Canllawiau

Taliadau ex gratia gan elusennau (CC7)

Cyhoeddwyd 1 Mai 2014

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

1. Am beth mae鈥檙 canllaw hwn?

Mae鈥檙 canllaw hwn yn disgrifio鈥檙 gweithdrefnau y mae鈥檔 rhaid i ymddiriedolwyr elusen eu dilyn os ydynt am wneud taliad ex gratia o gronfeydd yr elusen.

2. Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir

Yn y canllaw hwn:

Mae taliad yn cynnwys:

  • ymddiriedolwyr yn ildio鈥檙 hawl i arian neu eiddo y gall yr elusen ei hawlio鈥檔 gyfreithiol ond efallai nad yw wedi鈥檌 dderbyn eto
  • daliad o arian gan ymddiriedolwyr o gronfeydd presennol yr elusen
  • ymddiriedolwyr yn trosglwyddo rhan o eiddo presennol yr elusen, heblaw arian

Ystyr ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw鈥檙 bobl sy鈥檔 gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol yn unol 芒 dogfen lywodraethol yr elusen. Yn nogfen lywodraethol yr elusen gellir eu galw鈥檔 ymddiriedolwyr, ymddiriedolwyr rheoli, aelodau pwyllgor, llywodraethwyr neu gyfarwyddwyr, neu gellir cyfeirio atynt trwy ddefnyddio rhyw deitl arall. Nid yw鈥檙 term yn cynnwys ymddiriedolwyr daliannol neu ymddiriedolwyr gwarchod.

Deddf Elusennau yw .

Dogfen lywodraethol yw unrhyw ddogfen sy鈥檔 pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, Cynllun y Comisiwn neu ddogfen ffurfiol arall.

Ewyllyswr (neu ewyllyswraig) yw rhywun sydd wedi marw ac sydd wedi gwneud ewyllys. (Yn y canllaw hwn, pan gyfeiriwn at 鈥榚wyllyswr鈥 rydym yn cyfeirio at y ddau ryw).

Defnyddir rhaid i gyfeirio at y camau y mae鈥檔 ofynnol i鈥檙 ymddiriedolwyr, neu eu hasiantau neu eu gweithwyr eu cymryd yn 么l y gyfraith.

Pan fyddwn yn defnyddio termau megis dylai鈥檙 ymddiriedolwyr neu awgrymwn, argymhellwn neu cynghorwn, cyfeiriwn at y camau y gallai鈥檙 ymddiriedolwyr, eu hasiantau neu eu gweithwyr eu cymryd, ac sy鈥檔 arfer da yn ein barn ni, ond nid ydynt yn ofynion cyfreithiol.

3. Beth yw taliad ex gratia?

Nid yw 鈥榯aliad ex gratia鈥 yn derm sydd ag ystyr cyfreithiol manwl gywir, ond fe鈥檌 defnyddir yn y canllaw hwn fel ffordd gyfleus o ddisgrifio taliad a wneir gan elusen mewn amgylchiadau arbennig. Dyma ble mae鈥檙 ymddiriedolwyr:

  • credu eu bod dan rwymedigaeth foesol i wneud y taliad; ond
  • nad oes gennych y p诺er i wneud y taliad

Yn ogystal, ni all yr ymddiriedolwyr:

  • gallu cyfiawnhau鈥檙 taliad fel un sydd er lles yr elusen
  • fod o dan unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i wneud y taliad

Os yw ymddiriedolwyr yn ansicr a yw taliad arfaethedig arbennig yn daliad ex gratia ai peidio, dylent geisio cyngor proffesiynol. ##Taliadau eraill sydd angen awdurdod neu gyngor

Ceir taliadau eraill, yn ogystal 芒 thaliadau ex gratia, y gall fod angen i ni eu hawdurdodi, a disgrifir y rhain nesaf.

Y cyntaf yw taliad nad oes unrhyw bw藛 er neu reidrwydd cyfreithiol ar yr ymddiriedolwyr i鈥檞 wneud, ond taliad sydd, yn eu barn nhw, er lles yr elusen i鈥檞 wneud. Gallwn awdurdodi taliad o鈥檙 fath trwy wneud gorchymyn o dan y Ddeddf Elusennau, ar yr amod bod yr ymddiriedolwyr yn fodlon bod gwneud y taliad yn fanteisiol er lles yr elusen; mewn geiriau eraill bydd yr elusen yn cael budd drwy wneud y taliad.

Mae 鈥榤anteisiol鈥 yn golygu mwy na 鈥榗hyfleus鈥 ac mae鈥檔 golygu bod rhaid i鈥檙 elusen gael mantais bendant.

Yr ail yw lle mae ymddiriedolwyr yn ansicr a oes ganddynt yr awdurdod neu beidio o dan ddogfen lywodraethol yr elusen neu o dan y gyfraith gyffredinol i wneud taliad arbennig, neu i gymryd y camau arbennig sydd ganddynt mewn golwg. Gall ansicrwydd o鈥檙 fath godi oherwydd, er enghraifft, nad yw pwerau鈥檙 ymddiriedolwyr fel y disgrifir yn nogfen lywodraethol yr elusen heb eu mynegi鈥檔 glir. Bydd yn briodol yn aml i鈥檙 ymddiriedolwyr geisio eu cyngor proffesiynol eu hunain.

4. Ar ba awdurdod all ymddiriedolwyr wneud taliadau ex gratia?

Mae鈥檔 ofynnol yn 么l y gyfraith i ymddiriedolwyr elusen ddefnyddio cronfeydd ac eiddo鈥檙 elusen er mwyn hyrwyddo dibenion yr elusen yn unig, ac mewn ffyrdd a amlinellir neu a ganiateir gan ddogfen lywodraethol yr elusen. Yn gyffredinol, ni chaniateir i ymddiriedolwyr wyro o鈥檙 rheolaeth cyfraith hon a all, ar yr olwg gyntaf, ymddangos ei bod yn gwahardd elusennau rhag gwneud taliadau ex gratia.

Fodd bynnag, mewn achos llys a benderfynwyd ym 1969 (Yn Re Snowden Dec鈥檇 [1970] 1 Ch 700; [1969] 3 WLR 273; [1969] 3 ALL ER 208) penderfynodd y barnwr y gallai ymddiriedolwyr elusen wneud taliadau ex gratia mewn achosion lle y gallai fod yn deg i ddweud pe byddai鈥檙 elusen yn unigolyn y byddai鈥檔 anghywir yn foesol iddo wrthod gwneud y taliad. Penderfynodd y llys y gallant wneud hynny ar yr amod eu bod yn cael awdurdod y llys neu鈥檙 Twrnai Gwladol yn gyntaf. Mae鈥檙 Ddeddf Elusennau yn estyn yr egwyddor hon i鈥檔 galluogi ni, yn ogystal 芒鈥檙 llys a鈥檙 Twrnai Gwladol, i roi鈥檙 awdurdod angenrheidiol i鈥檙 ymddiriedolwyr wneud y taliad. Wrth ymarfer y pw藛 er i awdurdodi taliadau ex gratia, rydym ni yn destun arolygaeth y Twrnai Gwladol, ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddir ganddo.

5. Pwy all wneud cais am awdurdod i wneud taliad ex gratia?

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 cais gael ei wneud gan ymddiriedolwyr yr elusen sy鈥檔 gallu hawlio鈥檙 cronfeydd y bwriedir gwneud y taliad ohono, er y gall yr ymddiriedolwyr, wrth gwrs, gyfarwyddo eu cyfreithiwr, neu gynghorydd arall, i wneud cais ar eu rhan. Ni allwn dderbyn cais gan y sawl a fyddai鈥檔 cael budd o鈥檙 taliad ex gratia, neu gan weithredwyr ewyllys nad ydynt yn ymddiriedolwyr elusen eu hunain.

6. Gwneud taliadau ex gratia o eiddo a adawyd mewn ewyllys

Roedd yr achos llys y soniwyd amdano yn gynharach (y cyfeirir ato yn syml fel 鈥楻e Snowden鈥) yn ymwneud 芒 rhoddion a adawyd i elusennau penodol mewn ewyllys, ac mae鈥檙 cwestiwn o daliad ex gratia yn codi yn fwyaf cyffredin (ond nid bob amser) yn yr amgylchiadau hyn.

Weithiau bydd elusen yn derbyn rhodd mwy o faint na鈥檙 hyn a fwriadwyd gan yr ewyllyswr oherwydd pwynt technegol cyfreithiol neu amryfusedd ar ran yr ewyllyswr. O ganlyniad bydd unigolyn arall neu unigolion eraill yn cael ei amddifadu o arian neu eiddo y bwriadodd yr ewyllyswr i鈥檙 unigolyn hwnnw ei gael.

Er bod gofyniad cyfreithiol ar yr elusen i gadw鈥檙 rhodd gyfan a dderbyniwyd, gall ymddiriedolwyr elusen ddod i鈥檙 casgliad bod rheidrwydd moesol arnynt i wneud taliad ex gratia i鈥檙 unigolyn o hawl yr elusen er mwyn iddo neu iddi dderbyn yr hyn y bwriadodd yr ewyllyswr iddo neu iddi ei dderbyn. Os yw鈥檙 ymddiriedolwyr am wneud hyn, mae鈥檔 rhaid iddynt gael ein hawdurdod ni cyn gwneud y taliad.

Ar y llaw arall, prin fydd yr achosion lle y mae鈥檔 briodol i鈥檙 ymddiriedolwyr wneud taliad ex gratia lle y bwriadodd yr ewyllyswr adael ei eiddo i鈥檙 elusen oni bai bod y perthnasau yn teimlo nad oedd wedi鈥檌 gyfiawnhau鈥檔 foesol i鈥檞 adael i elusen yn hytrach nag iddynt hwy. Mae hawl gan yr ewyllyswr i werthu ei eiddo fel y dymunai, ac nid yw鈥檙 ffaith bod y perthnasau yn siomedig am nad ydynt wedi derbyn yr arian yn rheswm ynddo鈥檌 hun i ymddiriedolwyr deimlo unrhyw reidrwydd moesol tuag at y perthnasau.

Os yw鈥檙 ewyllyswr wedi gwneud addewid ddifrifol, er nad yw鈥檔 rhwymedig yn gyfreithiol, i rywun arall gellir cyfiawnhau taliad ex gratia gan yr elusen os na gyflawnwyd yr addewid honno gan yr ewyllys.

7. Taliadau ex gratia nad ydynt yn gysylltiedig ag eiddo a adawyd mewn ewyllys

Nid yw achosion sydd heb fod yn gysylltiedig ag ewyllys yn codi yn aml. Ni cheir achos nodweddiadol, ond gall enghraifft gynnwys pan fydd rhywun wedi gwneud rhodd i elusen gan gredu yn rhesymol ond ar gam bod ei amgylchiadau personol yn darparu ar gyfer rhoi rhodd o鈥檙 maint hwnnw ar yr adeg honno. Os daw yn amlwg yn ddiweddarach bod haelioni鈥檙 rhoddwr i鈥檙 elusen wedi gwneud y rhoddwr yn dlawd, gall ymddiriedolwyr elusen deimlo rheidrwydd moesol i wneud taliad ex gratia trwy ddychwelyd y cyfan neu ran o rodd y rhoddwr. Bydd yr un rheolau yn gymwys mewn achos o鈥檙 fath.

8. Beth yw ystyr 鈥榬heidrwydd moesol鈥?

Cyn cysylltu 芒 ni am awdurdod i wneud taliad ex gratia, dylai ymddiriedolwyr ystyried a oes rheidrwydd moesol arnynt tuag at y person hwnnw.

Yn Re Snowden uchod, dywedodd y barnwr nad oedd y pw藛 er i awdurdodi taliad ex gratia

鈥溾 i鈥檞 ddefnyddio ar chwarae bach ond yn hytrach mewn achosion lle y mae鈥檔 deg i ddweud pe byddai鈥檙 elusen yn unigolyn byddai鈥檔 anghywir iddo yn foesol i wrthod gwneud y taliad鈥.

Byddwn yn defnyddio鈥檙 prawf hwnnw wrth ystyried p鈥檜n ai i awdurdodi taliad neu beidio. Mae鈥檔 rhaid i ymddiriedolwyr allu ein darbwyllo fod sail resymol ganddynt dros gredu y byddent yn gweithredu鈥檔 anfoesol trwy wrthod gwneud y taliad. Dylai ymddiriedolwyr gadw mewn cof na fydd unrhyw arian neu eiddo鈥檙 elusen a ddefnyddir i wneud taliad ex gratia ar gael mwyach at ddibenion yr elusen. Felly bydd buddiolwyr yr elusen yn cael eu rhoi o dan anfantais trwy benderfyniad yr ymddiriedolwyr i wneud y taliad ex gratia.

Dylai pob cais am awdurdod i wneud taliad ex gratia gael ei gyfeirio atom ni yn hytrach na鈥檙 llys neu鈥檙 Twrnai Gwladol.

9. Sut dylech chi wneud cais i ni

Gall ymddiriedolwyr wneud cais am ein hawdurdod i wneud taliad ex gratia trwy gwblhau ffurflen gais ar-lein. Mae hon yn nodi鈥檙 wybodaeth a鈥檙 dystiolaeth y mae angen i ni eu gweld pan fyddwn yn ystyried rhoi鈥檙 awdurdod hwn. Yn achos taliad ex gratia y bwriedir ei wneud o eiddo a adawyd i鈥檙 elusen o dan ewyllys, dylai鈥檙 ymddiriedolwyr amlinellu ffeithiau鈥檙 achos mor glir ag y bo modd a darparu鈥檙 canlynol:

  • copi o鈥檙 ewyllys a鈥檌 brofeb
  • tystiolaeth i ddangos nad yw鈥檙 ewyllys yn cael gwared ag ystad yr ewyllyswr yn y modd yr oedd yr ewyllyswr wedi鈥檌 fwriadu mewn gwirionedd
  • tystiolaeth i ddangos pam cafodd yr ewyllyswr ei rwystro rhag gwireddu ei wir fwriad. Ni fydd yn ddigon i nodi bod yr ewyllyswr wedi mynegi dymuniad i roi budd i rywun os cafodd gyfle i wireddu鈥檙 dymuniad hwnnw ond ni wnaeth unrhyw beth yn ei gylch
  • datganiad yn amlinellu pam bod yr ymddiriedolwyr yn teimlo bod rheidrwydd moesol arnynt i wneud y taliad a chopi o gofnodion y cyfarfod lle y penderfynwyd hynny
  • copi o unrhyw gyngor cyfreithiol a gafodd yr ymddiriedolwyr cyn gwneud y penderfyniad hwn

Mae鈥檔 bwysig bod y dystiolaeth yn glir ac yn ddiduedd. Fel rheol ni fyddai datganiad gan rywun sy鈥檔 honni bod ganddo neu ganddi hawl foesol i gyfran o鈥檙 ystad yn ddigon ynddo鈥檌 hun, oherwydd nid yw鈥檔 ddiduedd. Nid oes angen datganiadau ar lw fel rheol, ond os mai rhywun sydd 芒 diddordeb yng nghanlyniad y cais yn unig all roi鈥檙 dystiolaeth gryfaf, gall datganiad statudol fod yn briodol.

Gall tystiolaeth arall gynnwys:

  • datganiadau neu ddatganiadau statudol gan bobl annibynnol yngly藛n 芒 gwir fwriadau鈥檙 ewyllyswr
  • datganiadau ysgrifenedig gan yr ewyllyswr ei hun, yn mynegi ei wir fwriadau
  • gweithredoedd y sawl y bwriedir gwneud taliad ex gratia iddo. Gall rhywun yr addawyd etifeddiaeth iddo gan yr ewyllyswr wneud ymrwymiadau neu gymryd camau yn sg卯l yraddewid hon

Byddwn yn gofyn i鈥檙 ymddiriedolwyr am wybodaeth neu dystiolaeth bellach os ydynt o鈥檙 farn bod angen hyn er mwyn ein galluogi ni i ddod i benderfyniad. Os ydym yn penderfynu awdurdodi鈥檙 taliad, byddwn yn rhoi ein hawdurdod trwy orchymyn. Mae angen i鈥檙 gorchymyn gael ei gadw fel tystiolaeth bod taliad ex gratia wedi cael ei wneud gyda鈥檔 hawdurdod ni. Mae鈥檔 bosib y bydd angen i archwilydd neu arolygydd annibynnol yr elusen ei weld hefyd.

.

10. Os yw鈥檔 cynnwys mwy nag un elusen

Os yw mwy nag un elusen yn bwriadu gwneud cais am awdurdod i wneud taliad ex gratia mewn perthynas 芒 rhoddion yn yr un ewyllys, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 elusennau gyflwyno ceisiadau ar wah芒n am awdurdod (er y gall pob elusen enwebu鈥檙 un person i wneud cais ar eu rhan). Mae鈥檔 rhaid i geisiadau gynnwys gwybodaeth a thystiolaeth ar wah芒n gan bob elusen i gefnogi鈥檙 achos. Mae鈥檔 rhaid i hyn gadarnhau bod ymddiriedolwyr pob elusen yn teimlo eu bod o dan reidrwydd moesol ac esbonio鈥檙 sail am y gred honno.

11. Cyfeiriad at y Twrnai Gwladol

Byddwn yn cyfeirio cais am awdurdod i wneud taliad ex gratia at y Twrnai Gwladol:

  • os yw鈥檙 cyfarwyddiadau a gawn gan y Twrnai Gwladol yn ein rhagwahardd rhag awdurdodi鈥檙 taliad ein hunain
  • os ydym o鈥檙 farn ei bod yn ddymunol i鈥檙 cais arbennig hwnnw gael ei drin gan y Twrnai Gwladol yn hytrach na gennym ni. Mae鈥檔 bosib mai dyma fydd yr achos os yw鈥檙 cais yn codi mater o egwyddor neu arfer arbennig y mae angen arweiniad y Twrnai Gwladol arno

12. Beth sy鈥檔 digwydd os yw cais yn cael ei wrthod?

Os ydym yn gwrthod gwneud gorchymyn, gall yr elusen sy鈥檔 gofyn amdano wneud cais newydd yn uniongyrchol i鈥檙 Twrnai Gwladol a all ganiat谩u鈥檙 taliad neu wrthod gwneud hynny.

Ni ellir gwneud cais i鈥檙 llys am ganiat芒d heb orchymyn gan y Comisiwn oherwydd byddai cais o鈥檙 fath yn cael ei ystyried yn 鈥渨eithrediad elusen鈥 o fewn y Ddeddf Elusennau. Os ydym yn gwrthod gwneud gorchymyn gellir gwneud cais i鈥檙 llys am orchymyn o鈥檙 fath.