Canllawiau

Trwydded gyffredinol i symud gwartheg ac anifeiliaid buchol eraill o sioe amaethyddol heb ei heithrio yn yr Ardal Risg Isel, neu rannau profion gwyliadwriaeth blynyddol ardal ymylol Lloegr, heb brofion TB ar 么l symud yn y sioe

Diweddarwyd 4 Medi 2023

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Yn gymwys i Gymru a Lloegr

DEDDF IECHYD ANIFEILIAID 1981

GORCHYMYN TWBERCWLOSIS MEWN ANIFEILIAID (LLOEGR) 2021 O.S. 2021/1001 FEL Y鈥橧 DIWYGIWYD GAN O.S 2023/867

TRWYDDED GYFFREDINOL I SYMUD GWARTHEG AC ANIFEILIAID BUCHOL ERAILL O SIOE AMAETHYDDOL HEB EI HEITHRIO YN YR ARDAL RISG ISEL NEU RANNAU PROFION GWYLIADWRIAETH BLYNYDDOL ARDAL YMYLOL LLOEGR HEB BROFION TWBERCWLOSIS AR 脭L SYMUD.

Yn unol ag erthygl 20 o Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021, mae鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig drwy hyn yn awdurdodi drwy鈥檙 drwydded gyffredinol hon symud gwartheg ac anifeiliaid buchol eraill o sioe amaethyddol heb ei heithrio (i) yn yr Ardal Risg Isel (ii) (fel y鈥檌 diffinnir yng Ngorchymyn Twbercwlosis (Lloegr) 2021 neu rannau profion gwyliadwriaeth blynyddol ardal ymylol Lloegr (iii) heb fod angen prawf croen ar 么l symud yn y sioe amaethyddol os bodlonir yr amodau canlynol:

1) Mae鈥檙 anifail (anifeiliaid) buchol yn dod o fuches a leolir mewn rhan o Loegr lle y cynhelir profion TB bob blwyddyn neu鈥檔 amlach neu yng Nghymru ac yn cael ei gadw (eu cadw) dros dro ar y safle lle y lleolir sioe amaethyddol heb ei heithrio yn yr Ardal Risg Isel yn Lloegr neu rannau profion gwyliadwriaeth blynyddol Ardal Ymylol Lloegr.

2) Mae symudiadau a ganiateir o dan y drwydded hon o sioeau amaethyddol heb eu heithrio yn Ardal Risg Isel neu rannau profion gwyliadwriaeth blynyddol ardal ymylol Lloegr i鈥檙 canlynol:

  • safle a leolir yn Ardal Risg Isel Lloegr y tu allan i rannau brofion gwyliadwriaeth blynyddol Ardal Ymylol Lloegr a鈥檙 tu allan i Ardal TB Isel Cymru

  • safle a leolir yn Ardal Risg Isel Lloegr, lle mae鈥檔 rhaid i鈥檙 anifail buchol gael prawf ar 么l symud wrth gyrraedd, yn unol ag Erthygl 20 o Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 (fel y鈥檌 diwygiwyd)

  • safle a leolir yn rhannau profion gwyliadwriaeth blynyddol Ardal Ymylol Lloegr, lle mae鈥檔 rhaid i鈥檙 anifail buchol gael prawf ar 么l symud wrth gyrraedd, yn unol ag Erthygl 20 o Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 (fel y鈥檌 diwygiwyd) 鈥 oni bai ei fod wedi cael ei symud yn wreiddiol o fuchesi sydd wedi eu lleoli yn rhannau profion gwyliadwriaeth blynyddol Ardal Ymylol Lloegr i鈥檙 sioe

  • safle a leolir yn Ardal TB Isel Cymru, lle mae鈥檔 rhaid i鈥檙 anifail buchol gael prawf ar 么l symud wrth gyrraedd, pan fo鈥檔 gymwys, yn unol ag Erthygl 13A o Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (fel y鈥檌 diwygiwyd)). Nid yw鈥檙 prawf ar 么l symud yn gymwys os daw鈥檙 anifail (anifeiliaid) o fuches a leolir yn Ardal Risg Isel Lloegr neu Ardal TB Isel Cymru.

3) Ni ellir symud unrhyw anifeiliaid buchol ar neu oddi ar y sioe amaethyddol pe byddai symudiadau o鈥檙 fath yn groes i unrhyw gyfyngiadau eraill sy鈥檔 ymwneud 芒 chlefydau hysbysadwy sydd mewn grym ar adeg y symud arfaethedig.

Ceidwad yr anifail sy鈥檔 gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth 芒鈥檙 amodau a nodir yn y drwydded hon. Mae methu 芒 chydymffurfio 芒 thelerau鈥檙 drwydded hon yn drosedd o dan Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 (fel y鈥檌 diwygiwyd).

Daw鈥檙 drwydded hon i rym am 11 o鈥檙 gloch y bore ar 11 Awst 2023.

Llofnodwyd Gan Sergio Thomas

Arolygydd Milfeddygol a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Dyddiedig 11 Awst 2023 10:14

Nodiadau

i) nid oes angen i anifeiliaid buchol sydd wedi symud i sioe amaethyddol gael prawf ar 么l symud yn yr ardaloedd canlynol:

a. Ardal Risg Isel Lloegr, neu anifeiliaid sy鈥檔 dychwelyd i Ardal Risg Isel Lloegr o sioe amaethyddol y tu allan i Ardal Risg Isel Lloegr

b. rhannau profion gwyliadwriaeth blynyddol yr Ardal Ymylol, neu anifeiliaid sy鈥檔 dychwelyd i rannau profion gwyliadwriaeth blynyddol yr Ardal Ymylol o sioe amaethyddol y tu allan i鈥檙 Ardal Risg Isel neu rannau profion gwyliadwriaeth blynyddol yr Ardal Ymylol

Os na ddelir yr anifeiliaid ar faes y sioe am fwy na 24 awr ac nad ydynt yn cael eu cadw dan do ar faes y sioe. Er mwyn i鈥檙 eithriad hwn fod yn gymwys, rhaid i鈥檙 anifeiliaid buchol gael eu dychwelyd yn uniongyrchol i鈥檙 safle gwreiddiol ar 么l y sioe, neu gael eu lladd neu fynd yn uniongyrchol i gael eu lladd ar 么l y sioe. Ceir rhagor o fanylion am eithriadau i鈥檙 polisi profion ar 么l symud yn (fel y鈥檌 diwygiwyd). Ystyrir bod sioe wedi鈥檌 heithrio os na fydd unrhyw anifeiliaid buchol yn aros ar faes y sioe am fwy na 24 awr ac os na chaiff unrhyw anifail buchol ei gadw dan do h.y. unrhyw fan dan do ag ochrau.

ii) ystyr 鈥測r Ardal Risg Isel鈥 yw unrhyw un o鈥檙 siroedd a restrir yn Atodlen A i Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021: Swydd Bedford, Swydd Gaergrawnt, Cleveland, Swydd Durham, Cumbria, Essex, Llundain Fwyaf, Manceinion Fwyaf, Swydd Hertford, Glannau Humber, Ynys Wyth, Ynysoedd Sili, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Lincoln, Glannau Mersi, Norfolk, Northumberland, Gogledd Swydd Efrog, De Swydd Efrog, Suffolk, Surrey, Tyne a Wear, Gorllewin Sussex Gorllewin Swydd Efrog

iii) mae rhannau profion gwyliadwriaeth blynyddol o鈥檙 Ardal Ymylol yn golygu鈥檙 rhai y cyfeirir atynt fel yr 鈥榓rdal benodol鈥 yn y Gorchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 (fel y鈥檌 diwygiwyd) a gaiff ei ddiffinio fel 鈥榰nrhyw un o鈥檙 siroedd neu blwyfi sifil a restrir yn Atodlen 3鈥 o鈥檙 Gorchymyn

iv) ystyr 鈥淎rdal TB Isel Cymru鈥 yw鈥檙 holl dir tywyll a nodir fel 鈥淭B Isel鈥欌 ar y map a adneuwyd sy鈥檔 dwyn y teitl

v) o dan erthygl 20 o Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 (fel y鈥檌 diwygiwyd), pan symudir anifail buchol i鈥檙 ardaloedd canlynol:

a. Ardal Risg Isel o fuches a leolir mewn rhan arall o Loegr, neu yng Nghymru

b. rhannau profion gwyliadwriaeth blynyddol o鈥檙 Ardal Ymylol o fuches a leolir mewn rhannau o Gymru neu Lloegr sy鈥檔 destun profion gwyliadwriaeth bob chwe mis

Rhaid i鈥檙 ceidwad sy鈥檔 derbyn yr anifail drefnu i filfeddyg cymeradwy gynnal prawf croen ar 么l symud ar yr anifail o fewn dim llai na 60 diwrnod, ond ddim mwy na 120 diwrnod, i鈥檙 dyddiad cyrraedd ar y safle derbyn, a thalu am y prawf hwn; ac eithrio o dan amgylchiadau lle y symudir yr anifail:

  • i gael ei ladd o fewn 120 diwrnod
  • i gael triniaeth filfeddygol
  • i sioe amaethyddol wedi鈥檌 heithrio
  • yn uniongyrchol i farchnad y mae pob anifail yn mynd yn uniongyrchol ohoni i gael ei ladd, i farchnad wedi鈥檌 heithrio, i ganolfan gasglu gymeradwy neu i uned besgi drwyddedig

Lle bydd yn ofynnol i anifail gael prawf croen ar 么l symud, ni all unrhyw un symud yr anifail hwnnw o鈥檙 safle derbyn nes bod y prawf croen wedi鈥檌 gwblhau 芒 chanlyniadau negatif, oni fydd yr anifail yn cael ei symud yn uniongyrchol (neu drwy grynhoad lladd neu farchnad gymeradwy) i鈥檞 ladd, yn uniongyrchol i uned besgi drwyddedig neu鈥檔 uniongyrchol (neu drwy farchnad wedi鈥檌 heithrio) i uned besgi gymeradwy neu uned besgi wedi鈥檌 heithrio a wnaed dan awdurdod trwydded wedi鈥檌 chyhoeddi gan arolygydd.