Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 2: cofrestriad cyntaf os yw gweithredoedd ar goll neu wedi eu dinistrio

Diweddarwyd 19 Rhagfyr 2023

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Gallwch wneud cais am gofrestriad cyntaf tir os collwyd neu os dinistriwyd gweithredoedd yr eiddo. Mae gan Gofrestrfa Tir EF ofynion a threfnau arbennig ar gyfer y ceisiadau hyn, sy鈥檔 cael eu dangos yn y cyfarwyddyd hwn. Ceir darpariaethau penodol o ran ceisiadau lle y mae gweithredoedd teitl wedi eu colli neu eu dinistrio yn rheol 27 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Os yw teitl meddiannol i鈥檞 roi, rhaid cydymffurfio 芒 gofynion adran 9(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Bydd angen i chi roi disgrifiad o鈥檙 digwyddiadau sydd wedi arwain at y colli neu ddinistrio, y byddwn yn ei ystyried ar ei deilyngdod ei hun. Fodd bynnag, yn 么l pob tebyg byddwn yn rhoi teitl meddiannol yn unig lle nad yw鈥檙 dystiolaeth a ddarparwyd yn cadarnhau鈥檙 digwyddiadau hynny a hanes y teitl tu hwnt i amheuaeth. Yn aml mae鈥檔 bwysicach profi pwy oedd yn dal y gweithredoedd cyn eu colli neu eu dinistrio na phenderfynu beth oedd ynddynt.

Weithiau pan fydd gweithredoedd yr eiddo wedi eu colli neu eu dinistrio byddwn yn gofyn i arolygwr tir o鈥檙 Arolwg Ordnans archwilio鈥檙 tir cyn i ni gwblhau鈥檙 cofrestriad. Efallai bydd ffi yn daladwy os oes angen archwiliad.

Mae llawer o鈥檙 ceisiadau hyn yn gysylltiedig 芒 sefyllfaoedd lle cafodd y gweithredoedd (neu rai ohonynt) eu colli neu eu dinistrio tra yng ngafael trawsgludwr, banc neu gymdeithas adeiladu (neu ar eu ffordd yn 么l yn y post). Fodd bynnag, byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau lle digwyddodd y colli neu ddinistrio o dan amgylchiadau eraill. Gall y rhain gynnwys lladrad gweithredoedd, neu eu dinistrio mewn trychineb naturiol neu o ganlyniad i ymosodiad gelyn.

2. Gwneud cais

Dylech wneud cais am gofrestriad cyntaf gan ddefnyddio ffurflen FR1 a ffurflen DL a sicrhau bod y t芒l priodol wedi ei gyflwyno. Os ydych yn ansicr o sut i wneud cais am gofrestriad cyntaf cyfeiriwch at gyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf.

Yn lle cyflwyno鈥檙 teitl dogfennol arferol bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • rhoi disgrifiad o鈥檙 digwyddiadau sydd wedi arwain at y colli neu ddinistrio
  • ailffurfio鈥檙 teitl hyd y gallwch
  • rhoi tystiolaeth o bwy yw鈥檙 ceisydd

Argymhellwn eich bod yn anfon ffurflen ST3: Datganiad o wirionedd i gefnogi cais i gofrestru tir ar sail gweithredoedd a gollwyd neu a ddinistriwyd gyda ffurflen FR1 a ffurflen DL. Mae鈥檙 ffurflen hon yn gosod y fframwaith ar gyfer y wybodaeth a鈥檙 dystiolaeth y bydd yn rhaid i chi eu darparu.

Yn unol 芒鈥檔 Cyfarwyddyd: Dogfennau i鈥檞 hanfon gyda chais am gofrestriad cyntaf 鈥 Gweithredoedd coll a meddiant gwrthgefn, dim ond cop茂au ardystiedig o ffurflen ST3, datganiadau statudol a thystiolaeth arall, megis ffurflen 1D1 a ffurflen ID2, y dylid eu cyflwyno. Unwaith y byddwn wedi sganio鈥檙 dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a鈥檙 cop茂au ardystiedig.

Os nad ydych yn cadw鈥檙 gwreiddiol neu eich cop茂au eich hunan, a bod eich cais yn cael ei wrthod neu ei ddileu, gallwch gael cop茂au o鈥檙 dogfennau sydd wedi eu sganio a鈥檜 dinistrio (ac eithrio tystiolaeth hunaniaeth unrhyw berson). Lle bo modd, dylid gwneud pob cais am gop茂au swyddogol yn electronig. Mae cyfarwyddyd ymarfer 11: Atodiad: dulliau cyflenwi yn cynnwys manylion y dull cyflwyno ar gyfer ceisiadau am gop茂au swyddogol.

Nid oes yn rhaid defnyddio ffurflen ST3, ac nid yw ei defnyddio鈥檔 gwarantu y bydd eich cais yn llwyddiannus, ond bydd yn eich cynorthwyo i wneud yn siwr nad ydych wedi hepgor unrhyw ofynion a nodir yn fanwl isod.

Fodd bynnag, bydd unrhyw ddatganiad o wirionedd sy鈥檔 cwrdd 芒 gofynion rheol 215A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn dderbyniol, fel y bydd datganiad statudol. Gweler Datganiad o wirionedd.

Fel gydag unrhyw gais am gofrestriad cyntaf mae鈥檔 ddyletswydd arnoch i ddadlennu rhai mathau o fuddion gor-redol os ydynt yn effeithio ar y tir. Mae dadlennu鈥檔 arbennig o ddefnyddiol lle mae gweithredoedd teitl wedi eu colli neu eu dinistrio, gan nad yw buddion fel hawddfreintiau, y g诺yr perchennog yr ystad eu bod yn effeithio ar y tir, efallai yn ymddangos o鈥檙 teitl dogfennol a ailffurfiwyd. Mae cyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol a鈥檜 dadlennu yn cynnwys gwybodaeth am ba fuddion y dylech eu dadlennu a sut i鈥檞 dadlennu.

O dderbyn y cais mae鈥檔 bwysig iawn i Gofrestrfa Tir EF allu adnabod yr eiddo sy鈥檔 destun eich cais i鈥檞 gofrestru ar fap yr Arolwg Ordnans (i gydymffurfio 芒 rheol 24(1)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Os na allwn wneud hyn byddwn yn gwrthod y cais. Gall y teitl a ailffurfiwyd gynnwys cynllun sy鈥檔 dangos y tir ar fap yr Arolwg Ordnans. Os nad yw, ac y credwch y gallwn ei chael yn anodd adnabod yr eiddo o ddisgrifiad llafar, rhaid i chi ddarparu cynllun a fydd yn caniat谩u i ni nodi鈥檙 tir ar fap yr Arolwg Ordnans. Yn gyffredinol ni fyddwn yn ystyried disgrifiadau llafar yn addas heblaw:

  • eu bod yn gysylltiedig 芒 chyfeiriadau post (heblaw fflatiau neu adeiladau lle bydd seler yn estyn tu hwnt i鈥檙 ffin ar y ddaear 鈥 yn yr achosion hyn rhaid i chi ddarparu cynllun, rheol 26(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003)
  • bod yr eiddo wedi ei ffensio鈥檔 llawn a鈥檌 bod yn amlwg bod yr holl gwrtil yn ffurfio rhan o鈥檙 eiddo

2.1 Disgrifiad o鈥檙 digwyddiadau鈥檔 arwain at y colli neu ddinistrio

Mae angen disgrifiad llawn a ffeithiol o鈥檙 digwyddiadau yn arwain at golli neu ddinistrio鈥檙 gweithredoedd a materion eraill perthnasol i鈥檙 teitl ar Gofrestrfa Tir EF. Rhaid i鈥檙 sawl sy鈥檔 gwybod fwyaf am y materion arbennig a ddisgrifiwyd roi鈥檙 adroddiad.

Mae鈥檔 dilyn ei bod yn eithaf tebygol y bydd yr adroddiad a roddwch yn cynnwys nifer o ddatganiadau statudol, datganiadau o wirionedd neu dystysgrifau oddi wrth:

  • y ceisydd
  • un trawsgludwr neu fwy
  • swyddog banc neu gymdeithas adeiladu

Er enghraifft, lle collwyd y gweithredoedd tra yng ngafael banc a bod trawsgludwr wedi archwilio鈥檙 teitl yn ddiweddar, dylai鈥檙 trawsgludwr roi tystysgrif neu ddatganiad ar y teitl a dylai un o swyddogion y banc roi cyfrif am y golled.

Bydd angen i鈥檆h adroddiad brofi鈥檙 canlynol:

  • gan bwy oedd y gweithredoedd ac ymhle鈥檙 oeddent yn cael eu dal pan gawsant eu colli neu eu dinistrio
  • pam oedd y gweithredoedd yng ngafael y person, ee a oeddent yn cael eu dal i鈥檞 cadw鈥檔 ddiogel neu fel gwarant am arian dyledus neu o dan hawlrwym
  • pryd, ymhle a sut y digwyddodd y golled neu ddinistr
  • pa gamau a gymrwyd i adennill y gweithredoedd
  • a oedd y perchennog ar adeg y golled wedi creu unrhyw forgais, arwystl neu hawlrwym ar yr eiddo neu wedi adneuo鈥檙 gweithredoedd gydag unrhyw unigolyn, cwmni neu gorff fel gwarant am arian
  • a yw鈥檙 ceisydd yn meddiannu neu鈥檔 derbyn y rhent a鈥檙 proffidiau; gweler Tystiolaeth o feddiant
  • bod gan y ceisydd hawl i wneud cais am gofrestriad trwy fod yr ystad gyfreithiol wedi ei breinio ynddynt (neu fod ganddynt hawl i fynnu cael yr ystad gyfreithiol wedi ei breinio ynddynt); gweler Ailffurfio teitl

Fel arfer dylai鈥檙 adroddiad fod ar ffurf datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd. Fodd bynnag, byddwn yn barod i dderbyn tystysgrif trawsgludwr neu swyddog awdurdodedig addas o鈥檙 banc neu gymdeithas adeiladu, yn disgrifio colli neu ddinistrio gweithredoedd oedd yn eu gafael. Rhaid i鈥檙 trawsgludwr lofnodi鈥檙 dystysgrif yn bersonol, ac nid yn enw cwmni.

Bydd unrhyw ddatganiadau statudol neu ddatganiadau o wirionedd gwreiddiol yn cael eu sganio a鈥檜 dinistrio o dan ein polisi ar drin dogfennau.

2.2 Ailffurfio teitl

Er mwyn cefnogi鈥檙 disgrifiad o golli neu ddinistrio鈥檙 gweithredoedd rhaid i chi geisio ailffurfio鈥檙 teitl i ddangos sut mae wedi disgyn i鈥檙 ceisydd. Bydd natur ac ansawdd y dystiolaeth eilaidd yn amrywio ond rhaid i chi gyflwyno鈥檙 dystiolaeth orau a allwch. Nid oes modd s么n am bob sefyllfa yn y cyfarwyddyd hwn ond gall yr awgrymiadau canlynol eich helpu wrth baratoi鈥檙 math hwn o gais.

2.2.1 Cynnwys gweithredoedd a chyflawni

Y dystiolaeth eilaidd orau bosibl o deitl yw copi ardystiedig neu ddrafft wedi ei gwblhau o鈥檙 trawsgludiad, trosglwyddiad neu aseiniad i鈥檙 ceisydd (ac unrhyw forgais sy鈥檔 bodoli) ynghyd 芒 chop茂au ardystiedig, drafftiau wedi eu cwblhau neu grynodebau archwiliedig o鈥檙 gweithredoedd yn ffurfio鈥檙 teitl cynharach. Ble bynnag y bo modd, dylid ardystio cop茂au fel cop茂au cywir a dylid marcio crynodebau fel wedi eu harchwilio gan drawsgludwr.

Dylid cefnogi鈥檙 cop茂au o鈥檙 gweithredoedd gyda datganiad statudol, datganiad o wirionedd neu dystysgrif, fel y crybwyllwyd yn Disgrifiad o鈥檙 digwyddiadau鈥檔 arwain at y colli neu ddinistrio, yn profi鈥檙 canlynol hyd y bo modd:

  • bod y teitl wedi cael ei ymchwilio yn y ffordd arferol
  • o ba ffynhonnell y cafwyd y copi o鈥檙 gweithredoedd
  • y cyflawnwyd y trawsgludiad, trosglwyddiad neu aseiniad i鈥檙 ceisydd (ac unrhyw forgais) yn briodol a鈥檌 stampio鈥檔 ddigonol

Os collwyd yr holl gop茂au, drafftiau a chrynodebau hefyd, o dan rai amgylchiadau, fel lle鈥檙 oedd yr eiddo鈥檔 ffurfio rhan o ystad fwy, efallai y gallwch gael rhai yn eu lle oddi wrth y trawsgludwr a weithredodd ar ran gwerthwr y ceisydd.

Mae modd dangos tystiolaeth o ansawdd sylweddol is o feddiant a theitl gyda鈥檙 canlynol:

  • rhestr o weithredoedd gyda derbynneb (os yw ei ffynhonnell a鈥檌 tharddle yn cael eu cadarnhau trwy ddatganiad statudol, datganiad o wirionedd neu dystysgrif)
  • cop茂au o ddatganiadau treth ystadau neu dreth etifeddiant, derbynebau am ardrethi a threthi, polis茂au yswiriant t芒n a derbynebau am bremiymau yswiriant

2.2.2 Eiddo 芒 morgais arno

Os oedd morgeisai yn dal y gweithredoedd pan gawsant eu colli neu eu dinistrio, mae datganiad statudol, datganiad o wirionedd neu dystysgrif y trawsgludwr a ymchwiliodd y teitl, cyn i鈥檙 rhoddwr benthyg roi benthyg, yn ffurfio tystiolaeth ategol ddefnyddiol o deitl y ceisydd.

Lle cafodd y gweithredoedd eu colli neu eu dinistrio tra yng ngafael morgeisai, rhaid i ddisgrifiad y digwyddiadau naill ai brofi bod y morgais yn bodoli neu roi manylion o鈥檌 ad-dalu.

2.2.3 Eiddo diforgais

Rhaid i ddisgrifiad y digwyddiadau wneud yn glir a oedd morgais ar yr eiddo pan gafodd y gweithredoedd eu colli neu eu dinistrio. Dylai un neu fwy o鈥檙 datganiadau statudol neu ddatganiadau o wirionedd ategol sy鈥檔 ffurfio鈥檙 disgrifiad ddatgan yn bendant nad oedd y perchennog, ar adeg y colli neu ddinistrio, wedi creu unrhyw forgais, arwystl na hawlrwym ar yr eiddo nac wedi adneuo unrhyw un o weithredoedd yr eiddo gydag unrhyw unigolyn, cwmni neu gorff fel gwarant am arian.

2.2.4 Eiddo prydlesol

Os cafodd prydles wreiddiol ei cholli neu ei dinistrio, fel arfer mae modd cael copi ardystiedig o wrthran y brydles.

Mae鈥檙 rhan fwyaf o brydlesi鈥檔 cynnwys darpariaethau sy鈥檔 mynnu cofrestru aseiniadau gyda thrawsgludwr y prydleswr a/neu yn mynnu rhoi trwydded i neilltuo鈥檙 brydles. Os felly y mae, efallai y gall trawsgludwr y prydleswr roi manylion o gofnod y dogfennau a gyflwynwyd gan aseineion olynol a/neu drwyddedau i neilltuo a roddwyd. Sut bynnag, bydd y rifersiynydd presennol (neu ei asiant) yn gwybod pwy sydd wedi talu鈥檙 rhent yn ystod y cyfnod perchnogaeth cyfredol.

2.2.5 Chwiliadau pridiannau tir

Dylid cyflwyno chwiliadau pridiannau tir ar geisiadau sydd ar goll neu wedi eu dinistrio yn yr un modd ag unrhyw gais cofrestriad cyntaf arall. Sylweddolwn, fodd bynnag, na fydd yn bosibl efallai, i nodi perchnogion ystad y mae angen gwneud chwiliadau pridiannau tir yn eu herbyn am fod y gweithredoedd sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 teitl digofrestredig ar goll neu wedi eu dinistrio, ond dylech gyflwyno鈥檙 chwiliadau canlynol o leiaf gyda鈥檙 cais, wedi eu gwneud yn enw llawn yr unigolyn neu gwmni y gwneir chwiliad yn eu herbyn a chan ddefnyddio鈥檙 sir gywir ac unrhyw siroedd blaenorol ar gyfer yr eiddo (mae angen chwiliad llawn ar dystysgrif K17 neu K18 arnom (hynny yw nid wedi ei gyfyngu i 鈥楳ethdaliad yn Unig鈥)).

  • Y ceisydd o ddyddiad y caffael i ddyddiad y cofrestru
  • Prynwr uniongyrchol y ceisydd, lle mae鈥檔 wybyddus
  • Yr ymadawedig a鈥檙 cynrychiolydd(cynrychiolwyr) personol lle mai鈥檙 olaf yw鈥檙 prynwr i鈥檙 ceisydd neu鈥檙 ceisydd
  • Y landlord lle y mae鈥檙 tenant gwreiddiol yn gwneud cais am roi teitl llwyr
  • Y cymerwr benthyg lle y mae鈥檙 ceisydd yn caffael gan forgeisiai sy鈥檔 gweithredu o dan b诺er gwerthu, o ddyddiad y caffael gan y cymerwr benthyg i ddyddiad y gwerthiant gan y morgeisiai
  • Daliwr arall yr ystad gyfreithiol, os yw鈥檔 wybyddus
  • Gall y cofrestrydd gyfarwyddo鈥檙 cais i wneud chwiliadau os nad ydynt wedi eu cyflwyno (rheol 30 o Reolau Cofrestru Tir 2003)

Os nad oes modd i drawsgludwr ardystio nad yw cofnod yn berthnasol, dylech allu gael copi swyddfa o鈥檙 cofnod o鈥檙 Adran Pridiannau Tir a chyflwyno hwnnw, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth bellach o鈥檙 budd a warchodwyd (er enghraifft copi o鈥檙 ddogfen a greodd y budd).

Os yw鈥檔 ymddangos bod y cofnod yn berthnasol i鈥檙 eiddo, byddwn yn cofnodi鈥檙 cofnod yn y gofrestr.

2.2.6 Cofrestrfeydd gweithredoedd Middlesex a Swydd Efrog gynt

Os yw鈥檙 tir yn yr ardal oedd gynt o dan un o鈥檙 cofrestrfeydd gweithredoedd hyn, gall datganiad statudol, datganiad o wirionedd neu dystysgrif trawsgludwr sydd wedi archwilio cofysgrifau gweithredoedd brofi, neu gynorthwyo profi, cadwyn deitl.

Caeodd y cofrestrfeydd gweithredoedd erbyn hyn. Gallwch ddod o hyd i sut i gysylltu 芒鈥檙 cyrff sy鈥檔 dal y cofnodion hyn yn Manylion cysylltu cofrestrfeydd gweithredoedd sirol blaenorol.

Sylwer: Nid oedd Caer Efrog o fewn ardaloedd cofrestrfeydd gweithredoedd Swydd Efrog gynt.

2.2.7 Tystiolaeth o feddiant

Fel arfer dylai disgrifiad y digwyddiadau brofi bod y ceisydd naill ai mewn union feddiant o鈥檙 holl dir neu鈥檔 derbyn y rhent a鈥檙 proffidiau ohono heb i unrhyw hawliad gwrthwynebus fod wedi cael ei wneud. Mae鈥檙 wybodaeth hon yn hanfodol lle bo teitl meddiannol yn cael ei roi (adran 9(5)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mewn achosion eraill bydd o gymorth i鈥檔 bodloni bod gan y ceisydd hawl i wneud cais am gofrestriad.

Cofiwch gynnwys tystiolaeth o feddiant gyda鈥檆h cais. Ar gyfer eiddo, gall hyn gynnwys bil cyfleustod neu fil cyngor neu os yw鈥檙 ceisydd yn derbyn y rhent a鈥檙 proffidiau, cop茂au o鈥檙 llyfr(au) rhent neu dderbynebau. Ar gyfer darn o dir nad yw鈥檔 cynnwys eiddo a lle nad yw鈥檙 rhent a鈥檙 proffidiau gan y perchennog, dylai datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd fanylu sut y mae鈥檙 tir ym meddiant y ceisydd.

2.2.8 Ff茂oedd

Mae ffi o dan raddfa 1 y Gorchymyn Cofrestru Tir cyfredol yn daladwy ar werth yr ystad yn y tir a gynhwysir yn y cais (erthygl 2). Os gwneir cais gwirfoddol, caiff y ffi hon ei gostwng gan hyd at 25% (o dan erthygl 2(5). Nid yw鈥檙 gostyngiad mewn ff茂oedd yn gymwys i geisiadau am gofrestriad cyntaf proffidiau a rhyddfreintiau neu am fwynfeydd a mwynau ar wah芒n i鈥檙 wyneb.

Mae鈥檔 bosibl y bydd ffi ychwanegol o 拢40 yn daladwy o dan erthygl 11 y os yw Cofrestrfa Tir EF yn penderfynu bod archwiliad o鈥檙 tir sydd i鈥檞 gofrestru鈥檔 ofynnol. Byddwn yn cysylltu 芒 chi am y ffi hon, os yw鈥檔 ofynnol.

2.3 Tystiolaeth hunaniaeth

Gall Cofrestrfa Tir EF fynnu tystiolaeth o bwy yw鈥檙 ceiswyr am gofrestriad cyntaf pan fyddant yn honni bod gweithredoedd yr eiddo wedi eu colli neu eu dinistrio. Bydd y dystiolaeth hon o gymorth i ddangos bod y ceisydd yn dal yr ystad gyfreithiol neu 芒 hawl i wneud cais am gofrestriad. Mae hefyd yn amddiffyniad pwysig rhag twyll.

2.3.1 Pan nad yw tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol

Fel rheol, nid yw Cofrestrfa Tir EF yn gofyn am dystiolaeth hunaniaeth lle caiff y cais ei gyflwyno drwy un o鈥檙 canlynol:

  • trawsgludwyr sy鈥檔 gwneud cais am gofrestriad oherwydd bod gweithredoedd yr eiddo wedi mynd ar goll tra yn eu gafael
  • prif roddwyr benthyg morgeisi sy鈥檔 gwneud cais am gofrestriad oherwydd bod gweithredoedd yr eiddo yn cael eu dal fel gwarant ar gyfer morgais y rhoddwr benthyg ac wedi mynd ar goll tra yn eu gafael
  • swyddog gydag awdurdod priodol ar ran awdurdod lleol, adran o鈥檙 llywodraeth neu gorff adnabyddus ledled y wlad sy鈥檔 gwneud cais am gofrestriad oherwydd bod gweithredoedd teitl yn ymwneud 芒鈥檜 tir, neu dir y mae ganddynt forgais arno, wedi mynd ar goll tra yn eu gafael

Fodd bynnag, ym mhob achos mae Cofrestrfa Tir EF yn cadw鈥檙 hawl i wneud gwiriadau hunaniaeth a gweithredu trefnau cadarnhau ychwanegol o ran hunaniaeth.

Ni fydd angen tystiolaeth o bwy yw derbynnydd neu ddatodwr cwmni arnom. Rhaid i chi ddarparu鈥檙 canlynol, fodd bynnag.

  • Tystiolaeth o benodi鈥檙 derbynnydd neu ddatodwr
  • Lle caiff derbynnydd ei benodi o dan forgais neu arwystl, copi ardystiedig o鈥檙 morgais neu arwystl

Ymhob achos arall rhaid i ni gael tystiolaeth o bwy yw鈥檙 ceisydd am gofrestriad cyntaf lle cafodd gweithredoedd yr eiddo eu colli neu eu dinistrio.

2.3.2 Pryd y mae tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol

Bydd tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ym mhob achos arall na cheir cyfeiriad atynt yn Pan nad yw tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol. Lle nad yw鈥檙 ceiswyr yn cael eu cynrychioli gan drawsgludwr (er enghraifft cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig), bydd yn rhaid iddynt gyflwyno ffurflen tystiolaeth hunaniaeth ffurflen ID1 (unigolion) neu ffurflen ID2 (cwmn茂au a chorfforaethau). Am fanylion pellach gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth.

2.4 Cyflwyno gweithredoedd a gollwyd o ddod o hyd iddynt

Rhaid i chi amg谩u ymrwymiad gyda鈥檙 cais y byddwch yn anfon unrhyw weithredoedd a gollwyd i Gofrestrfa Tir EF os ceir hyd iddynt wedi hynny. Os daw rhagor o dystiolaeth o deitl, boed yn ffafriol i鈥檙 perchennog cofrestredig neu beidio, i鈥檙 amlwg ar 么l cwblhau鈥檙 cais, dylid gwneud cais arall os oes angen uwchraddio鈥檙 teitl. I wneud cais, dylech gynnwys trafodiad 鈥楿wchraddio Dosbarth Teitl鈥 yn eich cais ac uwchlwytho ffurflen UT1.

3. Cofnodion yn y gofrestr

Byddwn yn gwneud cofnod amddiffynnol yn y gofrestr yn aml i warchod yn erbyn bodolaeth llyffetheiriau megis cyfamodau cyfyngu neu rent-daliadau a allai effeithio ar yr eiddo. Ni fydd cofnod amddiffynnol yn cyfeirio at hawddfreintiau cyfreithiol oherwydd bydd y rhain yn fuddion gor-redol ar gofrestriad cyntaf.

3.1 Cyfamodau cyfyngu heb eu dadlennu

Os na fu modd i chi ailffurfio鈥檙 teitl yn gyfan gwbl, gall gweithredoedd a gollwyd gynnwys neu gyfeirio at gyfamodau cyfyngu, all beidio bod yn amlwg o鈥檙 cais fel arall. Er enghraifft, mae鈥檔 arbennig o anodd darganfod bodolaeth cyfamodau yr aeth gwerthwr iddynt, fel cyfamodau bragdy. Lle bo鈥檙 teitl a ailffurfiwyd yn anghyflawn byddwn yn gwneud cofnod amddiffynnol yn y Gofrestr Arwystlon. Bydd y cofnod yn datgan bod y fath gyfamodau cyfyngu ar y tir ag a osodwyd arno cyn dyddiad y cofrestriad cyntaf, i鈥檙 graddau bod cyfamodau o鈥檙 fath yn bodoli a bod modd eu gorfodi.

Byddwn yn gwneud y cofnod hwn oherwydd y gall y sawl sydd 芒 hawl i fudd y cyfamodau ddal i鈥檞 gorfodi. Pe digwyddai hyn neu pe cywirwyd y gofrestr rywbryd wedyn i gynnwys y cyfamodau, ar yr olwg gyntaf byddai gan y perchennog cofrestredig hawl i indemniad. Ar y llaw arall, gall y sawl sydd 芒 hawl i fudd y cyfamodau fod 芒 hawl i indemniad os gwrthodwn gywiro鈥檙 gofrestr.

Os bu modd i chi ailffurfio鈥檙 teitl yn gyfan gwbl a darparu cop茂au derbyniol o鈥檙 holl weithredoedd, byddwn yn archwilio鈥檙 teitl yn y ffordd arferol ac yn gwneud unrhyw gofnodion priodol ar gyfer cyfamodau cyfyngu. Yn yr achosion hyn ni fyddwn yn gwneud cofnod amddiffynnol oni bai fod rhyw reswm arall dros wneud hynny, er enghraifft, lle bo鈥檙 gwreiddyn teitl yn forgais neu offeryn penodol sy鈥檔 annhebygol o gyfeirio at gyfamodau cyfyngu.

3.2 Cop茂au heb eu gwirio o gyfamodau cyfyngu

Efallai y bydd yn bosibl i chi gyflwyno dim ond cop茂au heb eu gwirio o gyfamodau cyfyngu. Yn 么l darpariaethau paragraff 1 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 gall unrhyw un sy鈥檔 dioddef colled o ganlyniad i gywiro鈥檙 gofrestr, neu gamgymeriad y byddai ei gywiro yn golygu cywiro鈥檙 gofrestr, hawlio indemniad. Os byddwn yn gorfod cywiro鈥檙 gofrestr oherwydd bod manylion cyfamodau cyfyngu a gynhwyswyd gennym yn y gofrestr yn anghywir neu鈥檔 anghyflawn gallai arwain at hawliad o鈥檙 fath.

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn aml yn derbyn ceisiadau am gofrestriad cyntaf yn cynnwys manylion cyfamodau cyfyngu heb eu harchwilio. Os caiff y cyfamodau hyn eu cynnwys yn y gofrestr, rydym i bob diben yn gwarantu eu cywirdeb. Byddwn yn gwneud hyn dim ond lle bo perygl bod y crynodeb neu gopi yn ddiffygiol mor fychan fel bod modd eu trin yn ddiogel fel tystiolaeth gadarn o delerau鈥檙 weithred.

Byddwn yn trin pob achos yn 么l ei deilyngdod. Fodd bynnag, yn gyffredinol:

  • fel arfer caiff crynodebau argraffedig eu hystyried yn foddhaol
  • mae modd derbyn crynodeb a deipiwyd os yw鈥檔 ymddangos ei fod yn gyflawn ac wedi ei baratoi鈥檔 ofalus, yn arbennig pan fo鈥檙 llain o dir sy鈥檔 teimlo effaith y cyfamodau yn un sylweddol (fel bod gwybodaeth helaeth am y cyfamodau).

Byddwn yn ystyried y canlynol hefyd.

  • Lle bo鈥檙 cyfamodau yn cael eu dangos mewn copi o weithred ddiweddarach, a yw鈥檙 copi hwnnw wedi ei nodi fel archwiliwyd neu beidio
  • Natur y cyfamodau eu hunain
  • Gwerth a sefyllfa鈥檙 tir

Yn achos hen weithredoedd Middlesex neu Swydd Efrog, efallai y bydd modd cael tystiolaeth ategol o gofnodion yr hen gofrestrfeydd gweithredoedd. (Gweler Cofrestrfeydd gweithredoedd Middlesex a Swydd Efrog gynt)

Os na allwn warantu cywirdeb manylion cyfamodau cyfyngu heb eu gwirio, byddwn yn gwneud cofnod i鈥檙 perwyl bod y weithred berthnasol yn cynnwys cyfamodau cyfyngu ond na chyflwynwyd naill ai鈥檙 offeryn gwreiddiol na chopi ardystiedig na chrynodeb archwiliedig ohono ar gofrestriad cyntaf.

Fodd bynnag, rydym wedi cytuno 芒 Chymdeithas y Cyfreithwyr i wneud cofnod heb warant fel a ganlyn pan fo cyfreithiwr yn gofyn yn benodol amdano:

鈥淢ae [trawsgludiad] y tir yn y teitl hwn [a thir arall] dyddiedig 鈥撯撯撯撯撯撯 a wnaed rhwng 鈥撯撯撯撯撯撯 yn cynnwys cyfamodau cyfyngu ond ni chyflwynwyd manylion ohonynt wedi eu gwirio ar gofrestriad cyntaf. Darparwyd y manylion o鈥檙 hyn sy鈥檔 honni i fod y cyfryw gyfamodau yn yr atodlen o gyfamodau cyfyngu i hyn gan 鈥撯撯撯撯撯撯, yn gweithredu ar ran gwerthwr yn [rhowch y flwyddyn].鈥

Mae鈥檙 cytundeb gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr yn cwmpasu ceisiadau a gyflwynwyd gan gyfreithwyr yn unig. Os ydych am i ni wneud y cofnod hwn bydd angen i chi ddweud wrthym mewn llythyr eglurhaol.

3.3 Rhent-daliadau heb eu dadlennu

Gallwn wneud cofnod amddiffynnol yn y gofrestr pan fo鈥檙 tir mewn ardal lle mae rhent-daliadau鈥檔 gyffredin. Caiff y cofnod ei wneud o dan amgylchiadau tebyg i鈥檙 rhai ar gyfer y cofnod amddiffynnol o ran cyfamodau cyfyngu, a gaiff ei grybwyll yn Cyfamodau cyfyngu heb eu dadlennu.

3.4 Hawddfreintiau

Os byddwch chi neu鈥檙 ceiswyr yn ymwybodol bod hawddfraint gyfreithiol ar y tir rydych yn ceisio鈥檌 gofrestru na chaiff ei chrybwyll yn y teitl a ailffurfiwyd gennych, rhaid i chi ei dadlennu fel budd gor-redol ar ffurflen gysylltiedig DI (rheol 28 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Byddwn yn gwneud cofnod ar gyfer unrhyw hawddfreintiau sy鈥檔 effeithio er gwaeth ar y naill ai:

  • a ymddangosodd yn y teitl a ailffurfiwyd
  • a ddadlennwyd fel buddion gor-redol yn y cais

Mae鈥檙 cofnod yn y gofrestr am faich hawddfraint a ddatgelir fel budd gor-redol ar gofrestriad cyntaf yn sicrhau y bydd prynwr diweddarach yn cymryd yr hawddfraint yn ddarostyngedig iddi ac yn achos hawddfraint gyfreithiol yn osgoi鈥檙 posibilrwydd o鈥檙 eithriad ym mharagraff 3(1) Atodlen 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 rhag bod yn gymwys.

Byddwn yn cofnodi budd hawddfreintiau cyfreithiol yn unig os ydych wedi dangos tystiolaeth foddhaol o deitl iddynt (rheol 33 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

4. Manylion cysylltu cofrestrfeydd gweithredoedd sirol blaenorol

4.1 Sir Middlesex

Ar waethaf cau Cofrestrfa Gweithredoedd Middlesex, cewch archwilio cofrestri鈥檙 cop茂au o gofysgrifau 1709 i 1938 gyda mynegeion iddynt yn:

London Metropolitan Archives
40 Northampton Road
London EC1R 0HB

Ff么n 020 7332 3820

4.2 Traean Dwyrain Swydd Efrog

Erbyn hyn, mae cofnodion hen Gofrestrfa Weithredoedd Traean y Dwyrain, gan gynnwys cofysgrifau a mynegeion yn cwmpasu鈥檙 cyfnod 1708 i 1974, yng ngafael:

East Riding of Yorkshire Archives Service
County Hall, Champney Road
Beverley
East Yorkshire HU17 9BA

Ff么n 01482 392790

Cewch archwilio鈥檙 archif o wneud cais ymlaen llaw i Archifydd y Sir. Cofiwch ddweud eich bod am archwilio gweithredoedd wrth wneud trefniant.

4.3 Traean Gogledd Swydd Efrog

Erbyn hyn, mae Cofrestrfa Gweithredoedd Traean y Gogledd, sy鈥檔 cynnwys cop茂au a chofysgrifau o weithredoedd a wnaed rhwng 1736 a 1970, yng ngafael Archifdy Sirol Gogledd Swydd Efrog. Mae modd ei harchwilio ar adegau a drefnwyd ymlaen llaw yn ystod oriau swyddfa arferol, o wneud cais ymlaen llaw i Archifydd y Sir, yn y cyfeiriad canlynol ar gyfer gohebiaeth:

County Hall
Northallerton
North Yorkshire
DL7 8AF

Ff么n 01609 777585

4.4 Traean Gorllewin Swydd Efrog

Erbyn hyn, mae Cofrestrfa Gweithredoedd Traean y Gorllewin, sy鈥檔 cynnwys cop茂au a chofysgrifau o weithredoedd a wnaed rhwng 1704 a 1970, yng ngafael Gwasanaeth Archifau Gorllewin Swydd Efrog. Argymhellir eich bod yn gwneud trefniant ymlaen llaw i weld gweithredoedd oherwydd gall yr ystafelloedd ymchwil fod yn brysur iawn. Dylech gysylltu 芒:

West Yorkshire Archive Service
West Yorkshire Joint Services
Nepshaw Lane South
Morley
LS27 7JQ

Ebost wakefield@wyjs.org.uk

5. Ffurflenni sydd ar gael

Gallwch lawrlwytho ffurflenni ST3, ID1 ac ID2 o wefan 伊人直播.

6. Datganiad o wirionedd

Dull o ddarparu tystiolaeth i gefnogi cais yw datganiad o wirionedd. O ganlyniad i newidiadau a wnaed gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008, gellir ei dderbyn at ddibenion cofrestru tir yn lle datganiad statudol.

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi ei fabwysiadu yn dilyn y cynsail a osodwyd gan y llysoedd sifil trwy dderbyn datganiad o wirionedd fel tystiolaeth yn lle affidafid neu ddatganiad statudol.

6.1 Gofynion

At ddibenion cofrestru tir, diffinnir datganiad o wirionedd fel a ganlyn.

  • Mae鈥檔 cael ei wneud yn ysgrifenedig gan unigolyn
  • Rhaid iddo gael ei lofnodi gan y sawl sy鈥檔 ei wneud (oni bai nad ydynt yn gallu ei lofnodi 鈥 gweler Datganiad o wirionedd a wneir gan unigolyn nad yw鈥檔 gallu ei lofnodi)
  • Nid oes rhaid iddo gael ei dyngu neu ei dystio
  • Rhaid iddo gynnwys datganiad o wirionedd ar y ffurf ganlynol: 鈥楥redaf fod y ffeithiau a materion a gynhwysir yn y datganiad hwn yn wir.鈥
  • Os yw trawsgludwr yn gwneud y datganiad neu yn ei lofnodi ar ran rhywun, rhaid i鈥檙 trawsgludwr ei lofnodi yn ei enw ei hun a datgan ym mha rinwedd mae鈥檔 llofnodi 鈥 gweler Llofnod gan drawsgludwr

6.2 Datganiad o wirionedd a lofnodir gan unigolyn nad yw鈥檔 gallu darllen

Os yw datganiad o wirionedd yn cael ei lofnodi gan unigolyn nad yw鈥檔 gallu darllen, rhaid i鈥檙 datganiad:

  • gael ei lofnodi ym mhresenoldeb trawsgludwr, a
  • chynnwys tystysgrif wedi ei llunio a鈥檌 llofnodi gan y trawsgludwr hwnnw ar y ffurf ganlynol.

鈥淵r wyf fi [enw a chyfeiriad y trawsgludwr] yn ardystio fy mod wedi darllen cynnwys y datganiad o wirionedd hwn ac esbonio natur ac effaith unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo a chanlyniadau gwneud datganiad anwir i鈥檙 sawl sy鈥檔 gwneud y datganiad hwn sydd wedi ei lofnodi neu wedi gwneud [ei farc][ei marc] yn fy mhresenoldeb ar 么l iddo yn gyntaf (a) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad (b) cymeradwyo ei gynnwys fel cywir ac (c) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad o wirionedd a chanlyniadau gwneud datganiad anwir.鈥

6.3 Datganiad o wirionedd a wneir gan unigolyn nad yw鈥檔 gallu ei lofnodi

Os yw datganiad o wirionedd yn cael ei wneud gan unigolyn nad yw鈥檔 gallu ei lofnodi, rhaid i鈥檙 datganiad:

  • nodi enw llawn yr unigolyn hwnnw
  • gael ei lofnodi gan drawsgludwr yn 么l cyfarwyddyd ac ar ran yr unigolyn hwnnw, a
  • chynnwys tystysgrif wedi ei llunio a鈥檌 llofnodi gan y trawsgludwr hwnnw ar y ffurf ganlynol:

鈥淵r wyf fi [enw a chyfeiriad y trawsgludwr] yn ardystio bod [y sawl sy鈥檔 gwneud y datganiad o wirionedd hwn wedi ei ddarllen yn fy mhresenoldeb, wedi cymeradwyo ei gynnwys fel cywir ac wedi fy nghyfarwyddo i鈥檞 lofnodi ar [ei ran][ei rhan]] neu [fy mod wedi darllen cynnwys y datganiad o wirionedd hwn ac esbonio natur ac effaith unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo a chanlyniadau gwneud datganiad anwir i鈥檙 sawl sy鈥檔 gwneud y datganiad hwn sydd wedi fy nghyfarwyddo i鈥檞 lofnodi ar [ei ran][ei rhan]] ar 么l iddo yn gyntaf (a) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad (b) cymeradwyo ei gynnwys fel cywir ac (c) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad o wirionedd a chanlyniadau gwneud datganiad anwir.鈥

6.4 Llofnod gan drawsgludwr

Os yw datganiad o wirionedd yn cael ei wneud gan drawsgludwr, neu os yw trawsgludwr yn gwneud a llofnodi tystysgrif ar ran rhywun sydd wedi gwneud datganiad ond nad yw鈥檔 gallu ei ddarllen neu ei lofnodi:

  • rhaid i鈥檙 trawsgludwr lofnodi yn ei enw ei hun ac nid yn enw ei gwmni neu ei gyflogwr, a
  • rhaid i鈥檙 trawsgludwr ddatgan ym mha rinwedd mae鈥檔 llofnodi a, lle bo鈥檔 briodol, enw ei gwmni neu ei gyflogwr

7. Rhestr wirio ar gyfer cofrestriad cyntaf teitl os yw鈥檙 gweithredoedd ar goll neu wedi eu dinistrio

Cyn cyflwyno eich cais, gwnewch yn siwr:

  • y gallwn ni adnabod y tir ar fap yr Arolwg Ordnans
  • bod y disgrifiad y digwyddiadau yn y datganiadau statudol, ffurflen ST3 neu dystysgrifau yn rhoi cyfrif digonol am golli neu ddinistrio鈥檙 gweithredoedd
  • bod teitl y ceisydd i鈥檙 tir wedi cael ei brofi
  • eich bod wedi cynnwys tystiolaeth o feddiant
  • eich bod wedi cynnwys yr holl chwiliadau pridiannau tir priodol
  • bod y teitl wedi cael ei ailffurfio hyd y bo modd
  • bod unrhyw fuddion gor-redol dadlenadwy y gwyddoch chi neu eich cleient amdanynt ac nad ydynt yn amlwg o鈥檙 teitl a ailffurfiwyd eu dadlennu gan ddefnyddio ffurflen DI
  • eich bod wedi cynnwys ymrwymiad i anfon unrhyw weithredoedd a gollwyd i Gofrestrfa Tir EF os ceir hyd iddynt wedi hynny
  • eich bod wedi llenwi ffurflen ID1 (neu ffurflen ID2) yn briodol ar gyfer pob ceisydd
  • eich bod wedi talu鈥檙 ffi gywir
  • eich bod wedi llofnodi ffurflen FR1
  • eich bod wedi gwirio鈥檙 manylion clerigol yn yr holl ffurflenni a gweithredoedd (yn enwedig arwystlon a morgeisi) gan dalu sylw arbennig i鈥檙 holl ddyddiadau, disgrifiadau eiddo, rhifau teitl ac enwau llawn part茂on, yn enwedig lle maent yn ymddangos mewn mwy nag un weithred.

8. Pethau i鈥檞 cofio

Sylwer, efallai na fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu prosesu ceisiadau sy鈥檔 anghyflawn neu鈥檔 ddiffygiol, a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch 鈥 gweler cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru am ragor o wybodaeth.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.