Cyfarwyddyd ymarfer 82: llofnodion electronig a dderbynnir gan Gofrestrfa Tir EF
Diweddarwyd 27 Awst 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Mae鈥檙 cyfarwyddyd yn nodi鈥檙 gwahanol fathau o lofnodion electronig y gall Cofrestrfa Tir EF eu derbyn a鈥檙 dogfennau y gellir eu defnyddio ar eu cyfer.
Mae hefyd yn egluro ffurf o lofnod electronig (Llofnod Electronig Cymwysedig) sydd wedi cael ei ddefnyddio gan gwmn茂au sy鈥檔 cymryd rhan mewn peilot.
NID yw鈥檙 cyfarwyddyd hwn yn ymwneud 芒 llofnodion electronig a ddefnyddir mewn dogfennau sy鈥檔 creu buddion a fydd yn destun rhybuddion unochrog neu rybuddion y cytunwyd arnynt: gallwn fwrw ymlaen 芒鈥檙 cais i gofnodi鈥檙 rhybudd waeth beth fo ffurf y llofnod electronig a ddefnyddir.
Lle defnyddir llofnod electronig ar gyfer gweithred, gweler cyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd am fanylion y cymalau ardystio gofynnol, a fydd yr un fath p鈥檜n ai defnyddir 鈥榠nc gwlyb鈥 neu lofnodion electronig.
Yn y cyfarwyddyd hwn, mae gan 鈥榯rawsgludwr鈥 yr ystyr a roddir gan reol 217A o Reolau Cofrestru Tir 2003 ac ystyr 鈥榯rawsgludwr a reoleiddir yn unigol鈥 yw unigolyn a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) neu (b) o鈥檙 rheol honno, ac felly鈥檔 cynnwys cyfreithwyr, bargyfreithwyr, trawsgludwyr trwyddedig ac Ymarferyddion Trawsgludo CILEx.
Yn fras felly, bydd cwmni neu gyflogwr trawsgludwr a reoleiddir yn unigol yn drawsgludwr, a gall unrhyw aelod o staff y trawsgludwr gyflawni unrhyw beth yn y cyfarwyddyd hwn y mae鈥檔 ofynnol i drawsgludwr yn hytrach na thrawsgludwr a reoleiddir yn unigol ei wneud.
2. Llofnodion Mercury
2.1 Cefndir
Cymeradwyodd adroddiad Comisiwn y Gyfraith (Law Com No 386), a gyhoeddwyd ym Medi 2019, ddull gweithredu a gyflwynwyd gan Gymdeithas y Cyfreithwyr mewn arfer Nodyn ymarfer 鈥淓xecution of documents by virtual means鈥 a gynhyrchwyd yn wreiddiol yn 2009. Roedd Cymdeithas y Cyfreithwyr wedi argymell y dull hwn fel un 鈥渄arbodus鈥 i鈥檞 gymryd wrth gyflawni gweithredoedd (boed gan unigolyn neu ar ran cwmni) lle鈥檙 oedd y part茂on i gyd yn bresennol ar gwblhau trafodiad. Ffurf y llofnod o dan sylw oedd llofnod llawysgrif wedi ei sganio yn cael ei ychwanegu at fersiwn derfynol y weithred. Nodwyd y dull gweithredu yn y Nodyn arfer a chyfeiriwyd ato gan Gymdeithas y Cyfreithwyr, ac wedi hynny gan Gomisiwn y Gyfraith, fel 鈥渙psiwn 1鈥.
Cytunodd Comisiwn y Gyfraith 芒鈥檙 farn yn y nodyn ymarfer 鈥測 bydd fersiwn derfynol PDF (neu Word) y ddogfen a PDF y dudalen llofnodi wedi ei llofnodi (y ddau ynghlwm wrth yr un ebost) yn ffurfio dogfen wreiddiol wedi ei llofnodi a bydd yn cyfateb i鈥檙 鈥榰n ddogfen gorfforol鈥 y cyfeirir ati yn Mercury.鈥 Mae hwn yn gyfeiriad at R (Mercury Tax Group Ltd) v HMRC [2008] EWHC 2721 (Admin) lle nododd Underhill J (fel yr oedd bryd hynny) adran 1(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1989 a mynegi ei gytundeb gyda鈥檙 Cwnsler 鈥渂od yr iaith honno o reidrwydd yn golygu bod yn rhaid i鈥檙 llofnod a鈥檙 ardystiad fod yn rhan o鈥檙 un ddogfen gorfforol鈥 sy鈥檔 cael ei llofnodi. Dyma pam y cyfeirir yn aml at y math o lofnod a ddefnyddir yn opsiwn 1 fel llofnod 鈥淢ercury PDF鈥 neu 鈥渓lofnod Mercury鈥: mae鈥檔 fath o lofnodi wedi ei setlo fel ymateb i sylwadau yn Mercury.
Mae llofnod 鈥渋nc gwlyb鈥 traddodiadol yn ofynnol ar gyfer llofnodi trwy ddull Mercury. Fodd bynnag, gellir ei ystyried yn ffurf ar lofnod electronig oherwydd bod y broses o dan sylw yn golygu ei bod yn dod o fewn diffiniad llofnod electronig yn erthygl 3(10) o Reoliad (EU) 910/2014 ar adnabod electronig a gwasanaethau ymddiried ar gyfer trafodion electronig. (鈥楻heoliad eIDAS鈥): 鈥渄ata in electronic form which is attached to or logically associated with other data in electronic form and which is used by the signatory to sign鈥.
2.2 Llofnodion Mercury: gwarediadau a thrafodion eraill yn cael eu cofrestru
Mae Atodiad 1 yn cynnwys manylion am y gwarediadau a deliadau eraill y gellir eu llofnodi trwy ddull Mercury. Gellir llofnodi鈥檙 hyn sy鈥檔 cyfateb mewn perthynas 芒 thir digofrestredig yn y modd hwn hefyd.
Rhaid bodloni鈥檙 gofynion canlynol.
Y gofyniad cyntaf yw bod yr holl bart茂on i鈥檙 gwarediad neu ddeliad arall, gan gynnwys unrhyw bart茂on nad ydynt yn llofnodi, yn cael eu cynrychioli gan drawsgludwr. Mae鈥檙 gofyniad hwn yn ddarostyngedig i dri eithriad: mae鈥檔 ofynnol i drawsgludwyr weithredu ar ran y canlynol yn unig (i) y rhoddwr benthyg yn achos morgais, rhyddhau neu ollwng, (ii) y cynrychiolwyr personol yn achos cydsyniad, a (iii) y rhoddwr yn achos atwrneiaeth.
Pan fo dogfen i鈥檞 llofnodi gan atwrnai parti, rhaid i drawsgludwr fod yn gweithredu mewn perthynas 芒鈥檙 cyflawni, ond nid oes gwahaniaeth at ddibenion y gofynion hyn a gafodd y trawsgludwr gyfarwyddyd gan y parti neu gan yr atwrnai.
Yr ail ofyniad yw dilyn y camau a restrir isod:
- CAM 1 鈥 Anfonir cop茂au terfynol y cytunwyd arnynt o鈥檙 weithred (gan gynnwys unrhyw gynlluniau) trwy ebost at bob parti gan eu trawsgludwr. Er mwyn egluro鈥檙 hyn a ddisgwylir (er nad yw hyn yn ofyniad), efallai y bydd trawsgludwyr sy鈥檔 drafftio鈥檙 weithred am ychwanegu datganiad i鈥檙 perwyl a ganlyn, wrth ymyl neu o dan y man lle mae鈥檙 tyst i鈥檞 llofnodi: 鈥淩wy鈥檔 cadarnhau fy mod yn gorfforol bresennol pan lofnododd [enw鈥檙 blaid a lofnododd] y weithred hon.鈥
-
CAM 2 鈥 Mae pob parti鈥檔 argraffu鈥檙 dudalen llofnodi yn unig.
-
CAM 3 鈥 Mae pob parti鈥檔 llofnodi鈥檙 dudalen llofnodi ym mhresenoldeb corfforol tyst.
-
CAM 4 鈥 Mae鈥檙 tyst yn llofnodi鈥檙 dudalen llofnodi.
-
CAM 5 鈥 Mae pob parti鈥檔 anfon ebost sengl at eu trawsgludwr ac atodir y copi terfynol y cytunwyd arno o鈥檙 trosglwyddiad (gweler CAM 1) a PDF/JPEG neu gopi addas arall o鈥檙 dudalen llofnodi wedi ei llofnodi gyda鈥檙 ebost.
-
CAM 6 鈥 Caiff y trafodiad trawsgludo ei gwblhau.
- CAM 7 鈥 Mae鈥檙聽trawsgludwr聽sy鈥檔 gwneud cais am gofrestriad yn lanlwytho鈥檙 copi terfynol y cytunwyd arno o鈥檙 weithred a鈥檙 dudalen neu dudalennau llofnodi wedi eu llofnodi ar ffurf un ddogfen gyda鈥檙 cais.
Yn CAM 1 a CAM 5, gall y trawsgludwr o dan sylw fod yn drawsgludwr heblaw trawsgludwr y parti ar yr amod bod y trefniant wedi cael ei gytuno gan drawsgludwyr yr holl bart茂on.
Yn CAM 7, gellir cyfuno tudalennau鈥檙 weithred a鈥檙 tudalennau llofnodi yn CAM 7 naill ai trwy (i) eu cyfuno鈥檔 electronig neu (ii) eu hargraffu ac yna eu cyfuno鈥檔 gorfforol. Rhaid i鈥檙 trawsgludwr ardystio鈥檙 trosglwyddiad sy鈥檔 deillio o hyn fel copi gwir o鈥檙 gwreiddiol yn y ffordd arferol. At y diben hwn, y 鈥榞wreiddiol鈥 yw fersiwn terfynol y weithred a鈥檙 dudalen llofnodi wedi ei hatodi i鈥檙 ebost at y trawsgludwr.
Gellir gwneud y cais i gofrestru trwy ddull electronig. Os bu cyfuniad electronig, gellir lanlwytho鈥檙 weithred gyfunedig, megis trosglwyddiad a鈥檙 tudalennau llofnodi鈥檔 uniongyrchol fel un ddogfen; os bu cyfuniad corfforol, gellir sganio鈥檙 tudalennau cyfunedig fel un ddogfen.
Fel arall, gellir gwneud y cais ar ffurf bapur. Bydd angen cyflwyno copi o鈥檙 ddogfen gyfunedig sengl sy鈥檔 ffurfio鈥檙 trosglwyddiad a gyflawnwyd: os caiff ei chyfuno鈥檔 electronig, gellir argraffu鈥檙 ddogfen sy鈥檔 deillio ohoni.
Rhaid i gynllun sydd wedi ei gynnwys mewn trosglwyddiad o ran neu weithred arall sy鈥檔 delio 芒 rhan o鈥檙 tir mewn teitl cofrestredig gael ei lofnodi gan y trosglwyddwr neu waredwr arall: rheol 213(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Felly, gallai trawsgludwr y gwaredwr lofnodi鈥檙 cynllun (fel llofnod wedi ei theipio efallai) fel asiant ar gyfer y gwaredwr cyn anfon ebost ato yn CAM 1, fel bod y copi cyflawni terfynol o鈥檙 weithred a anfonir at y gwaredwr yn cynnwys y cynllun wedi ei lofnodi. Byddai鈥檔 rhaid i drawsgludwyr fodloni eu hunain eu bod wedi eu hawdurdodi鈥檔 briodol i lofnodi fel asiant. Fel arall, gallai鈥檙 gwaredwr deipio ei enw ar y cynllun trwy lofnod yn CAM 3.
Lle bo鈥檙 ddogfen o dan sylw yn gydsyniad tir digofrestredig, mae鈥檙 gofynion a nodir uchod yn gymwys ond heb yr angen am bresenoldeb tyst yn CAM 3 a thrwy anwybyddu CAM 4.
Gweler Llofnodi trwy ddull Mercury a llofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr: cwmn茂au lle bo鈥檙 deliad gan gwmni.
2.3 Llofnodion Mercury: ffurflenni cais a dogfennau eraill
Mae Atodiad 1 yn cynnwys manylion y dogfennau eraill y gellir eu llofnodi ar ffurf llofnodion Mercury, gan gynnwys ffurflenni cais penodedig, datganiadau o wirionedd (ond nid datganiadau statudol) a thystysgrifau amrywiol.
Rhaid bodloni鈥檙 gofynion canlynol.
Y gofyniad cyntaf yw bod pob llofnodwr yn cael ei gynrychioli gan drawsgludwr (oni bai mai trawsgludwr yw鈥檙 llofnodwr).
Yr ail ofyniad yw dilyn y camau a restrir isod:
-
CAM 1 鈥 Mae trawsgludwr yn anfon y ddogfen at y llofnodwr trwy ebost.
-
CAM 2 鈥 Mae鈥檙 llofnodwr yn argraffu鈥檙 dudalen llofnodi yn unig.
-
CAM 3 鈥 Mae鈥檙 llofnodwr yn llofnodi鈥檙 dudalen llofnod ac yn ychwanegu鈥檙 dyddiad; mae hefyd yn ychwanegu ei enw llawn o dan ei lofnod os nad yw wedi ei ychwanegu eisoes.
-
CAM 4 鈥 Mae鈥檙 llofnodwr yn anfon ebost at y trawsgludwr gan atodi鈥檙 ddogfen (Cam 1) a PDF/JPEG neu gopi addas arall o鈥檙 dudalen llofnodi wedi ei llofnodi.
-
CAM 5 鈥 Mae鈥檙 trawsgludwr yn paratoi un ddogfen sy鈥檔 cynnwys y ddogfen a鈥檙 dudalen llofnodi wedi ei llofnodi.
-
CAM 6 鈥 Mae鈥檙 trawsgludwr, neu drawsgludwr arall sydd wedi bodloni ei hunan bod y camau hyn wedi eu dilyn, yn lanlwytho鈥檙 ddogfen i Gofrestrfa Tir EF.
Yn CAM 5, gellir cyfuno鈥檙 ddogfen a鈥檙 dudalen llofnodi i鈥檞 cynnwys gyda鈥檙 cais i Gofrestrfa Tir EF naill ai trwy (i) eu cyfuno鈥檔 electronig neu (ii) eu hargraffu ac yna eu cyfuno鈥檔 gorfforol. Rhaid i鈥檙 trawsgludwr ardystio鈥檙 trosglwyddiad sy鈥檔 deillio o hyn fel copi gwir o鈥檙 gwreiddiol yn y ffordd arferol. At y diben hwn, y 鈥榞wreiddiol鈥 yw fersiwn terfynol y ddogfen a鈥檙 dudalen llofnodi wedi ei hatodi i鈥檙 ebost at y trawsgludwr.
3. Llofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr
3.1 Cefndir
Yn Law Com Rhif 386, y cyfeiriwyd ato uchod, daeth Comisiwn y Gyfraith i鈥檙 casgliad bod modd defnyddio llofnod electronig yn y gyfraith i gyflawni dogfen, gan gynnwys gweithred. Daeth Comisiwn y Gyfraith i鈥檙 casgliad hefyd y gellid tystio llofnod electronig yn yr un modd yn y b么n 芒 llofnod inc gwlyb, heblaw y byddai鈥檙 tyst sy鈥檔 bresennol yn gorfforol adeg y llofnodi yn gweld y llofnodwr yn ychwanegu ei lofnod yn electronig at ddogfen.
Ar yr un pryd, roedd Comisiwn y Gyfraith yn cydnabod pe bai cofrestrfa gyhoeddus yn derbyn llofnodion inc gwlyb yn unig, ni fyddai鈥檙 part茂on yn gallu cyflawni dogfennau yn electronig, waeth beth oedd y sefyllfa gyfreithiol. Nid oedd yn anghytuno 芒 safiad Cofrestrfa Tir EF yn ei ymateb i bapur ymgynghori cynharach Comisiwn y Gyfraith fod 鈥渁ngen i awdurdod cofrestru gael rheolaeth dros y dull cyflawni a ddefnyddir ar gyfer dogfennau y mae鈥檔 rhaid eu cofrestru, yn enwedig lle cynigir gwarant teitl鈥.
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn y rhan fwyaf o ddogfennau wedi eu llofnodi鈥檔 electronig lle dilynir y camau a restrir isod. Fel y gwelir, un o鈥檙 camau hyn yw bod trawsgludwr yn rhoi tystysgrif yn ymwneud 芒鈥檙 llofnod i Gofrestrfa Tir EF. O ganlyniad, rydym yn cyfeirio at y llofnodion electronig hyn fel 鈥榣lofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr鈥. (Yn y gorffennol, defnyddiwyd y term 鈥榣lofnodion electronig a dystiwyd鈥 ar adegau, ond gall hyn fod yn gamarweiniol oherwydd efallai bod y llofnodion yn rhai nad oes angen eu tystio.
Bydd y llofnodi yn gofyn am ddefnyddio system weithredu neu blatfform sy鈥檔 rheoli鈥檙 broses lofnodi electronig, gan gynnwys creu鈥檙 llofnod electronig. Ceir sawl darparwr platfformau o鈥檙 fath sy鈥檔 caniat谩u i鈥檔 gofynion gael eu diwallu. Nid ydym yn rhagnodi y dylid defnyddio darparwyr penodol, ac nid oes gennym restr gymeradwy o ddarparwyr ychwaith.
Cynghorir trawsgludwyr y part茂on i gadw copi o鈥檜 tystysgrif gwblhau neu adroddiad archwilio a gynhyrchwyd gan y platfform gyda鈥檜 ffeil drawsgludo ar ddiwedd y broses lofnodi. Dylai tystysgrif neu adroddiad o鈥檙 fath roi trywydd archwilio鈥檙 llofnodi, gan gynnwys amser a dyddiad y llofnodion, cyfeiriadau ebost yr anfonwyd y ddogfen atynt, y dull cyfrinair un tro a ddefnyddiwyd, y meysydd a gwblhawyd a chyfeiriadau Protocol Rhyngrwyd y dyfeisiau a ddefnyddiwyd.
3.2 Llofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr: gwarediadau a deliadau eraill yn cael eu cofrestru
Mae Atodiad 1 yn cynnwys manylion y gwarediadau eraill y gellir eu llofnodi gan ddefnyddio llofnod electronig wedi ei hardystio gan drawsgludwr. Gellir llofnodi鈥檙 hyn sy鈥檔 cyfateb mewn perthynas 芒 thir digofrestredig ac atwrneiaeth ac eithrio atwrneiaeth arhosol gan ddefnyddio llofnod o鈥檙 fath hefyd.
Rhaid bodloni鈥檙 gofynion canlynol.
Y gofyniad cyntaf yw bod pob parti i鈥檙 gwarediad neu ddeliad arall, gan gynnwys unrhyw bart茂on nad ydynt yn llofnodi, yn cael eu cynrychioli gan drawsgludwr. Mae鈥檙 gofyniad hwn yn ddarostyngedig i dri eithriad: mae鈥檔 ofynnol i drawsgludwyr weithredu ar ran y canlynol yn unig (i) y rhoddwr benthyg yn achos morgais, rhyddhau neu ollwng, (ii) y cynrychiolwyr personol yn achos cydsyniad, a (iii) y rhoddwr yn achos atwrneiaeth.
Pan fo dogfen i鈥檞 llofnodi鈥檔 electronig gan atwrnai parti, rhaid i drawsgludwr fod yn gweithredu mewn perthynas 芒鈥檙 cyflawni, ond nid oes gwahaniaeth at ddibenion y gofynion hyn a gafodd y trawsgludwr gyfarwyddyd gan y parti neu gan yr atwrnai.
Yr ail ofyniad yw bod trawsgludwr yn gyfrifol am sefydlu a rheoli鈥檙 broses lofnodi trwy鈥檙 platfform.
Y trydydd gofyniad yw dilyn y camau a restrir isod:
-
CAM 1 鈥 Mae鈥檙 trawsgludwr sy鈥檔 rheoli鈥檙 broses lofnodi yn sicrhau:
-
bod y copi terfynol y cytunwyd arno (gan gynnwys unrhyw gynlluniau) yn cael ei lanlwytho i鈥檙 platfform. Er mwyn egluro鈥檙 hyn a ddisgwylir (er nad gofyniad yw hwn), efallai bydd trawsgludwyr sy鈥檔 drafftio鈥檙 weithred am ychwanegu datganiad i鈥檙 perwyl a ganlyn wrth ymyl neu o dan y man lle mae鈥檙 tyst i鈥檞 llofnodi: 鈥楥adarnhaf fy mod yn bresennol yn gorfforol pan lofnododd [enw鈥檙 blaid a lofnododd] y weithred hon.鈥
-
bod y platfform yn cael ei lenwi gydag enw, cyfeiriad ebost a rhif ff么n symudol y llofnodwyr a鈥檙 tystion. Pan fydd y platfform yn caniat谩u hynny, gellir llenwi鈥檙 manylion ar gyfer tyst yn ddiweddarach, naill ai trwy鈥檙 llofnodwr yn nodi鈥檙 manylion ar gyfer ei dyst neu鈥檙 trawsgludwr yn gwneud hynny, ar yr amod bod hyn yn cael ei wneud cyn CAM 5
-
y tynnir sylw at y meysydd y mae鈥檔 rhaid eu cwblhau o fewn y ddogfen (gan gynnwys meysydd llofnodion ar unrhyw gynlluniau y mae鈥檔 ofynnol i鈥檞 llofnodi) ac yn nodi pwy sydd 聽i鈥檞 cwblhau, yn ogystal ag ym mha drefn fel bod y llofnodwr yn cael ei ddilyn gan ei dyst. Er mwyn cydymffurfio 芒 CAM 6, rhaid i drawsgludwr ddyddio鈥檙 ddogfen pan fo wedi ei huwchlwytho i鈥檙 platfform o hyd. Mae鈥檔 bosibl felly y bydd y trawsgludwr sy鈥檔 rheoli鈥檔 dymuno amlygu鈥檙 maes dyddiad fel un y mae angen ei gwblhau yn y llif llofnodi a鈥檌 aseinio i鈥檙 trawsgludwr sy鈥檔 dyddio鈥檙 ddogfen
-
-
CAM 2 鈥 Mae鈥檙 platfform yn anfon ebost at y llofnodwyr er mwyn iddynt allu defnyddio鈥檙 ddogfen.
-
CAM 3 鈥 Mae鈥檙 platfform yn anfon cyfrinair un tro at y llofnodwyr trwy neges destun, gydag o leiaf chwe rhif.
-
CAM 4 鈥 Mae鈥檙 llofnodwyr yn nodi鈥檙 cyfrinair un tro ac yn llofnodi鈥檙 weithred ym mhresenoldeb corfforol y tyst, gyda鈥檙 dyddiad a鈥檙 amser yn cael eu cofnodi鈥檔 awtomatig o fewn trywydd archwilio鈥檙 platfform.
-
CAM 5 鈥 Ar 么l i鈥檙 llofnodwr lofnodi鈥檙 weithred, bydd y tyst yn cael ebost gan y platfform yn ei wahodd i lofnodi ac ychwanegu ei fanylion yn y gofod a ddarperir yn y cymal ardystio. Mae鈥檙 tyst yn mewnbynnu cyfrinair un tro a anfonir atynt trwy neges destun gan y platfform, yn llofnodi ac yn ychwanegu ei gyfeiriad yn y gofod a ddarperir, gyda鈥檙 dyddiad a鈥檙 amser yn cael eu cofnodi鈥檔 awtomatig eto.
-
CAM 6 鈥 Ar 么l i鈥檙 broses lofnodi ddod i ben, mae鈥檙 trawsgludwr sy鈥檔 rheoli鈥檙 broses lofnodi neu drawsgludwr arall sy鈥檔 gweithredu ar ran un o鈥檙 part茂on, yn dyddio鈥檙 weithred o fewn y platfform gyda鈥檙 dyddiad y daeth i rym. (Bydd bwlch rhwng y cam hwn a鈥檙 un blaenorol os yw鈥檙 weithred, fel sy鈥檔 digwydd yn aml, wedi ei llofnodi gan yr holl lofnodwyr a thystion beth amser cyn ei chwblhau.)
-
CAM 7 鈥 Mae鈥檙 trawsgludwr sy鈥檔 cyflwyno鈥檙 cais yn gwneud hynny trwy ddull electronic ac yn cynnwys y canlynol gyda鈥檙 cais:
-
PDF o鈥檙 ddogfen wedi ei chwblhau. Lle bo鈥檙 cais am gofrestriad cyntaf, gellir cyflwyno allbrint o鈥檙 PDF, wedi ei ardystio i fod yn gopi gwir o鈥檙 weithred wreiddiol
-
tystysgrif (nad yw o reidrwydd wedi ei llofnodi ganddynt: gweler isod) ar y ffurf a ganlyn: 鈥楾ystiaf, hyd eithaf fy ngwybodaeth a鈥檓 cred, fod y gofynion cymwys a nodir yng nghyfarwyddyd ymarfer 82 ar gyfer defnyddio llofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr.鈥 Rhaid i鈥檙 dystysgrif gael ei dyddio a鈥檌 llofnodi gan drawsgludwr a reoleiddir yn unigol, rhaid ychwanegu ei enw llawn a鈥檌 gwmni neu gyflogwr a rhaid nodi鈥檙 weithred neu鈥檙 gweithredoedd y rhoddir y dystysgrif ar eu cyfer. Mae Atodiad 2 yn cynnwys enghraifft o dystysgrif dderbyniol
-
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn ystyried y dystysgrif hon fel un sy鈥檔 cyfeirio at y gofynion fel yr oeddent ar adeg y dyddiad perthnasol. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os bydd y gofynion mewn perthynas 芒鈥檙 broses lofnodi yn newid ond bod y broses lofnodi wedi ei chwblhau cyn y dyddiad y newidiodd y gofynion, ystyrir bod y dystysgrif yn cyfeirio at y gofynion penodol hynny fel yr oeddent cyn y newid.
Gall trawsgludwr a reoleiddir yn unigol yn gweithredu ar ran unrhyw barti roi鈥檙 dystysgrif ar yr amod bod y trawsgludwr wedi bodloni ei hunan bod y weithred wedi ei chyflawni鈥檔 briodol. Er mwyn osgoi amheuaeth, rhaid i drawsgludwr a reoleiddir yn unigol, nid aelod o鈥檌 staff, roi鈥檙 dystysgrif. Yn y rhan fwyaf o achosion yn ymwneud 芒 throsglwyddiadau, trawsgludwr y gwerthwr fydd yn rheoli鈥檙 broses lofnodi a thrawsgludwr y prynwr fydd yn cyflwyno鈥檙 cais. Gall y dystysgrif gael ei llofnodi gan drawsgludwr a reoleiddir yn unigol yn gweithedu ar ran y gwerthwr a鈥檌 rhoi i drawsgludwr y prynwr; fel arall, gall trawsgludwr a reoleiddir yn unigol yn gweithredu ar ran y prynwr, ar 么l cael ei fodloni ar 么l ei chwblhau bod y weithred wedi ei chyflawni鈥檔 briodol, lofnodi鈥檙 dystysgrif, gan gofio ei thelerau cymwys.
Ni chaiff trawsgludwr a reoleiddir yn unigol ei atal rhag rhoi鈥檙 dystysgrif oherwydd ei fod wedi llofnodi鈥檙 weithred ei hunan ar ran parti, gan weithredu o dan atwrneiaeth.
Bydd y cofrestrydd yn dibynnu ar dystysgrif y trawsgludwr a gyflwynwyd gyda鈥檙 cais. Rhaid peidio 芒 chyflwyno unrhyw adroddiad archwilio neu dystysgrif gwblhau a gyhoeddwyd gan y platfform gyda鈥檙 cais ond dylid ei gadw. Gall gynnwys data personol, a byddai鈥檔 agored i鈥檙 cyhoedd ei archwilio.
Lle bo鈥檙 ddogfen o dan sylw yn gydsyniad tir digofrestredig, mae鈥檙 gofynion a nodir uchod yn gymwys ond heb yr angen am bresenoldeb tyst yn CAM 4 a thrwy anwybyddu CAM 5.
Gweler Llofnodi trwy ddull Mercury a llofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr: cwmn茂au lle bo鈥檙 deliad gan gwmni.
3.3 Newidiadau i weithredoedd gwaredol wedi eu llofnodi 芒 llofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr
Yn anaml dylai fod angen diwygio gweithred ar 么l iddi gael ei chyflawni. Mae鈥檙 canlynol yn gyfarwyddyd ar sut y gellid gwneud hyn lle mae鈥檙 weithred wedi ei llofnodi 芒 llofnodion electronig.
Ceir canllawiau mwy cyffredinol yng nghyfarwyddyd ymarfer 68: gweithredoedd newid sy鈥檔 peri gwarediadau tir cofrestredig.
3.3.1 Camgymeriad a ddarganfuwyd cyn cyflwyno鈥檙 cais i Gofrestrfa Tir EF
Pan fydd unrhyw ddogfen wedi ei llofnodi鈥檔 electronig, nid oes o reidrwydd unrhyw ddogfen bapur y gellir ei diwygio i gywiro camgymeriadau. Mewn sefyllfaoedd lle mae鈥檔 bosibl bod diwygiad llawysgrif wedi鈥檌 ystyried ar gyfer gweithred bapur, mae dau opsiwn.
Yr opsiwn cyntaf yw argraffu鈥檙 weithred a gyflawnwyd a gwneud newidiadau i鈥檙 allbrint hwn. Dylai鈥檙 allbrint gynnwys ardystiad tebyg i鈥檙 canlynol ar y dechrau: 鈥淢ae鈥檙 weithred electronig y mae hwn yn allbrint ohoni wedi ei ddiwygio heddiw [dyddiad] fel a ganlyn.鈥
Os nad yw parti wedi cydsynio i ddiwygiad a bod y diwygiad yn 鈥榖erthnasol鈥, mae鈥檔 anorfodadwy yn erbyn y parti hwnnw. Felly, gyda diwygiadau perthnasol, rhaid i鈥檙 diwygiadau gael eu cydlofnodi gan y part茂on. Mae diwygiad yn berthnasol 鈥渙s oes posibilrwydd iddo fod yn niweidiol i hawliau neu rwymedigaethau cyfreithiol [parti] o dan yr offeryn鈥 (Raiffeisen Zentralbank v Crossseas Shipping [2000] 1 WLR 1135).
Os nad yw diwygiad yn berthnasol, dim ond trawsgludwr a reoleiddir yn unigol sy鈥檔 gweithredu ar ran un o鈥檙 part茂on fydd yn gorfod diwygio鈥檙 allbrint ardystiedig, ac ychwanegu ei lofnod, enw llawn ac enw ei gwmni neu gyflogwr. (Lle mae mwy nag un diwygiad, dim ond unwaith bydd angen i鈥檙 trawsgludwr ddilyn ei lofnod gyda鈥檌 enw llawn ac enw ei gwmni neu gyflogwr.) Byddwn yn cymryd y gwnaed diwygiadau gyda chydsyniad yr holl bart茂on i鈥檙 weithred, a byddwn yn dibynnu ar hyn. Nid yw diwygiad yn berthnasol os yw wedi ei 鈥渨neud yn ddatganedig, neu ddim wedi cael unrhyw effaith ar, yn yr ystyr o ychwanegu dim at, yr hyn y byddai鈥檙 gyfraith fel arall yn ei darparu neu鈥檔 ei ymhlygu鈥 neu os yw 鈥渄im ond yn cywiro [gwall] yn y disgrifiad yn unol 芒鈥檙 bwriad gwreiddiol鈥 (Raiffeisen Zentralbank, uchod).
Os nad yw鈥檔 eglur a yw diwygiad yn berthnasol, y dull synhwyrol fyddai bwrw ymlaen ar y sail ei fod yn berthnasol a chael y diwygiad wedi ei gydlofnodi gan y part茂on.
Lanlwythir y weithred electronig a鈥檙 allbrint (a chadarnhad gan y trawsgludwr, os yw鈥檔 gymwys) wedi hynny gyda鈥檙 cais. Dylai鈥檙 trawsgludwr sy鈥檔 cyflwyno glicio ar yr ardystiad 鈥淩ydw i/Rydym ni yn ardystio bod yr atodiad hwn yn gopi gwir o鈥檙 gwreiddiol鈥 os oes ganddo鈥檙 allbrint gwreiddiol wedi ei lofnodi a鈥檌 ardystio; dylai glicio ar yr ardystiad 鈥淩ydw i/Rydym ni yn ardystio bod yr atodiad hwn yn gopi gwir o ddogfen wedi ei hardystio gan drawsgludwr i fod yn gopi gwir o鈥檙 gwreiddiol鈥 os oes gan drawsgludwr arall yn y trafodiad yr allbrint gwreiddiol wedi ei lofnodi a鈥檌 ardystio a鈥檌 fod wedi anfon copi ato wedi ei ardystio ganddo i fod yn gopi gwir.
Yr ail ddewis, p鈥檜n ai y mae鈥檙 diwygiad yn berthnasol neu鈥檔 amherthnasol, yw i鈥檙 part茂on gyflawni gweithred gywiro neu amrywio. Fodd bynnag, ni fydd yr ail opsiwn hwn yn effeithiol os bwriedir i鈥檙 gwelliant ychwanegu tir ychwanegol na chafodd ei drosglwyddo drwy drosglwyddiad neu a ddiddymwyd gan brydles cymalau penodedig. Yn yr achos hwn, rhaid defnyddio鈥檙 opsiwn cyntaf (neu rhaid i鈥檙 part茂on gyflawni ail drosglwyddiad ar ffurflen TR1 neu ffurf benodedig arall, neu ail brydles cymalau penodedig).
3.3.2 Camgymeriad a ddarganfuwyd tra bod y weithred yn cael ei chofrestru
Mae鈥檙 sefyllfa yr un fath ag yn adran 3.3.1 lle mae鈥檙 gwelliant yn amherthnasol.
Lle bo鈥檙 diwygiad yn berthnasol, bydd y sefyllfa鈥檔 dibynnu ar natur y diwygiad a鈥檙 holl amgylchiadau.
Er enghraifft, os yw am ychwanegu tir at drosglwyddiad, creu cyfamod cyfyngu sydd i鈥檞 nodi neu ychwanegu hawddfraint sydd i鈥檞 chwblhau trwy gofrestriad, yna mae鈥檔 bosibl iawn y bydd angen cais pellach, fel arall gallai buddiant fod 芒 dyddiad cofrestru yn gynharach na鈥檌 greu. Gweler hefyd cyfarwyddyd ymarfer 68: gweithredoedd diwygio sy鈥檔 effeithio ar warediadau tir cofrestredig.
3.4 Llofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr: datganiadau o wirionedd
Gall Cofrestrfa Tir EF dderbyn datganiad o wirionedd sydd wedi ei lofnodi gan ddefnyddio llofnod electronig a ardystiwyd gan drawsgludwr. Rhaid bodloni鈥檙 gofynion canlynol.
Y gofyniad cyntaf yw bod y llofnodwr yn cael ei gynrychioli gan drawsgludwr (oni bai mai trawsgludwr yw鈥檙 llofnodwr).
Yr ail ofyniad yw bod trawsgludwr yn gyfrifol am sefydlu a rheoli鈥檙 broses lofnodi trwy鈥檙 platfform.
Y trydydd gofyniad yw dilyn y camau a restrir isod:
-
CAM 1 鈥 Mae鈥檙 trawsgludwr sy鈥檔 rheoli鈥檙 broses lofnodi yn sicrhau:
-
bod y datganiad yn cael ei lanlwytho i鈥檙 platfform
-
bod y platfform yn cael ei lenwi gydag enw, cyfeiriad ebost a rhif ff么n symudol y llofnodwr
-
y tynnir sylw at feysydd y mae angen eu cwblhau o fewn datganiad.
-
-
CAM 2 鈥 Mae鈥檙 platfform yn anfon ebost at y llofnodwr er mwyn iddynt allu defnyddio鈥檙 datganiad.
-
CAM 3 鈥 Mae鈥檙 platfform yn anfon cyfrinair un tro at y llofnodwr trwy neges destun, gydag o leiaf chwe rhif.
-
CAM 4 鈥 Mae鈥檙 llofnodwr yn nodi鈥檙 cyfrinair un tro ac yn llofnodi鈥檙 datganiad. Mae鈥檔 ychwanegu ei enw llawn o dan y llofnod hefyd oni bai ei fod eisoes wedi cael ei ychwanegu.
-
CAM 5 鈥 Rhaid i鈥檙 datganiad gael ei lanlwytho i Gofrestrfa Tir EF gan drawsgludwr. Rhaid iddo fod ar ffurf PDF neu allbrint o鈥檙 PDF wedi ei ardystio i fod yn gopi gwir o鈥檙 datganiad gwreiddiol. Rhaid i鈥檙 trawsgludwr lanlwytho tystysgrif ar y ffurf ganlynol hefyd: 鈥楾ystiaf, hyd eithaf fy ngwybodaeth a鈥檓 cred, fod y gofynion cymwys a nodir yng nghyfarwyddyd ymarfer 82 ar gyfer defnyddio llofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr wedi eu bodloni.鈥 Rhaid i鈥檙 dystysgrif gael ei dyddio a鈥檌 llofnodi gan drawsgludwr a reoleiddir yn unigol, rhaid ychwanegu ei enw llawn a鈥檌 gwmni neu gyflogwr a rhaid nodi鈥檙 datganiad o wirionedd y rhoddir y dystysgrif ar eu cyfer. Mae Atodiad 2 yn cynnwys enghraifft o dystysgrif dderbyniol.
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn ystyried y dystysgrif hon fel un sy鈥檔 cyfeirio at y gofynion fel yr oeddent ar adeg y dyddiad perthnasol. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os bydd y gofynion mewn perthynas 芒鈥檙 broses lofnodi yn newid ond bod y broses lofnodi wedi ei chwblhau cyn y dyddiad y newidiodd y gofynion, ystyrir bod y dystysgrif yn cyfeirio at y gofynion penodol hynny fel yr oeddent cyn y newid.
Os rhoddir y dystysgrif gan drawsgludwr a reoleiddir yn unigol nad oedd yn gyfrifol am sefydlu a rheoli鈥檙 broses lofnodi trwy鈥檙 platfform, bydd yn rhaid iddo, wrth gwrs, fod yn fodlon bod y datganiad wedi ei lofnodi鈥檔 briodol, ond dylid cadw telerau amodol y dystysgrif mewn cof.
Bydd y cofrestrydd yn dibynnu ar dystysgrif y trawsgludwr a lanlwythwyd gyda鈥檙 cais. Rhaid peidio 芒 lanlwytho unrhyw adroddiad archwilio neu dystysgrif gwblhau a gyhoeddwyd gan y platfform gyda鈥檙 cais ond dylid ei gadw. Gall gynnwys data personol, a byddai鈥檔 agored i鈥檙 cyhoedd ei archwilio.
4. 鈥楲lofnodi cymysg鈥
Os:
-
yw un person i lofnodi鈥檙 weithred mewn inc gwlyb, naill ai yn y ffordd gonfensiynol neu fel rhan o鈥檙 broses llofnodion Mercury, ac un arall i lofnodi gyda llofnod electronig wedi ei hardystio gan drawsgludwr, neu
-
os yw pob person i ddefnyddio platfform llofnodi electronig gwahanol,
gellir gwneud hyn trwy bod pob person yn llofnodi copi ar wah芒n o鈥檙 weithred (gweler adran 11 o gyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd)
Yn y ddwy sefyllfa, rhaid cadw at yr holl ofynion a nodir yn y cyfarwyddyd hwn mewn perthynas 芒 phawb sy鈥檔 llofnodi, ac eithrio yn y ffordd gonfensiynol. Fodd bynnag, dim ond y gofyniad cyntaf sy鈥檔 gymwys 鈥 ei fod yn cael ei gynrychioli gan drawsgludwr 鈥 mewn perthynas ag unigolyn sydd wedi llofnodi gwrthran nad oes angen ei gyflwyno (er enghraifft, os yw鈥檙 llofnodwr yn denant y brydles sy鈥檔 cael ei rhoi neu鈥檔 drosglwyddai sy鈥檔 cyfamodi鈥檔 unig 芒鈥檙 trosglwyddwr).
Sylwer nad yw llofnodi cymysg yn yr ystyr bod llofnodwr yn llofnodi mewn inc gwlyb a鈥檙 tyst yn llofnodi gyda llofnod electronig ardystiedig trawsgludwr, ac i鈥檙 gwrthwyneb, yn dderbyniol. Mae鈥檙 gofynion ar gyfer llofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr yn golygu bod llofnodwr a鈥檙 tyst ill dau yn llofnodi yn yr un ffordd trwy鈥檙 platfform.
5. Llofnodion Mercury a llofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr: cwmn茂au
Mae鈥檙 adran hon yn esbonio鈥檙 gofynion pan fo鈥檙 weithred neu鈥檙 ddogfen yn cael ei llofnodi ar ran cwmni gan ddau 鈥榣ofnodwr awdurdodedig鈥 o dan adran 44(2)(a) o Ddeddf Cwmn茂au 2006 a bod y llofnodwyr yn dymuno llofnodi trwy lofnodion Mercury neu lofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr. Mae hefyd yn gymwys, gyda鈥檙 diwygiadau angenrheidiol, pan fo鈥檙 llofnod ar ran mathau eraill o endidau corfforaethol sydd 芒 hawl i lofnodi mewn modd tebyg. Enghraifft fyddai partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy鈥檔 cael ei llofnodi gan ddau aelod o dan yr un ddarpariaeth statudol fel cwmn茂au, fel y鈥檌 haddaswyd gan reoliad 4 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmn茂au 2006) 2009.
Rydym yn credu bod yn rhaid bod amheuaeth a all cwmni ddefnyddio rhyw fath o s锚l gyffredin electronig gan ei bod yn ymddangos bod adran 45 o Ddeddf Cwmn茂au 2006 yn rhagweld s锚l gorfforol. Ni fyddwn, felly, yn derbyn dogfennau a seliwyd yn electronig gan gwmni. Rydym hefyd yn meddwl bod yn rhaid bod rhywfaint o ansicrwydd ar hyn o bryd a all un llofnodwr awdurdodedig lofnodi gan ddefnyddio un math o lofnod a鈥檙 llall gan ddefnyddio llofnod arall.
Gweler hefyd adran 5 o gyfarwyddyd ymarfer 78: cwmn茂au tramor a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig.
5.1 Llofnodwyr awdurdodedig a llofnodion Mercury
Sylwer y bydd y cwmni, yn hytrach na鈥檙 llofnodwyr awdurdodedig, yn barti i鈥檙 gwarediad neu ddeliad arall.
Mae鈥檙 camau yn yr ail ofyniad yn Llofnodion Mercury: gwarediadau a deliadau eraill yn cael eu cofrestru wedi eu haddasu i鈥檙 graddau mae鈥檙 cwmni鈥檔 gysylltiedig fel a ganlyn.
-
CAM 1 鈥 Anfonir cop茂au terfynol y cytunwyd arnynt o鈥檙 ddogfen (gan gynnwys unrhyw gynlluniau) at y llofnodwyr awdurdodedig trwy ebost gan drawsgludwr y cwmni.
-
CAM 2 鈥 Mae pob llofnodwr awdurdodedig yn argraffu鈥檙 dudalen llofnodi yn unig, neu mae un ohonynt yn ei hargraffu.
-
CAM 3 鈥 Mae pob llofnodwr awdurdodedig yn llofnodi鈥檙 dudalen llofnodi neu鈥檔 llofnodi鈥檙 dudalen llofnodi a argraffwyd ganddynt.
-
CAM 4 鈥 Ddim yn gymwys
-
CAM 5 鈥 Mae un o鈥檙 llofnodwyr awdurdodedig yn anfon un ebost at drawsgludwr y cwmni ac mae鈥檙 copi terfynol y cytunwyd arno o鈥檙 ddogfen (gweler CAM 1) a PDF/JPEG neu gopi addas arall o鈥檙 dudalen/tudalennau llofnodi wedi ei lofnodi ynghlwm wrtho.
Os yw鈥檙 llofnodwyr awdurdodedig i lofnodi鈥檙 un dudalen llofnod, gellir ei throsglwyddo i鈥檙 ail ar 么l cael ei llofnodi (mewn inc gwlyb) gan y cyntaf naill ai fel copi caled neu fel atodiad ebost: yn yr achos olaf, bydd angen iddi gael ei argraffu gan yr ail lofnodwr awdurdodedig fel y gall hefyd gael ei llofnodi ganddo (mewn inc gwlyb). Yn yr un modd, os bydd pob un yn llofnodi tudalen llofnod ar wah芒n, gall y llofnodwr awdurdodedig nad yw鈥檔 mynd i anfon yr ebost at drawsgludwr y cwmni drosglwyddo ei dudalen llofnod wedi ei llofnodi (mewn inc gwlyb) at y llofnodwr awdurdodedig arall fel copi caled neu fel atodiad ebost.
Yn CAM 1 a CAM 5, gall y trawsgludwr dan sylw fod yn drawsgludwr heblaw trawsgludwr y cwmni ar yr amod bod trawsgludwr pob parti wedi cytuno ar y trefniant.
5.2 Llofnodwyr awdurdodedig a llofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr
Sylwer y bydd y cwmni, yn hytrach na鈥檙 llofnodwyr awdurdodedig, yn barti i鈥檙 gwarediad neu ddeliad arall.
Mae鈥檙 camau yn y trydydd gofyniad yn Llofnodion wedi eu hardystio gan drawsgludwr: gwarediadau a deliadau eraill yn cael eu cofrestru wedi eu haddasu i鈥檙 graddau mae鈥檙 cwmni鈥檔 gysylltiedig fel a ganlyn.
-
CAM 1 鈥 Mae鈥檙 trawsgludwr sy鈥檔 rheoli鈥檙 broses lofnodi yn sicrhau:
-
bod y copi terfynol y cytunwyd arno o鈥檙 ddogfen (gan gynnwys unrhyw gynlluniau) yn cael ei lanlwytho i鈥檙 platfform.
-
bod y platfform yn cael ei lenwi gydag enw, cyfeiriad ebost a rhif ff么n symudol y llofnodwyr a鈥檙 tystion.
-
y tynnir sylw at y meysydd y mae angen eu cwblhau o fewn y ddogfen (gan gynnwys meysydd llofnodion ar unrhyw gynlluniau y mae鈥檔 ofynnol i鈥檞 llofnodi) ac yn nodi gan bwy y maent i鈥檞 cwblhau. Er mwyn cydymffurfio 芒 CAM 6 yn Llofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr: gwarediadau a deliadau eraill yn cael eu cofrestru, rhaid i drawsgludwr ddyddio鈥檙 ddogfen yn y platfform. Mae鈥檔 bosibl felly y bydd y trawsgludwr sy鈥檔 rheoli鈥檔 dymuno amlygu鈥檙 maes dyddiad fel un y mae angen ei gwblhau yn y llif llofnodi a鈥檌 aseinio i鈥檙 trawsgludwr sy鈥檔 dyddio鈥檙 ddogfen
-
-
CAM 2 鈥 Mae鈥檙 platfform yn anfon ebost at y llofnodwyr awdurdodedig er mwyn iddynt allu defnyddio鈥檙 ddogfen.
-
CAM 3 鈥 Mae鈥檙 platfform yn anfon cyfrinair un tro at y llofnodwyr trwy neges destun, gydag o leiaf chwe rhif.
-
CAM 4 鈥 Mae鈥檙 llofnodwyr awdurdodedig yn cofnodi鈥檙 cyfrinair un tro ac yna鈥檔 llofnodi鈥檙 ddogfen, gyda鈥檙 dyddiad a鈥檙 amser yn cael eu cofnodi鈥檔 awtomatig o fewn trywydd archwilio鈥檙 platfform.
-
CAM 5 鈥 Ddim yn gymwys
6. Manylion: ein harfer cynharach
Manylion ein hymarfer cynharach:
Ein harfer ar lofnodion electronig
Ein harfer ar lofnodion electronig
Ein harfer ar lofnodion electronig
Ein harfer ar lofnodion electronig
Ein harfer ar lofnodion electronig
7. Llofnodion electronig syml
Rydym yn defnyddio鈥檙 term hwn, 鈥榣lofnodion electronig syml鈥, i olygu llofnodion electronig nad ydynt yn llofnodion ar ddull Mercury, llofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr neu Lofnodion Electronig Cymwysedig.
Enghreifftiau o lofnodion electronig syml yw: enw wedi ei deipio ar ddiwedd dogfen electronig, llofnod llawysgrif wedi ei sganio wedi ei ychwanegu at ddogfen electronig ac enw wedi ei deipio ar ddiwedd ebost, ar yr amod ei fod yn dangos ym mhob achos ei fod yn dangos bwriad i gael ei rwymo gan y ddogfen neu ddatganiad o dan sylw.
Gall llofnod electronig a geir trwy ddefnyddio system weithredu neu lwyfan fod yn llofnod electronig syml os nad yw鈥檔 bodloni鈥檙 gofynion a nodir yn adran 3 i fod yn llofnod electronig ardystiedig trawsgludwr.
At ddibenion y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn, dylid trin Llofnod Electronig Uwch fel y鈥檌 diffinnir yn y Rheoliad eIDAS fel y鈥檌 diwygiwyd gan Reoliadau Adnabod Electronig a Gwasanaethau Ymddiriedolaeth ar gyfer Trafodion Electronig (Diwygio ac ati) (Ymadael 芒鈥檙 UE) 2019 (Rheoliadau eIDAS y DU) fel llofnod electronig syml.
Gwelir o Atodiad 1 y gellir defnyddio llofnodion electronig syml hyn mewn sefyllfaoedd amrywiol, gan gynnwys:
-
trawsgludwr yn llofnodi ffurflenni cais penodedig Cofrestrfa Tir EF, yn gwneud hynny trwy deipio ei enw yn y panel perthnasol ar ddiwedd y ffurflen; a pherchennog cofrestredig, neu berson sydd 芒 hawl i gael ei gofrestru fel perchennog, yn llofnodi panel 11 ffurflen RX1
-
trawsgludwr yn darparu tystysgrif at ddibenion llofnod electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr
-
gwrthwynebydd yn llofnodi llythyr o wrthwynebiad
Sylwer: Mae鈥檙 golofn 鈥楲lofnod electronig syml鈥 yn Atodiad 1 o reidrwydd yn ganllaw cyffredinol yn unig oherwydd yr ystod o lofnodion mae鈥檙 term yn eu cwmpasu. O ganlyniad, efallai bydd angen darparu tystiolaeth bellach weithiau.
8. Llofnodion Electronig Cymwysedig
Mae adran 91 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu bod dogfen ar ffurf i鈥檞 hystyried at ddibenion unrhyw ddeddfiad fel gweithred os yw amodau penodol yn cael eu bodloni. Heb fod yn weithred wirioneddol, nid oes angen llofnodion gael eu tystio. Un o鈥檙 amodau ar gyfer yr adran sy鈥檔 berthnasol yw bod unrhyw amodau sy鈥檔 ofynnol gan Reolau Cofrestru Tir 2003 yn cael eu bodloni. Mae rhai o鈥檙 amodau hyn wedi eu nodi mewn Hysbysiad a roddir gan y cofrestrydd o dan reol 54C ac un o鈥檙 rhain yw bod yn rhaid llofnodi鈥檙 ddogfen 芒 llofnodion electronig cymwysedig.
Mae Rheoliad eIDAS fel y鈥檌 diwygiwyd gan Reoliadau eIDAS y DU yn diffinio llofnod electronig cymwysedig. Nodweddion allweddol yw bod y llofnod:
-
yn gysylltiedig yn unigryw 芒鈥檙 llofnodwr ac yn gallu eu hadnabod
-
yn gysylltiedig 芒鈥檙 data wedi ei lofnodi yn y fath fodd fel bod modd canfod unrhyw newid dilynol yn y data
-
wedi ei chefnogi gan 鈥榙ystysgrif gymwysedig鈥 wedi ei chyhoeddi gan 鈥榙darparwr gwasanaeth ymddiriedolaeth cymwys鈥
-
wedi ei chreu gan ddefnyddio dyfais creu llofnod cymwys.
Mae Swyddfa鈥檙 Comisiynydd Gwybodaeth wedi cynhyrchu Canllaw i eIDAS sy鈥檔 esbonio鈥檙 Rheoliad eIDAS a Rheoliadau eIDAS y DU a鈥檜 heffaith: .
Rydym wedi derbyn gwarediadau electronig wedi eu llofnodi 芒 llofnodion electronig amodol o dan gynllun peilot sy鈥檔 cynnwys nifer fach o drawsgludwyr a nifer gyfyngedig o fathau o warediadau cofrestradwy: gweler Hysbysiad Rheol 54C.
9. Awdurdodau lleol yn cyflawni gweithredoedd
Gweler adran 7 o gyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd am wybodaeth am sut gall awdurdod lleol gyflawni gweithred.
10. Atodiad 1: Tabl llofnodion
Sylwer 1: Bydd Cofrestrfa Tir EF yn dibynnu ar drawsgludwr yn lanlwytho ffurflen, cydsyniad neu dystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi鈥檔 electronig gan rywun arall heb unrhyw reswm i amau ei dilysrwydd (sydd yr un mor wir pan fydd y ddogfen wedi ei llofnodi 芒 inc gwlyb).
Sylwer 2: Mae rhai ffurflenni Cofrestrfa Tir EF yn mynnu bod ffotograff yn cael ei osod: rhaid llofnodi鈥檙 ffurflenni hyn ag inc gwlyb a lanlwytho copi ardystiedig.
10.1 Ffurflenni cais a ffurflenni tebyg
Ffurflen | Proses lofnodi Mercury | Llofnod electronig wedi ei hardystio gan drawsgludwr | Llofnod electronig syml |
---|---|---|---|
Ffurflenni Cofrestrfa Tir EF nas chyfeirir atynt yn benodol yn y Tabl llofnodion hwn | Ydym | Ydym ond mae鈥檔 ddianghenraid: gweler y golofn nesaf | Ydym, lle bo鈥檙 llofnod yn llofnod (i) y trawsgludwr sy鈥檔 cyflwyno鈥檙 ffurflen neu (ii) trawsgludwr arall y mae trawsgludwr yn cyflwyno鈥檙 ffurflen ar ei ran. Ydym, lle mai llofnod y ceisydd yw鈥檙 llofnod ac (i) bod y ffurflen yn cael ei chyflwyno gyda chais a wnaed gan y ceisydd trwy鈥檙 porthol neu Business Gateway neu (ii) bod y ffurflen yn cael ei chyflwyno gan drawsgludwr. |
Panel 11 ffurflen RX1 | Ydym | Ydym ond mae鈥檔 ddianghenraid: gweler y golofn nesaf | Ydym |
Ffurflen UN1 | Ydym | Ydym ond mae鈥檔 ddianghenraid: gweler y golofn nesaf | Ydym |
10.2 Gwarediadau a deliadau yn cael eu cofrestru
Ffurflen | Proses lofnodi Mercury | Llofnod electronig wedi ei hardystio gan drawsgludwr | Llofnod electronig syml |
---|---|---|---|
Cydsyniadau (AS1, AS2, AS3) | Ydym | Ydym | Nac ydym |
Gweithred yn rhoi neu鈥檔 hawddfraint | Ydym | Ydym | Nac ydym |
Gweithred rhyddhau/amrywio hawddfraint | Ydym | Ydym | Ydym ond bydd y cofnod yn gofnod amodol (megis, yn datgan bod yr hawliau wedi eu mynegi i鈥檞 rhyddhau) |
Gweithred rhyddhau/amrywio cyfamodau | Ydym | Ydym | Ydym ond bydd y cofnod yn gofnod amodol (megis, yn datgan bod y cyfamodau wedi eu mynegi i鈥檞 rhyddhau) |
Gweithred yn atal caffael neu ryddhau hawliau golau neu aer | Ydym | Ydym | Ydym ond gall y cofnod fod yn gofnod amodol (megis datgan bod y weithred yn un sy鈥檔 honni ei bod wedi ei gwneud rhwng [y part茂on a enwir]) |
Arwystl cyfreithiol gan gynnwys lle defnyddir CH1 (ond heb gynnwys Morgeisi Digidol) | Ydym | Ydym | Nac ydym |
Morgeisi Digidol | Nac ydym | Nac ydym | Dim ond trwy lofnod electronig uwch a ddarperir trwy wasanaeth morgais digidol Cofrestrfa Tir EF |
Rhyddhau arwystl (DS1, DS3) | Ydym | Ydym | Nac ydym, oni bai ei fod wedi ei gymeradwyo gan y cofrestrydd o dan reol 114(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003 |
Gweithred arwystl amnewidiol | Ydym | Ydym | Nac ydym |
Gweithred gohirio arwystl cofrestredig | Ydym | Ydym | Nac ydym |
Gweithred amrywio arwystl cofrestredig | Ydym | Ydym | Nac ydym |
Gweithred ildio prydles gofrestredig/a nodwyd | Ydym | Ydym | Nac ydym |
Trosglwyddiad gan denant i landlord trwy ildio | Ydym | Ydym | Nac ydym |
Gweithred amrywio/cywiro prydles | Ydym | Ydym | Nac ydym |
Prydles gofrestradwy (adran 27(2)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) | Ydym | Ydym | Nac ydym |
Trosglwyddiad (TR1, TR2, TR4, TR5, TP1, TP2) | Ydym | Ydym | Nac ydym |
Cynllun ynghlwm wrth warediad o ran o鈥檙 tir mewn teitl cofrestredig | Ydym | Ydym | Ydym |
Gweithred yn peri gwarediad y mae鈥檔 ofynnol ei chwblhau trwy gofrestriad o dan adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ac nad yw wedi ei chrybwyll eisoes yn y rhan hon o鈥檙 Tabl Llofnodion | Ydym | Ydym | Nac ydym |
Gweithred o dan adran 40 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925 yn penodi ymddiriedolwr newydd neu鈥檔 rhyddhau ymddiriedolwr sy鈥檔 ymddeol pan gaiff ei llofnodi gan unigolion boed ar eu rhan eu hunain neu ar ran corfforaeth | Ydym | Ydym | Nac ydym |
Memorandwm yn penodi neu鈥檔 rhyddhau ymddiriedolwyr o dan adran 334 o Ddeddf Elusennau 2011 | Ydym | Ydym | Nac ydym |
10.3 Amrywiol
Dogfen | Proses lofnodi Mercury | Llofnod electronig wedi ei hardystio gan drawsgludwr | Llofnod electronig syml |
---|---|---|---|
Mae angen tystysgrif ar gyfer dogfen wedi ei llofnodi鈥檔 electronig wedi ei hardystio gan drawsgludwr | Ydym | Nac ydym gan y byddai鈥檔 golygu cadwyn ddiddiwedd o dystysgrifau | Ydym ond rhaid iddo gael ei roi gan drawsgludwr a reoleiddir yn unigol yn ei enw ei hunan |
Tystysgrif gan drawsgludwr o dan Atodlen 3 i Reolau Cofrestru Tir 2003 | Ydym | Ydym ond mae鈥檔 ddianghenraid: gweler y golofn nesaf | Ydym ond rhaid i Dystysgrif Ffurflen 8 gael ei rhoi gan drawsgludwr a reoleiddir yn unigol yn ei enw ei hunan |
Tystysgrif gan gyfreithiwr cymwys ar Ffurflen 7) o dan Atodlen 3 i Reolau Cofrestru Tir 2003 | Ydym | Ydym ond mae鈥檔 ddianghenraid: gweler y golofn nesaf | YYdym ond rhaid iddo gael ei gyflwyno gan drawsgludwr |
Cadarnhad neu dystysgrif bod arwystl a gyflwynir i鈥檞 gofrestru yn gopi o (i) o鈥檙 arwystl gwreiddiol y ffeiliwyd copi ohono yn Nh欧鈥檙 Cwmn茂au a (ii) yr arwystl y mae鈥檙 dystysgrif cofrestru yn ymwneud ag ef (gweler adran 4 o gyfarwyddyd ymarfer 29: cofrestru arwystlon cyfreithiol a gweithredoedd amrywio arwystl) | Ydym | Ydym ond mae鈥檔 ddianghenraid: gweler y golofn nesaf | Ydym ond rhaid iddo gael ei roi gan drawsgludwr |
Cydsyniadau a thystysgrifau eraill gan drawsgludwyr (er enghraifft, cadarnhau enw cywir person neu gadarnhau bod ganddynt gopi gwreiddiol neu swyddogol o grant profiant/llythyrau gweinyddu) | Ydym | Ydym ond mae鈥檔 ddianghenraid: gweler y golofn nesaf | Ydym ond rhaid iddo ei gyflwyno gan drawsgludwr. Ar gyfer llofnodi鈥檙 dystysgrif ychwanegol sy鈥檔 ofynnol pan fydd ffurflen PN1 yn cael ei chyflwyno gan drawsgludwr trwy ebost, gweler adran 3.2 o gyfarwyddyd ymarfer 74: chwiliadau o鈥檙 mynegai enwau perchnogion |
Cydsyniadau a thystysgrifau heblaw gan drawsgludwyr (er enghraifft, cydsyniad arwystlai i鈥檙 arwystlwr roi prydles). Sylwer: Ar gyfer cydsyniadau a thystysgrifau sy鈥檔 ofynnol gan gyfyngiadau, gweler, gweler adran 3.1.5 o gyfarwyddyd ymarfer 19: Rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr) | Ydym | Ydym ond mae鈥檔 ddianghenraid: gweler y golofn nesaf | Ydym ond rhaid iddo gael ei gyflwyno gan drawsgludwr |
Ffurflenni ID1, ID2, ID3 ac ID5 | Nac ydym | Nac ydym | Nac ydym |
Atwrneiaeth ac eithrio atwrneiaeth arhosol | Ydym | Ydym | Nac ydym |
Atwrneiaeth arhosol | Nac ydym | Nac ydym | Nac ydym |
Llythyr o wrthwynebiad | Ydym | Ydym ond mae鈥檔 ddianghenraid: gweler y golofn nesaf | Ydym |
Datganiad o wirionedd | Ydym | Ydym | Ydym ond rhaid iddo gael ei lofnodi gan drawsgludwr a reoleiddir yn unigol yn ei enw ei hunan a鈥檌 gyflwyno gan drawsgludwr |
Datganiad statudol | Nac ydym | Nac ydym | Nac ydym |
Cynllun ynghlwm wrth gais sy鈥檔 delio 芒 rhan o鈥檙 tir mewn teitl cofrestredig | Ydym | Ydym ond mae鈥檔 ddianghenraid: gweler y golofn nesaf | Ydym |
Memorandwm cynyddu mewn perthynas 芒 phrydles rhanberchnogaeth | Ydym | Ydym ond mae鈥檔 ddianghenraid: gweler y golofn nesaf | Ydym |
11. Atodiad 2: Tystysgrifau derbyniol ar gyfer llofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr
I Gofrestrfa Tir EF
Rhif Teitl: AB1234
Y disgrifiad Eiddo: Y tir rhydd-ddaliadol/prydlesol a amlinellir yn goch ar gynllun y teitl uchod sef [cyfeiriad eiddo]
Perchennog/Ceisydd:
Gweithred/dogfen y rhoddir y dystysgrif hon ar ei chyfer (gan gynnwys dyddiad a phart茂on):
Rwy鈥檔 gweithredu ar ran y Perchennog/Ceisydd/鈥
Tystiaf, hyd eithaf fy ngwybodaeth a鈥檓 cred, fod y gofynion cymwys a nodir yng nghyfarwyddyd ymarfer 82 ar gyfer defnyddio llofnodion electronig wedi eu hardystio gan drawsgludwr wedi eu bodloni.
Llofnod y trawsgludwr a reoleiddir yn unigol:
Enw llawn y trawsgludwr a reoleiddir yn unigol:
Enw cwmni neu gyflogwr y trawsgludwr a reoleiddir yn unigol:
Cyfeiriad y cwmni neu gyflogwr:
Dyddiad y dystysgrif hon
Lle bo鈥檙 dystysgrif yn cael ei rhoi mewn perthynas ag atwrneiaeth, mae angen ei haddasu ychydig. Mae鈥檙 canlynol yn dderbyniol.
Gellir hepgor y geiriad mewn cromfachau sgw芒r os (i) yw鈥檙 dystysgrif yn dilyn yr atwrneiaeth yn yr un ddogfen, neu (ii) bod copi PDF o鈥檙 atwrneiaeth wedi ei llofnodi鈥檔 cael ei chyfuno 芒 chopi PDF o鈥檙 dystysgrif wedi ei llofnodi.
I Gofrestrfa Tir EF
[Dyddiad a phart茂on i鈥檙 atwrneiaeth y rhoddwyd y dystysgrif hon ar ei gyfer (nodwch y pedwar rhoddai cyntaf yn unig os oes mwy na phedwar):]
Rwy鈥檔 gweithredu ar ran y rhoddwr.
Tystiaf, hyd eithaf fy ngwybodaeth a鈥檓 cred, fod y gofynion cymwys a nodir yng nghyfarwyddyd ymarfer 82 ar gyfer defnyddio llofnodion electronig a ardystiwyd gan drawsgludwr wedi eu bodloni.
Llofnod trawsgludwr a reoleiddir yn unigol:
Enw llawn trawsgludwr a reoleiddir yn unigol:
Enw鈥檙 cwmni neu gyflogwr y trawsgludwr a reoleiddir yn unigol:
Cyfeiriad y cwmni neu gyflogwr:
Dyddiad y dystysgrif hon:
12. Pethau i鈥檞 cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.