Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 62A: hawliau i olau neu aer

Cyhoeddwyd 15 Gorffennaf 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cefndir

Gall yr hawl i gael golau naturiol trwy agoriad diffiniedig (megis ffenestr neu ffenestr do) fod yn fath o hawddfraint. Fodd bynnag, mae rheolau arbennig yn gysylltiedig 芒 hawliau o鈥檙 fath.

Yn aml, rhaid cofnodi:

  • hawddfreintiau i gael golau neu aer
  • cyfamodau cyfyngu yn ymwneud 芒 golau neu aer, a/neu
  • osodiadau鈥檔 ymwneud 芒 golau neu aer

Rhaid inni hefyd ystyried ychwanegu, newid neu ddileu cofnodion lle mae part茂on yn cytuno i amrywio neu ryddhau hawliau i olau neu aer.

Mae鈥檙 cyfarwyddyd hwn yn amlinellu sut mae CTEF yn ymdrin 芒 cheisiadau o鈥檙 fath. Nid yw鈥檔 gyfarwyddyd cyffredinol i鈥檙 gyfraith yn ymwneud 芒 hawliau o鈥檙 fath.

I gael rhagor o wybodaeth am fathau eraill o hawddfraint, gweler:

2. Cofrestru hawl i olau neu aer

Fel unrhyw hawddfraint arall, gall hawl i olau godi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • grant datganedig
  • goblygiad
  • presgripsiwn

2.1 Grant datganedig ac ymhlyg

Lle mae gweithred yn rhoi neu鈥檔 neilltuo yn ddatganedig neu鈥檔 ymhlyg hawliau i olau neu aer, byddwn yn trin y rhoi neu鈥檙 neilltuo fel y byddem yn trin rhoi neu neilltuo unrhyw hawddfraint arall. I gael rhagor o fanylion gweler cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau.

2.2 Hawliau i olau neu aer a hawliwyd trwy bresgripsiwn

Gellir caffael hawl i olau neu aer trwy ddefnydd hir:

  • trwy bresgripsiwn cyfraith gwlad
  • o dan yr athrawiaeth grant modern coll, neu
  • o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832

Mae presgripsiwn cyfraith gwlad a鈥檙 athrawiaeth grant modern coll yn gweithredu ar gyfer hawliau i olau neu aer fel y maent ar gyfer hawddfreintiau eraill. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o geiswyr sy鈥檔 gwneud cais i gofrestru hawliadau i olau trwy bresgripsiwn yn dibynnu ar Ddeddf Presgripsiwn 1832 (gweler Deddf Presgripsiwn 1832). Yn unol 芒 hynny, nid ydym yn trafod presgripsiwn cyfraith gwlad na鈥檙 athrawiaeth grant modern coll ymhellach yn y cyfarwyddyd hwn. I gael rhagor o wybodaeth amdanynt, gweler cyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawliwyd trwy bresgripsiwn.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawliwyd trwy bresgripsiwn yn nodi鈥檙 ffurfiau priodol o gais i warchod hawddfraint trwy bresgripsiwn a hawliwyd ynghyd 芒鈥檙 dystiolaeth sy鈥檔 ofynnol gyda cheisiadau o鈥檙 fath. Dylech ddarllen y cyfarwyddyd hwnnw ar y cyd 芒鈥檙 canlynol wrth ymdrin 芒 hawliadau trwy bresgripsiwn i hawliau i olau neu aer.

2.2.1 Deddf Presgripsiwn 1832

Mae adran 3 o Ddeddf Presgripsiwn 1832 yn cynnwys darpariaethau arbennig sy鈥檔 gymwys i hawliau i olau. Mae鈥檙 rhain yn datgymhwyso rhai o鈥檙 cyfyngiadau sydd fel arall yn gymwys i gaffael hawddfreintiau trwy bresgripsiwn o dan y Ddeddf. Yn benodol:

  • nid oes unrhyw ofyniad bod defnydd fel hawl (Collis v Home and Colonial Stores [1904] A.C. 179). Ar yr amod y gall ceisydd ddangos 20 mlynedd o ddefnydd parhaus cyn ei gais, gall hawl godi o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832;
  • rhaid i unrhyw gydsyniad fod yn ysgrifenedig er mwyn atal hawl i olau rhag cronni. Nid yw caniat芒d llafar yn atal hawl rhag codi o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832 (Plasterers Co v Parish Clerks Co (1851) 6 Exch. 630)
  • nid oes yn rhaid i鈥檙 mwynhad fod gan neu yn erbyn perchennog rhydd-ddaliol. Yn unol 芒 hynny:
    • gall tenant gaffael hawddfraint dros dir arall y mae ei landlord yn berchen arno, ac
    • nid oes gwahaniaeth a oedd y tir sy鈥檔 dwyn baich yn destun tenantiaeth yn ystod y cyfnod perthnasol o 20 mlynedd
  • nid oes yn rhaid cael grantwr galluog i roi鈥檙 hawl

Fodd bynnag, ni fydd unrhyw hawl i olau yn codi o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832 lle oedd y tir sy鈥檔 dwyn budd a baich ym meddiant yr un person am y cyfan neu ran o鈥檙 cyfnod perthnasol o 20 mlynedd (Harbidge v Warwick (1849) 3 Exch. 552).

Nid oes modd caffael hawliau i olau o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832 dros dir y Goron (Perry v Eames [1891] 1 Ch. 658).

2.2.2 Rhybuddion rhwystr i olau

Mae鈥檔 bosibl peri i atal cyfnod y presgripsiwn rhag rhedeg trwy gael tystysgrif gan yr Uwch Dribiwnlys a chofrestru rhybudd rhwystr i olau fel pridiant tir lleol, yn unol 芒 Deddf Hawliau Goleuni 1959. Mae rhybudd o鈥檙 fath, ar 么l ei gofrestru, yn gweithredu fel rhwystr tybiannol i gael defnydd i olau i鈥檙 adeilad trech ar draws y tir caeth ac yn atal amser rhag rhedeg at ddibenion hawliad hawddfraint trwy bresgripsiwn:

  • hyd nes y caiff y cofrestriad ei ddileu
  • am y cyfnod o flwyddyn sy鈥檔 dechrau gyda鈥檙 dyddiad cofrestru, neu
  • tan y dyddiad dod i ben (yn achos tystysgrif dros dro a gyhoeddwyd o dan adran 2(3)(b) o Ddeddf 1959)

Yn unol 芒 hynny, yn ychwanegol at y dystiolaeth y cyfeirir ati yng nghyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawliwyd trwy bresgripsiwn, pan fyddwch yn gwneud cais i:

  • gofrestru hawl i olau neu aer trwy bresgripsiwn, neu
  • gofnodi rhybudd a gytunwyd o hawl o鈥檙 fath pan nad yw perchennog y tir sy鈥檔 dwyn baich yn cydsynio iddo gael ei gofnodi

rhaid ichi ddarparu chwiliad pridiannau tir lleol sy鈥檔 dangos naill ai:

  • nid yw unrhyw rybudd rhwystr i olau yn effeithio ar yr eiddo, neu
  • lle mae rhybudd o鈥檙 fath yn effeithio ar yr eiddo:
    • daeth y rhybudd i rym ar 么l i鈥檙 hawl trwy bresgripsiwn godi (yn achos hawliad o dan yr athrawiaeth grant modern coll), neu
    • yn achos hawliad o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832, bod y rhybudd wedi cael ei gofrestru llai na blwyddyn cyn dyddiad eich cais a mwy nag 19 mlynedd ac 1 diwrnod ar 么l i鈥檙 defnydd ddechrau

I gael rhagor o fanylion am rybuddion rhwystr i olau, eu cofrestru, eu dileu a鈥檜 hamrywio, lle mai Cofrestrfa Tir EF yw鈥檙 awdurdod cofrestru ar gyfer yr ardal awdurdod lleol perthnasol, gweler cyfarwyddyd ymarfer 79: pridiannau tir lleol.

3. Cyfamodau cyfyngu sy鈥檔 gysylltiedig 芒 golau neu aer

Weithiau, bydd gweithredoedd yn cynnwys cyfamodau cyfyngu sy鈥檔 gysylltiedig 芒 golau neu aer. Enghraifft fyddai cyfamod i beidio 芒 rhwystro llif golau neu aer i鈥檙 ffenestri yn yr adeiladau sydd eisoes ar dir y gwerthwr. Rydym yn trin y rhain fel y byddem yn trin unrhyw gyfamod arall.

3.1 Cyfamodau cyfyngu mewn prydlesi

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod mewn perthynas 芒 chyfamodau cyfyngu a roddwyd gan denant i鈥檞 landlord yn gysylltiedig 芒鈥檙 tir a brydleswyd (adran 33(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Lle mae landlord yn rhoi cyfamodau cyfyngu mewn prydles, gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig.

3.2 Cyfamodau cyfyngu mewn gweithredoedd eraill 鈥 tir sy鈥檔 dwyn baich wedi ei gofrestru

Lle mae鈥檙 cyfamodau cyfyngu yn effeithio ar ystad gofrestredig ac mewn gweithred sy鈥檔 cael ei chofrestru, megis trosglwyddiad neu weithred hawddfraint, nid oes yn rhaid ichi wneud cais ar wah芒n i nodi鈥檙 cyfamodau yng nghofrestr(i) y tir yr effeithir arno ar yr amod bod yr holl rifau teitl yr effeithir arnynt wedi eu cynnwys yn y cais.

Lle mae gweithred gyfamod annibynnol neu lle nad yw鈥檙 cyfamodau wedi eu cofrestru fel arall ac mae鈥檙 tir sy鈥檔 dwyn baich yn gofrestredig, bydd yn rhaid ichi wneud cais i鈥檞 nodi yn erbyn teitl y tir sy鈥檔 dwyn baich. Gallwch wneud cais am:

Mae cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn cynnwys manylion pellach am sut i wneud cais.

Os yw鈥檆h cais i nodi鈥檙 cyfamodau cyfyngu yn llwyddiannus, byddwn naill ai yn:

  • nodi鈥檙 cyfamodau yn y gofrestr (weithiau byddwn yn defnyddio atodlen at y dibenion hyn), neu鈥檔
  • ychwanegu cofnod at y gofrestr yn datgan bod y weithred yn cynnwys cyfamodau cyfyngu ac yn ffeilio copi o鈥檙 weithred

Ni allwn wneud unrhyw gofnod yn y gofrestr sy鈥檔 dangos bod eiddo yn cael budd o gyfamod cyfyngu.

3.3 Cyfamodau cyfyngu mewn gweithredoedd eraill 鈥 yr ystad sy鈥檔 dwyn baich yn ddigofrestredig

Lle mae鈥檙 ystad sy鈥檔 ddarostyngedig i鈥檙 cyfamodau cyfyngu yn ddigofrestredig, dylech gofrestru pridiant tir dosbarth D(ii) yn erbyn enw(au) perchnogion yr ystad. Mae cyfarwyddyd ymarfer 63: y cofrestri pridiannau tir a鈥檙 gofrestr credydau amaethyddol: cofrestru, chwiliad swyddogol, copi swyddfa a dileu yn cynnwys gwybodaeth bellach am hyn.

Gallwch hefyd gofrestru rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf mewn perthynas 芒鈥檙 ystad yr effeithir arni. Nid yw rhybuddiad o鈥檙 fath yn gwarchod y cyfamodau ond bydd yn sicrhau eich bod yn cael rhybudd am unrhyw gais am gofrestriad cyntaf yr ystad yr effeithir arni. Mae cyfarwyddyd ymarfer 3: rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf yn cynnwys manylion pellach.

Ni allwn wneud unrhyw gofnod yn y gofrestr sy鈥檔 dangos bod eiddo yn cael budd o gyfamod cyfyngu.

4. Gosodiadau ynghylch golau neu aer

Mae gweithredoedd yn aml yn cynnwys gosodiadau sydd 芒鈥檙 nod o atal eiddo rhag caffael hawliau i olau neu aer yn y dyfodol, er enghraifft, datganiad sy鈥檔 nodi bod gan y defnydd i olau neu aer i鈥檙 eiddo ganiat芒d trosglwyddwr. O dan reolau 36 (ar gofrestriad cyntaf) a 76 (mewn achosion eraill) o Reolau Cofrestru Tir 2003, gallwn wneud nodyn o hyn yn y gofrestr eiddo ar gyfer y tir yr effeithir arno.

4.1 Gosodiadau mewn prydlesi

Nid ydym yn gwneud unrhyw gofnod yn y gofrestr o osodiadau sydd wedi eu cynnwys mewn prydlesi. Mae hyn oherwydd bod y brydles wedi ei hymgorffori yn y gofrestr ac yn dod yn rhan ohoni (R (on the application of HCP (Hendon) Ltd) v Chief Land Registrar [2020] EWHC 1278 (Admin)). Fodd bynnag, fel arfer rydym yn cadw copi o鈥檙 brydles, fel y gall y rhai sydd 芒 budd weld y gosodiad.

Lle mae鈥檙 teitl y rhoddir y brydles ohono yn ddarostyngedig i gofnod mewn perthynas 芒 gosodiad o鈥檙 fath, gallwn ddyblygu鈥檙 cofnod hwnnw ar y teitl ar gyfer y brydles newydd.

4.2 Cofrestriad cyntaf

Lle rydym yn gweld bod eiddo rhydd-ddaliol yn ddarostyngedig i osodiad yn ymwneud 芒 golau neu aer ar gofrestriad cyntaf, fel arfer byddwn naill ai yn:

  • nodi鈥檙 gosodiad yn y gofrestr (weithiau byddwn yn defnyddio atodlen at y dibenion hyn), neu鈥檔
  • ychwanegu cofnod at y gofrestr yn datgan bod y weithred yn cynnwys gosodiadau ac yn ffeilio copi o鈥檙 weithred

Fodd bynnag, lle mae鈥檙 gosodiad wedi ei gymysgu 芒 chyfamodau cyfyngu eraill neu hawliau sydd wedi eu rhoi neu eu neilltuo rydym yn eu nodi yn y gofrestr, byddwn yn cynnwys y gosodiad gyda nhw ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod ar wah芒n yn y gofrestr eiddo.

4.3 Gwarediadau a deliadau eraill 芒 thir cofrestredig

Lle mae鈥檙 gosodiad mewn gweithred (ac eithrio prydles) sy鈥檔 cael ei chofrestru, megis trosglwyddiad, nid oes yn rhaid ichi wneud cais ar wah芒n i gofnodi鈥檙 gosodiad yng nghofrestr(i) y tir yr effeithir arno ar yr amod bod yr holl rifau teitl yr effeithir arnynt wedi eu cynnwys yn y cais.

Lle nad yw鈥檙 weithred sy鈥檔 cynnwys y gosodiad yn cael ei gofrestru, gallwch wneud cais i gofnodi鈥檙 gosodiad. Gwnewch yn siwr fod y cais yn cynnwys trafodiad 鈥楪osodiadau鈥, a:

  • chopi gwreiddiol neu gopi ardystiedig o鈥檙 weithred berthnasol
  • y ffi berthnasol

Os yw鈥檙 cais yn gywir, fel arfer byddwn naill ai yn:

  • nodi鈥檙 gosodiad yn y gofrestr (weithiau byddwn yn defnyddio atodlen at y dibenion hyn), neu鈥檔
  • ychwanegu cofnod at y gofrestr yn datgan bod y weithred yn cynnwys cyfamodau cyfyngu ac yn ffeilio copi o鈥檙 weithred

Fodd bynnag, lle mae鈥檙 gosodiad wedi ei ymgorffori gyda chyfamodau cyfyngu eraill neu hawliau wedi eu rhoi neu eu neilltuo rydym yn eu nodi yn y gofrestr, byddwn yn cynnwys y gosodiad gyda nhw ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod ar wah芒n yn y gofrestr eiddo.

4.4 Y teitl sy鈥檔 cael budd y gosodiad

Yn flaenorol, roedd rheol 197 o Reolau Cofrestru Tir 1925 yn caniat谩u inni wneud cofnod ar y gofrestr ar gyfer y teitl oedd yn cael budd y gosodiad. Nid oes unrhyw beth cyfatebol yn Rheolau Cofrestru Tir 2003. Yn unol 芒 hynny, nid ydym yn gwneud cofnod o鈥檙 fath mwyach.

Lle rydym yn dod ar draws cofnod a wnaed o dan Reolau Cofrestru Tir 1925, ni fyddwn yn ei ddileu. Fodd bynnag, ni fyddwn yn ei gario ymlaen i unrhyw deitl newydd sy鈥檔 cael ei roi o鈥檙 teitl buddiol (er enghraifft wrth drosglwyddo rhan neu brydles).

5. Rhyddhau hawliau i olau neu aer

Gall hawliau i olau neu aer ddod i ben fel unrhyw hawddfraint arall. Mae cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau yn cynnwys manylion pellach am ddulliau amrywiol a sut i adlewyrchu hyn ar y gofrestr. Wrth geisio cofrestru gweithred rhyddhau hawliau i olau neu aer, dylech ddarllen y cyfarwyddyd hwnnw ar y cyd 芒鈥檙 canlynol.

5.1 Rhyddhad neu amrywiad o hawliau i olau neu aer wedi eu rhoi neu eu neilltuo mewn prydles

Lle bo鈥檙 rhyddhad neu鈥檙 amrywiad yn effeithio ar hawliau wedi eu rhoi neu eu neilltuo mewn prydles, ar yr amod bod y cais yn gywir, byddwn yn adlewyrchu鈥檙 amrywiad yn nheitlau鈥檙 landlord a鈥檙 tenant. Mae cyfarwyddyd ymarfer 68: gweithredoedd newid sy鈥檔 peri gwarediadau tir cofrestredig yn rhoi manylion pellach am sut rydym yn trin gweithredoedd sy鈥檔 newid prydlesi cofrestredig.

5.2 Rhyddhad llwyr ac mae鈥檙 hawl yn ymddangos ar y gofrestr

Lle mae鈥檙 weithred yn rhyddhau鈥檔 llwyr unrhyw hawl i olau ac mae鈥檙 hawl yn ymddangos ar y gofrestr, byddwn naill ai yn:

  • dileu unrhyw gyfeiriad at yr hawl o鈥檙 gofrestr, neu鈥檔
  • ychwanegu cofnod at y gofrestr berthnasol gan ddefnyddio鈥檙 geiriad canlynol:

鈥淭rwy weithred ddyddiedig [DYDDIAD] a wnaed rhwng [PART脧ON] mae鈥檙 [DISGRIFIAD O鈥橰 HAWL] y cyfeirir ati uchod wedi cael ei diddymu.

NODYN: Copi yn y ffeil.鈥

Fel rheol, byddwn yn dewis yr opsiwn olaf lle mae鈥檙 cofnod neu鈥檙 ddogfen berthnasol yn cynnwys hawddfreintiau eraill nad ydynt wedi cael eu rhyddhau.

Os yw鈥檙 weithred hefyd yn cynnwys gosodiad sy鈥檔 atal hawliau i olau neu aer rhag codi yn y dyfodol (fel y mae鈥檙 rhan fwyaf), byddwn hefyd yn gweithredu fel y nodir yn Gosodiadau ynghylch golau neu aer.

5.3 Rhyddhad rhannol ac mae鈥檙 hawl yn ymddangos ar y gofrestr

Yn aml, bydd gweithred yn rhyddhau hawliau i olau neu aer yn rhannol yn unig. Enghraifft gyffredin yw rhyddhau hawliau i olau neu aer i鈥檙 graddau sy鈥檔 angenrheidiol i gyflawni datblygiad penodol.

Lle daw gweithred o鈥檙 fath ac mae鈥檙 hawliau yn ymddangos ar y gofrestr, fel arfer byddwn yn ychwanegu nodyn i adlewyrchu鈥檙 amrywiad a berir gan y weithred ac yn cadw copi o鈥檙 weithred. Os yw鈥檙 weithred hefyd yn cynnwys gosodiad sy鈥檔 atal hawliau i olau neu aer rhag codi yn y dyfodol (fel y mae鈥檙 rhan fwyaf), byddwn hefyd yn gweithredu fel y nodir yn Gosodiadau ynghylch golau neu aer.

5.4 Rhyddhad llwyr ac nid yw鈥檙 hawl yn ymddangos ar y gofrestr

Os yw鈥檙 weithred yn rhyddhau鈥檔 llwyr unrhyw hawliau i olau a allai fod gan eiddo ond nid yw鈥檙 hawliau hynny yn ymddangos ar y gofrestr, ni fyddwn yn gwneud unrhyw nodyn o鈥檙 rhyddhad ar y gofrestr.

Fodd bynnag, os yw鈥檙 weithred yn cynnwys gosodiad sy鈥檔 atal hawliau i olau neu aer rhag codi yn y dyfodol (fel y mae鈥檙 rhan fwyaf), byddwn yn gweithredu fel y nodir yn Gosodiadau ynghylch golau neu aer. Os nad yw鈥檔 cynnwys gosodiad o鈥檙 fath, byddwn yn dileu unrhyw gais i gofrestru鈥檙 weithred.

Fel y nodir yn Rhyddhad llwyr ac mae鈥檙 hawl yn ymddangos ar y gofrestr, ein harfer lle mae hawl i olau neu aer yn cael ei ryddhau yw naill ai:

Mae hyn yn gyson 芒鈥檔 harfer ar gyfer mathau eraill o hawddfreintiau (gweler cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau). Fodd bynnag, nid yw鈥檙 un o鈥檙 opsiynau hyn yn bosibl lle nad oes cofnod presennol sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 hawl yn y gofrestr.

5.5 Rhyddhad rhannol ac nid yw鈥檙 hawl yn ymddangos ar y gofrestr

Os yw鈥檙 weithred yn rhyddhau鈥檙 hawliau i olau neu aer yn rhannol ac nid yw鈥檙 hawliau hynny yn ymddangos ar y gofrestr, ni fyddwn yn gwneud unrhyw nodyn o鈥檙 rhyddhad ar y gofrestr. Mae hyn am y rhesymau a nodir yn Rhyddhad llwyr ac nid yw鈥檙 hawl yn ymddangos ar y gofrestr. Fodd bynnag, gallwch wneud cais i gofrestru unrhyw hawliau sy鈥檔 weddill yn y ffordd arferol (gweler Cofrestru hawl i olau neu aer). Dylech gynnwys copi gwreiddiol neu gopi ardystiedig o鈥檙 weithred ryddhau gyda鈥檙 cais hwnnw. Yna byddwn naill ai鈥檔 newid y cofnod hawddfraint neu鈥檔 ychwanegu cofnod ychwanegol at y gofrestr i adlewyrchu鈥檙 rhyddhad rhannol.

Waeth beth am yr uchod, os yw鈥檙 weithred yn cynnwys gosodiad sy鈥檔 atal hawliau i olau neu aer rhag codi yn y dyfodol (fel y mae鈥檙 rhan fwyaf), byddwn yn gweithredu fel y nodir yn Gosodiadau ynghylch golau neu aer. Os nad yw鈥檙 weithred yn cynnwys gosodiad o鈥檙 fath, byddwn yn dileu unrhyw gais i gofrestru鈥檙 weithred.

5.6 Cofnodion lle nad yw鈥檔 glir a yw鈥檙 hawl wedi cael ei diddymu鈥檔 gywir

Os nad yw鈥檔 glir bod yr hawl i olau neu aer wedi cael ei diddymu ac y byddem fel arall yn dileu cofnod neu鈥檔 gwneud cofnod yn nodi bod yr hawl wedi cael ei rhyddhau, gallwn wneud cofnod ar hyd y llinellau canlynol:

鈥淭rwy weithred ddyddiedig [DYDDIAD] a wnaed rhwng [PART脧ON] mynegwyd bod [DISGRIFIAD O鈥橰 HAWL A鈥橰 WEITHRED SYDD WEDI EI GYNNWYS YNDDI] i鈥檞 ryddhau ond nid yw dilysrwydd y rhyddhad wedi ei bennu.

NODYN: Copi yn y ffeil.鈥

6. Pethau i鈥檞 cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd am ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.