Proses Holi ac Ateb y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru
Diweddarwyd 28 Hydref 2022
Yn berthnasol i Gymru
Mae鈥檙 broses ymgeisio ar gyfer y rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru yn amlinellu sut y gall porthladdoedd ymgeisio am statws Porthladd Rhydd yng Nghymru, yn ogystal 芒 manylion pellach ar gyfer y polisi. Drwy gyhoeddi鈥檙 prosbectws, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi lansio鈥檙 proses ymgeisio er mwyn dynodi safle Porthladd Rhydd yng Nghymru.
Yn y prosbectws, gwahoddwyd rhanddeilliaid i gyflwyno unrhyw gwestiynau am y rhaglen POrthladd Rhydd a鈥檙 prosoes ymgeisio drwy e-bost. Pwrpas y ddogfen hon yw i darparu atebion I鈥檙 cwesitynau allweddol a gyflwynwyd I ni. Hyd at 13 Hydref 2022, gall unrhyw ymgeiswyr arfaethedig gysylltu gyda Freeports@llyw.Cymru I ofyn am eglurhad ar unrhyw agwedd o鈥檙 cynnwys yn y prosbectws ymgeisio. Bydd crynodeb o鈥檙 atebion yn cael eu cyhoeddi ar-lein cyn 27 Hydref 2022.
Bydd y lleoliad llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yng Ngwanwyn 2023 yn dilyn proses ddethol teg, agored a thryolyw.
Bydd y cyfnod ymgeisio yn cau at 24 Tachwedd 2022. Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr drwy鈥檙 ffurflen gais ar lein erbyn 6yh ddydd Iau 24 Tachwedd 2022.
Q: Yn y prosbectws ar gyfer y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr a鈥檙 Alban mae yna amod am 鈥榖arthau cynllunio syml鈥 a Gorchmynion Datblygu Lleol. A allech gadarnhau os yw Gorchymyn Datblygu Lleol (LDO) yn amod angenrheidiol yn y prosbectws Porthladd Rhydd yng Nghymru?
A: Fel sydd wedi ei nodi yn adran 3.8.2 o鈥檙 prosbectws, 鈥榊n ogystal 芒鈥檙 cyd-destun cynllunio cenedlaethol, dylai awdurdodau lleol ystyried defnyddio offer lleol seiliedig ar leoedd, fel Parthau Cynllunio Syml (SPZ) neu Orchmynion Datblygu Lleol. Gall Parthau Cynllunio Syml a Gorchmynion Datblygu Lleol roi mwy o sicrwydd i fusnes trwy ddileu鈥檙 angen i wneud cais am ganiat芒d cynllunio ar gyfer datblygiadau y mae鈥檙 gorchymyn yn ymdrin 芒 nhw.鈥
Er nad oes amod angenrheidiol i gynnwys Gorchymyn Datblygu Lleol neu Barth Cynllunio Syml fel rhan o鈥檙 cais, rydym yn annog awdurdodau cynllunio i greu amgylchedd cynllunio hyrwyddol. Cyfrifoldeb y cynghrair ymgeisio yw dadansoddi ac ystyried cyngor cyfreithiol i gadarnhau os bydd cynnwys Gorchymyn Datblygu Lleol fel rhan o鈥檙 cais yn gwrthdaro gyda dynodiad safle SPA/SAC.
Eglurhadau 1 鈥 4 a ddarparwyd fel rhan o鈥檙 digwyddiad rhanddeiliaid
1. Faint o hyblygrwydd sydd i Borthladd Rhydd ymestyn y tu hwnt i鈥檙 ffin 45 cilometr?
Mae鈥檙 model Porthladd Rhydd yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd, a dylai ymgeiswyr ystyried beth yw鈥檙 ffordd orau o鈥檌 gymhwyso i鈥檞 safleoedd a鈥檜 daearyddiaethau penodol.
Ni ddylai ffiniau allanol y Porthladd Rhydd fod yn fwy na chylch 45 cilometr, heb unrhyw safleoedd Porthladd Rhydd yn fwy na 45 cilometr ar wah芒n.
Rhagwelwn y bydd yr holl safleoedd tollau a鈥檙 safleoedd trethi sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 Porthladd Rhydd wedi鈥檜 cynnwys o fewn y Ffin Allanol.
Fodd bynnag, bydd y ddwy lywodraeth yn ystyried cynigion sy鈥檔 cynnig safleoedd tollau a safleoedd trethi y tu allan i鈥檙 Ffin Allanol, lle gellir cefnogi hyn gan sail resymegol economaidd glir. Dylai hyn gynnwys cyfiawnhad clir o鈥檜 perthnasedd i鈥檙 ardal o fewn y Ffin Allanol, ynghyd a pherthynas sylweddol rhwng y gweithgarwch yn y safle trethi neu dollau o fewn y Ffin Allanol, a鈥檙 ardal o fewn y ffin allanol.
Bydd ceisiadau y bernir eu bod wedi鈥檜 dylunio dim ond i wneud y defnydd gorau o鈥檙 ardal o fewn y Ffin Allanol heb sail resymegol economaidd glir yn methu鈥檙 broses ymgeisio ar y cam llwyddo/methu.
Roedd yr hyblygrwydd hwn yn gymwys i鈥檙 broses ymgeisio ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr hefyd. Mae Porthladd Rhydd Humber yn enghraifft o hyn, ac mae ganddo un safle y tu allan i鈥檙 ffin 45 cilometr. Yn achos Porthladd Rhydd Humber, darparwyd sail resymegol economaidd glir i gefnogi鈥檙 hyblygrwydd hwn yn y ffin 45 cilometr.
2. A allwch chi amlinellu r么l awdurdodau lleol yn y broses ymgeisio?
Disgwyliwn i鈥檙 awdurdodau lleol perthnasol:
- fod yn rhan o gynghrair y cais am statws Porthladd Rhydd. Dylai cynghreiriau gynnwys porthladdoedd, busnesau lleol, busnesau rhyngwladol, sefydliadau academaidd ac awdurdodau lleol; a
- bod wedi trafod y cydweddiad 芒 chynlluniau a pholis茂au datblygu perthnasol (a鈥檙 defnydd posibl o ddulliau cynllunio seiliedig ar leoedd y cyfeiriwyd atynt uchod) wrth lunio鈥檙 cais
Bydd cydweithrediad o鈥檙 fath yn helpu i sicrhau bod cynigion datblygu鈥檔 gallu symud ymlaen yn ddidrafferth trwy鈥檙 system gynllunio. Dylai ceisiadau ddangos cefnogaeth awdurdod lleol i ddatblygu eiddo masnachol o fewn safleoedd trethi a thollau, i gefnogi eu twf. Bydd datblygiad arfaethedig yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gynllunio leol pan fydd angen.Lle ceir mwy nag un awdurdod lleol ar y corff llywodraethu, bydd angen nodi awdurdod lleol arweiniol.
Pan gaiff ei ryddhau, bydd y cyllid sbarduno鈥檔 cael ei roi i鈥檙 awdurdod lleol arweiniol o fewn corff llywodraethu鈥檙 Porthladd Rhydd.
Bydd yr awdurdod lleol yn atebol i Lywodraeth Cymru am wariant a rheolaeth cyllid cyfalaf sbarduno鈥檙 Porthladd Rhydd.
Cynhwysir rhagor o wybodaeth yn y prosbectws.
3. Sut gall y Porthladd Rhydd ddangos ei ymrwymiad i 鈥榃aith Teg鈥?
Mae Llywodraeth Cymru o鈥檙 farn bod bargen well i weithwyr yn hanfodol i sicrhau Cymru decach a mwy cyfartal. Mae鈥檔 hanfodol i Lywodraeth Cymru fod ein hymyriadau polisi cyhoeddus yn cyfrannu at Waith Teg ac at ein dull gweithio fel partneriaeth gymdeithasol. Dyna pam mae鈥檙 prosbectws yn pwysleisio鈥檙 pwys a roddir ar yr egwyddorion hyn. Mae hyn yn cynnwys sicrhau ymgysylltiad undebau llafur mewn Fforwm Ymgynghorol Gweithwyr, a fydd yn ffurfio rhan o lywodraethiant lleol Porthladd Rhydd yng Nghymru.
Dylai鈥檙 ymgeisydd penodedig ymgysylltu 芒 Llywodraeth Cymru hefyd i ddatblygu Contract Economaidd yn unol 芒 pholisi presennol Llywodraeth Cymru. Gall ymgeiswyr, a dylai ymgeiswyr, weithredu fel enghreifftiau i eraill a dangos sut mae eu harferion busnes yn hyrwyddo egwyddorion Gwaith Teg a chynaliadwyedd.
Gall ymgeiswyr ddangos hefyd sut maen nhw鈥檔 cydymffurfio ag arfer da wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru, fel y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.
4. Beth sy鈥檔 digwydd os yw Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn anghytuno yngl欧n 芒鈥檙 cais gorau ar gyfer porthladd rhydd?
Mae鈥檙 Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru yn dangos buddion cydweithio ar feysydd o gyd-ddiddordeb, ac mae鈥檙 ddwy lywodraeth wedi ymrwymo i weithio gyda鈥檌 gilydd i gytuno ar y cyd ar y cynnig llwyddiannus.
Yn yr un modd 芒 Phorthladdoedd Rhydd yn Lloegr a鈥檙 Alban, bydd proses gystadleuol deg ac agored yn pennu ble ddylai鈥檙 polisi gael ei weithredu yng Nghymru. Bydd y ddwy lywodraeth yn cyd-ddylunio鈥檙 broses ar gyfer dethol. Bydd swyddogion o鈥檙 ddwy lywodraeth yn asesu cynigion ar y cyd, a bydd yr un llais gan y ddwy lywodraeth yn yr holl benderfyniadau gweithredu, gan gynnwys y penderfyniad terfynol ar y safle(oedd) llwyddiannus.
Mae Cwestiynau 5 鈥 7 yn ymwneud ag eglurhad a chanllawiau yngl欧n 芒 r么l darparwyr trafnidiaeth a logisteg
5. A yw ystod eang o gwmn茂au, yn gwmn茂au mawr ac yn fusnesau bach a chanolig, yn cael eu hystyried yn rhan annatod o unrhyw gynnig, hyd yn oed os nad yw cwmn茂au unigol yn aelodau o鈥檙 consortiwm ymgeisio o angenrheidrwydd?
Fel y datganwyd yn y prosbectws, mae鈥檙 ddwy lywodraeth eisiau i ymgeiswyr Porthladd Rhydd ffurfio cynghreiriau cryf a fydd yn datblygu cynigion uchelgeisiol y gellir eu cyflawni. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 cynghreiriau hyn gynnwys: porthladd (m么r, awyr, neu reilffyrdd) a鈥檙 awdurdod/awdurdodau lleol lle mae鈥檙 Porthladd Rhydd wedi鈥檌 leoli.
Bydd disgwyl i gynghreiriau gynnwys: busnesau lleol; busnesau rhyngwladol; sefydliadau academaidd; Partneriaethau Economaidd Rhanbarthol ac awdurdodau lleol. Er nad yw鈥檔 ofynnol i鈥檙 sefydliadau hyn fod yn rhan o gynghrair ymgeisio, gall cynghreiriau ymgeisio ddymuno gwahodd partneriaid ehangach i ddangos eu cefnogaeth ar gyfer cynnig. Bydd hyn yn cynorthwyo cynigion i ddangos sut byddant yn cynhyrchu buddsoddiad ychwanegol
Wedi i safle gael ei ddewis, man lleiaf, mae鈥檔 rhaid i unrhyw gorff llywodraethu Porthladd Rhydd gynnwys y porthladd(oedd) dan sylw - i sicrhau ffocws economaidd ar ranbarthau porthladd - a鈥檙 awdurdod lleol lle mae鈥檙 Porthladd Rhydd wedi鈥檌 leoli - er mwyn derbyn a bod yn atebol am unrhyw gyllid adfywio a chyflawni mesurau allweddol.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, felly, yn annog cynigion ymgeiswyr i gynnwys cynrychiolaeth o blith y pum gr诺p rhanddeiliaid canlynol os oes modd a lle bo modd:
- unrhyw dirfeddianwyr sy鈥檔 berchen ar dir y mae safleoedd trethi a thollau wedi鈥檜 dynodi arnynt
- unrhyw weithredwyr safleoedd tollau
- cwmn茂au sy鈥檔 gweithredu neu a fydd yn gweithredu o fewn safleoedd tollau a threthi
- buddsoddwyr sy鈥檔 gweithredu neu a fydd yn gweithredu o fewn safleoedd tollau a threthi
- cyrff sector cyhoeddus sy鈥檔 gweithredu neu a fydd yn gweithredu o fewn safleoedd tollau a threthi
6. A oes darpariaethau buddiol ar gyfer y cwmn茂au hyn o fewn ardal Porthladd Rhydd 鈥 e.e. drwy鈥檙 gyfundrefn drethu a/neu argaeledd grantiau?
Mae Adran 3 y Prosbectws yn rhoi manylion dyluniad penodol Porthladd Rhydd, gan gynnwys daearyddiaeth ac ysgogiadau economaidd a gynigir i ymgeiswyr fel y byddent yn gymwys yng Nghymru.
Mae鈥檙 cynnig Porthladd Rhydd ar gyfer busnesau yng Nghymru yn gyson 芒鈥檙 model y mae Llywodraeth y DU wedi鈥檌 ddefnyddio ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr ac a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar gyfer Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban.
7. A fydd cyllid ar gael ar gyfer gwelliannau i鈥檙 rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd sy鈥檔 angenrheidiol i ymdopi 芒鈥檙 lefelau traffig cynyddol sy鈥檔 deillio o鈥檙 gweithgarwch economaidd newydd?
Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at adran 2.1.14 - 2.1.16 wrth ystyried buddsoddiad mewn trafnidiaeth, i sicrhau cysondeb 芒 pholis茂au trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Fel yr amlinellwyd yn y Prosbectws, bydd cyfle i鈥檙 ymgeisydd llwyddiannus gael cyllid cyfalaf sbarduno o hyd at 拢25 miliwn.
Bydd swm y cyllid sbarduno a geir yn dibynnu ar gyflwyno achos busnes amlinellol (OBC) ac achos busnes llawn (FBC), ansawdd yr achosion busnes hynny a sut mae鈥檙 cynigion yn cyd-fynd 芒鈥檙 polisi yn strategol. Bydd achosion busnes yn cael eu cymeradwyo gan fwrdd y Rhaglen Porthladd Rhydd gyda chynrychiolaeth ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Disgwyliwn y bydd unrhyw gyllid a ddarperir yn cael ei gyfateb neu ei gyfateb yn rhannol gan fuddsoddiad sector preifat, benthyciadau awdurdod lleol a chyd-ariannu gan gyrff cyhoeddus eraill, lle y bo鈥檔 berthnasol. Pan fydd y cyllid yn cael ei ryddhau, caiff ei roi i鈥檙 awdurdod lleol arweiniol yng nghorff llywodraethu鈥檙 Porthladd Rhydd.
Mae gan bob safle Porthladd Rhydd nodweddion ac anghenion unigryw. Dylai鈥檙 cynghrair ymgeisio amlinellu鈥檔 glir fuddsoddiadau cyfalaf sy鈥檔 ofynnol ar y safle a chytuno hyn gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel rhan o broses dynodi鈥檙 safle. Disgwyliwn i gynigion ganolbwyntio鈥檔 bennaf ar gydosod tir, adfer safle, a seilwaith trafnidiaeth mewnol ar raddfa fach i gysylltu safleoedd o fewn y Porthladd Rhydd 芒鈥檌 gilydd, yr ardal uniongyrchol o鈥檜 hamgylch neu asedau economaidd eraill o fewn y Ffin Allanol. Dylai鈥檙 rhain ymgorffori strategaethau trafnidiaeth, trafnidiaeth gynaliadwy a hierarchaethau buddsoddi. Bydd cynigion ar gyfer gwario cyfalaf sbarduno ar sgiliau, technoleg ddigidol a/neu seilwaith arall yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Ni cheir gwario cyfalaf sbarduno ar seilwaith diogelwch ar gyfer safleoedd tollau.
Cwestiynau 8 鈥 11; Maent yn ymwneud 芒 chwestiynau a gyflwynwyd ar Arweiniad Ardaloedd Buddsoddi
8. Nifer y Ardaloedd Buddsoddi鈥 Faint ydych chi鈥檔 eu rhagweld yng Nghymru a beth fydd y lledaeniad daearyddol?
9. Sut bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau鈥檙 Dyfodol a Chynllun Cenedlaethol Cymru yn cael eu hymgorffori yn y broses benderfynu yngl欧n ag ystwytho cynllunio ar gyfer Ardaloedd Buddsoddi Cymru?
10. Gwneud penderfyniadau yng Nghymru ar gyfer Ardaloedd Buddsoddi 鈥 a fydd hon yn broses ar y cyd rhwng LlC/Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) ar raniad 50/50 fel gyda Phorthladd Rhydd? Os yw penderfyniad yn rhanedig, pwy fydd 芒鈥檙 gair olaf?
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar 23 Medi 2022 ei fwriad i lansio Ardaloedd Buddsoddi. Er y disgwyliwn i鈥檙 cynnig hwn fod yn un ledled y DU, mae鈥檙 modd y gall Ardaloedd Buddsoddi weithredu yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn destun gweithio gyda llywodraethau datganoledig.
Yn Lloegr, bydd Ardaloedd Buddsoddi鈥檔 elwa o gymhellion treth ac ystwytho cynllunio er mwyn cyflymu datblygiad a chymorth ehangach i鈥檙 economi leol.
Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau rhagarweiniol i ddeall cynigion y Ardaloedd Buddsoddi, y cynnig a goblygiadau posibl i Gymru yn fanylach. Byddai angen i unrhyw fenter a ddaw gerbron ar gyfer Cymru fod yn gyson 芒鈥檔 polis茂au ni ar waith teg a鈥檙 amgylchedd, a chynhyrchu buddsoddiad ychwanegol.
11. Pryder ynghylch dadleoli economaidd yn deillio o agosrwydd Ardaloedd Buddsoddi mewn awdurdodau cyfagos yn Lloegr e.e. Swydd Gaerloyw ac Awdurdod Cyfunol Gorllewin Lloegr. Rydym yn pryderu nad oes digon o amser i ystyried y berthynas ddatblygol hon a鈥檙 effaith yn briodol i鈥檙 bodlonrwydd a fynnir gan y broses ymgeisio porthladd rhydd. A roddwyd unrhyw ystyriaeth i ymestyn cyfnod cyflwyno ceisiadau Porthladd Rhydd i alluogi gwell coreograffi rhwng pa geisiadau i鈥檞 modelu a lliniaru unrhyw effeithiau economaidd negyddol a gwneud addasiadau?
Nid oes unrhyw gynllun ar hyn o bryd i ymestyn y terfyn amser ymgeisio ar gyfer y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru.
Mae鈥檙 cyfnod ymgeisio鈥檙 Rhaglen Porthladd Rhydd ar gyfer Cymru yn cau ar 24 Tachwedd 2022 am 6pm, ac edrychwn ymlaen at dderbyn cynigion gan bart茂on 芒 buddiant drwy鈥檙 porth ar-lein.
Mae鈥檔 ofynnol i ddarpar ymgeiswyr egluro sut bydd eu dewis o leoliadau safleoedd trethi yn cynhyrchu twf ychwanegol ac yn lleihau dadleoli gweithgarwch economaidd.
Er bod Llywodraeth y DU yn bwriadu cyhoeddi manylion llawn pecyn trethi Ardaloedd Buddsoddi Lloegr maes o law, o ystyried y graddfeydd amser, na fydd cynigion Porthladd Rhydd yng Nghymru yn ystyried effeithiau Parth Buddsoddi posibl ar hyn o bryd.
12. Mae briff diweddar Porthladd Rhydd Cymru a DLUHC yn dynodi bod sgyrsiau yn mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru, a allwch chi roi diweddariad?
Mae鈥檙 Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru yn dangos buddion cydweithio ar feysydd o gyd-ddiddordeb, ac mae鈥檙 ddwy lywodraeth wedi ymrwymo i weithio gyda鈥檌 gilydd i gytuno ar y cyd ar y cynnig llwyddiannus.
13. A allwch chi gael mwy na thri safle trethi os gallwch wneud achos economaidd dros hynny? Os yw鈥檙 prif safle tollau yn safle trethi, a allwch chi gael tri safle trethi ychwanegol?
Dylai cynigion Porthladd Rhydd gynnwys o leiaf un porthladd, ond gal gynnwys sawl porthladd
Nid oes rhaid i鈥檙 porthladdoedd gael eu dynodi fel mannau trethi neu dollau.
Dylai ceisiadau gynnwys o leiaf un safle tollau, ond nid yw鈥檙 nifer o safleoedd wedi eu cyfyngu i nifer penodol.
Dylai cynigwyr amcanu at un safle trethi cyffiniol o hyd at 600 hectar i elwa o鈥檙 cynnig treth. Fodd bynnag, gallant ddiffinio hyd at dair ardal gyffiniol, unigol rhwng 20 a 200 hectar.
Lle mae safle tollau yn safle trethi yn ogystal, byd y safle tollau hwn yn cael ei gynnwys o fewn y cyfanswm o dri safle trethi, felly dau safle trethi pellach yn unig y caniateir i鈥檞 cynnwys yn y cais.
14. Paragraff 3.1.19 (c) 鈥楤yddwn yn ystyried cyflwyniadau sy鈥檔 gwneud achos economaidd dros safle unigol sydd y tu allan i鈥檙 canllaw 20-200 hectar鈥. Beth yw鈥檙 elfennau a fyddai鈥檔 ofynnol i gyfiawnhau safle sy鈥檔 fwy na 200ha?
Mae鈥檙 prosbectws yn dweud yn glir y dylai cynigwyr amcanu i gael un safle treth i elwa o鈥檙 cynnig treth. Fodd bynnag, lle ceir sail resymegol economaidd glir dros wneud hynny, gall y cynigydd Porthladd Rhydd ddiffinio hyd at dair ardal unigol, sengl fel lleoliad y safleoedd trethi.
Byddwn yn ystyried cyflwyniadau sy鈥檔 gwneud achos economaidd dros safle unigol sydd y tu allan i鈥檙 canllaw 20-200 o hectarau.
Nid ydym yn disgwyl unrhyw fethodoleg benodol ond byddem yn disgwyl i achos gael ei wneud o ran cyflawni amcanion y polisi ac yn gyson 芒 gofynion safleoedd treth a amlinellwyd yn y prosbectws.
Rhaid i gyfanswm arwynebedd y safleoedd unigol o fewn y Porthladd Rhydd beidio 芒 bod yn fwy na 600 o hectarau. Bydd y rhai hynny sy鈥檔 fwy na 600 o hectarau yn methu鈥檙 broses ymgeisio Porthladd Rhydd yn awtomatig ar y cam llwyddo/methu
15. A allwch chi gael rhan o safle tollau a threthi lle mae鈥檙 elfen trethi yn fwy na鈥檙 safle tollau (h.y. dim ond rhan o鈥檙 safle trethi yw safle tollau)?
Gall safle trethi gynnwys y cyfan, neu ran, o鈥檙 prif safle tollau a/neu unrhyw is-barthau tollau ychwanegol. Bydd rhyddhadau treth yn berthnasol i鈥檙 safle trethi cyfan, gan gynnwys unrhyw ran sydd hefyd yn rhan o鈥檙 safle tollau.
Bydd cynnig tollau鈥檙 Porthladd Rhydd, sy鈥檔 cynnwys symleiddiadau a buddion atal tollau, ond yn berthnasol yn y safleoedd tollau Porthladd Rhydd dynodedig ac a gymeradwywyd gan CThEF.
Ni fydd safleoedd treth Porthladd Rhydd yn derbyn unrhyw ryddhad yn awtomatig felly o dollau tramor oni bai eu bod hefyd wedi鈥檜 dynodi a鈥檜 cymeradwyo fel safle tollau.
Caniateir i safleoedd trethi a safleoedd tollau orgyffwrdd yn gyfan gwbl neu鈥檔 rhannol. Yn y cyfryw amgylchiadau, bydd unrhyw ran o鈥檙 safle trethi sydd hefyd o fewn y safle tollau yn gymwys ar gyfer gohirio, gwrthdroi ac eithrio tollau, yn ogystal 芒鈥檙 rhyddhadau trethi eraill sy鈥檔 gymwys ar y safle trethi. Ni fydd unrhyw ran o鈥檙 safle trethi nad yw hefyd o fewn y safle tollau yn gymwys ar gyfer gohirio, gwrthdroi ac eithrio tollau; dim ond ar gyfer y rhyddhadau treth eraill sy鈥檔 gymwys ar safleoedd trethi Porthladd Rhydd.
Pe bai cynigydd eisiau i fuddion tollau fod yn gymwys ar safle trethi cyfan neu ran ohoni, bydd angen i鈥檙 ardal honno gael ei diogelu a鈥檌 hawdurdodi fel safle tollau yn ogystal.
16. Mae paragraff 3.1.19 (e) yn datgan y gall Safleoedd trethi fod yn un safle unigol sy鈥檔 cynnwys nifer o leiniau o dir wedi鈥檜 rhannu gan ffordd, ardal a warchodir neu nodwedd ddaearyddol (fel afon) ar yr amod y gellir ystyried yn rhesymol bod y lleiniau o fewn y tir yn un safle unigol oherwydd gellir dangos rhyng-gysylltiad daearyddol ac economaidd rhwng y safleoedd (e.e. mae鈥檔 debygol y gellid teithio rhyngddynt)
a. Os yw dau safle yn gyffiniol ond bod y pwyntiau mynediad yn golygu y byddai angen teithio pellter byr ar y ffordd, a yw hynny鈥檔 ryng-gysylltiad rhesymol?
b. A yw twnnel sy鈥檔 cysylltu鈥檙 porthladd 芒 llain o dir sydd oddeutu 1.5 cilometr ar wah芒n yn cyfrif fel rhyng-gysylltiad economaidd rhesymol?
Rydym yn agored i un safle sy鈥檔 cynnwys nifer o leiniau o dir wedi鈥檜 rhannu gan ffordd, ardal a warchodir neu nodwedd ddaearyddol (fel afon) ar yr amod y gellir ystyried yn rhesymol bod y lleiniau o fewn y tir yn un safle oherwydd gellir dangos rhyng-gysylltiad daearyddol ac economaidd rhwng y safleoedd (e.e. mae鈥檔 debygol y gellid teithio rhyngddynt).
I ddangos cysylltiad economaidd rhesymol, byddem yn disgwyl y byddai teithio mynych rhesymol rhwng y safleoedd - er enghraifft, ar y ffordd fawr, dros bont neu ar fferi. Mae鈥檔 rhaid dangos rhyng-gysylltiad economaidd clir rhwng amryfal blotiau yr honnir mai un safle unigol ydynt. Er enghraifft, dylai dau safle naill ochr o afon heb unrhyw berthynas economaidd neu deithio rhyngthynt gael eu hystyried yn fel dau fan ar wah芒n. Ni allwn, ar sail yr wybodaeth sydd wedi ei ddarparu, gadarnhau os byddai twnnel sy鈥檔 cysylltu porthladd gyda thir yn gysylltiad economaidd rhydd, gan mai cyfrifoldeb ymgeiswyr yw arddangos y perthynas economaidd clir hwn.
Dylai cynigwyr sicrhau bod y sail resymegol a mapiau cysylltiedig a gyflwynir gyda鈥檙 cynnig Porthladd Rhydd yn darparu achos cadarn i gefnogi datganiadau鈥檔 ymwneud 芒 rhyng-gysylltiad economaidd
17. Dylai safleoedd trethi fod yn dir heb ei ddatblygu ac yn 20 hectar o leiaf. Os oes ardaloedd bach o safleoedd sy鈥檔 cynnwys adeiladau 鈥 a ddylai鈥檙 rhain gael eu cynnwys neu鈥檜 hepgor o ardal y safle?
Gall cynigwyr lunio siapiau sengl, unigol sy鈥檔 torri tir allan neu鈥檔 mynd heibio tir nad yw鈥檔 briodol iddo fod mewn safle trethi er mwyn cynyddu cwmpas tir annatblygedig priodol i鈥檙 eithaf. Nid ydym yn disgwyl gweld eiddo preswyl na thir diwydiannol datblygedig iawn sy鈥檔 cynnwys gweithgarwch busnes sylweddol presennol a gwmpesir gan safleoedd trethi 鈥渁nnatblygedig鈥.
Enghreifftiau o safleoedd trethi
Mae鈥檙 canlynol yn enghreifftiau damcaniaethol o gynigion safleoedd trethi y gellid eu derbyn drwy鈥檙 broses. Gallai fod enghreifftiau eraill nad ydynt wedi鈥檜 nodi isod a allai fod yn llwyddiannus o hyd.
Si芒p ffin sengl cyffiniol sy鈥檔 torri allan tir amhriodol

Un safle unigol sy鈥檔 cynnwys nifer o leiniau o dir wedi鈥檜 rhannu gan ffordd

Un safle 鈥渦nigol鈥 yn cynnwys dau safle o鈥檙 un diwydiant gyda chysylltiad trafnidiaeth, wedi鈥檌 rannu gan afon

Dau safle unigol heb ryng-gysylltiad, wedi鈥檜 rhannu gan afon

18. Yn achos safle sy鈥檔 safle tollau ac yn safle trethi 鈥 sut dylid ymdrin ag adeiladau sy鈥檔 rhan o鈥檙 tollau (yng nghyd-destun y tir annatblygedig a鈥檙 gofyniad sylfaenol am 20 hectar).
Mae adeiladau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 safle tollau yn cael eu cyfrif tuag at y cysyniad o ddatblygiad. Fodd bynnag, os oes gan gynigydd Porthladd Rhydd gynnig cydlynus ac y gall ddangos bod y safle鈥檔 annatblygedig hyd yn oed gyda鈥檙 adeiladau tollau arno, yna ni fyddai鈥檔 eithrio鈥檙 safle yn awtomatig (h.y., os yw鈥檔 ofod mawr gwag gyda sied tollau arno, ni fyddai hynny wedi鈥檌 ddatblygu鈥檔 ormodol i fod yn safle trethi o angenrheidrwydd).
Gall cynigwyr Porthladd Rhydd ddewis eithrio adeiladau o hyd, a dewis codi adeilad(au) tollau o fewn safle trethi.
19. Mae鈥檙 prosbectws ymgeisio鈥檔 awgrymu bod rhaid i safleoedd trethi fod ar gyfer ardaloedd o dir annatblygedig (neu ardaloedd gydag adeiladau y cynlluniwyd iddynt ddarfod yn gymharol fuan), ond mae safleoedd tollau鈥檔 debygol o gael eu rhedeg gan weithredwyr porthladd mewn porthladdoedd. A allwch chi egluro mai canllawiau yw鈥檙 rhain ac na fwriedir y byddai鈥檙 buddion economaidd sylweddol o gael buddion tollau a threthi yn gweithredu gyda鈥檌 gilydd yn cael eu colli drwy wahanu鈥檙 safleoedd hyn?
Mae鈥檔 rhaid i safleoedd trethi fod yn annatblygedig (fel y diffinir yn paragraph 3.1.25 o鈥檙 prosbectws), a gall safleoedd tollau gael eu rhedeg gan borthladdoedd (ond nid yw鈥檔 ofyniad gan safle tollau). Nid yw鈥檙 cyfuniad hwn o ofynion yn atal safleoedd trethi a thollau rhag cael eu cyd-leoli, ar yr amod y bodlonir y ddau.
20. Yn gysylltiedig 芒 C1.4 yn y cais (Cynhwyswch unrhyw wybodaeth a allai gynorthwyo鈥檙 ddwy lywodraeth i amcangyfrif gofyniad eich cynnig ar gyfer rhyddhad treth). Pa wybodaeth a ddisgwylir/ a ragwelir?
Gall gwybodaeth gefnogol gynnwys:
- Rhestr o eiddo, gwerthoedd ardrethol, ac atebolrwydd presennol o fewn yr ardal rhyddhad trethi
- Y talwyr ardrethi presennol ar gyfer pob eiddo
- Rhagolwg o鈥檙 eiddo ychwannegol sydd wedi eu cynllunio o fewn yr ardal
Ar gyfer rhagoloygon, gofynnwn i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth i鈥檔 cefnogi i gyfrifo faint o weithgarwch y bydd yn berthnasol i鈥檙 rhyddhad treth perthnasol
21. Yn gysylltiedig 芒 C1.7 鈥 a ellir cynnwys safleoedd lle nad yw tirfeddianwyr wedi cytuno ac maent yn destun Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) 鈥 os felly, pa dystiolaeth ddylid ei darparu?
Lle nad yw tirfeddianwyr wedi cytuno i鈥檙 safle trethi neu mae鈥檙 awdurdod lleol yn cynnig Gorchymyn Prynu Gorfodol, bydd angen sicrwyddau ychwanegol gan y ddwy lywodraeth ar 么l y cam cyflwyno cynnig ond cyn i鈥檙 safle trethi hwnnw gael ei gymeradwyo/ei ddynodi.
Ymdrinnir 芒 hyn ar sail achos wrth achos ond mae鈥檔 debygol o gynnwys:
- Cyngor cyfreithiol a thechnegol llawn ar y cynnig Gorchymyn Prynu Gorfodol
- Strategaeth yn amlinellu sut yr amcanwch i sicrhau鈥檙 tir gan ddefnyddio Gorchymyn Prynu Gorfodol lle bo鈥檔 angenrheidiol, a mesurau lliniaru os na chyflawnir hynny. Dylai hyn gynnwys, ond nid yw鈥檔 gyfyngedig i:
- Ymrwymiad gan ALlau i neilltuo adnoddau priodol i鈥檙 broses a fydd yn galluogi swyddogion i fwrw ymlaen yn gyflym
- Tystiolaeth i ddarparu sicrwydd y bydd penderfyniad ar ddatrysiad ar gyfer Gorchymyn Prynu Gorfodol yn cael ei wneud yn unol 芒 cherrig milltir a gytunwyd
- Tystiolaeth i ddangos dealltwriaeth glir o鈥檙 broses Gorchymyn Prynu Gorfodol, gan gynnwys person茅l allweddol, amserlenni a cherrig milltir hanfodol
- Tystiolaeth i ddangos bod cynllun clir ar waith pe bai鈥檙 Gorchymyn Prynu Gorfodol yn aflwyddiannus (h.y. defnyddio offer/ pwerau cynllunio)
- Statws yr holl ddogfennau sy鈥檔 ofynnol i gychwyn y broses Gorchymyn Prynu Gorfodol, a lle bo鈥檔 ymarferol, dylid rhannu鈥檙 dogfennau hun ar ffurf drafft neu ffurf derfynol
- Tystiolaeth i ddangos bod aelodau鈥檙 ALl wedi鈥檜 cynnwys yn y mater a鈥檜 bod yn cefnogi鈥檙 cynnig Porthladd Rhydd cyffredinol a鈥檙 weledigaeth ar gyfer safle trethi arfaethedig
- Cynllun cyflawni clir a chredadwy ar gyfer y safle trethi, gan ystyried graddfeydd amser posibl sicrhau鈥檙 tir gan ddefnyddio Gorchymyn Prynu Gorfodol. Hefyd, nodwch statws caniat芒d cynllunio presennol y tir a鈥檆h cynllun os na chafwyd hynny鈥檔 barod, ar gyfer cyflawni caniat芒d cynllunio llawn.
Maent yn ymwneud 芒 chwestiynau a gyflwynwyd ar liniaru a dadleoli
22. Yn gysylltiedig 芒 C1.14 鈥 beth mae lliniaru鈥檔 ei olygu yn y cyd-destun hwn? A yw鈥檙 cwestiwn yngl欧n ag osgoi effeithiau neu eu lliniaru os ydynt yn digwydd?
23. Yn gysylltiedig 芒 C3.10 鈥 pa allanoldebau eraill (heblaw am ddadleoli economaidd) ddylid eu hystyried?
Lle gall neu lle bydd dadleoli鈥檔 digwydd, dylai cynigwyr gyflwyno cynigion pragmatig ar gyfer sut byddant yn lleihau鈥檙 effeithiau. P鈥檜n a yw hynny鈥檔 osgoi effeithiau sy鈥檔 atal dadleoli neu鈥檔 eu lliniaru lle mae鈥檔 codi, a lliniaru ei effeithiau lle mae鈥檔 digwydd.
Bydd yr ymagwedd fwyaf priodol at wneud hynny yn unigryw i鈥檙 cyd-destun safle penodol ar gyfer pob cynnig, a chynigwyr sydd yn y lle gorau i benderfynu sut i wneud eu hachos drwy ystyried ffactorau fel graddfa a thebygolrwydd y dadleoli a ragwelir.
Mae鈥檔 ofynnol i gynigwyr, felly, esbonio sut mae鈥檙 lleoliadau a ddewiswyd ganddynt ar gyfer safleoedd trethi yn lleihau dadleoli gweithgarwch economaidd oddi wrth ardaloedd difreintiedig cyfagos i鈥檙 eithaf, ac mae鈥檙 asesiad ohonynt yn ffurfio rhan o Faen Prawf Ch (Y gallu i gyflawni鈥檙 cynnig yn effeithiol yn gyflym).
Bydd y cynigion cryfaf yn dangos ymagwedd bragmatig at gynyddu ychwanegedd i鈥檙 eithaf, er enghraifft trwy gael strategaeth gryf ar gyfer, a ffocws clir ar, ddenu buddsoddiad newydd, ymrwymiadau tirfeddianwyr yn ymwneud ag osgoi dadleoli, a/neu ddefnyddio cyfran o鈥檙 ardrethi a gedwir yn 么l i liniaru effeithiau dadleoli lle maent yn digwydd.
Bydd yr allanoldebau negyddol, y tu hwnt i ddadleoli, y dylai cynigwyr eu hystyried yn dibynnu ar gymeriad(au) penodol eu safleoedd a鈥檜 cynlluniau datblygu; fodd bynnag, gallai鈥檙 rhain gynnwys - er enghraifft - effeithiau amgylcheddol neu effeithiau ar seilwaith trafnidiaeth leol.
24. Yn gysylltiedig 芒 C3.11 鈥 (Eglurwch sut bydd eich cynigion yn: cyflawni datgarboneiddio a diogelu鈥檙 amgylchedd, sicrhau cydymffurfiaeth 芒鈥檙 holl reoliadau a safonau amgylcheddol perthnasol; ac, os yw鈥檔 berthnasol, pa safonau amgylcheddol ychwanegol byddwch chi鈥檔 eu pennu, a sut bydd y rhain yn cael eu bodloni). Pa safonau y maen nhw鈥檔 eu rhagweld?
Yn unol 芒鈥檙 prosbectws; man lleiaf
Mae鈥檔 rhaid i geisiadau Porthladd Rhydd amlinellu sut bydd eu cynigion yn cydymffurfio 芒鈥檙 holl reoliadau a safonau amgylcheddol perthnasol, fel ansawdd aer a d诺r, Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau), rheoli gwastraff, trin a thrafod cemegion; ac unrhyw asesiad ychwanegol o effeithiau ar safleoedd a rhywogaethau a warchodir, gan gynnwys mesurau lliniaru.
Mae鈥檔 rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cynllun datgarboneiddio amlinellol ar gyfer y Porthladd Rhydd, gan gynnwys sut y bydd statws Porthladd Rhydd yn datgloi cyfleoedd datgarboneiddio ar gyfer busnesau presennol, ac yn cyfrannu at gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2050, gan gynnwys sut gallant hwyluso datgarboneiddio Porthladd Rhydd yn dilyn dynodiad.
25. Lle mae鈥檙 nodyn ar ddiwedd 鈥4. Maen Prawf D鈥 o Adran 5 鈥楥ais鈥 yn darllen 鈥楧ylai ymgeiswyr nodi y bydd cwestiwn 3.9 yn werth 40% o Faen Prawf D鈥 鈥 a ddylai hwn ddarllen Cwestiwn 3.8?
Dylai, camgymeriad yw hwn a dylai ddarllen;
- Dylai ymgeiswyr nodi y bydd 4.3 yn cael ei asesu gan ddefnyddio鈥檙 wybodaeth gefnogol a ddarperir yng nghwestiwn 3.8.
Mae hwn wedi鈥檌 gywiro yn y prosbectws erbyn hyn.
26. Beth yw lefel uchelgais Llywodraeth Ei Mawrhydi mewn perthynas 芒 rhwyddhad tollau a masnach yn y porthladd rhydd?
Bydd angen i gynigwyr llwyddiannus weithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi a CThEF i adolygu a chadarnhau ffiniau eu safleoedd trethi arfaethedig, cyn cymeradwyo a chychwyn mesurau treth.
Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ganiat谩u i leoliad safleoedd trethi a thollau i newid ar 么l iddynt gael eu cymeradwyo.
Gall y Porthladd Rhydd gynnwys sawl porthladd, sawl safle tollau, a hyd at dri safle trethi o faint cyfyngedig, fel rhan o gynnig Porthladd Rhydd unigol.
Gall safleoedd tollau Porthladdoedd Rhydd gael eu lleoli o fewn ffiniau porthladd presennol ond rhaid iddi fod yn ardal ar wah芒n wedi鈥檌 ffensio, ac ni all orgyffwrdd 芒鈥檙 ardal o鈥檙 porthladd a gymeradwywyd ar gyfer Storio Dros Dro.
Bydd angen yr awdurdodiadau angenrheidiol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ymgeiswyr llwyddiannus cyn y caniateir iddynt weithredu.
Mae gweithredwr safle tollau Porthladd Rhydd yn gyfrifol am reoli symud nwyddau a mynediad pobl i mewn ac allan o鈥檙 safle tollau. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau y gall nwyddau ond adael y safle tollau Porthladd Rhydd pan ganiateir hynny gan Lywodraeth Ei Mawrhydi.
Dylai cynigwyr fynd ati i ddangos yn glir fod y gallu gan weithredwyr y safleoedd arfaethedig i roi mesurau ar waith i sicrhau y gallant gyflawni鈥檙 cyfrifoldeb hwnnw
Defnyddiwch y ddolen ganlynol sy鈥檔 rhoi arweiniad ar weithredu Safle Tollau Porthladd Rhydd
27. A allwn ni gyfarfod 芒 Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i drafod ein cynigion?
Gwahoddwyd cynigwyr i ddau ddigwyddiad rhanddeiliaid ar y cyd a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar 1 Gorffennaf a 5 Hydref 2022, lle鈥檙 oedd cyfleoedd i godi cwestiynau mewn fforwm agored. Hyd at 13 Hydref, gwahoddwyd cynigwyr i godi eglurhadau penodol hefyd drwy fewnflwch canolog Porthladdoedd Rhydd.
Er mwyn sicrhau bod gan ddarpar gynigwyr fynediad cyfartal at wybodaeth ac arweiniad cyson, nid ydym yn cynnig cyfarfodydd i drafod cynigion unigol.
28. A all partneriaid rhanbarthol sy鈥檔 gysylltiedig 芒 swyddogion a gweinidogion Llywodraeth Cymru, fel Parthau Menter a Bargeinion Dinesig a Thwf, gefnogi cynnig?
Nid oes unrhyw beth i atal partneriaid rhanbarthol fel Cadeiryddion Bwrdd neu aelodau Bargeinion Dinesig a Thwf a Pharthau Menter rhag bod yn rhan o鈥檙 ymgysylltiad ehangach 芒 rhanddeiliaid wrth ddatblygu unrhyw gynnig Porthladd Rhydd a darparu tystiolaeth o鈥檜 cefnogaeth.
Ni ddylai Cadeiryddion Bwrdd neu aelodau Bargeinion Dinesig a Thwf a Pharthau Menter gynghori swyddogion neu Weinidogion, neu ofyn am gyngor gan swyddogion neu Weinidogion, ar unrhyw gynnig Porthladd Rhydd penodol mewn unrhyw gyswllt y gallent fod ei gael, er mwyn osgoi unrhyw duedd neu fuddiannau gwirioneddol neu ganfyddedig, ac i sicrhau fod ymgeiswyr yn cael triniaeth deg.
29. A yw鈥檙 codau SIC yn rhan o鈥檙 terfyn o 500 gair yng nghwestiwn 4.1?
Ni fydd codau SIC yn cyfrif at y terfyn geiriau yng nghwestiwn 4.1.聽 Rydych yn cael eu cyflwyno fel geiriau ychwanegol yn yr ateb hwn, heb fod yn gofnod ar wah芒n.
30. A gaiff unrhyw awdurdod lleol gyflwyno cynnig neu ai dim ond y corff atebol rydych chi鈥檔 ei gynnig sy鈥檔 cael gwneud?
Mae unrhyw rai o鈥檙 awdurdodau lleol sydd wedi鈥檜 cynnwys yn y cais yn cael cyflwyno鈥檙 cais, nid dim ond y corff atebol.
31. A gawn ni gynnwys asedau sy鈥檔 eiddo i Lywodraeth Cymru, fel tir, yn ein cais?
Mae Llywodraeth Cymru鈥檔 cytuno mewn egwyddor bod modd cynnwys tir/asedau sy鈥檔 eiddo iddi yng nghynigion y cais. Mae hyn hefyd yn berthnasol i endidau sydd o dan berchnogaeth neu reolaeth Llywodraeth Cymru. Ond ni fydd hynny鈥檔 effeithio mewn unrhyw ffordd ar hawl Gweinidogion Cymru fel perchennog i benderfynu os neu sut y caiff y tir/ased mewn cais llwyddiannus ei ddefnyddio.