Gwybodaeth Berthnasol mewn Rhestriadau Eiddo
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ceisio safbwyntiau ar sut gall ein harweiniad gynorthwyo asiantiaid eiddo 芒鈥檜 cyfrifoldeb cyfreithiol i ddarparu gwybodaeth berthnasol i ddarpar brynwyr yn ystod trafodiadau eiddo preswyl.
Rydym hefyd yn ceisio safbwyntiau ar yr hyn y dylid ei ystyried yn wybodaeth berthnasol i brynwyr.
Mae鈥檙 broses prynu a gwerthu cartref yn un hir, gymhleth a rhwystredig i ddefnyddwyr a gweithwyr eiddo proffesiynol. Un o鈥檙 rhesymau allweddol dros yr aneffeithlonrwydd hwn yw ei bod hi鈥檔 aml yn anodd i ddefnyddwyr a gweithwyr proffesiynol gael gafael ar y wybodaeth iawn ar yr adeg iawn. Nid yw problemau arwyddocaol a allai effeithio ar benderfyniad prynwr yn dod i鈥檙 amlwg tan ar 么l i鈥檞 gynnig gael ei dderbyn.聽
Cydnabyddwn fod cael gafael ar wybodaeth berthnasol, ei dehongli a鈥檌 chyhoeddi yn gallu bod yn heriol yng nghyd-destun gwerthiannau eiddo. Felly, bwriadwn gynhyrchu arweiniad newydd sy鈥檔 nodi鈥檙 hyn sy鈥檔 debygol o gael ei ystyried yn wybodaeth berthnasol, sy鈥檔 helpu gweithwyr proffesiynol i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol ac sy鈥檔 arwain at wasanaeth o ansawdd gwell i ddefnyddwyr.
Ymgynghoriad cyhoeddus yw hwn a chroesawn safbwyntiau gan unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn prynu a gwerthu cartrefi. Gwahoddir safbwyntiau yn arbennig gan:
- asiantiaid eiddo
- gweithwyr eiddo proffesiynol eraill sy鈥檔 ymwneud 芒 phrynu a gwerthu cartrefi
- aelodau o鈥檙 cyhoedd sydd wedi profi鈥檙 broses fel prynwr neu werthwr
Dogfennau
Ffyrdd o ymateb
or
E-bostio at:
homebuyingandselling@communities.gov.uk
Ysgrifennu at:
Home Buying and Selling Consultation,
Attn: Homeownership Division,
Fry Building,
2 Marsham Street,
Westminster,
London,
SW1P 4DF