Stori newyddion

Dysgwch fwy am eich ardrethi busnes

Byddwch y cyntaf i wybod am newidiadau i werth eich eiddo drwy gofrestru ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes.

Mae prisiadau eiddo masnachol yn newid yn ddiweddarach eleni. Byddwch y cyntaf i wybod beth mae hyn yn ei olygu i chi.

Cofrestrwch ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes i ddarganfod beth fydd eich gwerth ardrethol yn y dyfodol. Mae ardrethi busnes yn seiliedig ar 鈥榳erth ardrethol鈥 eich eiddo.

Gallwch ddefnyddio鈥檆h cyfrif prisio ardrethi busnes i:

  • wirio鈥檙 manylion sydd gennym
  • roi gwybod i ni os oes rhywbeth yn anghywir
  • weld sut y cyfrifwyd prisiad eich eiddo.

Cofrestrwch ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes heddiw a hawliwch eich eiddo.

Bob tair blynedd, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn diweddaru gwerthoedd ardrethol pob eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo. Gelwir hyn yn 鈥榓ilbrisiad鈥.

Mae鈥檙 ailbrisiad nesaf wedi鈥檌 amserlennu i ddod i rym ar 1 Ebrill 2026, yn seiliedig ar werth rhent eiddo ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 2024.

Dywedodd Alan Colston, Prif Brisiwr y VOA:

Rydym yn cyhoeddi prisiadau eiddo ar gyfer y dyfodol ychydig fisoedd cyn iddynt ddod i rym.

Mae hyn yn golygu y gall busnesau wirio bod y ffeithiau sydd gennym am eu heiddo yn gywir. Gallant hefyd amcangyfrif eu bil yn y dyfodol a chynllunio eu rhwymedigaeth ardrethi busnes.

Rydym yn eich annog i gofrestru ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes cyn gynted 芒 phosibl, fel eich bod yn barod.

Serch hynny, mae鈥檔 bwysig cofio nad yw gwerth ardrethol eiddo yr un peth 芒鈥檌 fil ardrethi busnes.

Mae cynghorau lleol yn cyfrifo biliau ardrethi busnes drwy luosi鈥檙 gwerth ardrethol 芒 鈥榣luosydd鈥 ac yna鈥檔 cymhwyso unrhyw ryddhadau.

Gallwch hefyd ddefnyddio鈥檆h cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod i鈥檙 VOA os ydych chi鈥檔 credu bod eich prisiad eiddo presennol yn anghywir. Ond rhaid i chi wneud hyn erbyn 31 Mawrth 2026.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Medi 2025 show all updates
  1. Welsh translation added

  2. First published.