìý

  • cysylltwch â’c³ó Swyddfa Cofrestru Etholiadol os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban

  • defnyddiwch y os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Y canfasiad blynyddolÌý

O fis Gorffennaf bob blwyddyn, bydd Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn cysylltu ag aelwydydd i gadarnhau a yw’r manylion ar y gofrestr etholiadol yn gywir. Gallant hefyd ddweud wrthych gofrestru i bleidleisio os nad ydych eisoes wedi cofrestru. Y canfasiad blynyddol yw’r enw ar hyn.

Byddant yn cysylltu â chi drwy’r post, drwy e-bost, dros y ffôn neu bydd rhywun yn curo ar eich drws.Ìý

Nid oes canfasiad blynyddol yng Ngogledd Iwerddon.Ìý

Beth sy’n digwydd os nad ydych yn cofrestru

Mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio os bydd Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gofyn i chi wneud hynny a’ch bod yn bodloni’r amodau ar gyfer cofrestru.Ìý

Os na fyddwch yn cofrestru ar ôl cael cais i wneud hynny, gallech gael dirwy o hyd at £1,000.

Ni fyddwch yn cael dirwy os bydd gennych reswm dilys dros beidio â chofrestru, er enghraifft arhosiad hir yn yr ysbyty, neu os oes gennych anawsterau dysgu difrifol.Ìý

Pryd y gallwch gofrestru mewn mwy nag un lle

Mae weithiau’n bosibl cofrestru mewn dau gyfeiriad (er mai dim ond unwaith y gallwch bleidleisio mewn unrhyw etholiad).Ìý

Er enghraifft, os ydych yn fyfyriwr a bod cyfeiriad eich cartref yn wahanol i’ch cyfeiriad yn ystod y tymor, mae’n bosibl y gallwch gofrestru yn y ddau.Ìý

Cofrestru i bleidleisio ddwywaith os ydych yn byw mewn dau gyfeiriad.Ìý

2. Optio allan o'r ‘gofrestr agored’

Mae dwy fersiwn o’r gofrestr etholiadol - y fersiwn lawn a’r ‘gofrestr agored’ (y ).

Os gwnaethoch gofrestru i bleidleisio’n ddienw, ni fydd eich manylion yn ymddangos ar y naill fersiwn na’r llall o’r gofrestr etholiadol. Byddwch yn gallu pleidleisio o hyd.Ìý

Sut i optio allan o’r gofrestr agored

Gallwch optio allan o’r gofrestr agored. Y fersiwn hon o’r gofrestr sydd ar gael i bawb sydd am brynu copi.

I optio allan, gallwch naill ai:Ìý

Ni fydd optio allan yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.

Os byddwch yn optio allan o’r gofrestr agored, bydd eich manylion yn ymddangos yn y fersiwn lawn o’r gofrestr etholiadol o hyd, oni bai eich bod wedi’ch cofrestru i bleidleisio’n ddienw.

Y fersiwn lawn ac at ba ddibenion y gellir ei defnyddioÌý

Mae enw a chyfeiriad pawb yn ymddangos ar y fersiwn lawn o’r gofrestr etholiadol (oni bai eich bod wedi cofrestru i bleidleisio’n ddienw), ac ni allwch optio allan. Y fersiwn hon o’r gofrestr gaiff ei defnyddio ar gyfer etholiadau a refferenda.Ìý

Dim ond at y dibenion canlynol y gellir defnyddio’r fersiwn lawn o’r gofrestr:

  • dibenion gweinyddu etholiadau (megis anfon cardiau pleidleisio cyn etholiadau)

  • gweithgareddau ymgyrchu (er enghraifft, ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol yn anfon gohebiaeth am etholiadau at bleidleiswyr, yn casglu barn drwy arolygon neu’n codi arian)Ìý

  • atal a chanfod troseddau

  • gwirio ceisiadau am fenthyciadau neu gredyd

  • gwysio rheithgor yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Gallwch ddysgu mwy am y gwahaniaeth rhwng y gofrestr agored a’r gofrestr etholiadol ar .

3. Gweld y gofrestr etholiadol

Cysylltwch:

Bydd y swyddogion yn dweud wrthych ble y gallwch weld y gofrestr etholiadol bresennol (mae ar gael mewn llyfrgelloedd yn aml). Bydd y gofrestr yn rhestru pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn yr ardal leol.Ìý

Chwilio drwy fersiynau hanesyddol o’r gofrestr etholiadol

Gallwch gael gwybodaeth am - er enghraifft, os ydych am ymchwilio i hanes lleol neu hanes eich teulu.