Rhyddhad treth wrth i chi gyfrannu i elusen
Printable version
1. Trosolwg
Mae cyfraniadau gan unigolion i elusennau neu i glybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau) yn rhydd o dreth. Gelwir hyn yn rhyddhad treth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’r dreth yn mynd i chi neu i’r elusen. Mae hyn yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol, yn dibynnu a ydych chi’n cyfrannu:
- drwy Rodd Cymorth
- yn uniongyrchol o’ch cyflog neu bensiwn, drwy gynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres
- tir, eiddo neu gyfranddaliadau
- drwy’ch ewyllys
Mae hyn hefyd yn berthnasol i unig fasnachwyr a phartneriaethau. Mae rheolau gwahanol ar gyfer cwmnïau cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych chi eisiau cyfrannu i glwb chwaraeon, gwiriwch a yw’r clwb wedi cofrestru fel clwb chwaraeon amatur cymunedol (CChAC) (yn agor tudalen Saesneg). Ni allwch gyfrannu i CChAC drwy gynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres.
Cadw cofnodion
Bydd angen i chi gadw cofnod o’ch cyfraniadau os ydych am eu didynnu oddi wrth gyfanswm eich incwm trethadwy.
2. Rhodd Cymorth
Mae cyfrannu drwy gynllun Rhodd Cymorth yn golygu y gall elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau) hawlio 25c ychwanegol am bob £1 a rowch. Ni fydd cost ychwanegol i chi.
Gall elusennau hawlio Rhodd Cymorth ar y rhan fwyaf o gyfraniadau, ond nid yw rhai taliadau (yn agor tudalen Saesneg) yn gymwys.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
Mae angen i chi wneud datganiad Rhodd Cymorth er mwyn i’r elusen allu hawlio. Bydd yr elusen neu’r CChAC yn rhoi i chi ffurflen i’w llofnodi (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i’r elusen feddu ar Gyfeirnod Adran Elusennau CThEF hefyd – gofynnwch i’r elusen neu’r CChAC os nad ydych yn siŵr.
Mae’n rhaid i chi roi datganiad i bob elusen yr ydych am gyfrannu iddi drwy Rodd Cymorth.
Gallwch gynnwys yr holl gyfraniadau o’r 4 blynedd diwethaf. Rhowch wybod i’r elusen am unrhyw flynyddoedd treth pan na wnaethoch dalu digon o dreth.
Os bydd yr elusen neu’r CChAC yn cael rhagor o dreth yn ôl na’r hyn y gwnaethoch ei dalu, efallai y bydd CThEF yn gofyn i chi dalu rhagor o dreth i dalu’r gwahaniaeth.
Talu digon o dreth i fod yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth
Bydd eich cyfraniadau’n gymwys ar yr amod nad ydynt yn fwy na 4 gwaith yr hyn a dalwyd gennych mewn treth yn ystod y flwyddyn dreth honno (6 Ebrill i 5 Ebrill).
Gallai’r dreth fod wedi’i thalu ar eich incwm neu enillion cyfalaf.
Bydd rhaid i chi roi gwybod i’r elusennau rydych yn eu cefnogi os byddwch yn peidio â thalu digon o dreth mwyach.
Os ydych chi’n cyfrannu drwy gynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres
Os yw’ch cyflogwr neu ddarparwr pensiwn yn cynnig cynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres, bydd unrhyw gyfraniadau a rowch drwy’r cynllun yn cael eu cymryd cyn i Dreth Incwm gael ei didynnu.
Byddwch yn dal i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar swm eich cyfraniad i elusen. Ond ni fyddwch yn talu Treth Incwm ar swm eich cyfraniad i elusen.
Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch
Wrth i chi lenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gallwch hawlio’n ôl y gwahaniaeth rhwng y dreth rydych wedi’i thalu ar y cyfraniad a’r hyn a gafodd yr elusen yn ôl. Mae’r un peth yn wir os ydych yn byw yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg). Gwnewch hyn naill ai:
-
drwy eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad
-
drwy gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF) a gofyn bod eich cod treth yn cael ei ddiwygio
Enghraifft
Rydych chi’n cyfrannu £100 i elusen – mae’r elusen yn hawlio Rhodd Cymorth i wneud eich cyfraniad yn £125. Rydych yn talu treth ar gyfradd o 40%, felly gallwch hawlio £25.00 (£125 x 20%) yn ôl yn bersonol.
Gyda Rhoi Trwy’r Gyflogres, nid ydych yn talu’r gwahaniaeth rhwng y gyfradd dreth uwch a’r gyfradd dreth sylfaenol ar eich cyfraniad.
Cael rhyddhad treth yn gynt drwy ddefnyddio’ch Ffurflen Dreth
Yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dim ond pethau o’r flwyddyn dreth flaenorol y byddwch yn rhoi gwybod amdanynt fel arfer.
Ond ar gyfer Rhodd Cymorth, gallwch hefyd hawlio rhyddhad treth ar gyfraniadau a wnewch yn ystod y flwyddyn dreth bresennol (hyd at y dyddiad y byddwch yn anfon eich Ffurflen Dreth), os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
-
rydych eisiau cael rhyddhad treth yn gynt
-
ni fyddwch yn talu treth ar y gyfradd uwch yn ystod y flwyddyn bresennol, ond gwnaethoch ei thalu yn ystod y flwyddyn flaenorol
Ni allwch wneud hyn os yw’r canlynol yn wir:
-
rydych yn methu’r dyddiad cau ar gyfer eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad (31 Ionawr os byddwch yn cyflwyno ar-lein, neu 31 Hydref os byddwch yn cyflwyno drwy’r post)
-
nid yw’ch cyfraniadau’n gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth – ni all eich cyfraniadau o’r ddwy flwyddyn dreth gyda’i gilydd fod yn fwy na 4 gwaith yr hyn a dalwyd gennych mewn treth yn ystod y flwyddyn flaenorol
Cael rhyddhad treth yn gynt os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth
Cysylltwch â CThEF. Gallwch hawlio:
-
hyd at £5,000 dros y ffôn
-
dros £5,000 yn ysgrifenedig
Mae angen i chi roi gwybod i CThEF faint yr ydych wedi’i roi fel cyfraniad.
Os ydych yn hawlio rhyddhad treth ar gyfraniadau o £10,000 neu fwy, bydd angen i chi hefyd roi gwybod i CThEF:
-
y dyddiad y gwnaethoch wneud y cyfraniad
-
yr elusen a gafodd eich cyfraniad
Os ydych yn cael Lwfans Pâr Priod
Gall eich lwfans rhydd o dreth gynyddu os ydych yn gwneud cyfraniadau drwy Rodd Cymorth ac yn hawlio Lwfans Pâr Priod.
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, bydd eich lwfans yn cael ei addasu’n awtomatig os oes angen gwneud hynny.
Os nad ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, cysylltwch â CThEF i roi gwybod iddo am eich cyfraniadau i elusennau.
3. Cyfrannu yn uniongyrchol o’ch cyflog neu bensiwn
Os yw’ch cyflogwr, cwmni neu ddarparwr pensiwn personol yn rhedeg cynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres, gallwch gyfrannu’n uniongyrchol o’ch cyflog neu bensiwn. Mae hyn yn digwydd cyn i dreth gael ei didynnu oddi wrth eich incwm.
Gofynnwch i’ch cyflogwr neu ddarparwr pensiwn a yw’n rhedeg cynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres (yn agor tudalen Saesneg).
Ni allwch gyfrannu i glwb chwaraeon amatur cymunedol (CChAC) drwy gynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres.
Mae’r rhyddhad treth a gewch yn dibynnu ar y gyfradd dreth a dalwch. I gyfrannu £1, rydych yn talu:
- 80c os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol
- 60c os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch
- 55c os ydych yn drethdalwr cyfradd ychwanegol
Mae’r rhyddhad treth a gewch yn wahanol os ydych yn byw yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg). I gyfrannu £1, rydych yn talu:
- 81c os ydych yn drethdalwr cyfradd cychwyn
- 80c os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol
- 79c os ydych yn drethdalwr cyfradd ganolradd
- 59c os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch
- 54c os ydych yn drethdalwr cyfradd uchaf
4. Rhoddi tir, eiddo neu gyfranddaliadau
Does dim rhaid i chi dalu treth ar dir, eiddo na chyfranddaliadau rydych yn eu rhoddi i elusen. Mae hyn yn cynnwys eu gwerthu am lai na’u gwerth marchnadol.
Byddwch yn cael rhyddhad treth ar y ddwy dreth ganlynol:
- Treth Incwm
- Treth Enillion Cyfalaf
Ni allwch gael rhyddhad Treth Incwm ar gyfraniadau i glybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau).
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r cyfraniad i ddangos eich bod wedi gwneud y rhodd neu’r gwerthiant a bod yr elusen wedi’i dderbyn.
Rhyddhad Treth Incwm
Gallwch dalu llai o Dreth Incwm drwy ddidynnu gwerth eich cyfraniad (yn agor tudalen Saesneg) oddi wrth gyfanswm eich incwm trethadwy. Gwnewch hyn ar gyfer y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) y gwnaethoch y rhodd neu’r gwerthiant i elusen.
Sut i hawlio
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, ychwanegwch y swm rydych yn ei hawlio yn adran ‘Cyfrannu at elusennau’ y ffurflen. Bydd hyn yn gostwng eich bil Hunanasesiad.
Os nad ydych yn llenwi Ffurflen Dreth, cysylltwch â CThEF gyda manylion y rhodd neu’r gwerthiant a swm eich rhyddhad treth. Naill ai byddwch yn cael ad-daliad, neu bydd eich cod treth yn cael ei newid er mwyn i chi dalu llai o Dreth Incwm ar gyfer y flwyddyn dreth honno.
Rhyddhad Treth Enillion Cyfalaf
Does dim rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar dir, eiddo na chyfranddaliadau rydych yn eu rhoddi i elusen.
Efallai y bydd yn rhaid i chi ei thalu os byddwch yn eu gwerthu am fwy na’r hyn yr oeddent wedi’i gostio i chi ond am lai na’u gwerth marchnadol. Cyfrifwch eich ennill gan ddefnyddio’r swm y mae’r elusen yn ei dalu i chi mewn gwirionedd, yn hytrach na gwerth yr ased.
Gwerthu tir, eiddo neu gyfranddaliadau ar ran elusen
Pan fyddwch yn cynnig rhodd o dir, eiddo neu gyfranddaliadau, gall yr elusen ofyn i chi werthu’r rhodd ar ei rhan.
Gallwch wneud hyn a dal i hawlio rhyddhad treth ar gyfer y cyfraniad, ond mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r rhodd a chais yr elusen. Heb y rhain, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf.
5. Gadael rhoddion i elusennau yn eich ewyllys
Mae eich ewyllys yn nodi beth fydd yn digwydd i’ch arian, eiddo a meddiannau ar ôl i chi farw.
Bydd eich cyfraniad yn cael ei ddidynnu oddi wrth werth eich ystâd cyn i Dreth Etifeddiant gael ei chyfrifo. Os byddwch yn gadael o leiaf 10% o’ch ystâd i elusen, mae’n bosibl y bydd cyfradd eich Treth Etifeddiant yn cael ei gostwng.
Gallwch gyfrannu:
- swm penodol
- eitem
- yr hyn sy’n weddill ar ôl i roddion eraill gael eu dosbarthu
Ysgrifennu eich ewyllys
Dysgwch sut i ysgrifennu neu ddiweddaru’ch ewyllys (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys sut i wneud yn siŵr ei bod yn gyfreithiol.
Nodwch enw llawn yr elusen – gwiriwch hyn gyda’r elusen neu:
6. Cadw cofnodion
Mae angen i chi gadw cofnodion o gyfraniadau os ydych am hawlio treth yn ôl arnynt.
Cyfraniadau Rhodd Cymorth
Cadwch gofnodion os ydych yn:
- talu treth ar y gyfradd uwch
- hawlio credydau treth
- cael Lwfans Personol uwch oherwydd eich oedran
- cael Lwfans Pâr Priod
Os ydych yn hawlio treth yn ôl drwy’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad neu drwy ofyn i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ddiwygio’ch cod treth, cadwch gofnodion sy’n dangos y dyddiad, y swm, ac i ba elusennau rydych wedi cyfrannu.
Tir, adeiladau a chyfranddaliadau
Ar gyfer rhoddion o dir, eiddo neu gyfranddaliadau, mae angen i chi gadw:
- dogfennau cyfreithiol yn dangos y gwerthiant neu’r trosglwyddiad i elusen
- unrhyw ddogfennau gan elusen sy’n gofyn i chi werthu tir neu gyfranddaliadau ar ei rhan
Fel arfer mae’n rhaid i chi gadw’ch cofnodion am o leiaf 22 mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y maent ar ei chyfer.