Prawf Rhybudd Argyfwng yn dilyn ei ddefnyddio ar gyfer Storm Darragh
Gyda dim ond wythnosau i fynd, mae pobl ledled Cymru yn cael eu hatgoffa i ddisgwyl prawf Rhybudd Argyfwng cenedlaethol am yr ail dro erioed.
Gyda dim ond wythnosau i fynd, mae pobl ledled Cymru yn cael eu hatgoffa i ddisgwyl prawf Rhybudd Argyfwng cenedlaethol am yr ail dro erioed.
Bwriad y system yw helpu i amddiffyn bywydau drwy anfon cyngor diogelwch brys yn uniongyrchol i ffonau symudol yn ystod argyfyngau mawr.聽
Bydd ffonau symudol sydd wedi鈥檜 cysylltu 芒 rhwydweithiau 4G a 5G yn cael y rhybudd am tua 3pm ar ddydd Sul, 7 Medi.
Cynhelir yr ymarfer ar 么l defnyddio鈥檙 system yng Nghymru yn ystod Storm Darragh ym mis Rhagfyr 2024, pan gyhoeddwyd rhybudd tywydd coch, prin. Pat McFadden, Gweinidog Llywodraeth y DU, wnaeth awdurdodi鈥檙 rhybudd.聽
Cafodd tua thair miliwn o bobl ledled Cymru a de鈥憃rllewin Lloegr y neges, a oedd yn rhybuddio am amodau peryglus a allai beryglu bywyd.
聽Yn ystod y prawf cenedlaethol ar 7 Medi, bydd ffonau symudol yn dirgrynu ac yn gwneud s诺n tebyg i seiren uchel am hyd at ddeg eiliad. Bydd neges brawf yn ymddangos ar sgriniau, gan nodi鈥檔 glir mai ymarfer yw鈥檙 rhybudd.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Ar ddydd Sul, 7 Medi am tua 3pm, bydd ffonau symudol ar rwydweithiau 4G a 5G ledled Cymru a鈥檙 DU gyfan yn dirgrynu ac yn gwneud s诺n uchel tebyg i seiren am hyd at ddeg eiliad, yn un o鈥檙 ymarferion diogelwch cyhoeddus mwyaf yn hanes ein cenedl.
Does dim ap na chyfle i gofrestru, dim ond rhybudd achub bywyd pan fydd hynny鈥檔 bwysig. Bydd y prawf hwn ledled y DU yn helpu i sicrhau ei fod yn gweithio fel y dylai pan fydd ei angen arnom.
Fe wnaethon ni ddefnyddio鈥檙 system yn ystod Storm Darragh i anfon neges i tua thair miliwn o ffonau pan oedd rhybudd tywydd coch yn golygu bod bywydau mewn perygl.
Cyn y prawf, mae鈥檙 llywodraeth yn cynnal ymgyrch gwybodaeth i鈥檙 cyhoedd i roi gwybod i bobl y bydd hyn yn digwydd, gan gynnwys ymgyrchoedd cyfathrebu wedi鈥檜 targedu at grwpiau agored i niwed, fel dioddefwyr cam-drin domestig. Mae鈥檙 ymgyrch wedi cynnwys y fideo gwybodaeth genedlaethol cyntaf yn Iaith Arwyddion Prydain.
Yr wythnos diwethaf, datgelwyd testun llawn y neges brawf am y tro cyntaf, a oedd yn dweud:
Mae hwn yn brawf Rhybudd Argyfwng, gwasanaeth gan Lywodraeth y DU a fydd yn eich rhybuddio os bydd argyfwng sy鈥檔 peryglu bywyd gerllaw.
Does dim angen i chi wneud unrhyw beth. Mewn argyfwng go iawn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y rhybudd i gadw eich hun ac eraill yn ddiogel.
Mae cyngor syml ac effeithiol ar sut i baratoi ar gyfer argyfyngau ar gael yn聽.
Ewch i聽聽i gael rhagor o wybodaeth neu i weld y neges hon yn Saesneg. Visit聽聽for more information or to view this message in English.
Dim ond yr ail brawf o鈥檌 fath fydd hwn ac mae鈥檔 dilyn ymrwymiad gan y llywodraeth i brofi鈥檙 system yn rheolaidd i sicrhau ei bod yn gweithio yn y ffordd orau bosibl ac er mwyn i鈥檙 cyhoedd ymgyfarwyddo 芒鈥檙 rhybuddion. Mae hyn yn unol 芒鈥檙 arfer safonol mewn gwledydd eraill, fel Japan ac UDA.
Yn ogystal 芒 nodi鈥檔 glir mai dim ond prawf yw hwn, bydd y neges yn cyfeirio鈥檙 cyhoedd at聽, gwefan bwrpasol sy鈥檔 cynnig cyngor ymarferol ar beth gall aelwydydd ei wneud i baratoi ar gyfer argyfyngau.