Ardrethi busnes
Llety hunanddarpar a llety gwyliau
Mae bod yn gymwys i dalu ardrethi busnes yn dibynnu ar faint o nosweithiau y mae eich eiddo ar gael i’w osod bob blwyddyn a faint o nosweithiau y cafodd ei osod mewn gwirionedd.
Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerth ardrethol eich eiddo yn seiliedig ar ei fath, maint, lleoliad, ansawdd a faint o incwm rydych chi’n debygol o’i wneud o’i osod.
Mae yna reolau gwahanol neu .
Os yw eich eiddo yn Lloegr
Bydd yn cael ei ystyried fel eiddo hunanddarpar a’i brisio ar gyfer ardrethi busnes os oedd y ddau ganlynol yn wir dros y 12 mis diwethaf:
-
roedd ar gael i’w osod am gyfnodau byr yn fasnachol am o leiaf 140 noson yn gyfan gwbl
-
cafodd ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 70 noson
Yn ogystal, rhaid i chi fod yn bwriadu gwneud eich eiddo ar gael am gyfnodau byr yn fasnachol am o leiaf 140 noson yn y 12 mis nesaf.
Os mai dim ond un eiddo rydych chi’n ei osod yn Lloegr a bod ei werth ardrethol yn llai na £15,000, efallai y byddwch chi’n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach.
Os yw eich eiddo yng Nghymru
Bydd yn cael ei ystyried fel eiddo hunanddarpar a’i brisio ar gyfer ardrethi busnes os oedd y ddau ganlynol yn wir dros y 12 mis diwethaf:
-
roedd ar gael i’w osod am gyfnodau byr yn fasnachol am o leiaf 252 noson yn gyfan gwbl
-
cafodd ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 182 noson
Yn ogystal, rhaid i chi fod yn bwriadu gwneud eich eiddo ar gael am gyfnodau byr yn fasnachol am o leiaf 252 noson yn y 12 mis nesaf.
Gwiriwch a ydych chi’n .
Dywedwch wrth y VOA eich bod yn gymwys i dalu ardrethi busnes
Os ydych chi’n talu’r Dreth Gyngor ar hyn o bryd ar eich eiddo hunanddarpar, ond ei fod wedi bodloni’r meini prawf ar gyfer ardrethi busnes, gallwch ddweud wrth y VOA trwy lenwi ffurflen.
Mae ffurflenni gwahanol ar gyfer:
Ar ôl i chi ddechrau talu ardrethi busnes, anfonir ffurflen atoch bob blwyddyn i gadarnhau eich bod yn parhau i fodloni’r meini prawf. Os na fyddwch yn bodloni’r meini prawf, byddwch yn cael eich symud o ardrethi busnes i’r Dreth Gyngor.