Stephen Crabb: Cyfle Cymru i ddisgleirio yn y byd chwaraeon
Mae'r penwythnos pwysig i dimau rygbi a ph锚l-droed Cymru ar fin cyrraedd

Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi dweud mai heddiw yw cyfle Cymru i ddisgleirio cyn yr hyn a allai fod yn benwythnos pwysig o ddathlu chwaraeon yng Nghymru (dydd Sadwrn 10 Hydref).
Yng Nghwpan Rygbi鈥檙 Byd, bydd dynion Warren Gatland yn wynebu Awstralia, ac yn ceisio sicrhau buddugoliaeth er mwyn cyrraedd y brig yn eu gr诺p a sicrhau g锚m haws yn yr wyth olaf.
Yn y cyfamser, mae t卯m p锚l-droed Chris Coleman wedi teithio i Bosnia-Herzegovina ar gyfer y g锚m ragbrofol olaf ond un ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop. Bydd un pwynt yn sicrhau lle i鈥檙 t卯m mewn prif dwrnamaint am y tro cyntaf ers 1958.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae dydd Sadwrn yn argoeli i fod yn wych, nid yn unig i鈥檙 Cymry sy鈥檔 cynrychioli eu gwlad ar y caeau, ond i鈥檞 cefnogwyr ledled y byd hefyd.
Gallwn fod yn falch o鈥檙 hyn mae鈥檙 chwaraewyr hyn wedi鈥檌 gyflawni. Gall llwyddiant Cymru ar y lefel uchaf ysbrydoli ein cenhedlaeth iau i weithio鈥檔 galed i gyrraedd eu nodau.
Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld y wlad yn dod at ei gilydd ddydd Sadwrn, i gefnogi ein timau cenedlaethol. Mae鈥檔 argoeli i fod yn ddiwrnod cyffrous o gystadlu.