Cofrestru i bleidleisio: ffurflen hawdd ei deall
Ffurflen cofrestru i bleidleisio hawdd ei deall yw hon i bobl ag anabledd dysgu, a fydd yn eu tywys drwy'r broses gam wrth gam.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Dogfennau
Manylion
Sut i gofrestru i bleidleisio
Gallwch chi gofrestru i bleidleisio naill ai:
-
ar-lein yn Cofrestru i bleidleisio; neu
-
drwy argraffu a chwblhau’r ffurflen hon a’i hanfon i’ch swyddfa cofrestru etholiadol
Beth sydd angen i chi ei wybod am gofrestru i bleidleisio
Bydd cofrestru i bleidleisio yn eich galluogi i ddweud eich dweud mewn etholiadau lleol, etholiadau cyffredinol a refferenda.
Mae gan bobl sydd ag anabledd dysgu yr un hawl i bleidleisio â phawb arall.
Dim ond unwaith y mae angen i chi gofrestru – nid oes angen i chi gofrestru ar wahân ar gyfer pob etholiad.
Mae’n rhaid i chi gofrestru eto os byddwch wedi newid cyfeiriad, enw neu genedligrwydd.
Pan fyddwch yn cofrestru i bleidleisio, gofynnir am eich rhif Yswiriant Gwladol (ond gallwch gofrestru o hyd os nad oes gennych un). Dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol.
Beth sydd angen i chi ei wybod am sut i bleidleisio
Cyngor ar beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n mynd i bleidleisio yn bersonol.
Pleidleisio os oes gennych anabledd
Os oes gennych anabledd, gall eich swyddfa cofrestru etholiadol roi gwybodaeth i chi am y canlynol:
- mynediad ffisegol, er enghraifft rampiau ar gyfer cadeiriau olwyn a lleoedd parcio i bobl anabl
- bythau pleidleisio lefel isel
- unrhyw gyfarpar penodol sydd ei angen arnoch
Mae’n rhaid i bob gorsaf bleidleisio ddarparu o leiaf un fersiwn print bras o’r papur pleidleisio.