Gwaith y Farwnes Randerson yn cael ie gydnabod gan Gyngor Moslemaidd Cymru
Cydnabod Gweinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson am ei gwasanaethau i gysylltiadau rhyng-ffydd.
Mae Cyngor Moslemaidd Cymru wedi penderfynu y bydd y gweinidog yn derbyn Gwobr Llwyddiant ar gyfer 2015, i gydnabod ei gwasanaethau i gysylltiadau rhyng-ffydd, ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Bydd y gweinidog yn derbyn ei gwobr yng nghinio鈥檙 Cyngor i ddathlu Wythnos Cytgord Rhyng-ffydd y Byd y Cenhedloedd Unedig yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar ddydd Mercher 4 Chwefror 2015. Mae鈥檙 Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas a鈥檙 Cardinal Cormac Murphy O鈥機onnor wedi derbyn y wobr yn y gorffennol.
Mae hwn yn ddigwyddiad hanesyddol gan mai鈥檙 Prif Rabi Mirvis Ephraim, 11eg Prif Rabi Cynulleidfaoedd Hebreaidd Unedig y Gymanwlad, fydd un o鈥檙 siaradwyr gwadd. Bydd y diwinydd Islamaidd, Shaykh Asim Yusuf, yn un o鈥檙 siaradwyr gwadd hefyd.
Mae鈥檙 gymuned Foslemaidd wedi datgan bod ei dyled yn fawr i鈥檙 gweinidog am ei hymrwymiad, ei hymroddiad a鈥檌 brwdfrydedd dros y blynyddoedd ac mae鈥檔 gwerthfawrogi ei chyfraniad i gytgord rhyng-ffydd.
Wrth glywed y newyddion am ei gwobr, dywedodd y Farwnes Randerson:
Rwy鈥檔 teimlo鈥檔 ffodus ac yn falch iawn o gael fy anrhydeddu fel hyn. Mae ceisio sicrhau cytgord rhwng pob ffydd yn bwysig os ydyn ni am fyw mewn byd heddychlon, ac rwyf wastad wedi cefnogi cydweithredu a goddefgarwch.
Mae derbyn anrhydedd am yr hyn rwy鈥檔 credu ynddo wedi cyffwrdd a鈥檓 calon.