Cyfarwyddyd ymarfer 54: caffael tir trwy ddatganiad breinio cyffredinol o dan Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981
Diweddarwyd 31 Ionawr 2022
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
O dan adran 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 gall awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus arall (鈥yr awdurdod鈥) gaffael tir trwy gyfrwng datganiad breinio cyffredinol. Mae鈥檙 darpariaethau manwl sy鈥檔 rheoli鈥檙 drefn hon i鈥檞 gweld yn rhannau II a IV ac Atodlen 1 i Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981, ac yn ddarostyngedig i鈥檙 darpariaethau trosiannol lle gallai rheoliadau blaenorol fod yn berthnasol, Rheoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiad Breinio) (Lloegr) 2017 a Rheoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017. Mae鈥檙 darpariaethau hyn yr un mor berthnasol i dir cofrestredig a digofrestredig.
Gwnaed newidiadau i鈥檙 drefn prynu gorfodol ac iawndal gan Ran 7 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a Deddf Cynllunio Cymdogaeth 2017. Nod hysbys y Ddeddf honno yw gwneud y system yn 鈥榞liriach, yn decach ac yn gynt鈥 wrth gadw amddiffyniadau ar gyfer perchnogion tir.
Diwygiodd Deddf Tai a Chynllunio 2016 Ddeddf Caffael Tir 1981 fel ei bod nawr yn darparu bod cadarnhad a gwneud rhybuddion i gael eu hanfon gan yr awdurdod caffael neu鈥檙 Gweinidog i鈥檙 Prif Gofrestrydd Tir ac y byddant yn bridiannau tir lleol. Pan fo鈥檙 tir yn y gorchymyn wedi鈥檌 leoli mewn ardal y mae鈥檙 awdurdod lleol yn parhau i fod yn awdurdod cofrestru ar gyfer pridiannau tir lleol (lle nad yw鈥檙 newidiadau a wnaed gan Rannau 1 a 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015 wedi dod i rym yn yr awdurdod lleol hwnnw eto), bydd angen i鈥檙 awdurdod ac ati gydymffurfio 芒鈥檙 camau sy鈥檔 ofynnol gan adran 5 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (cyn iddo gael ei ddiwygio gan Ddeddf Seilwaith 2015) i sicrhau bod yr arwystl yn cael ei gofrestru fel pridiant tir lleol gan yr awdurdod lleol fel yr awdurdod cofrestru. Awgrymwn eich bod yn siarad 芒 chynghorwr cyfreithiol annibynnol os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch gofynion cofrestru fel pridiant tir lleol.
Lle y mae鈥檙 awdurdod yn gwneud gorchymyn breinio gorfodol, ond yn caffael y tir trwy hysbysiad i drafod telerau wedi ei ddilyn gan drawsgludiad neu drosglwyddiad, dylid cofrestru鈥檙 gwarediad i鈥檙 awdurdod yn yr un ffordd 芒 throsglwyddiad ar werthiant.
Bydd pwerau caffael yr awdurdod yn cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth alluogi berthnasol, a fydd, efallai, wedi cael ei phasio鈥檔 benodol ar gyfer y datblygiad neu brosiect o dan sylw. Bydd yn bwysig ystyried darpariaethau penodol y ddeddfwriaeth, yn enwedig mewn perthynas 芒 diddymu a hawddfreintiau gor-redol a chyfamodau sy鈥檔 effeithio ar y tir a gaffaelwyd.
2. Ymchwiliadau rhagarweiniol
2.1 Darganfod a yw tir yn gofrestredig
Ceir 2 ffordd ar hyn o bryd i ddarganfod a yw tir rhydd-ddaliol neu brydlesol neu rent-d芒l yn gofrestredig ac a oes unrhyw rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf wedi eu cofnodi.
2.1.1 MapSearch
Gwasanaeth digidol di-d芒l i gwsmeriaid sy鈥檔 defnyddio鈥檔 e-wasanaethau busnes yw MapSearch. Gyda MapSearch gallwch:
- weld yn gyflym yw tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr yn gofrestredig
- edrych ar leoliad tir ac eiddo cofrestredig
- cael gafael ar rifau teitl, manylion daliadaeth rhydd-ddaliol neu brydlesol a buddion cofrestredig eraill
- arbed canlyniad MapSearch fel PDF gyda鈥檔 nodwedd Snapshot (mae hyn at ddibenion cyfeirio yn unig ac mae鈥檔 ddarostyngedig i hawlfraint).
Gweler MapSearch am ragor o wybodaeth.
2.1.2 Chwiliad o鈥檙 map mynegai
Nid yw MapSearch yn cynnig darpariaethau indemniad ar gyfer y wybodaeth a ddarperir. Os oes angen mantais darpariaethau indemniad arnoch, bydd yn rhaid ichi gynnal chwiliad gan ddefnyddio ein chwiliad o鈥檙 map mynegai. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 10: chwiliadau swyddogol am ragor o wybodaeth.
2.2 Archwilio鈥檙 gofrestr
Gallwch wneud cais am gopi swyddogol o鈥檙 gofrestr naill ai ar-lein trwy e-wasanaethau busnes neu ar ffurflen OC1 bapur. Mae鈥檙 ffi sy鈥檔 daladwy wedi ei phennu yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff茂oedd Gwasanaethau Cofrestru). Os ydych yn defnyddio ffurflen bapur OC1, edrychwch ar gyfeiriad Cofrestrfa Tir EF i weld i ble y dylid anfon eich cais wedi ei gwblhau.
Os ydych am gael gwybod a wnaed cofnodion pellach ar y gofrestr ers dyddiad arbennig fel, er enghraifft, dyddiad cyhoeddi copi swyddogol diweddar o鈥檙 gofrestr, gallwch wneud cais am chwiliad swyddogol heb flaenoriaeth gan ddefnyddio ffurflen OS3. Caiff yr hyn sydd i鈥檞 dalu am chwiliad o鈥檙 gofrestr ei bennu yn y Gorchymyn Ffi.
3. Cais i gofrestru awdurdod fel perchennog tir cofrestredig
3.1 Sut i wneud y cais
Dylai awdurdod sydd wedi caffael tir cofrestredig trwy gyfrwng datganiad breinio cyffredinol wneud cais i鈥檞 gofrestru fel perchennog ar ffurflen AP1 ynghyd 芒鈥檙 canlynol:
-
copi ardystiedig o鈥檙 datganiad breinio cyffredinol gwreiddiol. Yn achos tir yn Lloegr, dylai hyn fod ar y ffurf a bennir gan Reoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau Breinio) (Lloegr) 2017. Yn achos tir yng Nghymru, dylai hyn fod ar y ffurf a bennir gan Reoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau breinio) (Cymru) 2017. Cyn 3 Chwefror 2017 (yn achos tir wedi ei leoli yn Lloegr) a 6 Ebrill 2017 (yn achos tir wedi ei leoli yng Nghymru) nodwyd ffurf y datganiad breinio cyffredinol yn Atodlen 1 i Reoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1990 (efallai y bydd y ffurf yn berthnasol o hyd lle鈥檙 鈥渁wdurdodwyd鈥 gorchymyn prynu gorfodol 鈥 term sy鈥檔 cael ei ddefnyddio yn y rheoliadau a grybwyllir uchod 鈥 cyn y dyddiadau hynny.
-
tystysgrif gadarnhau gan Brif Swyddog Gweithredol yr awdurdod neu ei drawsgludwr bod y rhybuddion angenrheidiol o dan adran 6 o Ran II o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 wedi eu hanfon ar ddyddiad penodol (dylid nodi鈥檙 dyddiad)
-
rhaid i鈥檙 ceisydd gadarnhau hefyd:
- nad yw鈥檙 awdurdod caffael wedi anfon unrhyw rybudd mewn perthynas ag unrhyw eiddo a gynhwysir yn y datganiad breinio cyffredinol na chafodd ei dynnu鈥檔 么l cyn cyflawni鈥檙 datganiad breinio cyffredinol; ac
- nad yw鈥檙 awdurdod caffael wedi cael
-
(1) rhybudd o wrthwynebiad i wahanu (gweler Atodlen 1 i Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981), neu
-
(2) 鈥済wrth-rybudd鈥 yn ei gwneud yn ofynnol i鈥檙 awdurdod sy鈥檔 caffael brynu budd perchennog yn yr holl dir (gweler Atodlen A1 i Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981)
-
mewn perthynas ag unrhyw dir a gynhwysir yn y datganiad breinio cyffredinol.
-
ffi ar Raddfa 2 y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol ar sail gwerth y tir ymhob teitl cofrestredig (gweler hefyd Ffi Cofrestrfa Tir EF).
Os yw鈥檙 holl dir, neu ran o鈥檙 tir, y gwneir cais amdano, yn ddigofrestredig, gall yr awdurdod priodol wneud cais am gofrestriad cyntaf teitl fel y disgrifir yn Cais am gofrestriad cyntaf teitl awdurdod.
Oni bai ei bod yn amlwg o鈥檙 dogfennau a gyflwynir, dylech gadarnhau yn y cais neu ohebiaeth gysylltiedig pa ddarpariaethau statudol y dibynnir arnynt i gaffael y tir. Os nad yw hyn yn glir, mae鈥檔 bosibl y byddwn yn anfon ymholiad.
3.2 Tystiolaeth o freinio
Rhaid i chi brofi, trwy gynnwys y manylion a bennir trwy statud yn y datganiad breinio cyffredinol a thystysgrif y Prif Swyddog Gweithredol, bod y datganiad wedi dod i rym a bod y tir wedi breinio yn yr awdurdod. Rhaid i鈥檙 datganiad nodi鈥檙 tir trwy gyfeirio at ei rif teitl. Os yw鈥檙 breinio o鈥檙 holl dir mewn teitl cofrestredig, cyfeirio at rif y teitl yw鈥檙 cyfan sydd ei angen.
Os yw鈥檙 datganiad yn berthnasol i ran o鈥檙 tir mewn teitl yn unig, rhaid iddo ddod gyda chynllun yn seiliedig ar fap yr Arolwg Ordnans. Dylid tynnu鈥檙 cynllun hwn ar raddfa o 1/2500 o leiaf, dangos ei ogwydd (er enghraifft pwynt y gogledd) a, lle bo angen, dangos trwy gyfrwng mesuriadau berthynas y rhan i鈥檞 throsglwyddo i鈥檙 nodweddion diriaethol presennol hynny yn y maes (fel cyffyrdd neu furiau neu ffensys) sydd hefyd yn cael eu dangos gyda llinellau duon cadarn ar y cynllun teitl.
3.3 Ffi Cofrestrfa Tir EF
Os pennwyd iawndal neu os cytunwyd ar werth y tir fel bod modd asesu ffi Cofrestrfa Tir EF, rhaid talu ffi ar Raddfa 2, yn seiliedig ar y gwerth hwnnw, wrth gyflwyno鈥檙 cais.
Os na phennwyd iawndal fel nad oes modd asesu ffi Cofrestrfa Tir EF, rhaid talu isafswm tuag at y ffi (fel y nodir yn y 鈥 拢40 ar hyn o bryd) wrth gyflwyno鈥檙 cais a dylid cyflwyno ymgymeriad ar yr un pryd i dalu鈥檙 swm sy鈥檔 ddyledus, os oes, ar gais. Os yw鈥檙 ardal o dir a gaffaelwyd o fath a fyddai gyfwerth 芒 chais ar raddfa fawr, dylech drafod y mater yn y lle cyntaf gyda chyswllt cais lluosog 鈥 gweler cyfarwyddyd ymarfer 33: ceisiadau graddfa fawr a chyfrifo ff茂oedd.
4. Cais am gofrestriad cyntaf teitl awdurdod
4.1 Ystyriaeth gyffredinol
Nid yw caffael tir trwy drefn datganiad breinio cyffredinol yn drosglwyddiad o ystad sy鈥檔 gymwys o dan adran 4(1)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Felly, nid oes dyletswydd i wneud cais am gofrestriad cyntaf o鈥檙 teitl i dir o鈥檙 fath, er y gallwch wneud cais am gofrestriad cyntaf gwirfoddol (a bydd y ffi ostyngol ar gyfer cofrestriad cyntaf gwirfoddol yn berthnasol).
Sylwer: Bydd caffael tir digofrestredig o dan hysbysiad wedi ei ddilyn gan drawsgludiad neu drosglwyddiad y tir i鈥檙 awdurdod y mynegwyd ei fod am werth neu gydnabyddiaeth arall yn gofrestradwy trwy orfodaeth yn rhinwedd adran 4(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, a bydd darpariaethau adrannau 6-8 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gymwys hefyd.
Ni ellir defnyddio rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf i warchod datganiad breinio cyffredinol.
4.2 Sut i wneud y cais
Rhaid i awdurdod sy鈥檔 caffael wneud cais am gofrestriad cyntaf teitl i dir rhydd-ddaliadol wedi ei gaffael trwy ddatganiad breinio cyffredinol i Gofrestrfa Tir EF ar ffurflen FR1 (edrychwch ar gyfeiriad Cofrestrfa Tir EF i weld i ble y dylid anfon eich cais wedi ei gwblhau) ynghyd 芒 ffurflen DL yn ddyblyg a鈥檙 canlynol:
-
copi ardystiedig o鈥檙 datganiad breinio cyffredinol ar y ffurf benodedig (gweler Sut i wneud y cais)
-
tystysgrif gadarnhau gan Brif Swyddog Gweithredol yr awdurdod neu ei drawsgludwr bod y rhybuddion angenrheidiol o dan adran 6 o Ran II o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 wedi eu hanfon ar ddyddiad penodol (dylid nodi鈥檙 dyddiad)
-
rhaid i鈥檙 ceisydd gadarnhau hefyd:
- nad yw鈥檙 awdurdod caffael wedi anfon unrhyw rybudd mewn perthynas ag unrhyw eiddo a gynhwysir yn y datganiad breinio cyffredinol na chafodd ei dynnu鈥檔 么l cyn cyflawni鈥檙 datganiad breinio cyffredinol; ac
- nad yw鈥檙 awdurdod caffael wedi cael
-
(1) rhybudd o wrthwynebiad i wahanu (gweler Atodlen 1 i Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981), neu
-
(2) 鈥済wrth-rybudd鈥 yn ei gwneud yn ofynnol i鈥檙 awdurdod sy鈥檔 caffael brynu budd perchennog yn yr holl dir (gweler Atodlen A1 i Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981)
-
mewn perthynas ag unrhyw dir a gynhwysir yn y datganiad breinio cyffredinol.
-
ffi ar Raddfa 2 y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol ar sail gwerth y tir ymhob teitl cofrestredig (gweler hefyd Ffi Cofrestrfa Tir EF).
-
yr holl weithredoedd a dogfennau鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 teitl sydd gan yr awdurdod yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth (gweler Absenoldeb gweithredoedd eiddo), a
-
manylion digonol, trwy gynllun neu fel arall, fel bod modd dynodi鈥檙 tir yn eglur ar fap yr Arolwg Ordnans
Oni bai ei bod yn amlwg o鈥檙 dogfennau a gyflwynir, dylech gadarnhau yn y cais neu ohebiaeth gysylltiedig pa ddarpariaethau statudol y dibynnir arnynt i gaffael y tir. Os nad yw hyn yn glir, mae鈥檔 bosibl y byddwn yn anfon ymholiad.
4.3 Absenoldeb gweithredoedd eiddo
Ni fydd y datganiad breinio cyffredinol fyth ohono鈥檌 hun yn diddymu hawddfreintiau neu gyfamodau cyfyngu sy鈥檔 gallu rhwymo鈥檙 tir yn nwylo pobl heblaw鈥檙 awdurdod. Felly, os na chaiff gweithredoedd yr eiddo eu cyflwyno ar adeg dyfarnu teitl llwyr, byddwn fel arfer yn gwneud cofnod ar y gofrestr y gall fod buddion fel hyn heb eu datgelu. Bydd y cofnod yn datgan bod y tir yn ddarostyngedig i鈥檙 fath hawddfreintiau a chyfamodau cyfyngu all fod wedi eu creu neu eu gosod cyn dyddiad y datganiad breinio cyffredinol ac sy鈥檔 dal i fodoli ac yn orfodadwy.
4.4 Cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau
Gyda phob cais am gofrestriad cyntaf, dylech ddarparu manylion llawn pob llyffethair sy鈥檔 effeithio ar y tir. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau sy鈥檔 bodoli ar ddyddiad y caffael, hyd yn oed lle y mae鈥檙 prynwr yn gorff a chanddo bwerau caffael gorfodol. Rhaid inni nodi bodolaeth hawliau trydydd parti o鈥檙 fath yn y gofrestr, oherwydd hyd yn oed os yw cyfraith adeiladu鈥檔 awdurdodi datblygiad a defnyddio鈥檙 tir gan dorri鈥檙 hawliau, nid ydynt yn cael eu diddymu fel rheol a gallant ddod yn orfodadwy os yw鈥檙 tir yn peidio 芒 chael ei ddefnyddio at y diben y cafodd y prynwr y p诺er i鈥檞 gaffael.
Byddwn yn hepgor cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau o鈥檙 gofrestr o dan yr amgylchiadau canlynol yn unig:
- os c芒nt eu diddymu鈥檔 barhaol trwy statud
- os ceir tystiolaeth eu bod wedi cyd-doddi ar undod seisin o ganlyniad i gaffael y tir buddiol a鈥檙 tir llwythog cyfan. Yn achos cyfamodau cyfyngu, mae hyn yn anodd i鈥檞 brofi
- os gellir profi bod y cyfamodau cyfyngu yn ddi-rym oherwydd eu cofrestru fel pridiant tir.
4.4.1 Dileu cofnod cyfamod cyfyngu a hawddfraint
Pan fo cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau鈥檔 destun cofnod rhybudd yn y gofrestr, dylech gadw mewn cof nad yw鈥檙 rhybudd yn gweithredu er mwyn rhoi dilysrwydd i鈥檙 budd a nodwyd (adran 32(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Os nad yw鈥檙 budd yn ddilys, nid oes gan fodolaeth y rhybudd unrhyw arwyddoc芒d cyfreithiol. Fodd bynnag, os yw鈥檙 budd yn ddilys, bydd y rhybudd yn gwarchod unrhyw flaenoriaeth (os o gwbl) a oedd gan y budd mewn ecwiti cyn iddo gael ei nodi yn y gofrestr.
Mae rhai statudau鈥檔 rhagamodi鈥檔 benodol y bydd yr arfer o brynu gorfodol gan awdurdod yn gweithredu er mwyn diddymu cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau. Bu hyn yn nodwedd o ddeddfwriaeth a basiwyd ar gyfer rhai prosiectau isadeiledd cyhoeddus mawr (er enghraifft safle Gemau Olympaidd Llundain 2012 a Crossrail). Fodd bynnag, yn dibynnu ar yr union ddarpariaethau statudol, efallai na fydd yn bosibl tynnu鈥檙 cofnodion yn ymwneud 芒 buddion trydydd parti, cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau ymaith. Efallai y gwneir cofnod yn y gofrestr yn lle hynny i gyfeirio at y ffaith y caffaelwyd y tir o dan y ddeddfwriaeth berthnasol ac unrhyw orchymyn a wnaed yn unol 芒鈥檙 ddeddfwriaeth a bod unrhyw hawddfreintiau neu gyfamodau cyfyngu nad ydynt fel arall wedi eu nodi ar y teitl sy鈥檔 effeithio ar y tir ar ddyddiad cychwyn y ddeddfwriaeth neu orchymyn perthnasol wedi cael eu diddymu i鈥檙 graddau y darperir ar gyfer hynny yn y ddeddfwriaeth honno. Lle y mae buddion penodol wedi eu heithrio o freinio, efallai y gwneir cofnod pellach i nodi bod y tir yn ddarostyngedig i unrhyw fuddion yr unigolion a nodwyd yn y datganiad breinio cyffredinol fel yr eithriwyd gan y datganiad breinio cyffredinol.
4.5 Tystysgrifau teitl
Mae Cofrestrfa Tir EF wedi cytuno gyda llawer o鈥檙 awdurdodau lleol mwyaf y byddwn, o dan amgylchiadau a bennir, yn derbyn tystysgrif eu Prif Swyddog Gweithredol yn lle diddwytho teitl lle caiff tir ei gofrestru am y tro cyntaf. Yn achos caffaeliad o dan Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981, ni all awdurdod roi tystysgrif o鈥檙 fath fel arfer oni bai iddo allu cael gweithredoedd yr eiddo a chynnal archwiliad teitl arferol, y mae wedi ei gymeradwyo ar 么l ymchwiliad digonol.
5. Tir priffyrdd a gorchmynion cau
Fel rheol, nid yw鈥檙 amlinelliad coch ar gynllun teitl cofrestredig yn cynnwys stent unrhyw briffordd a all fod wedi ei chynnwys yn y teitl cyfreithiol i dir cyffiniol. Caiff tir ei gofrestru 芒 therfynau cyffredinol yn unig (adran 60 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac mae鈥檙 stent cofrestredig yn dawel o ran union linell y terfyn cyffredinol. Gall perchennog tir sy鈥檔 cyffinio 芒 phriffordd berchen, neu beidio 芒 pherchen, ar isbridd y briffordd, yn dibynnu a yw鈥檙 rhagdybiaeth ad medium filum yn gymwys neu a yw wedi ei gwrthbrofi trwy dystiolaeth i鈥檙 gwrthwyneb (er enghraifft, datganiad mewn trawsgludiad cynharach nad yw鈥檙 trawsgludiad yn cynnwys y briffordd).
Lle y mae awdurdod wedi caffael tir ar un neu 2 ochr o heol neu ffordd a鈥檌 fod yn dymuno cael y rhan o鈥檙 briffordd wedi ei chynnwys yn y teitl, dylai wneud cais ar ffurflen AP1 i newid y teitl cofrestredig i gynnwys rhan gyffiniol y briffordd yn y stent cofrestredig 鈥 i bob diben i ddangos terfyn cyffredinol y teitl cofrestredig mewn safle cywirach. Bydd angen tystiolaeth o deitl dogfennol i isbridd y briffordd, ynghyd 芒 thystysgrif nad yw鈥檙 rhagdybiaeth ad medium filum wedi ei gwrthbrofi. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, mae鈥檔 bosibl y gwneir cofnod bod y tir o dan sylw鈥檔 ddarostyngedig, neu鈥檔 ddarostyngedig o bosibl, i hawliau priffordd.
Lle y mae鈥檙 tir a gaffaelwyd ar 2 ochr heol neu ffordd sy鈥檔 ddarostyngedig i orchymyn cau ac mae鈥檙 tir a safle鈥檙 heol neu ffordd wedi eu cynnwys yn yr un datganiad breinio cyffredinol, dylech gynnwys yr heol neu ffordd yn y cais am gofrestriad, ynghyd 芒 chopi ardystiedig o鈥檙 gorchymyn cau (yn cynnwys unrhyw gynllun a atodwyd iddo). Byddwn yn cadw鈥檙 copi o鈥檙 gorchymyn. Lle mai dim ond safle鈥檙 heol neu ffordd sydd wedi ei gynnwys mewn datganiad breinio cyffredinol ac mae鈥檙 awdurdod sy鈥檔 caffael am gynnwys yr heol neu ffordd mewn un neu ragor o deitlau cofrestredig, rhaid gwneud cais ar ffurflen AP1 i newid y teitl(au) perthnasol i ddangos terfyn y teitl cofrestredig mewn safle cywirach, ynghyd 芒鈥檙 ffi benodedig ar gyfer newid a chopi ardystiedig o鈥檙 gorchymyn cau (yn cynnwys unrhyw gynllun a atodwyd). Unwaith eto, byddwn yn cadw鈥檙 copi o鈥檙 gorchymyn.
6. Pethau i鈥檞 cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.