Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiadau
Adroddiadau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys ar ffurf CSV.
Mae鈥檙 casgliad hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Ystadegyn Cenedlaethol yw Mynegai Prisiau Tai y DU. Cyhoeddir bob chwarter.
Mae ailgyhoeddi data yn egluro鈥檙 amodau defnyddio. Trwy lawrlwytho鈥檙 data rydych yn cytuno i鈥檙 amodau hynny.
Cyhoeddi鈥檙 Mynegai Prisiau Tai nesaf
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2024 am 9.30am ddydd Mercher 21 Mai 2025. Gweler y聽calendr dyddiadau rhyddhau聽am ragor o wybodaeth.
Nifer gwerthiannau Gogledd Iwerddon
Rydym wedi newid y ffordd y cyhoeddir nifer gwerthiannau Gogledd Iwerddon ac wedi cywiro鈥檙 ffordd rydym yn eu cynnwys yn ffigurau鈥檙 DU. Rydym wedi cynhyrchu amcangyfrif misol trwy rannu cyfanswm y gwerthiannau ar gyfer y chwarter yng Ngogledd Iwerddon 芒 3.
Yn flaenorol, roedd data chwarterol Gogledd Iwerddon yn cael ei gynnwys yn nata nifer gwerthiannau misol y DU, a oedd yn arwain at ffigurau gwerthiant uwch na鈥檙 disgwyl.
Diwygiadau data
Yn dilyn adolygu amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o fis Ionawr 2021 ymlaen i 20 Mawrth 2024, i wneud defnydd o ddata prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU o 12 mis, rydym wedi nodi gwall yng nghyfrifon trafodion arian parod a morgais ar gyfer data鈥檔 rhychwantu Ionawr 2021 a Rhagfyr 2022. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod hyn wedi effeithio ar fynegeion a lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU.
Cywirwyd cyfrif trafodion arian parod a morgais ar gyfer Ionawr 2021 i Ragfyr 2022 yn nata Mynegai Prisiau Tai y DU a gyhoeddwyd ar 17 Ebrill 2024 ac yn dilyn datganiadau Mynegai Prisiau Tai y DU.
Newid methodoleg ar gyfer eiddo newydd
Oherwydd effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar nifer a chyflenwad y trafodion tai, rydym wedi gwneud rhai newidiadau methodoleg. Mae prosesu eiddo 鈥渁 adeiledir o鈥檙 newydd鈥 wedi cael ei effeithio mwy na phrosesu 鈥渉en鈥 eiddo. Cynghorir defnyddwyr y gall amcangyfrifon ar gyfer eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd fod yn llai cynrychioliadol ac yn fwy tebygol o gael eu diwygio. Er mwyn helpu i roi sylw i hyn, rydym wedi cyfuno trafodion eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd ar gyfer rhai misoedd yng Nghymru a Lloegr er 2020:
- Awst 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd o Orffennaf 2024 ac Awst 2024
- Medi 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd o Awst 2024 a Medi 2024
- Hydref 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd o Fedi 2024 a Hydref 2024
- Tachwedd 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd o Hydref 2024 a Thachwedd 2024
- Rhagfyr 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd o Dachwedd 2024 a Rhagfyr 2024
- Ionawr 2025 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd o Ragfyr 2024 ac Ionawr 2025
Nid yw Chwefror 2025 wedi ei effeithio gan nad yw鈥檙 model ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf yn defnyddio鈥檙 dangosydd eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd i ragfynegi prisiau eiddo oherwydd natur y prosesu.
Gallai鈥檙 newidiadau hyn arwain at wneud mwy o ddiwygiadau i amcangyfrifon cyhoeddedig nag arfer. Mae鈥檙 oedi cyffredinol sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chofrestru eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd hefyd yn arwain at gyfan is o werthiannau eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd sydd ar gael i gyfrifo鈥檙 pris cychwynnol a鈥檙 amcangyfrif mynegai nag ar gyfer gwerthiannau hen eiddo. Felly rydym yn atal nifer y gwerthiannau wedi eu cadarnhau ar gyfer eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf (neu鈥檙 ddau chwarter diweddaraf ar gyfer Gogledd Iwerddon), fodd bynnag, nid oes gennym ddigon o werthiannau i sicrhau bod y model atchweliad a ddefnyddir i gyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU a鈥檙 ystadegau cysylltiedig yn gadarn ac yn gywir. Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd fel arfer i鈥檞 gweld yng nghyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Cofrestrfa Tir EF.
Un o鈥檙 prif ffactorau sy鈥檔 penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio鈥檙 dosbarthiad demograffig-gymdeithasol, a elwir Acorn聽 (wedi ei gynhyrchu a鈥檌 drwyddedu gan CACI Ltd), yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, gwnaethpwyd newid i鈥檙 ffordd y caiff trafodion eiddo ar gyfer Prydain Fawr gyda dosbarthiad Acorn coll eu defnyddio yn y model atchweliad. Mae鈥檙 gwelliant hwn yn y fethodoleg yn cynyddu cydlyniant ar draws y DU ac yn gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Ngwybodaeth Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU ac yng ngwybodaeth sicrhau ansawdd Acorn.
Yn natganiad Medi 2024, cafodd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU eu diwygio o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod diwygio 12 mis arferol Mynegai Prisiau Tai y DU. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i鈥檙 cyfnod diwygio arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer a nodi鈥檙 ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd.
Cyn datganiad 19 Chwefror 2025, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Cyfrifwyd lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU trwy gymryd pris cyfartalog Ionawr 2015 cyfeirgyfres o eiddo a chymhwyso cyfraddau chwyddiant cyfnod unigol i gynhyrchu鈥檙 gyfres amser llawn. Yn natganiad Chwefror 2025, Ionawr 2023 oedd y cyfnod cyfeirio newydd y byddai cyfraddau chwyddiant cyfnodau unigol yn ei ddefnyddio i gynhyrchu鈥檙 gyfres amser llawn. O ddatganiad 19 Chwefror 2025, mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd Ionawr 2023 = 100. Mae ailgyfeirio yn symud y gyfres lefel prisiau ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad yn 么l newid canrannol cyson, ond nid yw cyfraddau chwyddiant yn cael eu heffeithio gan ailgyfeirio, fel yr eglurir yn Adran 3: Dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU yng nghyfarwyddyd Ansawdd a methodoleg Cofrestrfa Tir EF.
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU wedi cael ei ailgyfeirio oherwydd gall y mathau o eiddo sy鈥檔 cael eu gwerthu newid dros amser. Er enghraifft, rhwng 2015 a 2023 cynyddodd cyfran y trafodion eiddo sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwerthiannau eiddo llai (er enghraifft, yn 么l cyfran roedd mwy o werthiannau o fflatiau nag eiddo sengl) a lleihaodd gwerthiannau yn yr ardaloedd drutach o鈥檙 DU yn 么l cyfran (er enghraifft, yn 么l cyfran roedd mwy o werthiannau yn yr Alban nag yn Llundain). Mae diweddaru cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2015 i Ionawr 2023 yn golygu y gall Mynegai Prisiau Tai y DU adlewyrchu鈥檔 well y newid a welwyd yn y math o eiddo sy鈥檔 cael ei werthu ar hyn o bryd. Mae hyn wedi arwain at newid ar i lawr o 7.9% ar gyfer y cyfan o gyfres lefelau prisiau cyfartalog y DU. Ni chafodd cyfraddau chwyddiant ar gyfer cyfres y DU eu heffeithio gan ailgyfeirio.
Chwefror 2025
Am Fynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn dangos newidiadau yng ngwerth eiddo preswyl. Mae鈥檙 cyfarwyddyd canlynol yn cynnwys:
Adroddiadau a data wedi eu harchifo
Updates to this page
-
Added the September 2024 index.
-
Added the July 2024 index.
-
Added the March 2024 index.
-
Added the February 2024 index.
-
Added the January 2024 index.
-
Added the December 2023 index.
-
Added the November 2023 index.
-
Added the October 2023 index.
-
Added the September 2023 index.
-
Added the August 2023 index.
-
Added the July 2023 index.
-
Added the May 2023 index.
-
Added the April 2023 index.
-
Added the March 2023 index.
-
Added the February 2023 index.
-
Added the January 2023 index.
-
Added the December 2022 index.
-
Added the November 2022 index.
-
Added the October 2022 index.
-
Added the September 2022 index.
-
Added the August 2022 index.
-
Added the July 2022 index.
-
Added the June 2022 index.
-
Added May 2022 index.
-
Added the April 2022 index.
-
Added the March 2022 index.
-
Added February 2022 index.
-
Added January 2022 index.
-
Added December 2021 index.
-
Added November 2021 index.
-
Added October 2021 index.
-
Added September 2021 index.
-
Added August 2021 index.
-
Added July 2021 index.
-
Added June 2021 index.
-
Added May 2021 index.
-
Added April 2021 index.
-
Added March 2021 index.
-
Added February 2021 index.
-
Added January 2021 index.
-
Added December 2020 index.
-
First published.