Papur polisi

Memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng y DU a Gweriniaeth Moldofa: cyfnewid cyfatebol o drwyddedau gyrru

Rolau a chyfrifoldebau DVLA, yr Adran Drafnidiaeth a Gweriniaeth Moldofa wrth dderbyn ceisiadau am gyfnewid trwyddedau鈥檔 gyfatebol rhwng y DU a Moldofa.

Dogfennau

Manylion

Memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn nodi鈥檙 rolau a鈥檙 cyfrifoldebau wrth ddatblygu cyfnewid trwyddedau symlach rhwng y DU a Moldofa, gan gynnwys:

  • yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
  • yr Adran Drafnidiaeth (DfT)
  • Llywodraeth Gweriniaeth Moldofa

O 1 Awst 2025 ymlaen, bydd DVLA yn dechrau derbyn ceisiadau i gyfnewid trwyddedau gan ddinasyddion Gweriniaeth Moldofa. Mae hyn yn golygu y gall dinasyddion cymwys Moldofa yn y DU wneud cais i gyfnewid eu trwydded yrru Moldofa am un gyfwerth y DU heb orfod pasio prawf gyrru theori neu ymarferol.

Bydd Gweriniaeth Moldofa hefyd yn derbyn cyfnewid trwyddedau gyrru a gyhoeddwyd yn y DU, gan gynnwys y rhai a ddelir gan ddinasyddion Moldofa a gafodd yr hawl i yrru tra鈥檔 byw yn y DU.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Gorffennaf 2025

Argraffu'r dudalen hon