Stori newyddion

Deuddeg o sefydliadau Cymreig yn cipio鈥檙 Aur

Mae deuddeg cyflogwr wedi derbyn Gwobr Aur fawreddog y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr mewn seremoni o fri yng Nghaerdydd.

ERS Gold Award winners. Copyright: RFCA for Wales.

Cafodd y 12 cyflogwr o bob cwr o Gymru eu cydnabod am y gefnogaeth ragorol maen nhw鈥檔 ei rhoi i Gymuned y Lluoedd Arfog, mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn HMS CAMBRIA, Bae Caerdydd ar 25 Medi.

Dechreuodd y noson wobrwyo fawreddog gyda derbyniad diodydd, gyda鈥檙 gwesteion yn cael eu diddanu gan Cerys Rees, telynores Catrawd y Cymry Brenhinol. Cafodd y gwesteion eu diddanu hefyd gan Fand Catrodol (a Chorfflu Drymiau) y Cymry Brenhinol.

LCyflwynydd y noson oedd Sian Lloyd, gyda鈥檙 croeso yn cael ei estyn gan James Evans AS, cadeirydd Gr诺p Trawsbleidiol y Senedd ar y Lluoedd Arfog a鈥檙 Cadetiaid. Traddodwyd yr anerchiad agoriadol gan y Brigadydd Russ Wardle OBE DL, cadeirydd y Gymdeithas Lluoedd wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru.

Dyma鈥檙 enillwyr o Gymru:

  • Basel Cottage Holidays
  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • D诺r Cymru Welsh Water
  • Edwin C. Farrall (Transport) Ltd
  • Gatewen Training Services Limited
  • Ysgol Rydal Pen-rhos
  • Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru
  • SudoCyber Limited
  • The Mentor Ring Limited
  • Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru
  • Wurkplace Limited

Cyflwynwyd y gwobrau ar y cyd gan y Comodor Tris Kirkwood OBE ADC, Comander Rhanbarthol y Llynges Cymru, Gorllewin Lloegr ac Ynysoedd y Sianel, y Brigadydd Mark Davis CBE, Cadlywydd聽 Brig芒d 160 (Cymreig), Pennaeth y Fyddin yng Nghymru a Swyddog Awyr Cymru, y Comodor Awyr Rob Woods OBE.

Mae鈥檙 Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, a ddyfernir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn cydnabod sefydliadau sy鈥檔 cyflogi ac yn cefnogi鈥檙 rhai sy鈥檔 gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a鈥檜 teuluoedd. Ledled y DU, mae 202 o sefydliadau wedi derbyn y wobr Aur eleni.

Er mwyn ennill Aur, rhaid i gyflogwyr:

  • darparu o leiaf 10 diwrnod o absenoldeb 芒 th芒l ychwanegol i filwyr wrth gefn
  • gweithredu polis茂au AD ar gyfer cyn-filwyr a Gwirfoddolwyr Oedolion Llu y Cadetiaid
  • eirioli dros Amddiffyn ar draws eu rhwydweithiau a鈥檜 sectorau
  • dangos ymrwymiad parhaus ymhell y tu hwnt i鈥檙 gofynion gofynnol

Mae鈥檙 sefydliadau hyn yn arwain trwy esiampl, gan helpu i newid agweddau cenedlaethol a chodi safonau ar draws eu sectorau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Medi 2025