Gweinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson yn gweld ymchwil amgylcheddol arloesol yn ystod ei hymweliad 芒 Bangor
Daeth Gweinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson i Fangor (ddydd Iau 27 Tachwedd) i glywed am waith ymchwil cyffrous
Baroness Randerson at the Centre for Ecology & Hydrology, part of the Natural Environment Research Council.
Bu鈥檙 Farwnes Randerson yn ymweld ag Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor a鈥檙 Ganolfan Ecoleg & Hydroleg, sydd hefyd ar gampws y Brifysgol.
Roedd y Farwnes Randerson yn arbennig o awyddus i ddysgu am broject ymchwil allweddol bwysig yn yr Ysgol, sy鈥檔 mynd i鈥檙 afael 芒 sicrwydd bwyd yn India a Nepal. Sicrwydd bwyd yw un o鈥檙 prif heriau sy鈥檔 wynebu鈥檙 byd.
Mae gwyddonwyr ar y project yn gweithio gyda phartneriaid yn Nepal, India a LGC Genomics (cwmni mesur a phrofi rhyngwladol yn y gwyddorau bywyd, sydd yn arwain mewn marchnadoedd sy鈥檔 tyfu cnydau mewn modd cynaliadwy) i ddatblygu mathau newydd o reis sy鈥檔 fwy abl i wrthsefyll dau glefyd reis enbyd sy鈥檔 gallu dinistrio 85-100% o鈥檙 cynhaeaf reis mewn llawer o wledydd sy鈥檔 tyfu reis a thrwy hynny, sicrwydd bwyd miliynau o bobl.
Mae鈥檙 project sy鈥檔 cael ei ariannu drwy Grant Dichonoldeb Cyfnod Cynnar Catalyddu Amaeth-Technoleg newydd, sy鈥檔 amodol ar gontract, yn un o dri phroject yng Nghymru yn rhannu buddsoddiad o 拢 5miliwn gan Innovate UK i fynd i鈥檙 afael 芒 heriau amaethyddol mawr ledled y byd.
Yn ystod yr ymweliad cyfarfu鈥檙 Farwnes Randerson hefyd 芒鈥檙 Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol i drafod gwaith arloesol y Brifysgol ym meysydd cynaliadwyedd a gwyddor yr amgylchedd.
Meddai鈥檙 Athro John G.Hughes:
Mae ymchwil ym Mhrifysgol Bangor yn cael effaith dda o gwmpas y byd, ac rydym yn arbennig o falch o鈥檔 gwaith sy鈥檔 gwneud cyfraniad gwirioneddol tuag at wella bywydau, boed yma yng Nghymru neu鈥檔 rhyngwladol. Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i drafod hyn a gwaith ymchwil pwysig arall gydag Is-ysgrifennydd Cymru, y Farwnes Randerson.
Meddai鈥檙 Farwnes Randerson:
Rwyf wedi gwerthfawrogi鈥檔 fawr y cyfle i drafod eu hymchwil gydag academyddion ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor sy鈥檔 helpu i roi sylw i ddiogelwch bwyd. Mae鈥檙 gwaith hwn o bwysigrwydd rhyngwladol ac, yn arbennig, yn eithriadol bwysig i ddyfodol rhai o鈥檙 mannau tlotaf ar ein planed.
Hefyd, bu鈥檙 Farwnes Randerson yn ymweld 芒鈥檙 Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, rhan o Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, sydd hefyd yn gweithio ochr yn ochr 芒 gwyddonwyr amgylcheddol y Brifysgol ei hun yn adeilad Canolfan yr Amgylchedd Cymru.
Cafodd y Farwnes Randerson ei thywys o amgylch y cyfleusterau dadansoddi a chyfarfod staff a myfyrwyr i glywed am brojectau sicrwydd bwyd. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys Agricultural Sustainable Intensification Platform newydd, rhan o raglen 拢5M Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) i ddatblygu arferion ffermio dwys sydd yn gwarchod adnoddau naturiol, a chynllun arfarnu amaeth-amgylcheddol Glastir gwerth 拢9M.
Meddai鈥檙 Farwnes Randerson:
Mae adeilad Canolfan yr Amgylchedd Cymru yn enghraifft o ragoriaeth amgylcheddol a chynaliadwy, o ran ei gynllun a鈥檙 modd y caiff ei ddefnyddio. Mae鈥檙 gwaith sy鈥檔 cael ei wneud yma gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) o bwysigrwydd mawr i Gymru a thu hwnt. Rwy鈥檔 ei chael hi鈥檔 ddiddorol iawn dysgu am yr ymchwil o鈥檙 radd flaenaf mae CEH yn ei wneud i鈥檙 materion a sialensiau hir dymor sy鈥檔 wynebu鈥檙 amgylchedd.
Mae鈥檙 adeilad, sydd wedi ennill gwobrau amgylcheddol, wedi ei ddylunio i ysbrydoli ac adlewyrchu ymchwil amgylcheddol arloesol a wneir gan dros 100 o staff CEH a Phrifysgol Bangor sydd yn gweithio yno.
Meddai鈥檙 Dr Bridget Emmett, (Pennaeth CEH Bangor):
Mae gan Ganolfannau Ymchwil Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol hanes cadarn o ganfod atebion i sialensiau amgylcheddol cymhleth. Mae鈥檙 broblem o allu cynnig gwell sicrwydd bwyd ac ar y un pryd gallu gwarchod ein hadnoddau naturiol yn un y mae鈥檔 rhaid i ni fynd i鈥檙 afael 芒 hi os ydym am gyflawni datblygu cynaliadwy yng Nghymru.