Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb yn cynnal derbyniad adeg Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain

Ysgrifennydd Cymru: Y sector morol yn gyrru twf economaidd yng Nghymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Yr wythnos hon, bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru yn croesawu鈥檙 gymuned forgludo yng Nghymru i dderbyniad yn Nh欧 Gwydyr fel rhan o Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain (7-11 Medi).

Mae Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain yn ddigwyddiad sy鈥檔 cael ei redeg gan y diwydiant ac mae鈥檔 dwyn ynghyd cynrychiolwyr o鈥檙 sector, Gweinidogion y llywodraeth ac arbenigwyr morol i drafod sut y gellir gyrru鈥檙 diwydiant i dyfu ymhellach.

Mae鈥檙 gwasanaethau morol a morgludo yn rhan allweddol o ffyniant economaidd y DU, gan gyfrannu 拢11.8 biliwn y flwyddyn i鈥檙 economi.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Cymru鈥檔 falch o鈥檌 hanes morgludo, o ran cefnogi a chreu miloedd o swyddi a denu buddsoddiad.

Mae Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain yn gyfle gwych i arddangos y bartneriaeth agos rhwng y llywodraeth a diwydiant, gan gryfhau safle鈥檙 DU fel ceffyl blaen yn y sector.

Dwi am weld Cymru yn elwa o鈥檙 enw da byd-eang hwn ac yn cael ei hystyried fel un o鈥檙 llefydd mwyaf deniadol i redeg busnes morol rhyngwladol. Gobeithio y gallwn fanteisio ar yr Wythnos Morgludo Rhyngwladol i arddangos yr hyn sydd gan Gymru i鈥檞 gynnig a helpu i yrru鈥檙 sector tuag at dwf a llwyddiant pellach.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Medi 2015