Yswiriant Gwladol Gwirfoddol

Printable version

1. Trosolwg

Os na fyddwch yn talu Yswiriant Gwladol, mae’n bosibl y bydd gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gallai hyn fod oherwydd:

  • roeddech yn gyflogedig, ond ag enillion isel

  • roeddech yn ddi-waith ac nid oeddech yn hawlio budd-daliadau

  • roeddech yn cael credydau Yswiriant Gwladol am lai na blwyddyn dreth lawn

  • roeddech yn hunangyflogedig, ond ni wnaethoch dalu cyfraniadau o ganlyniad i elw bychan

  • roeddech yn byw neu’n gweithio y tu allan i’r DU

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gall bylchau olygu na fydd gennych ddigon o flynyddoedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn:

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau ac ychwanegu at eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Pwy na all dalu cyfraniadau gwirfoddol

Ni allwch dalu cyfraniadau gwirfoddol os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • nid oes gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol - oni bai eich bod yn cael credydau Dosbarth 3 ac yn gymwys i dalu cyfraniadau Dosbarth 2

  • rydych yn fenyw briod neu’n weddw sy’n talu Yswiriant Gwladol ar gyfradd is (yn agor tudalen Saesneg)

  • rydych wedi mynd heibio’r dyddiad cau ar gyfer talu cyfraniadau am y cyfnod sydd â bylchau wedi pasio

Gwirio’ch cofnod am fylchau

Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael gwybod:

  • a oes gennych unrhyw fylchau

  • faint y bydd yn ei gostio i dalu cyfraniadau gwirfoddol

  • a fyddech yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol

  • a allwch dalu ar-lein

Os oes gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, gwiriwch a ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol cyn penderfynu talu cyfraniadau gwirfoddol.

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) os ydych yn credu bod eich cofnod Yswiriant Gwladol yn anghywir.

Penderfynu a ydych am dalu cyfraniadau gwirfoddol

Nid yw cyfraniadau gwirfoddol bob amser yn cynyddu’ch Pensiwn y Wladwriaeth, er enghraifft os cawsoch eich contractio allan.

Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gwiriwch ragolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol. Gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol.

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.

Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor a’ch bod dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu o fewn 6 mis o’i gyrraedd, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg) i gael cyngor.

Pam efallai yr hoffech dalu cyfraniadau gwirfoddol

Mae’n bosibl y byddwch am dalu cyfraniadau gwirfoddol oherwydd:

Pobl hunangyflogedig gyda swyddi penodol

Nid yw pawb yn cael eu cyfraniadau Dosbarth 2 wedi’u trin fel pe baent wedi’u talu, ond efallai y bydd y bobl hyn am dalu cyfraniadau gwirfoddol. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • yn arholwr, safonwr, goruchwyliwr neu berson sy’n gosod cwestiynau arholiad

  • landlordiaid sy’n gymwys i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2

  • yn weinidog yr efengyl nad yw’n cael cyflog na thâl

  • yn berson sy’n gwneud buddsoddiadau – ond nid fel busnes a heb gael ffi na chomisiwn

2. Gwirio pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol y gallwch eu talu

Dysgwch a allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn seiliedig ar bethau fel eich statws cyflogaeth, oedran a ble rydych chi’n byw.

Os ydych yn gyflogedig

Gallwch dalu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol os ydych yn gyflogedig ac mae’r ddau beth canlynol yn wir:

Os ydych yn hunangyflogedig

Gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 os ydych yn hunangyflogedig a bod gennych naill ai:

  • incwm gros o £1,000 neu lai
  • incwm gros dros £1,000, ond gydag elw o lai na £6,845

Os ydych chi’n hunangyflogedig fel arholwr, gweinidog yr efengyl, landlord neu mewn busnes buddsoddi, gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3.

Mae cyfraniadau gwirfoddol yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau. Gallwch wirio pa fudd-daliadau y mae’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cyfrif tuag atynt.

Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig

Gallwch wirio rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol os:

  • ydych yn ennill llai na £125 o gyflogaeth
  • oes gennych elw sy’n llai na £6,845 y flwyddyn o hunangyflogaeth

Gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i wirio os oes gennych flwch mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac yn rhoi gwybod i chi a fydd o fudd i chi wneud taliad.

Os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd angen i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn i wirio a oes gennych fwlch. Byddant hefyd yn gallu rhoi gwybod i chi a fydd o fudd i chi wneud taliad.

Os ydych yn ddi-waith

Gallwch dalu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol os ydych yn ddi-waith ac mae’r ddau beth canlynol yn wir:

  • nid ydych yn hawlio budd-daliadau
  • nid ydych yn cael credydau Yswiriant Gwladol

Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor (neu wedi gwneud yn flaenorol)

I dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 mae’n rhaid i chi naill ai:

  • wedi byw yn y DU am 3 blynedd yn olynol
  • fod wedi talu cyfraniadau, neu wedi trin cyfraniadau Dosbarth 2 fel pe baent wedi’u talu am o leiaf 3 blynedd

I dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2, mae’n rhaid i’r ddau o’r canlynol fod yn berthnasol hefyd:

  • roeddech yn gweithio yn y DU yn syth cyn gadael
  • rydych yn gweithio dramor ar hyn o bryd (neu wedi bod yn gweithio tra roeddech dramor)

Rhwng Tachwedd 2017 ac Ebrill 2019, roedd arweiniad CThEF yn anghywir. Mae’n dweud bod yn rhaid i’r holl amodau hyn fod yn wir. Os na wnaethoch gais neu os gwrthodwyd eich cais o ganlyniad i’r arweiniad anghywir, mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu ar y cyfraddau gwreiddiol. Esboniwch eich sefyllfa pan fyddwch yn gwneud cais.

Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wirio rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth neu gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y 6 mis nesaf, cysylltu â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg). Byddant yn gwirio a oes gennych fwlch mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac yn rhoi gwybod i chi faint sydd angen i chi ei dalu.

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg) ac am lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, gallwch dalu:

3. Cyfraddau

Y cyfraddau ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 yw:

  • £3.50 yr wythnos ar gyfer Dosbarth 2

  • £17.75 yr wythnos ar gyfer Dosbarth 3

Fel arfer, byddwch yn talu’r gyfradd bresennol pan fyddwch yn gwneud cyfraniad gwirfoddol.

Pan fyddwch yn talu cyfraddau gwahanol

Os ydych yn talu cyfraniadau Dosbarth 2 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol, neu gyfraniadau Dosbarth 3 ar gyfer y 2 flwyddyn dreth flaenorol, byddwch yn talu’r gyfradd wreiddiol ar gyfer y blynyddoedd hynny:

Os ydych yn talu ar gyfer blynyddoedd cynharach, byddwch yn talu’r gyfradd 2025 i 2026.

Os oes gennych fath penodol o swydd

Byddwch yn talu cyfradd Dosbarth 2 (yn agor tudalen Saesneg) arbennig os ydych yn un o’r canlynol:

  • pysgotwr cyfran

  • gweithiwr datblygu gwirfoddol

4. Sut a phryd i dalu

Os ydych yn byw yn y DU, dysgwch sut i wneud y canlynol:

Os ydych yn byw neu’n gweithio y tu allan i’r DU

Os ydych chi’n byw neu’n gweithio dramor (neu os ydych chi wedi gwneud hynny’n flaenorol), dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud cyn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.

Dyddiadau cau

Gallwch ond talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer y 6 blwyddyn flaenorol yn unig. Bob blwyddyn, y dyddiad cau yw 5 Ebrill.

Er enghraifft, mae gennych hyd at 5 Ebrill 2031 i lenwi’r bylchau ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.

Mae’n bosibl yn y gorffennol y byddech wedi gallu talu i lenwi bylchau ar gyfer blynyddoedd a oedd dros 6 blynedd yn ôl - y dyddiad cau ar gyfer talu oedd 5 Ebrill 2025.

Gallwch ddarllen yr arweiniad neu gael help i benderfynu os ddylai chi dalu cyfraniadau gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau.

Cael help

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) (yn agor tudalen Saesneg) os oes gennych gwestiynau am Yswiriant Gwladol gwirfoddol.