Prif gartref Cymru newydd Llywodraeth y DU wedi'i enwi ar 么l arloeswr llenyddol
Canolfan newydd Llywodraeth y DU yng Nghaerdydd wedi鈥檌 enwi T欧 William Morgan - William Morgan House i gydnabod ei r么l yn natblygiad Cymraeg fodern
Cardiff UK Government hub named T欧 William Morgan - William Morgan House
- Dewiswyd yr enw i adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru a diwylliant Cymru
- Mae gan yr adeilad y gallu i gynnal cyfarfodydd llawn Cabinet y DU
Bydd adeilad Llywodraeth y DU yn Sgw芒r Canolog Caerdydd yn cael ei enwi ar 么l yr Esgob William Morgan i gydnabod ei r么l ganolog o ran cynnal cryfder y Gymraeg, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns heddiw, dydd Iau 31 Hydref.
Treuliodd William Morgan bron i ddegawd yn cyfieithu鈥檙 Beibl i鈥檙 Gymraeg o Groeg a Hebraeg. Mae ei waith hynod arwyddocaol, a gwblhawyd yn 1588, yn cael ei weld fel y garreg sylfaen y mae llenyddiaeth Gymraeg fodern yn seiliedig arni.
Dewiswyd enw鈥檙 adeilad newydd i adlewyrchu creadigrwydd ac ymroddiad gweision sifil yng Nghymru ac ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru ac i ddiwylliant Cymru.
Mae mwy na 4,000 o staff o wahanol adrannau ac asiantaethau Llywodraeth y DU yn bwriadu gweithio o鈥檙 ganolfan 12-llawr, a fydd 芒鈥檙 gallu i gynnal cyfarfodydd llawn o Gabinet y DU. Disgwylir i鈥檙 aelodau staff cyntaf symud i mewn ymhen deuddeng mis.
Mae T欧 William Morgan/William Morgan House yn un o 16 o ganolfannau Llywodraeth y DU sy鈥檔 cael ei greu ar hyn o bryd ar draws gwledydd a rhanbarthau鈥檙 DU fel rhan o Strategaeth Yst芒d y Llywodraeth.
Bydd staff canolfan Caerdydd yn elwa o amgylchedd gweithio hyblyg a chynhwysol yn ogystal 芒 mynediad agos i orsaf drenau Caerdydd Canolog a chysylltiadau trafnidiaeth eraill.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:
Mae T欧 William Morgan - William Morgan House yn ganolog i gynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth y DU i greu gwasanaeth sifil deinamig sydd 芒鈥檙 gallu i fodloni gofynion y dyfodol.
Mae鈥檙 adeilad newydd yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru ac i gryfhau鈥檙 Undeb. Bydd yn darparu amgylchedd gwaith modern i ddenu a chadw staff o safon uchel a fydd yn gallu tyfu eu gyrfaoedd yn lleol.
Mae鈥檔 addas fod yr adeilad nodedig hwn yn ein prifddinas yn cael ei enwi ar 么l ffigwr y bu ei gyfieithiad arloesol o鈥檙 Beibl yn allweddol i barhad a thwf y Gymraeg ac yn natblygiad ein diwylliant unigryw.