Gwyddorau bywyd: Beth sydd nesaf ar gyfer y sector hollbwysig hwn yn y DU?: Adroddiad y Bwrdd Masnach (fersiwn html)
Cyhoeddwyd 28 Tachwedd 2022
1. Rhagair
Fel Llywydd y Bwrdd Masnach, mae鈥檔 bleser mawr gennyf groesawu鈥檙 papur adfyfyriol hwn, sy鈥檔 ystyried sefyllfa masnach a buddsoddi鈥檙 sector ar hyn o bryd a sut y gellir cefnogi ei thwf yn y dyfodol.
Fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, braint i mi yw cael cwrdd 芒 chymaint o fusnesau ac unigolion ymroddedig sy鈥檔 angerddol am yr hyn y maent yn ei wneud. Angerdd o鈥檙 fath yw anadl einioes diwydiant gwyddorau bywyd y DU. Union ddiben y diwydiant hwn yw gwella sut rydyn ni鈥檔 byw a pha mor hir rydyn ni鈥檔 byw. Mae鈥檔 sector sydd 芒 phobl yn ganolog iddo: archwilio, profi a chreu dulliau i alluogi pobl i fyw bywydau hapusach, iachach a phwrpasol. Mae鈥檔 sector sydd wedi dod yn amlwg iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, trwy鈥檙 pandemig.
Yn y DU, mae gennym dreftadaeth fawreddog ym maes gwyddorau bywyd y gallwn ymfalch茂o ynddi. Mae鈥檔 dyddio鈥檔 么l i ddiwedd y ddeunawfed ganrif pan ddatblygodd y meddyg Prydeinig Edward Jenner y brechlyn cyntaf yn erbyn clefyd heintus y frech wen. Mae鈥檙 DU wedi parhau i adeiladu ar yr hanes hwn o arloesi ac entrepreneuriaeth, a heddiw, mae鈥檔 4ydd ym Mynegai Arloesedd y Byd, ac mae鈥檔 chwarae rhan allweddol mewn ymdrechion byd-eang ym maes gwyddoniaeth.[footnote 1]
Fe wnaeth y Weledigaeth Gwyddorau Bywyd (LSV)[footnote 2] a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth y llynedd amlinellu鈥檙 uchelgais gyffredinol ar gyfer y sector. Cyfrifoldeb fy adran yw cefnogi ymdrechion allforio鈥檙 sector gwyddorau bywyd a denu mewnfuddsoddiad iddo.
Fel Llywydd y Bwrdd Masnach, mae鈥檔 bleser mawr gennyf groesawu鈥檙 papur adfyfyriol hwn, sy鈥檔 ystyried sefyllfa masnach a buddsoddi鈥檙 sector ar hyn o bryd a sut y gellir cefnogi ei thwf yn y dyfodol. Mae鈥檔 ymwneud 芒 mwyafu鈥檙 defnydd o鈥檙 hyn sydd gennym i gynnal momentwm y r么l arweiniol y mae鈥檙 DU wedi鈥檌 hennill drwy鈥檙 pandemig.
Mae gwyddorau bywyd yn sector deinamig, cydweithredol a blaengar, sy鈥檔 cyfuno gwyddoniaeth, arloesedd a thechnoleg i helpu i ddatrys heriau gofal iechyd byd-eang ein hoes. Mae鈥檔 gwneud cyfraniad hanfodol at atgyfnerthu ein r么l yn y byd fel p诺er gwyddoniaeth a thechnoleg ac yn helpu pawb yn y DU a ledled y byd i gadw鈥檔 ddiogel ac yn iach a mwynhau ansawdd bywyd gwell.
Kemi Badenoch
2. R么l y Bwrdd
Mae鈥檙 Bwrdd Masnach yn un o gyrff y llywodraeth sydd wedi bodoli mewn sawl ffurf ers bron i 400 mlynedd 鈥 hyd yn oed cyn oes Adam Smith a David Ricardo. Ei ddiben yw codi ymwybyddiaeth o fanteision masnach ryngwladol, ymgyrchu鈥檔 fyd-eang dros fasnach rydd a theg a chydweithio 芒 chymheiriaid rhyngwladol i adeiladu consensws ar gyfer marchnadoedd agored a brwydro yn erbyn diffyndollaeth. Mae鈥檔 gweithio ochr yn ochr 芒鈥檙 Adran Masnach Ryngwladol, ond mae ar wah芒n iddi.
Llywydd y Bwrdd Masnach yw鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol. Cefnogir y Bwrdd gan gynghorwyr i鈥檙 Bwrdd Masnach, sy鈥檔 dod o鈥檙 byd academaidd, byd busnes a llywodraeth. Maent yn annibynnol ac yn cael eu penodi ar delerau di-d芒l am flwyddyn.
Bydd y Bwrdd yn cynnal cyfarfodydd chwarterol ledled rhanbarthau鈥檙 DU. Mae鈥檔 cynhyrchu adroddiadau a phapurau ar faterion pwysig yn ymwneud 芒 masnach, a chyhoeddir y rhain ar adegau sy鈥檔 cyd-fynd 芒 chyfarfodydd y Bwrdd. Dyma bumed cyhoeddiad chwarterol y Bwrdd Masnach.
3. Cwmpas y papur hwn
Bwriad cyhoeddiadau鈥檙 Bwrdd yw cynnig syniadau newydd ynghylch materion yn ymwneud 芒 pholisi masnach y DU, a llywio鈥檙 drafodaeth yn eu cylch. Bydd y llywodraeth yn ystyried argymhellion papurau鈥檙 Bwrdd Masnach ond nid oes rheidrwydd arni i fwrw ymlaen 芒 hwy ac nid yw鈥檙 papur hwn yn adlewyrchu polisi鈥檙 llywodraeth. Bydd cyhoeddiadau鈥檙 Bwrdd Masnach yn aml yn cynnwys myfyrdodau gan gynghorwyr y Bwrdd, a gallai鈥檙 rhieny fod yn wahanol i bolisi presennol y llywodraeth. Lle cynhwysir y rhain, c芒nt eu priodoli鈥檔 benodol i鈥檙 cynghorydd.
Dyma bumed cyhoeddiad chwarterol y Bwrdd Masnach.
4. Cynghorwyr y Bwrdd
Llywydd y Bwrdd Masnach yw鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Masnach Ryngwladol.
Y 15 cynghorydd yw:
- Ysgrifennydd Gwladol yr Alban
- Ysgrifennydd Gwladol Cymru
- Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon
- Y Gweinidog dros Fuddsoddiadau
- Y Gweinidog dros Fasnach Ryngwladol
- Y Gweinidog dros Bolisi Masnach
- Y Gweinidog dros Allforion
- Karen Betts OBE
- Emma Howard Boyd CBE
- Y Gwir Anrhydeddus Patricia Hewitt
- Yr Anrhydeddus Tony Abbott
- Yr Arglwydd Hannan o Kingsclere
- Michael Liebreich
- Dr Linda Yueh
- Y Gwir Anrhydeddus, Maer Dinas Llundain, Nicholas Lyons
5. Cyflwyniad
Mae gwyddorau bywyd yn ymdrech fyd-eang ac eto mae鈥檙 DU wedi chwarae rhan eithiadol o fawr o ran darparu ei fuddion i鈥檙 byd. Yn 2021, roedd sector gwyddorau bywyd y DU yn drydydd yn y byd o ran nifer y prosiectau mewnfuddsoddi[footnote 3] 芒 chynhyrchion meddyginiaethol a fferyllol ymhlith y 3 phrif nwydd sy鈥檔 cael eu hallforio o鈥檙 DU.[footnote 4]
Mae鈥檙 diwydiant gwyddorau bywyd yn ddiwydiant uwch-dechnoleg, arloesol ac amrywiol iawn, ac mae鈥檔 rhychwantu meysydd ferylliaeth, technoleg feddygol (dyfeisiau a diagnosteg) a biodechnoleg feddygol, ac mae ganddo gymwysiadau ar draws llawer o sectorau eraill.[footnote 5]
Heddiw, mae ei broffil yn uwch nag erioed. Ar ddechrau鈥檙 pandemig, roedd y byd yn rasio i ddarganfod a creu brechlynnau, 芒鈥檙 DU yn arwain. O ddilyniannu genom y firws i ddatblygu鈥檙 diagnosteg, y triniaethau a鈥檙 cyffuriau gwrthfeirysol cyntaf, i sefydlu treial clinigol mwyaf a chyflymaf y byd. Y DU hefyd oedd y cyntaf yn y byd i gymeradwyo brechlyn Covid-19 a鈥檌 rhoi i bobl. Roedd cyhoeddi Gweledigaeth Gwyddor Bywyd y Llywodraeth yn 202106 yn cydnabod pwysigrwydd y sector a鈥檙 cyfle i fanteisio ar enw da鈥檙 DU.[footnote 6] Amlinellodd sut y gallai鈥檙 sector gyfrannu at amrediad o enadaethau gofal iechyd, megis: niwroddirywiad a dementia; diagnosio a thrin canser yn gynnar; darganfod, datblygu a gweithgynhyrchu brechlynnau newydd; clefydau cardiofasgwlaidd a鈥檜 prif ffactorau risg, gan gynnwys gordewdra; clefyd anadlol; heneiddio; iechyd meddwl. Mae caethiwed wedi鈥檌 ychwanegu鈥檔 ddiweddar.[footnote 7]
Fodd bynnag, nid yw鈥檔 syndod bod cynnwrf pandemig yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi arwain at effeithiau eraill, yn enwedig ar yr amgylchedd masnach a buddsoddi. Mae cystadleuaeth ryngwladol yn parhau i fod yn anodd. Mae cyfleoedd y sector, ei broffil amlwg iawn a galw byd-eang wedi golygu bod llywodraethau ledled y byd yn tyfu eu diwydiannau gwyddorau bywyd domestig eu hunain i gynyddu eu hallforion a gosod eu hunain fel cyrchfannau buddsoddi.
Mae鈥檙 papur hwn yn archwilio鈥檙 heriau a鈥檙 cyfleoedd i鈥檙 Adran Masnach Ryngwladol (DIT) wneud y gorau o safle byd-eang y DU i gynyddu mewnfuddsoddiad ac allforion.
6. Gwyddorau bywyd y DU: Mae鈥檙 amgylchedd masnachu a buddsoddi presennol
6.1 Gwyddorau bywyd yn 么l y niferoedd
Trosiant Blynyddol 拢89 biliwn 2020
Yn cyflogi 268,000 pobl yn uniongyrchol ledled y wlad, mewn 6330 o fusnesau (2020)
85% o鈥檙 busnesau hyn yn BBaChau10 (2020)
Lleolir 50% o鈥檙 swyddi oddi allan i Lundain, Dwyrain Lloegr a鈥檙 De Ddwyrain11 (2020)
拢1.9 biliwn ar gyfer buddsoddiadau uniongyrchol tramor (FDI) o鈥檙 tu allan (FDI)
拢24.2 biliwn nwyddau a allforiwyd yn 2021
5 prif farchnad allforion gwyddorau bywyd (2021): Yr Unol Daleithiau, Gwlad Belg, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Tsiena
Cynnydd mewn cyllid ar gyfer gwyddorau bywyd sydd ddeuddeg gwaith yn fwy na lefel 2012, a鈥檙 mwyaf yn Ewrop
3ydd yn fyd-eang ar gyfer cyfanswm gwerth y prosiectau FDI a enillwyd
Mae 2 o blith y 3 brifysgol orau yn Rhestr Safleoedd 2022 Times Higher Education ar gyfer gwyddorau bywyd yn y DU
6.2 Yr amgylchedd mewnfuddsoddi
Mae buddsoddi yn sector gwyddorau bywyd y DU yn bwysig nid yn unig i greu cyfoeth ond hefyd o ran iechyd a lles ein cenedl. Fel y gwelwyd yn ystod y pandemig, mae buddsoddiad o ansawdd uchel wedi helpu i ysgogi arloesedd, sydd yn ei dro yn cwtogi costau triniaethau a meddyginiaethau, yn gwella canlyniadau gofal iechyd, ac yn sicrhau mwy o wydnwch. Ac mae鈥檙 DU yn lle gwych i fuddsoddi ynddo. Mae鈥檔 ddeniadol iawn i fewnfuddsoddwyr ac mae ganddi hanes cryf o ddenu buddsoddiad a thalentau sy鈥檔 arwain y byd. Mae cyfuniad 鈥渉elics triphlyg鈥 y GIG, academia a鈥檙 sylfaen ymchwil, a diwydiant yn unigryw i鈥檙 DU. Mae鈥檙 cydweithio hwn ar draws y sector gwyddorau bywyd yn helpu i ysgogi arloesedd, gan sicrhau fod y DU yn lle deniadol i ddatblygu a lansio cynnyrch i鈥檙 GIG, a chynhyrchu sylfaen dystiolaeth, gan helpu i agor marchnadoedd byd-eang newydd.
Roedd y DU yn 3ydd yn fyd-eang (y tu 么l i UDA a鈥檙 Almaen) yn 2021 am nifer y prosiectau FDI a enillwyd, ac yn 2il am wariant cyfalaf cysylltiedig 芒 FDI.[footnote 18]
Roedd gwerth FDI gwyddorau bywyd mewnol amcangyfrifedig yn y DU yn 拢1.9bn yn 2021, y tu 么l i鈥檙 UDA yn unig o ran gwerth. 2021 oedd yr ail flwyddyn o gynnydd sylweddol mewn FDI yn y DU ers 2019 pan oedd y gwerth yn 拢574m, gan nodi y gall y ffigurau hyn fod yn anwadal iawn o flwyddyn i flwyddyn.[footnote 19]
Mae buddsoddwyr presennol gwyddorau bywyd yn y DU yn cynnwys yr Unol Daleithiau, India, Ewrop, Israel, Japan, Awstralia, a De Korea. Mae鈥檙 DU wedi arwyddo Cytundebau Masnach Rydd 芒 Japan, Awstralia, a De Corea.[footnote 20] Mae rhagor o gyfleoedd hefyd ar gyfer cydweithredu trwy drafodaethau ag India, De Corea, Israel, a thrwy barhau i gydweithio鈥檔 agos 芒鈥檙 Unol Daleithiau, gan gynnwys trwy Gyd-Ddialogau ar Ddyfodol Masnach yr Iwerydd. Wrth i鈥檙 llywodraeth geisio gwella amgylchedd buddsoddi鈥檙 DU, bydd rhwydwaith domestig a byd-eang DIT yn rhoi hyd yn oed mwy o sylw i ddenu鈥檙 prosiectau mewnfuddsoddi sy鈥檔 cael yr effaith fwyaf, o ran gwerth, ac yn gyson ag amcanion ffyniant bro, sero net ac ymchwil a datblygu鈥檙 llywodraeth.
Mae DIT yn chwarae rhan bwysig o ran troi cyfleoedd y farchnad yn fewnfuddsoddiad, ac mae鈥檔 gweithio鈥檔 weithredol i ddenu buddsoddiadau cam ymchwil a datblygu, yn ogystal 芒 buddsoddiadau mewn gweithgynhyrchu ar y tir a gweithrediadau masnachol, ac yn annog buddsoddiad i allforio. Mae DIT yn cefnogi ac yn cofnodi buddsoddiadau newydd ac ehangiadau ac mae wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar fewnfuddsoddi yn y sector gwyddorau bywyd, gan weithio ochr yn ochr 芒鈥檙 Swyddfa Buddsoddiadau (OFI).
Astudiaeth Achos: LabCorp Drug Development (o鈥檙 Unol Daleithiau)
Mae LabCorp Drug Development (o鈥檙 Unol Daleithiau) yn ehangu yn Leeds, gan ddatblygu safle ffarmacoleg glinigol newydd gan ychwanegu 30% o gapasiti at eu gweithrediadau. Bydd hyn yng nghalon y parth datblygiad economaidd cynyddol yn Temple, Leeds.
Mae鈥檔 gyfleuster addas i鈥檞 ddiben, a鈥檌 fwriad yw gwella safonau ar gyfer ymddygiad clinigol ac ymgysylltu 芒 gwirfoddolwyr. 脗鈥檙 pwyslais hefyd ar adnewyddu yn hytrach nag ailadeiladu, mae allyriadau carbon ymgorfforedig (a gynhyrchir fel arall gan waith dymchwel a chynhyrchu a chludo deunyddiau adeiladu newydd) wedi鈥檜 lleihau.
Bydd y buddsoddiad hwn yn arwain at gynnydd o dros 30% yng nghapasiti gwelyau clinig Leeds. Bydd y cyfuniad cyffrous o dalentau a dylunio arloesol yn cefnogi effeithlonrwydd ac yn gwella cydweithio, gan gynnig manteision sylweddol i gleientiaid a gwirfoddolwyr.
6.3 Rhagolygon allforio
Fel y nodir yn strategaeth Allforio 2021 y DU: Made in the UK, Sold to the World[footnote 21], mae gan y DU botensial ar gyfer twf sylweddol iawn o ran allforio nwyddau a gwasanaethau yn y sector gwyddorau bywyd; allforion sy鈥檔 helpu i ddarparu atebion i leddfu baich byd-eang clefydau a chyflyrau cronig.
Mae gan y GIG yn unig gyllideb flynyddol sy鈥檔 fwy na 拢100 biliwn.[footnote 22] Mae鈥檔 gwario tua 拢16 biliwn y flwyddyn ar gyffuriau ac mae鈥檔 dibynnu ar gynnyrch domestig a chynnyrch a fewnforir.
Mae cynhyrchion meddyginiaethol a fferyllol ymhlith y 3 phrif nwydd sy鈥檔 cael eu hallforio o鈥檙 DU, ac mae鈥檙 DU yn allforiwr net o ran cynhyrchion meddyginiaethol a fferyllol (gwerth 拢20.3 biliwn yn 2021).
Roedd y DU yn 3ydd yn fyd-eang (y tu 么l i UDA a鈥檙 Almaen) am y prosiectau FDI a enillwyd, ac yn 2il am wariant cyfalaf cysylltiedig 芒 FDI yn 2021.
I gwmn茂au byd-eang sy鈥檔 ceisio dod i鈥檙 DU a buddsoddi ynddi, mae cyfle ar gael i ystyried allforio o鈥檙 DU. Fodd bynnag, mae gostyngiad cyffredinol wedi digwydd o ran gweithgynhyrchu cynhyrchion gwyddor bywyd yn y DU. Rhwng 2011 a 2020, bu gostyngiad o 拢7.7 biliwn mewn trosiant mewn termau real (er ei fod wedi鈥檌 wrthbwyso鈥檔 rhannol gan gynnydd mewn trosiant ar gyfer y gadwyn gyflenwi a gwasanaethau). Mae twf allforion wedi鈥檌 effeithio鈥檔 gyfatebol hefyd.
Rhwng 2014 a 2019, 2% oedd y Gyfradd Twf Blynyddol Cyfansawdd ar gyfer allforion gwyddorau bywyd y DU. Rhwng 2016 a 2021, gostyngodd hyn i -3% (gweler Ffigur 1 a鈥檙 atodiad dadansoddol ar gyfer nodiadau esboniadol).
Gall yr ail o鈥檙 rhain fod o ganlyniad i ddigwyddiadau a newidiadau macro-economaidd byd-eang ehangach, megis COVID-19 yn 2020 a 2021, a gwledydd cystadleuwyr yn rhoi sylw i weithgynhyrchu domestig cynyddol, a gallai hyn fod wedi cael effaith. Felly, gallai ffigurau 2021 fod yn rhai dros dro ac nid yn yn wirioneddol gynrychioliadol o berthnasoedd masnach sylfaenol.
Ffigur 1. Allforion gwyddorau bywyd y DU - Tueddiadau 5 mlynedd Cyfradd Twf
Blynyddol Cyfansawdd[footnote 23]
Blwyddyn | Allforion blwyddyn sylfaen (mewn biliynau) | Allforion blwyddyn derfynol (mewn biliynau | CAGR pum mlynedd |
---|---|---|---|
2014-2019 | 拢23.7 | 拢26.0 | 2% |
2016-2021 | 拢27.6 | 拢24.0 | -3% |
Ledled y byd, mae systemau iechyd hefyd yn adfer wedi鈥檙 pandemig ac yn symud tuag at norm newydd, lle mae anghenion marchnadoedd a鈥檜 patrymau prynu yn newid.
Felly, er bod yr Unol Daleithiau wedi bod yn brif farchnad allforio unigol y DU yn gyson dros y 10 mlynedd diwethaf, mae allforion i鈥檙 UE, ac i鈥檙 Unol Daleithiau. wedi gostwng dros y pum mlynedd diwethaf (Ffigur 2 isod).
Ffigur 2. 20 prif farchnad allforion gwyddorau bywyd y DU 2011 i 2021[footnote 24]
Gwlad | Safle 2011 | Safle 2021 | Cyfanswm allforion y DU (miliynau o bunnoedd) dros 2011-2021 | Tuedd ddiweddar: CAGR 5 Mlynedd (2016-21) |
---|---|---|---|---|
Yr Unol Daleithiau | 1 | 1 | 65,295 | -6% |
Gwlad Belg | 10 | 2 | 11,640 | 26% |
Yr Almaen | 2 | 3 | 36,262 | -11% |
Yr Iseldiroedd | 4 | 4 | 22,026 | -4% |
Tsieina | 9 | 5 | 12,995 | 11% |
Iwerddon | 7 | 6 | 11,546 | 11% |
Ffrainc | 3 | 7 | 15,137 | -2% |
Y Swistir | 12 | 8 | 5,130 | 4% |
Awstralia | 11 | 9 | 5,871 | 8% |
Japan | 8 | 10 | 7,812 | -4% |
Yr Eidal | 6 | 11 | 9,538 | -14% |
Sbaen | 5 | 12 | 10,793 | -17% |
Canada | 15 | 13 | 5,247 | -3% |
Rwsia | 16 | 14 | 3,238 | 2% |
Sawdi Arabia | 19 | 15 | 3,097 | 2% |
Twrci | 13 | 16 | 2,668 | -2% |
Yr Emiradau Arabaidd Unedig | 20 | 17 | 2,400 | -4% |
Brasil | 18 | 18 | 3,008 | -9% |
Sweden | 17 | 19 | 2,972 | -9% |
Gwlad Pwyl | 14 | 20 | 2,971 | -13% |
Serch hynny, fel y dengys Ffigur 2, mae鈥檙 DU wedi gwella sefyllfa ei hallforion mewn marchnadoedd megis Tsieina, y Swistir ac Awstralia. Hefyd, fel yr amlinellwyd yn Strategaeth Allforio鈥檙 DU, mae twf economaidd cyflym yn rhanbarth Cefnfor yr India a鈥檙 M么r Tawel yn symud craidd disgyrchiant economaidd y byd tua鈥檙 dwyrain.[footnote 25] Yn ymwybodol o hyn, mae rhaglen FTA y DU yn parhau i ddatblygu perthnasoedd masnachu agosach fyth 芒 gwledydd ledled y byd, sy鈥檔 cynnig cyfle sylweddol ar gyfer twf y sector gwyddorau bywyd yn y dyfodol.
Mae DIT yn croesawu鈥檙 cyfle i gyd-drafod Cytundebau Masnach Rydd a all agor llwybrau masnach a buddsoddi ac anrhydeddu ei hymrwymiadau amlochrog i wella鈥檙 sianelau a鈥檙 amodau ar gyfer masnach. Mae鈥檔 cymryd ymagwedd ragweithiol ac wedi鈥檌 thargedu i leihau rhwystrau heblaw am dariffau costus, gan wella cydymffurfiaeth 芒 safonau rhyngwladol, a thrwy hynny, yn braenaru鈥檙 tir ar gyfer allforion a buddsoddiad cynyddol.
7. Gwyddorau bywyd y DU: Amgylchedd busnes adfywiedig yfory
Yn sgil ymateb DU i bandemig COVID-19, a wnaeth ennyn canmoliaeth ryngwladol, mae diddordeb mewn gwyddorau bywyd i helpu i ddatrys llawer o鈥檔 heriau gofal iechyd presennol 鈥 a rhai鈥檙 dyfodol 鈥 yn cynyddu.
Mae gan y DU gyfle unigryw i:
- fanteisio ar ei safle fel archb诺er gwyddoniaeth a thechnoleg a chyfrannwr hanfodol at ddatrys heriau gofal iechyd yn y dyfodol
- amlygu a chefnogi ei ddiwydiant ffyniannus
- manteisio ar berthnasoedd rhyngwladol cryf a鈥檙 cyfle unwaith mewn oes i lunio ei pholisi a鈥檌 dulliau rheoleiddio masnach annibynnol ei hun i greu amodau a sianeli masnach gwell.
7.1 Dwys谩u ymdrechion i annog ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu
Mae gan y DU sylfaen heb ei hail o wyddoniaeth, ymchwil a thalent ar draws prifysgolion y DU 芒 seilwaith arloesi cenedlaethol, ac adnoddau genomeg a data, i gyflymu ymchwil a datblygu a denu ymchwilwyr o bedwar ban byd. O ddarganfod i ddatblygiad, gyda mwy na 30 o rwydweithiau arbenigol yn gweithio ar draws yr holl feysydd therapiwtig i gefnogi ymchwil a noddir yn fasnachol, a rhyddhad treth ymchwil a datblygu ar gael, mae gan y DU lawer i鈥檞 gynnig. Mae gan sector gweithgynhyrchu gwyddorau bywyd y DU enw da am ei ansawdd uchel a鈥檌 safonau o ran cydymffurfiaeth, amddiffyniadau Eiddo Deallusol cadarn, rheoleiddio cryf, argaeledd mannau ymchwil, talentau a chyllid, a chymuned fuddsoddi ymgysylltiedig. Mae arbenigedd dwfn mewn meysydd arbenigol megis therap茂au celloedd a genynnau a genomeg hefyd yn creu鈥檙 amodau priodol i annog gweithgynhyrchu a buddsoddiad i allforio.
Dylai DIT barhau i hyrwyddo鈥檙 cryfderau hyn a chynyddu cyrhaeddiad trwy gryfhau partneriaethau ffrwythlon, megis y dull cydweithredol a sefydlwyd gyda鈥檙 Swyddfa Gwyddorau Bywyd (OLS).
Hefyd, mae gan y llywodraeth gronfeydd amrywiol sy鈥檔 cefnogi buddsoddiadau gwyddorau bywyd, gan gynnwys y Gronfa Gweithgynhyrchu Arloesol Gwyddorau Bywyd (LSIMF) sy鈥檔 werth 拢60 miliwn. Mae鈥檔 hanfodol bod DIT yn sicrhau鈥檙 canlyniadau buddsoddi gorau posibl i鈥檙 sector drwy fentrau a ysgogwyr presennol, gan sicrhau hyblygrwydd ac eglurder i fuddsoddwyr, er mwyn gwneud y DU mor ddeniadol 芒 phosibl.
Gwyddom fod yr amgylchedd trethu yn ystyriaeth hollbwysig newn unrhyw benderfyniad buddsoddi. Yn y Weledigaeth Gwyddorau Bywyd, ceir ymrwymiad i sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn lleoliad deniadol o safbwynt ariannol ar gyfer ymchwil a datblygu trwy amgylchedd treth cystadleuol y DU a system hael o ryddhad treth sy鈥檔 fuddiol i鈥檙 diwydiant gwyddorau bywyd. Yn 2022, ymgynghorodd y llywodraeth ar drefn lwfans cyfalaf y DU, gan wahodd safbwyntiau gan y diwydiant ynghylch y ffordd orau o gefnogi buddsoddiad mewn busnesau. Dylai gwrando ar farn buddsoddwyr a deall sut i wneud y defnydd gorau o werth y cyllid sydd ar gael fod yn ystyriaethau i DIT a鈥檙 llywodraeth ehangach.
Bydd y model porthladdoedd rhydd hefyd yn caniat谩u i fuddsoddwyr newydd ac allforwyr y dyfodol elwa ar amrediad o fesurau tollau, gan ganiat谩u i fewnforion fynd i mewn i safleoedd tollau porthladdoedd rhydd 芒 dogfennaeth tollau symlach ac oedi cyn talu tariffau. Mae hyn yn golygu y gall busnesau sy鈥檔 gweithredu mewn mannau dynodedig yn y porthladd ac o鈥檌 amgylch weithgynhyrchu nwyddau gan ddefnyddio鈥檙 mewnforion hyn, cyn eu hallforio eto heb dalu鈥檙 tariffau ac elwa ar weithdrefnau tollau symlach.
Mae鈥檙 rhain a mentrau eraill y llywodraeth yn cynnig fframwaith cymorth cydlynol a deinamig y dylai DIT barhau i鈥檞 ddefnyddio i gynyddu allforion a denu mewnfuddsoddiadau, gan gynnwys y rhai sy鈥檔 ymwneud ag allforio.
Dylai DIT hefyd alw ar y gymuned fusnes fyd-eang i weithredu i fesur awydd i gyd-ariannu blaenoriaethau ymchwil a datblygu鈥檙 DU, cefnogi鈥檙 GIG, gwella arloesedd yn ystod camau ymchwil a datblygu a chefnogi buddsoddiad mewn gweithgynhyrchu ar y tir. Gall rhagor o weithgynhyrchu arwain at ragor o nwyddau y gellir eu hallforio ac felly fanteision iechyd byd-eang ehangach ac economaidd-gymdeithasol i Brydain fyd-eang.
Mae treialon clinigol hefyd yn ffurf werthfawr o fuddsoddiad symudol mewn ymchwil a datblygu, ac yn ystod y pandemig, amlygodd y DU ei gallu fel arweinydd byd, gan darparu astudiaethau clinigol o ansawdd uchel ar gyflymder digynsail. Dylai DIT barhau i weithio ar draws yr ecosystem gwyddorau bywyd i gefnogi a hyrwyddo鈥檙 DU fel cyrchfan ymchwil glinigol ac i sicrhau buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu, a all yn ei dro gyflymu arloeseddau yn y GIG.
Mae partneriaethau 芒 sefydliadau megis y Swyddfa Strategaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg (OSTS) a鈥檙 Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) sy鈥檔 ariannu ac yn galluogi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol o鈥檙 radd flaenaf hefyd yn hanfodol. Maent yn helpu i greu鈥檙 amodau priodol i alluogi cwmn茂au i arloesi, gwerthu, buddsoddi a buddsoddi i allforio yn y DU.
Mae rheoleiddiwr y DU, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), yn fyd-enwog am ei harloesedd a鈥檌 harweinyddiaeth 鈥 amlygodd ei dull effeithlon o gymderadwyo brechlynnau COVID ystwythder amgylchedd rheoleiddio鈥檙 DU.
Mae鈥檙 system reoleiddio ystwyth a blaengar hon, ynghyd 芒 data hydredol cyfoethog gan y GIG, a mynediad at ymchwilwyr a chlinigwyr arbenigol, yn sail i arlwy鈥檙 ecosystemau ymchwil a threialon clinigol unigryw a gynigir gan y DU.
7.2 Targedu marchnadoedd yn well
脗鈥檙 marchnadoedd byd-eang yn datblygu a鈥檙 DU yn manteisio ar effaith y pandemig a gadael yr UE, mae鈥檔 adeg briodol i DIT ystyried adnewyddu ei hagwedd at farchnadoedd. Gellir categoreiddio marchnadoedd rhyngwladol yn 3 gr诺p craidd:
鈥 Cynnal - lle mae gan y DU hanes cryf eisoes ac yn sgil ymdrech gyson, byddwn yn gallu cynnal neu dyfu ein cyfran o鈥檙 farchnad, er enghraifft, yr Unol Daleithiau.
Astudiaeth Achos
Yn 2018, ymunodd Canolfan Feddygol Tecsas (TMC), canolfan feddygol fwyaf y byd, mewn partneriaeth 芒 DIT a Swyddfa Prif Gonswl Prydain yn Houston i greu partneriaeth UK-Texas Biobridge. Cr毛wyd y bartneriaeth strategol hon i hybu arloesedd, galluogi cydweithrediadau ymchwil, a throsglwyddo gwybodaeth.
Mae partneriaeth BioBridge yn dod 芒鈥檙 llywodraeth, sefydliadau academaidd ac ymchwil, ysbytai, a sefydliadau arloesi ynghyd i gydweithio mewn 2 faes: 1) arloesi a masnacheiddio ac 2) ymchwil ac addysg. Hyd yn hyn, mae鈥檙 bartneriaeth hon wedi hwyluso enillion allforio gwerth dros 拢100 miliwn i fusnesau o Brydain, wedi galluogi technoleg deg cwmni o鈥檙 DU i gael ei defnyddio yn yr Unol Daleithiau, ac wedi sicrhau bod gwyddoniaeth ac arloesedd y DU yn ystyriaethau pennaf yn achos systemau ysbytai blaenllaw yn yr Unol Daleithiau.
- Ailadeiladu - marchnadoedd yr effeithiwyd arnynt yn ddiweddar ond lle, trwy ymdrech gydunol, gall y DU adennill tir, er enghraifft, Japan.
Astudiaeth Achos
Llofnodwyd Cytundeb Partneriaeth Economaidd Gynhwysfawr (CEPA) y DU a Japan yn Tokyo ym mis Hydref 2020. Y cytundeb hwn yw鈥檙 cytundeb cyntaf y mae鈥檙 DU wedi鈥檌 sicrhau sy鈥檔 mynd y tu hwnt i gytundeb presennol yr UE, 芒 gwelliannau mewn meysydd megis digidol a data. Mae dadansoddiad DIT hefyd yn dangos, yn y tymor hir, y gallai CEPA y DU a Japan arwain at gynnydd o 拢15.7 biliwn yn y fasnach rhwng y DU a Japan a chynnydd o 拢800 miliwn yng nghyflogau gweithwyr (o gymharu 芒 lefelau 2019).
- tyfu - marchnadoedd sy鈥檔 cael eu denu鈥檔 gryf at y DU, yn enwedig o ran ein henw da am arloesi, neu farchnadoedd FTA lle gallwn, trwy feithrin perthynas, fraenaru鈥檙 tir ar gyfer masnach a buddsoddiad yn y dyfodol. Er enghraifft, Cyngor Cydweithredol y Gwlff (GCC).
Astudiaeth Achos
Yn 2020, darparwyd Partneriaeth Buddsoddi Sofran (SIP) y DU a鈥檙 Emiradau Arabaidd Unedig mewn gwyddorau bywyd, gwerth 拢800m, gan DIT a鈥檙 OFI. Mae鈥檙 SIP, sy鈥檔 cyd-fynd 芒 Rhaglen Buddsoddiadau Gwyddorau Bywyd (LSIP) gwerth 拢200m Llywodraeth Ei Fawrhydi, yn sianel i ddarparu cronfa hollbwysig o gyfalaf cleifion ar gyfer y sector gwyddorau bywyd. Bydd hyn yn galluogi rhagor o fusnesau yn y DU i ehangu, tyfu a rhyngwladoli, gan roi hwb i鈥檙 cyfleoedd sydd ar gael i鈥檙 genhedlaeth nesaf o dalentau ym maes gwyddorau bywyd ym Mhrydain.
Wrth hyrwyddo allforion gwyddorau bywyd a cheisio sicrhau mewnfuddsoddiadau, dylai DIT ganolbwyntio ei negeseuon rhyngwladol ar arloesi yn y DU, enw da鈥檙 DU am ansawdd uchel, ei safonau uchel a鈥檌 diwylliant o gydymffurfio. Dylai fynd 芒 neges 鈥榶 DU yn gyntaf鈥 i鈥檙 farchnad, gan gydweithio 芒 rhanddeiliaid is-genedlaethol a sectoraidd ledled y DU i drosoli eu harbenigedd a鈥檜 rhwydweithiau i ddarparu mynediad mwy hwylus i fewnfuddsoddwyr.
Trwy ddeall ei marchnadoedd yn well, gall DIT ddatblygu ei dull datblygu a chyflawni busnes gan ddefnyddio amrywiaeth o offerynnau, cyngor ac ymyriadau i barhau i fireinio, teilwra a gwahaniaethu ei harlwy (Ffigur 3).
Ffigur 3. Ciplun o gefnogaeth ar gyfer hyrwyddo allforio a buddsoddi i allforio
Rhaglen Sioeau Masnach y DU
Maent wedi鈥檜 hanelu at fusnesau yn y DU sy鈥檔 allforio ar hyn o bryd neu鈥檔 ystyried allforio ond nid yn gwneud hynny ar hyn o bryd, fel y gallant arddangos a/neu fynychu sioeau/ cynadleddau masnach dramor.
Gall busnesau sy鈥檔 ymgeisio鈥檔 llwyddiannus, os ydynt yn arddangos, gael hyfforddiant a/neu grant.
Os byddant yn mynychu, gallant gael cyfraniadau tuag at gostau mynediad i sioeau, costau teithio, neu lety fel rhan o鈥檙 pecyn.
Academi Allforio y DU
Mae鈥檔 rhoi鈥檙 wybodaeth hanfodol i fusnesau i鈥檞 galluogi i werthu i gwsmeriaid ledled y byd trwy ddysgu gan arbenigwyr mewn masnach ryngwladol.
Mae wedi鈥檌 llunio i ddarparu ar gyfer gwahanol lefelau o brofiad ym maes allforio, boed ar gyfer y rhai sydd newydd ddechrau gwerthu鈥檔 rhyngwladol neu鈥檙 rhai sy鈥檔 dymuno ehangu gwerthiannau rhyngwladol ymhellach. Mae鈥檙 academi yn helpu i oresgyn heriau cyffredin y gall busnesau eu hwynebu.
Byrdwn gwerthu byd-eang ac arddangosfa arloesedd
Un byrdwn gwerthu byd-eang unedig a chymhellol sy鈥檔 esbonio pam y dylai cwmn茂au gwyddorau bywyd byd-eang fuddsoddi yn y DU, 芒 negeseuon cyson a chyswllt clir 芒 pholisi鈥檙 DU.
Yn ogystal, mae DIT yn cynnal peilot o Arddangosfa Arloeswyr gwyddorau bywyd y DU sy鈥檔 dewis allforwyr arloesol o鈥檙 DU i ymddangos yn ei digwyddiadau a鈥檌 gweithgareddau rhyngwladol, a鈥檌 negeseuon.
Cyfleoedd 脗 photensial Mawr
Mae鈥檙 cynllun Cyfleoedd 芒 Photensial Mawr (HPO), sy鈥檔 cael ei redeg gan DIT, wedi鈥檌 wasgaru ar draws y DU ac mae鈥檔 cydweithio 芒 phartneriaid lleol ac yn nodi cyfleoedd i ddenu buddsoddiad FDI i sectorau, rhanbarthau a chlystyrau sy鈥檔 datblygu鈥檔 gyflym.
Mae hwn yn offeryn sy鈥檔 cael ei dargedu a bydd hefyd yn cefnogi鈥檙 agenda Ffyniant Bro.
Ar hyn o bryd, ceir 12 HPO sy鈥檔 berthnasol i wyddorau bywyd, mwy nag unrhyw sector arall, sydd wedi鈥檜 lansio rhwng 2020 a 2022, ym meysydd Meddygaeth Fanwl yn Glasgow, Technoleg Feddygol yng Nghymru, Heneiddio鈥檔 Iach yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr a Therapi Celloedd a Genynnau yn Swydd Hertford.
Cyllid Allforio鈥檙 DU
UKEF yw asiantaeth credyd allforio鈥檙 DU ac mae鈥檔 un o asiantaethau鈥檙 llywodraeth, yn cefnogi allforion ar gyfer cwmn茂au o unrhyw faint ac ar draws pob sector, o nwyddau cyfalaf i wasanaethau ac asedau anghyffyrddadwy megis eiddo deallusol. Mae ganddi rwydwaith o Reolwyr Cyllid Allforio mewn lleoliadau rhanbarthol ledled y DU a chynrychiolwyr rhyngwladol mewn marchnadoedd tramor pwysig.
Ar gyfer 2022/23, mae UKEF wedi ymrwymo i gynyddu ei hymgysylltiad 芒鈥檙 sector gwyddorau bywyd.
Mae UKEF yn cydweithio 芒 dros 100 o yswirwyr credyd a benthycwyr preifat i helpu cwmn茂au yn y DU i:
- ennill contractau allforio trwy ddarparu telerau ariannu deniadol i鈥檞 prynwyr
- cyflawni contractau trwy gefnogi benthyciadau cyfalaf gweithio
- cael eu talu drwy yswirio yn erbyn diffygdalu gan brynwr
Mae DIT hefyd wedi datblygu ystod o gynigion manwl mewn meysydd megis genomeg, iechyd digidol, therap茂au celloedd a genynnau, ymchwil glinigol, a pheiriannu bioleg. Mae鈥檙 rhain yn amlygu meysydd sy鈥檔 gryfderau ac yn cynnig mantais gystadleuol yn y DU, gan amlygu ein harbenigedd, ein talentau a鈥檔 harloesedd. Mae鈥檙 cynigion hyn wedi鈥檜 cynllunio i鈥檞 defnyddio yn y DU ac yn rhyngwladol, a dylai DIT barhau i鈥檞 targedu a鈥檜 teilwra, gan nodi marchnadoedd perthnasol a blaenoriaethol.
Engreifftiau o gynigion rhyngwladol
- Genomeg a Meddygaeth wedi鈥檌 Phersonoli sy鈥檔 Arwain y Byd yn y DU
- creu dyfodol lle bydd genomeg wrth galon gofal cleifion
- Heneiddio鈥檔 Iach: Atebion ar gyfer Marchnad Fyd-eang
- mae poblogaeth sy鈥檔 heneiddio yn her enfawr, ond mae cyfleoedd enfawr hefyd
- Grym Bioleg
- mae鈥檙 DU yn peiriannu bioleg er lles byd-eang
- Llawlyfr Iechyd Digidol y DU
- yr her gofal iechyd byd-eang a sut mae iechyd digidol yn chwarae rhan hollbwysig
- Cryfhau Systemau Iechyd
- helpu i gyflawni un o鈥檙 systemau gofal iechyd byd-eang gorau un
Astudiaeth Achos: Y DU yn anfon 4 miliwn o brofion COVID-19 i Wcr谩in
Yn 2021 i 22, rhoddodd Cyllid Allforio鈥檙 DU (UKEF) fenthyciad o 拢20 miliwn i lywodraeth Wcr谩in i gefnogi cludo 4 miliwn o brofion PCR COVID-19 i Wcr谩in gan Prestige Diagnostics, cyflenwr nwyddau diagnosteg o Ogledd Iwerddon. Rhoddwyd y benthyciad o dan Gyfleuster Benthyca Uniongyrchol UKEF, sy鈥檔 helpu prynwyr tramor i ariannu pryniannau mawr o鈥檙 DU. Mae鈥檙 cytundeb wedi helpu Wcr谩in i frwydro yn erbyn cynnydd amrywiad Omicron y firws ac mae鈥檔 enghraifft o sut y gall cefnogaeth UKEF amddiffyn masnach, diogelu swyddi yn y DU, a galluogi ffyniant ar draws holl ranbarthau鈥檙 DU.
7.3 Cefnogi ehangu a ffyniant bro
Bwriad trawsnewid arlwy buddsoddi DIT yw mesur mewnfuddsoddiad sy鈥檔 cefnogi nodau ehangach y Llywodraeth a thargedu hynny鈥檔 well:
- gwasanaeth pwrpasol ar gyfer mewnfuddsoddwyr sydd am ymrwymo 拢250 miliwn a mwy i鈥檙 DU. Mae gwasanaeth concierge gwell DIT ar gyfer y mewnfuddsoddwyr mwyaf eu heffaith yn cael ei reoli ar y cyd trwy law Rhif 10, DIT ac OFI, ochr yn ochr 芒 thimau sectorau arbenigol DIT
- dull llai manwl, wedi鈥檌 arwain yn ddigidol, ynghylch prosiectau FDI mwy safonol, gan gynnwys cynnig gwell yn yr Atlas Buddsoddi ar-lein a brysbennu, trwy鈥檙 T卯m Gwasanaethau Buddsoddi, yn ogystal ag atgyfeiriadau mwy uniongyrchol at bartneriaid is-genedlaethol ar gyfer buddsoddiadau llai cymhleth
- mae rhwydwaith rheoli cyfrifon a pherthnasoedd DIT yn y DU a thramor yn ei galluogi i gydweithio 芒 chwmn茂au rhyngwladol, busnesau bach a chanolig mawr eu twf a buddsoddwyr. Mae hyn yn cynnwys y rhaglen Rheoli Cydberthnasau Strategol (SRM) draws-Whitehall ar gyfer buddsoddwyr corfforaethol byd-eang mawr, sy鈥檔 gweithredu rheolaeth cyfrifon yn y DU ac mewn marchnadoedd ar gyfer y prif fewnfuddsoddwyr presennol ac yn cynnig gwasanaeth 么l-ofal gwell i fewnfuddsoddwyr newydd.
Dylai DIT barhau i gynnig cymorth o ddechrau鈥檙 broses i鈥檞 diwedd i fewnfuddsoddwyr ar hyd eu taith, o ystyried y DU yn gyntaf i sicrhau eu prosiectau buddsoddi. Mae hyn yn ategu r么l DIT mewn perthynas 芒 denu buddsoddiad cyfalaf i鈥檙 sector, o ran buddsoddiadau ecwiti i fusnesau bach a chanolig yn y DU, yn ogystal 芒 chyfalaf byd-eang ar gyfer eiddo tiriog gwyddorau bywyd a phrosiectau seilwaith eraill. Bydd hyn hefyd yn hanfodol i sicrhau bod cwmn茂au sy鈥檔 gweithredu yn y DU yn gallu ehangu鈥檔 llwyddiannus gyda鈥檙 adnoddau sydd eu hangen i fod yn gystadleuol yn fyd-eang.
Dylai DIT ganolbwyntio ar:
1. Fynd i鈥檙 afael 芒 thagfeydd yn nhwf y diwydiant gwyddorau bywyd domestig a helpu cwmn茂au i ehangu.
Mae potensial mawr i gwmn茂au a leolir yn y DU. Yn 2021, sicrhaodd sector gwyddorau bywyd y DU gyfanswm o 拢7bn o ran cyllid ecwiti, sy鈥檔 fwy na deuddeg gwaith yn fwy na鈥檙 un swm yn 2012[footnote 26]. Fodd bynnag, yn rhy aml, bydd y cwmn茂au addawol hyn yn gadael ein gwlad i chwilio am botensial i ehangu. Mae angen i ni wneud rhagor i feithrin capasiti a gallu domestig helaethach mewn cronfeydd menter a buddsoddwyr sefydliadol i helpu i gefnogi busnesau newydd yn y DU i ehangu i faint mwy effeithiol. Dylai DIT a鈥檙 OFI mewn partneriaeth 芒鈥檙 OLS ac eraill barhau i weithio i gyflawni hyn mewn ffordd gynaliadwy sy鈥檔 cyd-fynd 芒 sut mae marchnadoedd cyfalaf y DU yn gweithredu.
Gall twf BBaCh yn y DU gael ei lesteirio gan:
- diffyg argaeledd cyfalaf yn ddomestig i helpu i sefydlu ac ehangu cwmn茂au
- diffyg talentau profiadol, yn enwedig talentau entrepreneuraidd, i ehangu cwmn茂au
- diffyg seilwaith ar gyfer llwyddiant, yn enwedig cyfleusterau ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu pwrpasol modern o safon fyd-eang
Beth mae DIT yn ei wneud i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 bylchau hyn a helpu busnesau i ehangu a thyfu eu busnes?
Bwlch: mynediad at gyllid
Blaengareddau a/neu gefnogaeth: cynyddu鈥檙 gronfa o gyfalaf sydd ar gael i fusnesau yn y DU:
- mae OFI wedi sefydlu partneriaethau pwrpasol 芒 rhai o wledydd y Gwlff 芒鈥檙 bwriad o ysgogi buddsoddiadau 芒 chydfuddiannau ar draws amrediad o sectorau sy鈥檔 hanfodol ar gyfer twf a ffyniant yn y dyfodol, gan gynnwys gwyddorau bywyd
- mae Uned Cyfalaf Menter DIT yn mynd ati鈥檔 fwriadol i geisio mynediad i鈥檙 farchnad o gronfeydd cyfalaf menter o鈥檙 radd flaenaf ym maes gwyddorau bywyd a all ddenu lefelau gwahaniaethol o gyfalaf, sgiliau a thechnoleg i鈥檙 DU
- mae t卯m sector gwyddorau bywyd DIT yn galluogi cysylltiadau busnes-i-fusnes rhwng corfforaethau rhyngwladol a busnesau bach a chanolig yn y DU
- cyllid Allforio鈥檙 DU yw asiantaeth credyd allforio鈥檙 DU ac mae鈥檔 un o asiantaethau鈥檙 llywodraeth, yn cefnogi allforion ar gyfer cwmn茂au o unrhyw faint ac ar draws pob sector, o nwyddau cyfalaf i wasanaethau ac asesdau anghyffyrddadwy megis eiddo deallusol
Bwlch: mynediad at dalentau
Blaengareddau a/neu gefnogaeth: Dod 芒 thalentau a sgiliau byd-eang i鈥檙 DU:
- mae Rhaglen Entrepreneuriaid Byd-eang DIT yn denu sylfaenwyr byd-eang medrus iawn a鈥檜 busnesau gwyddorau bywyd arloesol sy鈥檔 gyfoethog o ran eu heiddo deallusol ac yn eu helpu i ehangu a rhyngwladoli o bencadlys yn y DU
- bydd y Rhwydwaith Talentau Byd-eang yn denu鈥檙 doniau gorau ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg ledled y byd i鈥檙 DU, gan gynnwys pobl sydd 芒 phrofiad o ehangu cwmn茂au gwyddorau bywyd
- gall r么l DIT o ran cefnogi mewnfuddsoddiad hefyd ddenu talentau newydd a phrofiadol i ddod yn rhan o ecosystem y DU
Bwlch: mynediad at seilwaith
Blaengareddau a/neu gefnogaeth: Cefnogi seilwaith sy鈥檔 canolbwyntio ar wyddorau bywyd ac eiddo tiriog yn y DU lle gall cwmn茂au sefydlu, tyfu a llwyddo:
- mae timau buddsoddiadau cyfalaf a gwyddorau bywyd DIT yn cydweithio i ddenu buddsoddiad mewn eiddo tiriog arbenigol ar gyfer gwyddorau bywyd. Mae diffyg sylweddol o ran labordai sych a gwlyb, sy鈥檔 ei gwneud yn anoddach i gwmn茂au yn y DU dyfu ac i gwmn茂au rhyngwladol ehangu yma. Er mwyn adeiladu mannau labordai fforddiadwy ar raddfa helaeth, yn y triongl aur, ac oddi allan iddo, mae angen rhagor o fuddsoddwyr a datblygwyr arnom i ymuno 芒 marchnad y DU
- cyfleoedd 芒 Photensial Mawr DIT - Er mwyn tyfu clystyrau gwyddorau bywyd sy鈥檔 ddigon mawr i鈥檞 cynnal eu hunain ac sydd ag atyniad bydeang, rydym yn helpu rhanbarthau鈥檙 DU i ddiffinio eu cryfderau arbenigol i鈥檙 farchnad a mynd ar drywydd cwmn茂au rhyngwladol i symud i鈥檞 hardal
- mae t卯m sector gwyddorau bywyd DIT yn hyrwyddo cyfleoedd i gydariannu ymchwil a datblygiad, arloesedd a seilwaith data鈥檙 DU sy鈥檔 gysylltiedig 芒 blaenoriaethau鈥檙 llywodraeth, ac i gryfhau ecosystem y DU
2. Creu cyflogaeth a lledaenu swyddi a thwf ledled y DU
Daw swyddi yn sgil buddsoddiadau. Rhwng 2011 a 2020, bu cynnydd o 31,500 yng ngyflogaeth net diwydiant gwyddorau bywyd a bu cynnydd o 拢1.1bn mewn trosiant[footnote 27] mewn termau real.
Lleolir mwy na 50% o gyflogaeth y sector oddi allan i Lundain, y De Ddwyrain a Dwyrain Lloegr. Yn achos Technoleg Feddygol yn benodol, mae鈥檙 darlun hyd yn oed yn fwy amrywiol yn rhanbarthol, 芒 59% o鈥檙 gweithlu y tu allan i鈥檙 De-ddwyrain, Dwyrain Lloegr a Llundain, gan gynnwys 22% yng Ngogledd Lloegr, 17% yng Nghanolbarth Lloegr, 7% yn y De-orllewin a 13% yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.[footnote 28]
Astudiaeth achos
O bob cwr, mae llwyddiannau mewnfuddsoddi yn cynnwys y canlynol:
- yn ddiweddar, ymrwymodd Fujifilm Diosynth Biotechnologies (Japan) 拢400 miliwn i greu鈥檙 safle gweithgynhyrchu biofferyllol aml-fodd mwyaf yn y DU, gan greu hyd at 350 o swyddi i weithwyr medrus iawn ar Lannau Tees
- fe wnaeth Q虏 Solutions, sefydliad gwasanaethau labordai treialon clinigol byd-eang blaenllaw ac is-gwmni sy鈥檔 eiddo鈥檔 llwyr i IQVIA, ehangu ei alluoedd labordy a weithredol ar ei Gampws Alba yn Livingston, yr Alban, 芒 chefnogaeth grant gwerth miliynau o bunnoedd a ddyfarnwyd gan Scottish Enterprise. Bydd ehangu labordai canolog, genomeg, cytometreg llif, a gwasanaethau labordy gwyddoniaeth drosiadol yn cefnogi meysydd twf newydd ar gyfer cleientiaid biofferylliaeth a fferylliaeth ledled y byd ac yn ysgogi canlyniadau gwell i gleifion
- mae PCI Pharma, cwmni sydd 芒鈥檌 bencadlys yn yr Unol Daleithiau, yn ehangu ei gyfleuster gweithgynhyrchu yn Nhredegar, Cymru. Bydd yr ehangu, a fydd yn costio miliynau o bunnoedd, yn helpu鈥檙 cwmni i barhau i ateb y galw byd-eang cynyddol am gynhyrchu therap茂au canser, a bydd yn ychwanegu tua 200 o swyddi pan fydd y cyfleuster yn gweithredu鈥檔 llawn. Mae PCI yn gweithredu yn Nhredegar ers bron i 40 mlynedd ac mae鈥檔 un o gyflogwyr mwyaf arwyddocaol yr ardal leol
Bydd sector gwyddorau bywyd llwyddiannus yn dibynnu ar arageledd gweithlu medrus iawn. Mae鈥檙 llywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth 芒 diwydiant i sicrhau bod yr offerynnau gofynnol ar gael i recriwtio, ailsgilio a datblygu gweithwyr mewn rolau arbenigol ac anarbenigol. Mae amlygu mynediad at dalentau a sgiliau yn un o gonglfeini鈥檙 cynllun HPO y mae DIT yn ei hyrwyddo, gan ddwyn sylw at gyfleoedd ledled y DU i ddenu buddsoddiad rhyngwladol.
Cyfleoedd Potensial Uchel (CPU) ledled y DU
Er mwyn annog buddsoddiad ymhellach, mae DIT yn hyrwyddo cyfres o HPOs ledled y DU i ddenu buddsoddiad rhyngwladol:
7.4 Manteisio ar rwydweithiau i hybu galw
Dylai manteisio ymhellach ar rwydwaith tramor helaeth DIT i hyrwyddo allforio a mynd i鈥檙 afael 芒 rhwystrau o ran mynediad i farchnadoedd fod yn flaenoriaeth i DIT. Argymhellir gweithio mewn partneriaeth 芒 rhwydweithiau o sefydliadau sy鈥檔 cynrychioli busnesau, megis cymdeithasau masnach a Siambrau Masnach Prydain, i ymestyn ac amlhau cyrhaeddiad. Dylai hyn gynnwys cydweithio鈥檔 rhagweithiol naill ai a fydd hynny er mwyn nodi a deall effeithiau rhwystrau mynediad o ran mynediad i farchnadoedd, neu i ganfod cyfleoedd i gryfhau systemau iechyd byd-eang eraill.
Mae rhwydwaith UKEF o weithredwyr cyllid allforio rhyngwladol byd-eang hefyd yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer part茂on i gontractau amrywiol mewn gwledydd i drafod opsiynau ariannu sydd ar gael gan UKEF i gefnogi allforio nwyddau a/neu wasanaethau鈥檙 DU.
Mae gwaith Safonau DIT yn ceisio annog gwledydd eraill i ymuno 芒 chyrff gosod safonau rhyngwladol i leihau rhwystrau rheoleiddiol i fasnach ar gyfer busnesau fferyllol a dyfeisiau meddygol yn y DU a hybu cydnerthedd cadwyni cyflenwi hanfodol. Mae potensial hefyd i fanteisio ar arweinyddiaeth y DU ym maes iechyd y cyhoedd ar y lefel ryngwladol, gan sicrhau manteision dilynol o ran masnach a buddsoddiadau. Mae gan reoleiddiwr y DU, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), enw da byd-eang am arloesi ac arweinyddiaeth ym maes rheoleiddio ac mae wedi gwneud cyfraniad allweddol at lunio rheoleiddio yn Ewrop.
Dylai DIT barhau i ddarparu gwybodaeth am farchnadoedd, cipolygon ar wledydd, rhwydweithiau a chymorth busnes i allforwyr.
Astudiaeth achos
Yn America Ladin a鈥檙 Carib卯, mae DIT wedi datblygu rhaglen i gefnogi gwelliannau ym mhrosesau Asesiadau Technoleg Iechyd (HTA) ac i alluogi poblogaethau鈥檙 rhanbarth i gael mynediad at therap茂au mwy arloesol.
Yn 2021, cynhaliodd DIT bedwar gweithdy gyda Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) y DU, Gweinyddiaethau Iechyd lleol, ac asiantaethau HTA. Fe wnaeth y gweithdai hyn archwilio sut i gefnogi llwybrau mwy strwythuredig a chynaliadwy sy鈥檔 galluogi atebion technoleg iechyd mwy arloesol i gael eu hymgorffori mewn systemau gofal mewn gwledydd tramor.
Mae ymgysylltu o鈥檙 math hwn hefyd yn helpu i gefnogi鈥檙 system iechyd leol i feithrin gallu. Gall dod 芒 systemau a safonau鈥檔 agosach at y ffordd y mae sector iechyd y DU yn gweithredu ei gwneud yn haws i gwmn茂au鈥檙 DU wneud busnes yn y marchnadoedd hyn.
Gan gymryd yr agweddau hyn ynghyd a chysylltu a chydweithio ar draws sectorau preifat, cyhoeddus a gofal iechyd y DU, dylai sefyllfa gref y DU o ran allforio a mewnfuddsoddi barhau a meithrin yr amodau i fusnesau dyfu ac i alluogi 鈥榊 DU CCC鈥 i ffynnu.
Astudiaeth achos: DULAS
Sefydlwyd Dulas ym 1982 yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen fyd-enwog ym Mhowys, canolbarth Cymru, yn canolbwyntio ar sefydlu dulliau arloesol o ddefnyddio ynni鈥檙 haul, d诺r a gwynt. Fe wnaeth y cwmni hwn, sy鈥檔 eiddo i鈥檞 weithwyr, ddatblygu鈥檙 oergell fasgynyrchedig gyntaf a bwerir gan ynni鈥檙 haul ar gyfer storio brechlynnau. Mae Dulas yn cefnogi鈥檙 cymunedau anoddaf eu cyrraedd ac mae鈥檔 gweithio ers degawdau mewn gwledydd eraill i gefnogi ymdrechion imiwneiddio a chymorth hanfodol ledled y byd. Maent wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o fynd i鈥檙 afael 芒 phandemig COVID ac wedi darparu cannoedd o oergelloedd a rhewgelloedd i storio brechlynnau fel rhan o fentrau a gefnogir gan gyrff anllywodraethol ledled y byd gan gynnwys UNICEF, Gavi a Sefydliad Iechyd y Byd. Fe wnaeth Mike Freer, Gweinidog Allforio DIT ar y pryd, fynychu agoriad swyddogol ffatri oergelloedd storio brechlynnau newydd Dulas yn Bognor Regis ym mis Chwefror 2022, a dywedd:
Mae Dulas wedi chwarae rhan bwysig yn r么l y DU i gynyddu cydnerthedd byd-eang yn erbyn bygythiadau i iechyd pobl trwy eu gwaith amhrisiadwy i gefnogi dosbarthu brechlynnau i gymunedau anghysbell gan ddefnyddio dulliau rheweiddio a bwerir gan ynni鈥檙 haul.
Mae Dulas yn enghraifft wych o fusnes sydd, diolch i gefnogaeth DIT, yn gallu masnachu ledled y byd ac amlygu elfennau gorau allforion ac arbenigedd y DU ar raddfa wirioneddol fyd-eang tra鈥檔 helpu鈥檙 wlad, ac yn wir y byd, i ailgodi鈥檔 gryfach wedi鈥檙 pandemig.
8. Casgliad
Mae diwydiant gwyddorau bywyd y DU, gan gynnwys ei wasanaethau a鈥檌 gadwyn gyflenwi, yn sector bywiog ac uchelgeisiol sy鈥檔 achub ac yn gwella bywydau. Mae鈥檙 safbwyntiau a fynegir uchod yn canolbwyntio ar y mesurau y gall y DU eu cymryd yn yr amgylchedd masnachu a buddsoddi i wella ei sefyllfa allforio a鈥檌 phortffolio mewnfuddsoddiadau. Yn ddi-os, mae blynyddoedd pandemig 2020 a 2021 wedi amharu ar y sector a bydd yn rhaid disgwyl i weld sut y bydd hyn yn amlygu ei hun dros y blynyddoedd i ddod.
Mae llawer i fod yn optimistaidd yn ei gylch. Mae bioleg ei hun yn cael ei harneisio鈥檔 well, trwy fioleg synthetig a pheiriannu bioleg, ar gyfer amrediad o gymwysiadau o gyfrifiadura i ddiwydiannau mwy cynhyrchiol i alluogi triniaethau a dulliau iach谩u posibl ar gyfer amrywiaeth o glefydau genetig a phrin. Yn ychwanegol, rydym eisoes yn gweld newid a sbardunir gan dechnoleg yn sgil y nifer sy鈥檔 manteisio ar delefeddygaeth i atal afiechyd trwy ragweld risg ac annog byw yn well, yn ogystal 芒 rheoli cyflyrau cronig a lles. Ym maes ymchwil gwyddorau bywyd, gwelwn y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn perthynas 芒 darganfod cyffuriau a datblygu offerynnau digidol mewn treialon clinigol. Mae mabwysiadu technoleg ddigidol yn ymledu, gan greu cyfleoedd a phrofiadau trawsnewidiol i ddefnyddwyr, systemau iechyd a darparwyr.
Dylai DIT barhau i ddefnyddio ac o bosibl gwella ei diplomyddiaeth gofal iechyd masnachol ryngwladol; bydd hyn yn hwyluso synergeddau mwy deinamig, blaengar a chlaf-ganolog rhwng systemau iechyd byd-eang, buddsoddwyr, allforwyr, ac ecosystem ehangach gwyddorau bywyd rhyngwladol.
Mae sector gwyddorau bywyd y DU yn rymus o ran ei allu i greu gwerth, gan gefnogi swyddi mawr eu gwerth ledled ein pedair gwlad. Trwy weithio law yn llaw 芒鈥檙 GIG a sefydliadau gofal iechyd, y byd academaidd ac ymchwil, a鈥檙 llywodraeth, mae鈥檙 Bwrdd Masnach yn credu y gall y DU adennill ei hwyliau allforio a pharhau i ddenu buddsoddwyr cyffrous ac arloesol.
Gall masnach rydd a theg fod yn rym er lles ac mae鈥檙 Bwrdd yn frwd o blaid mabwysiadu鈥檙 dulliau a amlinellir uchod i helpu i wella cyfleoedd a chanlyniadau gofal iechyd am genedlaethau i ddod, yma yn y DU a ledled y byd.
9. Atodiad dadansoddol
9.1 Gwybodaeth gefndir
- Mae鈥檙 data a gyflwynir yma yn cynnwys data ynghylch nwyddau yn unig.
- Ar gyfer data鈥檙 DU, mae Ystadegau Masnach Dramor CThEF wedi鈥檜 defnyddio. Ar gyfer data sy鈥檔 ymwneud 芒 gwledydd eraill, mae data masnach UNCTAD wedi鈥檜 defnyddio a鈥檜 trosi USD i GBP gan ddefnyddio cyfradd sbot flynyddol gyfartalog Banc Lloegr ar gyfer pob blwyddyn o 2011-2021. Felly, ni ellir cymharu鈥檙 ffigurau hyn yn uniongyrchol 芒 data a droswyd gan ddefnyddio cyfradd gyfnewid wahanol.
- Darperir data CThEM ar sail symudiadau go iawn: bydd nwyddau sy鈥檔 dod i mewn ac yn gadael tiriogaeth economaidd yn cael eu cofnodi fel mewnforion ac allforion, yn y drefn honno, ac felly, ni ellir eu cymharu 芒 data ar sail newid perchnogaeth.
- Mae鈥檙 holl werthoedd allforio a mewnforio a adroddir yn yr adran hon mewn termau enwol (h.y. heb gyfrif am chwyddiant).
- Yn 么l diffiniad y Swyddfa Gwyddorau Bywyd, mae鈥檙 sector gwyddorau bywyd yn cael ei gwmpasu gan y codau SITC ar gyfer yr is-sector fferyllol (SITC 541 a 542) a鈥檙 is-sector technoleg feddygol (SITC 774 ac 872). Fodd bynnag, nid yw hwn yn drosolwg cyflawn o鈥檙 sector gwyddorau bywyd, a bydd maint y sector yn wahanol yn 么l diffiniadau eraill.
Cyfradd Twf Cyfansawdd Flynyddol (CAGR)
Ewch i fersiwn pdf adroddiad gwyddorau bywyd y Bwrdd Masnach am esboniad pellach o sut mae hyn yn cael ei gyfrifo.
-
听鈫
-
Dangosyddion Cystadleurwydd Gwyddor Bywyd y Swyddfa Gwyddorau Bywyd 2021听鈫
-
听鈫
-
/government/statistics/bioscience-and-health-technology-sector-statistics-2020/bioscience-and-health-technology-sector-statistics-2020听鈫
-
/government/statistics/bioscience-and-health-technology-sector-statistics-2020听鈫
-
/government/statistics/bioscience-and-health-technology-sector-statistics-2020听鈫
-
Fel y nodir uchod听鈫
-
Fel y nodir uchod听鈫
-
Detholiad Marchnadoedd FDI DIT (2021)听鈫
-
Rhestr Safleoedd Prifysgolion y Byd Times Higher Education 鈥 gwyddorau bywyd (2022)听鈫
-
/government/publications/life-science-sector-data-2022/life-science-competitiveness-indicators-2022听鈫
-
/government/publications/life-science-sector-data-2022/life-science-competitiveness-indicators-2022听鈫
-
/government/publications/life-science-sector-data-2022/life-science-competitiveness-indicators-2022听鈫
-
/government/publications/export-strategy-made-in-the-uk-sold-to-the-world听鈫
-
听鈫
-
/government/collections/uk-overseas-trade-statistics-and-regional-trade-statistics听鈫
-
/government/collections/uk-overseas-trade-statistics-and-regional-trade-statistics听鈫
-
/government/publications/export-strategy-made-in-the-uk-sold-to-the-world听鈫
-
/government/publications/life-science-sector-data-2022/life-science-competitiveness-indicators-2022#research-environment-1听鈫
-
/government/statistics/bioscience-and-health-technology-sector-statistics-2020听鈫
-
/government/statistics/bioscience-and-health-technology-sector-statistics-2020/bioscience-and-health-technology-sectorstatistics-2020#geographical-analysis听鈫