Datganiad i'r wasg

Y Farwnes Randerson: Mae menywod mewn busnes yn hanfodol ar gyfer economi deg

Y Farwnes Randerson yn cyfarfod gyda menywod busnes ysbrydoledig i weld sut all Llywodraeth y DU gynyddu cyfleoedd i fenywod mewn busnes

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (29 Ionawr), cyfarfu Gweinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson 芒 menywod busnes o Gymru i weld sut y gall Llywodraeth y DU gynyddu鈥檙 cyfleoedd i fenywod ym myd busnes.

Cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth), ymwelodd y Farwnes Randerson 芒 Bragdy Monty鈥檚 Brewery. Mae Pam Honeyman, cyd-sylfaenydd bragdy Monty鈥檚 Brewery yn gyfrannwr allweddol i lwyddiant y cwmni 鈥 gan greu a chynhyrchu鈥檙 cwrw sydd wedi ennill gwobrau, 鈥淪unshine鈥.

Aeth y Gweinidog hefyd i ymweld 芒 chwmni Cyfreithwyr Harrisons Solicitors, Cynghorwyr Cyfreithiol Arbenigol o鈥檙 Trallwng a鈥檙 Drenewydd. Mae鈥檙 Partner Rheoli, Anne Smith wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori ar gyfer Mentor Rhagorol Gwobrau Busnes Powys 2014 - gan ddangos bod sgiliau fel mentora, sydd weithiau鈥檔 gysylltiedig 芒 menywod, yn gallu bod yn asedau busnes gwerthfawr.

Yna aeth y Farwnes Randerson i weld Rheolwr Tyddynnod y L么n/L么n Lodges, Kerena Pugh, a aeth ati gyda鈥檌 g诺r, i agor dau dyddyn gwyliau hunan-ddarpar ar fferm y teulu. Mae Kerena yn rhan annatod o lwyddiant y tyddynnod, ac mae ei chyfrifoldebau鈥檔 amrywio o gynllunio a dylunio datblygiadau, dylunio a rheoli鈥檙 wefan a chymryd archebion a gweinyddu.

Daeth ei thaith i ben pan ymwelodd 芒鈥檙 papur newydd lleol, y County Times. Yma, cafodd gyfle i nodi pa mor bwysig ydyw i fenywod yng Nghymru deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a鈥檜 grymuso i wireddu eu holl uchelgeisiau.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:

Mae annog a chefnogi menywod i fentro ym myd busnes yn rhan hanfodol o greu economi gryfach a chymdeithas decach, felly rydw i鈥檔 benderfynol o wneud beth gallaf i ddenu mwy o fenywod i鈥檙 byd busnes.

Ers 2010, rydyn ni wedi gweld mwy o fenywod ar fyrddau FTSE nag erioed o鈥檙 blaen 鈥 cynnydd o 10% ers yr etholiad 鈥 a chynnydd sylweddol mewn busnesau bach a chanolig a gaiff eu harwain gan fenywod 鈥 cynnydd o 14% ers 2010.

Ond mae angen i ni wneud mwy o lawer er mwyn i fenywod yng Nghymru achub ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt lwyddo ym myd busnes.

Ledled Cymru, mae Llywodraeth y DU yn cefnogi menywod sy鈥檔 gweithio drwy eu helpu gyda chostau gofal plant 鈥 o dymor yr hydref 2015 ymlaen, bydd cynllun gofal plant di-dreth newydd gwerth hyd at 拢2000 y plentyn ar gael ar gyfer bron 2 filiwn o deuluoedd. Ers 2010, mae 9000 yn fwy o fenywod yn cael eu cyflogi yng Nghymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Ionawr 2015