Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)
Printable version
1. Trosolwg
Gallwch gynilo’n ddi-dreth gyda Chyfrifon Cynilo Unigol (ISAs).
Yn y flwyddyn dreth 2025 i 2026, £20,000 yw’r mwyaf gallwch ei gynilo mewn ISA
Mae 4 fath o ISA:
- ISAs arian parod
- ISAs stociau a chyfranddaliadau
- ISAs cyllid arloesol
- ISAs gydol oes (yn agor tudalen Saesneg)
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Pwy sy’n cael agor ISA
Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i agor ISA. Os ydych yn agor ISA Gydol Oes, mae’n rhaid i chi fod o dan 40 oed.
Os cawsoch eich geni rhwng 6 Ebrill 2006 a 5 Ebrill 2008, gallwch agor un ISA arian parod cyn i chi droi’n 18 oed.
Mae’n rhaid i chi hefyd fod naill ai:
- yn preswylio yn y DU
- yn aelod o’r lluoedd arfog neu un o weision y Goron (er enghraifft gwasanaeth sifil diplomyddol neu dramor) neu’n briod neu’n bartner sifil i’r unigolyn hwnnw os nad ydych yn byw yn y DU
Does dim modd i chi ddal ISA ar ran rhywun arall.
Gallwch gael ISA ar gyfer Plant Iau (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer plant dan 18 oed.
Agor a rheoli ISA ar ran rhywun sydd heb y galluedd meddyliol i wneud hyn drosto’i hun
Gallwch wneud cais am ISA a’i reoli ar ran rhywun os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn dal pŵer atwrnai arhosol (LPA) ar ei ran
- rydych yn ddirprwy materion ariannol ar ei ran
I wneud cais i fod yn ddirprwy materion ariannol:
- yng Nghymru a Lloegr gwneud cais i’r Llys Gwarchod
- yn yr Alban
- yng Ngogledd Iwerddon
2. Sut mae ISAs yn gweithio
Mae 4 math o Gyfrifon Cynilo Unigol (ISA):
- ISA arian parod
- ISA stociau a chyfranddaliadau
- ISA cyllid arloesol
- ISA gydol oes (yn agor tudalen Saesneg)
Nid ydych yn talu treth ar:
- llog ar arian mewn ISA
- incwm neu enillion cyfalaf o fuddsoddiadau mewn ISA
Os byddwch yn llenwi ffurflen dreth, nid oes angen i chi ddatgan unrhyw log, incwm nac enillion cyfalaf ar yr ISA.
Rhoi arian mewn ISA
Bob blwyddyn dreth, gallwch gynilo hyd at £20,000 mewn un cyfrif neu rannu’r lwfans ar draws sawl cyfrif. Mae’r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill.
Dim ond mewn un ISA Gydol Oes y gallwch ei dalu mewn blwyddyn dreth. Yr uchafswm y gallwch ei dalu yw £4,000.
Enghraifft
Gallech gynilo £15,000 mewn ISA arian parod, £2,000 mewn ISA stociau a chyfranddaliadau a £3,000 mewn ISA cyllid arloesol mewn un flwyddyn dreth.
Enghraifft
Gallech gynilo £11,000 mewn ISA arian parod, £2,000 mewn ISA stociau a chyfranddaliadau, £3,000 mewn ISA cyllid arloesol a £4,000 mewn ISA Gydol Oes mewn un flwyddyn dreth.
Enghraifft
Gallech gynilo £10,000 mewn un ISA arian parod, £3,000 mewn ISA arian parod arall a £7,000 mewn stociau ISA a chyfranddaliadau mewn un flwyddyn dreth.
Ni fydd eich ISAs yn cau pan fydd y flwyddyn dreth yn dod i ben. Byddwch yn cadw’ch cynilion ar sail ddi-dreth cyhyd â’ch bod yn cadw’r arian yn eich cyfrifon.
Beth allwch ei gynnwys yn eich ISAs
Gall ISAs arian parod gynnwys:
- cynilion mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu
- rhai cynnyrch Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (yn agor tudalen Saesneg)
Gall ISAs stociau a chyfranddaliadau gynnwys:
- cyfranddaliadau mewn cwmnïau
- ymddiriedolaethau unedol a chronfeydd buddsoddi
- bondiau corfforaethol
- bondiau’r llywodraeth
Chewch chi ddim trosglwyddo unrhyw gyfranddaliadau nad ydynt yn rhan o ISA rydych chi eisoes yn berchen arnynt i ISA oni eu bod yn dod o gynllun cyfranddaliadau gweithiwr (yn agor tudalen Saesneg).
Gall ISAs Gydol Oes gynnwys naill ai:
- arian parod
- stociau a chyfranddaliadau
Gall ISAs cyllid arloesol gynnwys:
- benthyciadau cymar-i-gymar - benthyciadau sy’n cael eu rhoi i bobl neu i fusnesau eraill heb ddefnyddio banc
- ‘dyledebau cyllido torfol’ - buddsoddi mewn busnes drwy brynu ei ddyled
- cronfeydd lle mae’r cyfnod rhybudd neu adbrynu yn golygu na ellir eu dal mewn ISA stociau a chyfranddaliadau
Ni allwch drosglwyddo unrhyw drefniadau yr ydych eisoes wedi’u gwneud neu fuddsoddiadau sydd gennych eisoes mewn ISA cyllid arloesol.
Os oes gennych gwestiynau am y rheolau treth ar gyfer ISAs, gallwch ffonio Llinell Gymorth ISA (yn agor tudalen Saesneg).
3. Sut mae agor ISA
Gallwch gael Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) gan:
- banciau
- cymdeithasau adeiladu
- undebau credyd
- cymdeithasau cyfeillgar
- broceriaid stoc
- gwasanaethau benthyca cymar-i-gymar
- cwmnïau cyllido torfol
- sefydliadau ariannol eraill
Cysylltwch â’ch darparwr yn uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth am sut mae agor ISA gyda nhw.
4. Tynnu’ch arian allan
Gallwch dynnu eich arian o Gyfrif Cynilo Unigol (ISA) unrhyw bryd, heb golli unrhyw fuddion treth. Edrychwch ar delerau eich ISA i weld a oes unrhyw reolau neu daliadau am dynnu arian allan.
Mae rheolau gwahanol ar gyfer tynnu eich arian allan o ISA Gydol Oes (yn agor tudalen Saesneg).
Os yw eich ISA yn ‘hyblyg’, gallwch dynnu arian allan ac yna ei roi yn ôl i mewn yn ystod yr un flwyddyn dreth heb leihau eich lwfans blwyddyn gyfredol. Bydd eich darparwr yn gallu dweud wrthych a yw eich ISA yn hyblyg.
Enghraifft
£20,000 yw eich lwfans ac rydych yn rhoi £10,000 mewn ISA yn ystod blwyddyn dreth 2025 i 2026. Rydych chi wedyn yn tynnu £3,000 allan.
Dyma faint gallwch ei roi i mewn yn ystod yr un flwyddyn dreth:
- £13,000 os yw eich ISA yn hyblyg (y lwfans sy’n weddill sef £10,000 a’r £3,000 roeddech wedi’i dynnu allan)
- £10,000 os nad yw eich ISA yn hyblyg (dim ond y lwfans sy’n weddill)
5. Trosglwyddo eich ISA
Gallwch drosglwyddo’r holl arian yn eich Cyfrif Cynilo Unigol (ISA), neu ran ohono, o un darparwr i un arall unrhyw bryd. Gallai hyn fod i fath gwahanol o ISA neu i’r un math o ISA. Gall y buddsoddiad fod wedi cael ei wneud eleni neu yn ystod y blynyddoedd blaenorol.
Mae cyfyngiadau ar y trosglwyddiadau y gallwch eu gwneud os oes gennych ISA gydol oes (yn agor tudalen Saesneg) neu ISA Iau (yn agor tudalen Saesneg).
Cyfyngiadau ar yr hyn y gallwch ei drosglwyddo
Gallwch drosglwyddo arian o’ch ISA cyllid arloesol i ddarparwr arall - ond efallai na fyddwch yn gallu trosglwyddo buddsoddiadau eraill ohono.
Holwch eich darparwr am unrhyw gyfyngiadau sydd ganddo ar drosglwyddo ISAs. Efallai y bydd hefyd yn codi ffi arnoch.
Sut mae trosglwyddo eich ISA
I newid darparwr, cysylltwch â’r darparwr ISA rydych am symud ato a llenwi ffurflen drosglwyddo ISA i symud eich cyfrif. Os byddwch yn tynnu’r arian allan heb wneud hyn, ni fyddwch yn cael ail-fuddsoddi’r rhan honno o’ch lwfans sy’n rhydd o dreth eto.
Dyddiadau cau a chwynion
Ni ddylai trosglwyddo ISA gymryd mwy na:
- 15 diwrnod gwaith ar gyfer trosglwyddiadau rhwng ISAs arian
- 30 diwrnod calendr ar gyfer mathau eraill o drosglwyddo
Os ydych eisiau trosglwyddo buddsoddiadau sy’n cael eu dal mewn ISA cyllid arloesol, holwch eich darparwr faint o amser bydd hynny’n ei gymryd.
Os bydd y trosglwyddo’n cymryd mwy o amser nag y dylai, cysylltwch â’ch darparwr ISA.
Os ydych yn anhapus gyda’r ymateb, gallwch godi’r mater gyda Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Ffôn (ar gyfer llinellau tir): 0800 023 4567
Ffôn (ar gyfer ffonau symudol): 0300 123 9123
Dydd Llun – Dydd Gwener, 08:00 i 20:00
Dydd Sadwrn, 09:00 i 13:00
Dysgwch am gostau galwadau
6. Os byddwch yn symud dramor
Os byddwch yn agor Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) yn y DU ac yna’n symud dramor ac yn dod yn breswylydd y tu allan i’r DU, chewch chi ddim rhoi arian ynddo (oni bai eich bod yn un o weithwyr y Goron sy’n gweithio dramor neu’n briod neu bartner sifil i unigolyn o’r fath).
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ddarparwr eich ISA cyn gynted ag y byddwch yn rhoi’r gorau i breswylio yn y DU.
Fodd bynnag, gallwch gadw’ch ISA ar agor a byddwch yn dal i gael rhyddhad treth y DU ar yr arian a’r buddsoddiadau sy’n cael eu dal ynddo.
Gallwch drosglwyddo ISA i ddarparwr arall hyd yn oed os nad ydych yn byw yn y DU.
Gallwch dalu arian i’ch ISA eto os byddwch yn dychwelyd ac yn breswylydd yn y DU (yn amodol ar y lwfans ISA blynyddol).
7. Os byddwch yn marw
Bydd eich ISA yn dod i ben pan fydd naill ai:
- eich ysgutor yn ei gau
- y gwaith o weinyddu eich ystad wedi’i gwblhau
Fel arall, bydd eich darparwr ISA yn cau eich ISA 3 blynedd ac 1 diwrnod ar ôl i chi farw.
Fydd dim angen talu unrhyw Dreth Incwm na Threth Enillion Cyfalaf hyd at y dyddiad hwnnw, ond bydd buddsoddiadau ISA yn rhan o’ch ystad at ddibenion Treth Etifeddiaeth.
ISAs stociau a chyfranddaliadau
Gellir cyfarwyddo eich darparwr ISA i naill ai:
- gwerthu’r buddsoddiadau a thalu’r elw i weinyddwr neu fuddiolwr eich ystad
- trosglwyddo’r buddsoddiadau i ISA eich priod neu bartner sifil sy’n fyw - dim ond os oes ganddynt yr un darparwr ISA â chi y mae hyn yn bosibl
Edrychwch ar delerau ac amodau eich ISA i gael y manylion.
8. Etifeddu ISA gan eich priod neu bartner sifil
Os bydd eich priod neu’ch partner sifil yn marw gallwch etifeddu eu lwfans ISA.
Yn ogystal â’ch lwfans ISA arferol, gallwch ychwanegu swm di-dreth hyd at naill ai:
- y gwerth a oedd ganddynt yn eu ISA pan fuont farw
- gwerth eu ISA pan fydd yn cael ei gau
Cysylltwch â’ch darparwr ISA neu ddarparwr ISA eich priod neu bartner sifil i gael y manylion.
Os bu farw’ch priod neu bartner sifil rhwng 3 Rhagfyr 2014 a 5 Ebrill 2018
Daeth ei ISA i ben ar ddyddiad ei marwolaeth. Bydd buddsoddiadau ISAs yn ffurfio rhan o’i ystâd/hystâd at ddibenion Treth Etifeddiant.
Gellir cyfarwyddo ei ddarparwr ISA i werthu’r buddsoddiadau a naill ai:
- talu’r elw i weinyddwr neu fuddiolwr ei ystâd
- trosglwyddo’r buddsoddiadau’n uniongyrchol iddyn nhw
Gallwch etifeddu ei lwfans ISA. Yn ogystal â’ch lwfans ISA arferol, gallwch ychwanegu swm di-dreth hyd at y gwerth a oedd ganddynt yn ei ISA pan fu farw.
Cysylltwch â’ch darparwr ISA neu ddarparwr ISA eich priod neu bartner sifil i gael y manylion.