Datganiad i'r wasg

Cyhoeddi'r ffordd ymlaen ar gyfer ystad y llysoedd a'r tribiwmlysoedd

Yn ôl y cynlluniau a gyhoeddwyd heddiw, sicrhau mynediad at gyfiawnder fydd y brif flaenoriaeth wrth benderfynu ar ddyfodol adeiladau llysoedd a thribiwnlysoedd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
  • Nodi egwyddorion ar gyfer y newidiadau i’r llysoedd yn y dyfodol
  • Blaenoriaethu amseroedd teithio a hwylustod o ran defnyddio gwahanol ddulliau trafnidiaeth
  • Cyhoeddi Canllaw Dylunio Newydd ar gyfer y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd

²Ñ²¹±ð’r gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (GLlTEM), yn rhoi manylion ar sut y dylid gwneud penderfyniadau ynghylch dyfodol yr ystad. Mae’n nodi’n glir y bydd pobl yn dal i allu mynd i lysoedd a thribiwnlysoedd yn ogystal â darparu gwerth am arian i’r trethdalwr a sicrhau effeithlonrwydd yn yr hirdymor.

Datblygwyd hwn i gyd-fynd â rhaglen ddiwygio £1 biliwn GLlTEM, sy’n cyflwyno technoleg newydd a ffyrdd modern o weithio yn y system gyfiawnder, gan ei gwneud yn fwy hygyrch i bawb.

Bydd yr ymateb heddiw yn sicrhau bod ystad y llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn addas ar gyfer y 21ain ganrif. Mae’n datgan:

  • Pan fydd angen ymweld a’r llysoedd, bydd amseroedd teithio a hwylustod o ran defnyddio gwahanol ddulliau trafnidiaeth yn parhau i gael eu blaenoriaethu – gyda chymorth ychwanegol i ddefnyddwyr sy’n agored i niwed
  • Bydd adeiladau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn addas i’r diben a gellir eu cynnal ar gost resymol i’r trethdalwr
  • Bydd staff arbenigol yn gweithio yn nerbynfeydd y llysoedd i gynorthwyo’r cyhoedd a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, a byddant yn cael hyfforddiant ar sut i ddefnyddio technoleg newydd
  • ²Ñ²¹±ð’r ystad yn cyd-fynd â’r Rhaglen Ddiwygio

Meddai’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, David Gauke:

Mae ein rhaglen ddiwygio yn galluogi pobl i ddechrau datrys anghydfod heb orfod mynd i lys barn, gan gynnig cyfleoedd i wella ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd.

Gyda’r holl dechnoleg newydd sydd ar gael a’r ffyrdd modern o weithio, disgwyliwn y bydd nifer y bobl sy’n defnyddio ein llysoedd o bell yn cynyddu. Rydym yn adolygu’r ystad bresennol er mwyn sicrhau ei bod yn addas i’r diben.

²Ñ²¹±ð’r adroddiad hwn yn sicrhau bod mynediad at gyfiawnder, gwerth am arian ac effeithlonrwydd y llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn cael eu cynnal yn y tymor hir a bydd yr egwyddorion hyn yn golygu bod ein system gyfiawnder yn parhau’n addas ar gyfer y 21ain ganrif.

Mae GLlTEM wedi ymrwymo i geisio barn y cyhoedd, barn y gweithwyr cyfreithiol proffesiynol a barn rhanddeiliaid cyn symud unrhyw wasanaethau i adeiladau eraill, gan ddefnyddio’r meini prawf a nodir yn egwyddorion Parod at y dyfodol.

Gall y rhaglen ddiwygio gynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r llysoedd o bell drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, gan leihau’r angen am adeiladau llysoedd a thribiwnlysoedd. Mae Parod at y dyfodol yn ymrwymo i beidio â gweithredu ar y dybiaeth honno drwy gynnig cau llysoedd heb dystiolaeth gadarn bod y diwygiadau’n lleihau’r defnydd o’r adeiladau hynny.

²Ñ²¹±ð’r adroddiad heddiw yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a lansiwyd ym mis Ionawr 2018. Ystyriwyd a defnyddiwyd pob un o’r 249 ymateb yn ofalus i gryfhau’r egwyddorion.

Ynghyd â Pharod at y dyfodol, mae GLlTEM hefyd wedi cyhoeddi Canllaw Dylunio Newydd ar gyfer y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd. Datblygwyd hwn ar ôl ymgysylltu â grwpiau defnyddwyr, er mwyn sicrhau bod y canllaw yn gwella’r profiad i ddefnyddwyr llysoedd a thribiwnlysoedd, gan roi gwerth am arian i’r trethdalwr ar yr un pryd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Mai 2019