Serious violence reduction orders: draft statutory guidance (Welsh accessible)
Updated 30 March 2023
Papur i鈥檞 gyflwyno ger bron y ddau D欧 Seneddol am gyfnod o 40 diwrnod. Gall y naill D欧 neu鈥檙 llall benderfynu yn ystod y cyfnod hwnnw na ddylid cymeradwyo鈥檙 Canllawiau Drafft.
Cyflwynir i鈥檙 Senedd yn unol ag Adran 342K Deddf Dedfrydu 2020
Hydref 2022
Crynodeb
Yngl欧n 芒鈥檙 canllawiau hyn
1. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 14 Medi ac 8 Tachwedd 2020,[footnote 1] cyflwynwyd Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol (SVRO) yn Neddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a鈥檙 Llysoedd 2022[footnote 2] (鈥淒eddf PCSC 2022鈥) a chawsant eu mewnosod i鈥檙 Cod Dedfrydu[footnote 3].
2. Mae adran 342J(1) o鈥檙 Cod Dedfrydu (fel y鈥檌 mewnosodwyd gan Ddeddf PCSC 2022) yn nodi y gall yr Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi canllawiau i gwnstabliaid, prif swyddogion yr heddlu a Phrif Gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ynghylch arfer eu swyddogaethau mewn perthynas ag SVROs.
3. Mae adran 342J(4) o鈥檙 Cod Dedfrydu (fel y鈥檌 mewnosodwyd gan Ddeddf PCSC 2022) yn nodi bod yn rhaid i鈥檙 heddlu ystyried canllawiau o鈥檙 fath wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas ag SVROs.
4. Mae鈥檙 canllawiau hyn yn nodi cefndir SVROs, prosesau鈥檙 heddlu, ystyriaethau tystiolaethol, gweithdrefnau鈥檙 llysoedd a gwybodaeth am ddefnyddio SVROs ochr yn ochr 芒 gorchmynion ac ymyriadau eraill.
Terminoleg
5. Defnyddir y derminoleg ganlynol drwy鈥檙 canllawiau hyn:
-
SVRO 鈥 Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol.
-
Erlyniad 鈥 Yr awdurdod sy鈥檔 gwneud cais am y SVRO, sef Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS). Dim ond yr erlyniad all wneud ceisiadau am SVRO. Gall y troseddwr neu brif swyddog heddluoedd penodedig neu mewn rhai achosion penodol, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) wneud ceisiadau i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu.
-
Troseddwr 鈥 Yr unigolyn y gwnaed SVRO mewn perthynas ag ef neu y gwnaed cais am SVRO mewn perthynas ag ef. Dim ond i unigolion 18 oed neu鈥檔 h欧n y gellir cyflwyno SVRO.
-
Eitem 芒 llafn[footnote 4] 鈥 eitem y mae adran 139 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 yn gymwys iddi.
-
Niwed 鈥 yn cynnwys niwed corfforol a seicolegol.
-
Arf Ymosodol [footnote 5]鈥 yr un ystyr ag a roddir yn adran 1(4) o Ddeddf Atal Troseddau 1953.
-
Man cyhoeddus 鈥 unrhyw fan y mae gan y cyhoedd neu unrhyw adran o鈥檙 cyhoedd fynediad iddi, drwy d芒l neu fel arall, fel hawl neu drwy rinwedd caniat芒d datganedig neu oblygedig, neu unrhyw fan arall y mae gan bobl fynediad parod ati ond nad yw鈥檔 annedd.
Pennod 1: Beth yw Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol?
Trosolwg
Diben
Mae SVRO yn orchymyn sifil a wneir mewn perthynas 芒 throseddwr a gaiff ei euogfarnu o drosedd sy鈥檔 ymwneud ag eitem 芒 llafn neu arf ymosodol. Mae鈥檙 gorchymyn yn rhoi鈥檙 p诺er i鈥檙 heddlu chwilio person sy鈥檔 destun SVRO er mwyn canfod a oes ganddo eitem 芒 llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant, a鈥檌 gadw at ddiben cynnal y chwiliad hwnnw, ar yr amod bod y person hwnnw mewn man cyhoeddus.
Ymgeiswyr
Yr erlyniad yn unig, naill ai鈥檔 dilyn penderfyniad ganddo鈥檌 hun neu鈥檔 dilyn cais gan yr heddlu.
Prawf
-
Rhaid i鈥檙 llys fod yn fodlon, yn 么l pwysau tebygolrwydd, bod y troseddwr wedi defnyddio eitem 芒 llafn neu arf ymosodol wrth gyflawni鈥檙 drosedd neu fod eitem 芒 llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant ar y pryd; neu fod person arall a gyflawnodd y drosedd wedi defnyddio eitem 芒 llafn neu arf ymosodol wrth gyflawni鈥檙 drosedd neu fod eitem 芒 llafn neu arf ymosodol ym meddiant y person hwnnw a bod y troseddwr yn gwybod mai dyna fyddai鈥檙 achos neu y dylai fod wedi gwybod hynny.
-
Rhaid i鈥檙 llys fod o鈥檙 farn bod angen iddo wneud gorchymyn er mwyn diogelu鈥檙 cyhoedd neu ddiogelu unrhyw aelodau penodol o鈥檙 cyhoedd (gan gynnwys y troseddwr) yng Nghymru a Lloegr rhag y risg o niwed yn deillio o eitem 芒 llafn neu arf ymosodol neu er mwyn atal y troseddwr rhag cyflawni trosedd gan ddefnyddio eitem 芒 llafn neu arf ymosodol.
Manylion
-
Ar gael i unigolion 18 oed a throsodd.
-
Gall y llys ei gyflwyno os caiff yr amodau uchod eu bodloni.
-
Mae鈥檙 gorchymyn yn rhoi鈥檙 p诺er i鈥檙 heddlu chwilio person sy鈥檔 destun SVRO er mwyn canfod a oes ganddo arf neu eitem 芒 llafn yn ei feddiant, a鈥檌 gadw at ddiben cynnal y chwiliad hwnnw, ar yr amod bod y person hwnnw mewn man cyhoeddus.
-
Yn para rhwng chwe mis a dwy flynedd 鈥 os caiff y troseddwr ei garcharu, gall y llys orchymyn na fydd y gorchymyn yn weithredol hyd nes y caiff ei ryddhau o鈥檙 ddalfa.
Cosb am Dorri Gorchymyn
-
Bydd y troseddwr yn cyflawni trosedd os bydd yn methu, heb esgus rhesymol, 芒 gwneud unrhyw beth sy鈥檔 ofynnol iddo ei wneud gan y gorchymyn neu os bydd yn gwneud unrhyw beth y mae鈥檙 gorchymyn yn ei wahardd rhag gwneud; os bydd yn fwriadol yn rhoi gwybodaeth ffug i鈥檙 heddlu gan honni ei fod yn cydymffurfio 芒鈥檙 gorchymyn; os bydd yn dweud wrth gwnstabl nad yw鈥檔 destun gorchymyn, neu os bydd yn fwriadol yn atal cwnstabl rhag arfer p诺er stopio a chwilio.
-
Ar hyn o bryd, y gosb am gyflawni trosedd o鈥檙 fath yn dilyn euogfarn ddiannod yw cyfnod o garchar hyd at ddeuddeg mis neu ddirwy (diderfyn) neu鈥檙 ddau.
-
Y gosb yn dilyn euogfarn ar dditiad yw cyfnod o garchar hyd at ddwy flynedd, neu ddirwy (diderfyn) neu鈥檙 ddau.
Diddymu, Amrywio ac Adnewyddu
- O dan adran 342H, gellir gwneud cais i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu SVRO. Rhaid gwneud cais o鈥檙 fath i鈥檙 llys priodol.
础辫锚濒
-
Gall y troseddwr apelio yn erbyn penderfyniad i wneud gorchymyn fel petai鈥檙 gorchymyn yn ddedfryd a wnaed mewn perthynas 芒鈥檙 troseddwr am drosedd.
-
Gellir cyflwyno apeliadau mewn perthynas 芒 chais am orchymyn i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu SVRO i鈥檙 Llys 础辫锚濒 os cyflwynwyd y cais hwnnw i Lys y Goron neu yn unrhyw achos arall, caiff apeliadau am orchymyn i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu SVRO eu cyflwyno i Lys y Goron.
Y Ddeddfwriaeth
- Adran 342A i 342K o鈥檙 Cod Dedfrydu (fel y鈥檌 mewnosodwyd gan Adran 165 o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a鈥檙 Llysoedd).
Cefndir
Pam cafodd Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol eu cyflwyno?
6. Mae trais difrifol yn cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr a鈥檜 teuluoedd, yn codi ofn o fewn cymunedau ac yn gostus iawn i gymdeithas. Mae nifer yr achosion o droseddau cyllyll a gofnodwyd wedi cynyddu dros gyfnod o sawl blwyddyn.
7. O ganlyniad, rydym wedi cyflwyno SVROs. Rydym yn gwybod bod yr heddlu o鈥檙 farn bod gweithdrefnau stopio a chwilio yn hanfodol er mwyn mynd i鈥檙 afael 芒 throseddau treisgar a鈥檙 arfer o gario arfau sy鈥檔 amlwg ymhlith nifer o droseddwyr.
8. Bydd SVROs yn rhoi pwerau i鈥檙 heddlu weithredu mewn ffordd fwy pendant a rhagweithiol, gan roi hawl awtomatig iddynt chwilio鈥檙 troseddwyr hyn. Y bwriad yw cynyddu鈥檙 risg y c芒nt eu canfod ym meddwl yr unigolion hynny sy鈥檔 destun y gorchymyn, gan helpu i鈥檞 darbwyllo na ddylent gario arfau a rhoi sail gredadwy iddynt dros beidio 芒 chario arfau neu droseddu fel arall.
9. Mae defnydd wedi鈥檌 dargedu o weithdrefnau stopio a chwilio, fel rhan o ddull gweithredu ehangach mewn perthynas ag ymyrryd a goruchwylio troseddwyr a鈥檜 hannog i beidio 芒 throseddu, yn anelu at helpu i ddiogelu pobl yn y cymdogaethau hynny sy鈥檔 wynebu鈥檙 risg fwyaf.
Pwy all fod yn destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol?
10. Gall y llys wneud SVRO pan gaiff oedolyn (18 oed neu drosodd) ei euogfarnu o drosedd lle defnyddiwyd eitem 芒 llafn neu arf ymosodol, hynny yw, unrhyw drosedd yr oedd eitem 芒 llafn neu arf ymosodol yn gysylltiedig 芒鈥檙 drosedd honno. Gallai hyn gynnwys cario eitem 芒 llafn neu arf ymosodol yn anghyfreithlon, cyflawni lladrad neu ymosod ar berson gan ddefnyddio neu fygwth arf, neu ag arf yn eich meddiant, er enghraifft.
11. Rhaid i鈥檙 euogfarn fod am drosedd a gyflawnwyd ar y diwrnod cyntaf a bennir gan reoliadau ar gyfer dechrau鈥檙 gorchmynion i unrhyw raddau, neu ar 么l y diwrnod hwnnw. Hynny yw, ar y diwrnod y dechreuwyd y cynllun peilot ar gyfer SVROs, neu ar 么l y diwrnod hwnnw. Nid yw鈥檙 ddeddfwriaeth yn 么l-weithredol, ni ellir gwneud SVRO mewn perthynas ag euogfarn am drosedd a gyflawnwyd cyn dechrau鈥檙 ddeddfwriaeth gyntaf.
Beth fydd y llys yn ei ystyried wrth roi Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol?
12. Rhaid i鈥檙 erlyniad wneud cais i鈥檙 llys er mwyn gwneud SVRO mewn perthynas 芒 throseddwr, a bydd gan y llys ddisgresiwn llawn i wneud gorchymyn.
13. Dim ond os bydd y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 ddau amod canlynol wedi鈥檜 bodloni y gall y llys wneud gorchymyn. Yr amod cyntaf yw bod yn rhaid i鈥檙 llys fod yn fodlon yn 么l pwysau tebygolrwydd:
i) bod y troseddwr wedi defnyddio eitem 芒 llafn neu arf ymosodol wrth gyflawni鈥檙 drosedd; neu
ii) bod eitem 芒 llafn neu arf ymosodol ym meddiant y troseddwr pan gyflawnwyd y drosedd.
14. Yr ail amod yw bod yn rhaid i鈥檙 llys fod yn fodlon yn 么l pwysau tebygolrwydd:
iii) bod person arall wedi defnyddio eitem 芒 llafn neu arf ymosodol wrth gyflawni鈥檙 drosedd a bod y troseddwr yn gwybod mai dyna fyddai鈥檙 achos neu y dylai fod wedi gwybod hynny; neu
iv) bod eitem 芒 llafn neu arf ymosodol ym meddiant person arall a gyflawnodd y drosedd pan gafodd y drosedd ei chyflawni a bod y troseddwr yn gwybod mai dyna fyddai鈥檙 achos neu y dylai fod wedi gwybod hynny.
15. Mae pwysau tebygolrwydd (safon sifil) yn golygu bod yn rhaid i lys fod yn fodlon ar sail y dystiolaeth ei bod yn fwy tebygol na pheidio bod yr amgylchiadau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 amod cyntaf neu鈥檙 ail amod wedi digwydd.
16. Mae鈥檙 ail amod yn caniat谩u i SVROs gael eu gwneud lle caiff unigolyn na ddefnyddiodd arf neu nad oedd arf yn ei feddiant ei euogfarnu o drosedd lle roedd eitem 芒 llafn neu arf ymosodol yn bresennol. Enghraifft o ymddygiad o鈥檙 fath yw lle caiff person ei euogfarnu o ladrad lle cafodd cyllell ei fygwth gan berson arall, ond bod y person a euogfarnwyd yn bresennol ac y gwnaeth helpu neu annog y troseddu.
17. Os caiff y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 ddau amod cyntaf eu bodloni, rhaid i鈥檙 llys hefyd fod o鈥檙 farn bod angen gwneud SVRO mewn perthynas 芒鈥檙 troseddwr er mwyn:
i) diogelu鈥檙 cyhoedd yng Nghymru a Lloegr rhag y risg o niwed (gan gynnwys niwed corfforol a seicolegol) yn deillio o eitem 芒 llafn neu arf ymosodol,
ii) diogelu unrhyw aelodau penodol o鈥檙 cyhoedd yng Nghymru a Lloegr (gan gynnwys y troseddwr) rhag risg o鈥檙 fath, neu
iii) atal y troseddwr rhag cyflawni trosedd gan ddefnyddio eitem 芒 llafn neu arf ymosodol.
Pennod 2: Y Broses ar gyfer Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol
Nodi
-
Caiff trosedd ei chyflawni.
-
Bydd yr heddlu yn nodi a oes angen SVRO.
-
Bydd yr heddlu yn defnyddio gwybodaeth (gan gynnwys gan bartneriaethau lleol lle bo angen) a data er mwyn nodi risg, bygythiad neu niwed mewn perthynas 芒鈥檙 troseddwr.
Paratoi
- Bydd angen i鈥檙 heddlu baratoi tystiolaeth berthnasol a phriodol ar gyfer SVRO a鈥檌 chyflwyno i鈥檙 erlyniad
Gwneud cais
-
Bydd yr erlyniad yn ystyried y dystiolaeth ac yn penderfynu a ddylid gwneud cais i鈥檙 llys
-
Rhaid cwblhau鈥檙 dogfennau perthnasol
-
Gall y llys ddyfarnu SVRO pan gaiff y troseddwr ei euogfarnu, os bydd yn fodlon yn 么l pwysau tebygolrwydd.
Stopio a Chwilio
- Gall swyddog chwilio鈥檙 troseddwr at ddiben canfod a oes ganddo eitem 芒 llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant.
Cofnodi a Monitro
-
Bydd yr heddlu yn gyfrifol am gofnodi cydymffurfiaeth y troseddwr 芒鈥檙 weithdrefn stopio a chwilio.
-
Dylid cofnodi data am y weithdrefn a chynnal proses graffu allanol ar y data hynny
Dulliau adnabod
18. Dylai heddluoedd helpu鈥檙 erlyniad i gyflwyno ceisiadau am SVROs mewn perthynas 芒鈥檙 troseddwyr hynny sy鈥檔 peri risg o niwed yn deillio o eitem 芒 llafn neu arf ymosodol, neu risg o gyflawni trosedd bellach gan ddefnyddio eitem 芒 llafn neu arf ymosodol, yn eu cymunedau lleol.
19. Y bwriad yw y bydd SVRO yn atal unigolion rhag cario arfau drwy gynyddu鈥檙 risg y c芒nt eu canfod yn cario arfau. Mater i鈥檙 erlyniad fydd penderfynu a ddylid gwneud cais am SVRO, ac mae gan y llysoedd ddisgresiwn llawn i benderfynu a oes angen gwneud SVRO.
20. Dylai heddluoedd ystyried pob achos cymwys ar gyfer SVRO. Dylai鈥檙 penderfyniad i wneud cais am SVRO fod yn seiliedig ar wybodaeth sy鈥檔 hysbys am yr achos, y troseddwr, yr amgylchiadau ehangach a ffactorau risg a throseddu lleol.
21. Dylai heddluoedd ystyried gwybodaeth a data sy鈥檔 bodoli eisoes am droseddwyr. Dim ond ar 么l euogfarn y mae SVROs ar gael gan mai dim ond ar 么l cyflawni trosedd y dylid gwneud ystyriaethau o鈥檙 fath.
22. Mae鈥檔 bosibl y bydd yr heddlu am drafod 芒 phartneriaethau amlasiantaeth lleol (fel y rheini 芒 chynrychiolwyr o awdurdodau lleol, y gwasanaeth prawf, gwasanaethau cymdeithasol; ac ati) yr unigolion hynny sy鈥檔 cyflwyno鈥檙 risg fwyaf a pha becyn ymyriadau ehangach sydd fwyaf perthnasol a phriodol ar gyfer troseddwr, ochr yn ochr 芒 SVRO 鈥 gallai hyn fod ar ffurf gorchymyn arall gan y llys fel Gorchymyn Atal Troseddau Cyllyll, Gwaharddeb Gangiau neu ymyriadau gwirfoddol eraill.
23. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i amgylchiadau unigol pob achos, a dylid teilwra unrhyw ymyriadau a gaiff eu hystyried ochr yn ochr 芒鈥檙 SVRO at yr achos unigol.
Trefniadau鈥檙 heddlu ar gyfer paratoi tystiolaeth i鈥檙 erlyniad
24. Dylai鈥檙 heddlu baratoi鈥檙 dystiolaeth i鈥檞 chyflwyno i鈥檙 erlyniad er mwyn gwneud cais am SVRO.
25. Dylai鈥檙 heddlu sicrhau bod y dystiolaeth hon wedi鈥檌 chynnwys gyda鈥檙 ffeil a gaiff ei hanfon at yr erlyniad ar gyfer y gwrandawiad cyntaf. Lle gwneir cais am SVRO ar gyfer achos a gyflwynwyd i鈥檙 erlyniad am awdurdodiad cyn-cyhuddo (PCA), dylai鈥檙 heddlu nodi ar y cais am PCA y bydd yn gwneud cais am y gorchymyn ac y bydd y dystiolaeth yn y ffeil.
26. Wrth baratoi鈥檙 achos, dylid sicrhau bod y dystiolaeth a gyflwynir yn berthnasol ac yn briodol. Gall hyn gynnwys:
-
Gwybodaeth yn crynhoi hanes troseddu鈥檙 troseddwr a gwybodaeth gefndir a gynhwyswyd fel rhan o ffeil yr achos
-
Adroddiadau gan dimau rheoli troseddwyr lleol ac asiantaethau perthnasol eraill (e.e. gwasanaethau cymdeithasol, partneriaethau diogelwch cymunedol ac ati)
-
Amrywiaeth o dystiolaeth ategol (a gasglwyd yn ystod y cam adnabod) yn esbonio pam mae angen y SVRO er mwyn diogelu鈥檙 cyhoedd yng Nghymru a Lloegr rhag y risg o niwed yn deillio o eitem 芒 llafn neu arf ymosodol, amddiffyn unrhyw aelodau penodol o鈥檙 cyhoedd (gan gynnwys y troseddwr) rhag risg o鈥檙 fath, neu atal y troseddwr rhag cyflawni trosedd arall gan ddefnyddio eitem 芒 llafn neu arf ymosodol
27. Bydd angen sicrhau bod dogfennau perthnasol hefyd ar gael. Bydd hyn yn cynnwys:
- Ffurflen gais gan gynnwys crynodeb o hanes troseddu鈥檙 troseddwr a gwybodaeth gefndir
Gofynion hysbysu a rhyngweithio gan yr heddlu
28. Lle caiff gorchymyn ei gyflwyno, dylid hysbysu鈥檙 heddlu drwy鈥檙 canlyniad llys a diweddaru鈥檙 dudalen wybodaeth gorchmynion a gweithredu ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC).
29. Mae鈥檔 bosibl y bydd yr heddlu am fanteisio ar y cyfle hwn i ymgysylltu 芒鈥檙 troseddwr ac egluro effeithiau SVRO, hynny yw, esbonio gofynion ac effeithiau SVRO a pha drosedd y gallai fod yn eu cyflawni os bydd yn torri鈥檙 gorchymyn i鈥檙 troseddwr mewn iaith gyffredin. Bydd y troseddwr yn cyflawni trosedd os bydd yn fwriadol yn rhoi gwybodaeth ffug i鈥檙 heddlu gan honni ei fod yn cydymffurfio 芒鈥檙 gorchymyn (gweler yr adran ar Torri SVRO i gael rhagor o fanylion).
30. Rhaid i鈥檙 troseddwr roi鈥檙 wybodaeth ganlynol i鈥檙 heddlu o fewn tri diwrnod yn dechrau ar y diwrnod y daw鈥檙 gorchymyn yn weithredol;
i) Ei enw, neu enwau, ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad ac os yw鈥檙 troseddwr yn defnyddio un neu fwy o enwau eraill ar y diwrnod hwnnw, pob un o鈥檙 enwau hynny;
ii) Ei gyfeiriad cartref ar y diwrnod hwnnw ac unrhyw gyfeiriad arall lle mae鈥檔 preswylio neu鈥檔 aros yn rheolaidd, ar y diwrnod hwnnw.
31. Lle nad oes ffotograff o鈥檙 troseddwr yn bodoli eisoes, lle na chymerwyd ffotograff o鈥檙 troseddwr ers iddo gael ei euogfarnu neu lle nad yw鈥檙 ffotograff o鈥檙 troseddwr yn ddigonol, h.y. mae鈥檔 aneglur, yn anghyflawn neu nid yw鈥檔 cynnig cynrychiolaeth gywir o鈥檙 person mwyach, mae鈥檔 bosibl y bydd yr heddlu am ystyried cymryd ffotograff cyfredol o鈥檙 troseddwr er mwyn helpu i atal neu ganfod troseddau. Gellid ei ddefnyddio, ochr yn ochr 芒 disgrifiad cyfredol, er mwyn helpu i鈥檞 adnabod yn y dyfodol wrth ymgymryd 芒 gweithdrefnau stopio a chwilio. Rhaid cael awdurdod gan arolygydd i gymryd ffotograff cyfredol. Gweler adran 64A o
32. Rhaid i鈥檙 troseddwr hefyd hysbysu鈥檙 heddlu os bydd yn defnyddio enw na roddwyd gwybod i鈥檙 heddlu amdano yn flaenorol, os bydd yn newid ei gyfeiriad cartref neu os bydd yn penderfynu byw am gyfnod o fis neu fwy mewn cyfeiriad na roddwyd gwybod i鈥檙 heddlu amdano yn flaenorol. Rhaid rhoi鈥檙 wybodaeth hon i鈥檙 heddlu o fewn tri diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y defnyddiwyd yr enw hwnnw, y newidiwyd cyfeiriad cartref neu y penderfynwyd byw yn yr eiddo hwnnw.
33. Rhaid i鈥檙 troseddwr roi鈥檙 wybodaeth sydd ei hangen yn bersonol drwy fynd i orsaf yr heddlu yn ardal yr heddlu y mae鈥檙 troseddwr yn byw ynddi a thrwy roi hysbysiad llafar i un o swyddogion yr heddlu, neu unrhyw berson a awdurdodwyd gan y swyddog sy鈥檔 gyfrifol am yr orsaf.
34. Bydd yr heddlu lle y rhoddir yr hysbysiad neu lle y bydd y troseddwr yn rhoi gwybod am newid enw neu gyfeiriad yn gyfrifol am gofnodi鈥檙 wybodaeth hon ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu ac am ychwanegu marciwr gwybodaeth gweithredol.
35. Pan fydd troseddwr yn symud allan o ardal un heddlu i ardal heddlu arall, dylai鈥檙 heddlu ystyried rhannu gwybodaeth berthnasol am y SVRO 芒鈥檙 heddlu yn yr ardal breswylio newydd. Dylai鈥檙 heddlu hefyd ystyried rhannu gwybodaeth am unigolion sy鈥檔 destun SVRO 芒 rhanddeiliaid plismona allweddol gan gynnwys lluoedd tiriogaethol ac arbennig eraill, lle ceir risg o droseddoldeb teithiol.
Trefniadau鈥檙 heddlu ar gyfer cyfathrebu 芒 chymunedau lleol
36. Fel sy鈥檔 ofynnol gan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) Cod A, mae鈥檔 ofynnol i gynrychiolwyr cymunedol graffu ar gofnodion stopio a chwilio heddluoedd ac iddynt allu esbonio鈥檙 defnydd o鈥檜 pwerau yn lleol.
37. Dylai鈥檙 heddlu gyfleu鈥檙 ffaith eu bod yn defnyddio SVROs yn yr ardal leol neu eu bod yn bwriadu eu defnyddio, a pham hynny. Gall cyfleu鈥檙 wybodaeth hon gynyddu hyder y cyhoedd bod gweithdrefnau stopio a chwilio yn cael eu defnyddio mewn ffordd deg ac effeithiol o fewn cymunedau ac yn yr ymateb lleol i drais difrifol a throseddau cyllyll. Gall hefyd atal person rhag dewis cymryd rhan mewn ymddygiad troseddol o鈥檙 fath.
38. Dylid cyfleu鈥檙 defnydd o SVROs a鈥檙 meini prawf a ystyrir gan y llys wrth benderfynu pwy sy鈥檔 destun gorchymyn drwy grwpiau cymunedol, fforymau ffydd, grwpiau addysgol, Paneli Cynghori Annibynnol neu unrhyw gyfrwng priodol arall.
39. Cyfeiriwch at Ganllawiau鈥檙 Coleg Plismona ar Ymgysylltu 芒 Chymunedau.
Defnydd yr heddlu o鈥檙 p诺er stopio a chwilio
40. Mae Adran 342E o鈥檙 Cod Dedfrydu (fel y鈥檌 mewnosodwyd gan Ddeddf PCSC 2022) yn rhoi鈥檙 p诺er i鈥檙 heddlu chwilio person sy鈥檔 destun SVRO, a鈥檌 gadw at ddiben cynnal y chwiliad hwnnw, ar yr amod bod y person hwnnw mewn man cyhoeddus.
41. Diben y p诺er hwn yw cadarnhau a oes gan y person eitem 芒 llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant. Rhaid cynnal chwiliadau mewn man cyhoeddus. Nid yw鈥檙 p诺er yn rhoi unrhyw sail i swyddogion dros chwilio unrhyw un arall sydd yng nghwmni鈥檙 person hwnnw. Nid yw鈥檙 p诺er yn rhoi鈥檙 sail i swyddogion chwilio cerbydau. Ni ddylid chwilio person sydd yng nghwmni unigolyn sy鈥檔 destun SVRO oni fydd gan gwnstabl sail resymol berthnasol dros amheuaeth.
42. Ni fydd SVROs yn disodli pwerau stopio a chwilio presennol, ond yn hytrach, byddant yn adeiladu arnynt. Bwriedir iddynt ei gwneud hi鈥檔 haws i鈥檙 heddlu chwilio鈥檙 rhai hynny a euogfarnwyd o drosedd yn defnyddio eitem 芒 llafn neu arf ymosodol gyda鈥檙 nod o atal y rhai hynny sy鈥檔 destun gorchymyn rhag parhau i droseddu.
43. Gellir defnyddio pwerau SVRO yn ychwanegol at bwerau stopio a chwilio eraill megis adran 1 o PACE ac eraill a restrir yn Atodiad A o God A PACE (Stopio a Chwilio). Er enghraifft, gellid chwilio cerbydau gan ddefnyddio adran 1 o PACE, os caiff yr amodau gofynnol ar gyfer arfer y p诺er hwnnw eu bodloni.
44. Bydd yr heddlu wedi cael manylion y troseddwr yn ystod y cam hysbysu (gweler yr adran ar gofynion hysbysu a rhyngweithio gan yr heddlu) a dylent sicrhau mai dim ond at droseddwyr sy鈥檔 destun SVRO y caiff unrhyw weithdrefnau stopio a chwilio o dan y p诺er eu hanelu. Dylid cofnodi manylion troseddwyr sy鈥檔 destun SVRO ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.
45. Yn y rhan fwyaf o achosion, disgwylir y bydd troseddwyr sy鈥檔 destun SVRO yn hysbys i鈥檙 heddlu a bydd swyddogion yn gallu adnabod y troseddwr cyn cynnal chwiliad.
46. Os bydd swyddog yn ansicr pwy yw troseddwr, dylai geisio cadarnhau pwy ydyw ac a yw鈥檔 destun SVRO. Efallai y bydd swyddogion am gadarnhau bod y gorchymyn ar waith drwy Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.
47. Mae hyn yn golygu, oni all swyddogion gadarnhau bod yr unigolyn yn destun SVRO, na ellir defnyddio鈥檙 p诺er a byddai鈥檔 anghyfreithlon chwilio unigolyn heb SVRO, onid oes pwerau stopio a chwilio eraill yn gymwys.
48. Mae鈥檔 drosedd i droseddwr ddweud wrth un o gwnstabliaid yr heddlu nad yw鈥檔 destun SVRO os ydyw. Gweler yr adran ar Torri SVRO.
49. Gall swyddog yr heddlu atafaelu, yn unol 芒 Rheoliadau Cod Dedfrydu 2020 (Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol) (Cadw a Gwaredu Eitemau a Atafaelwyd) 2022, eitemau a ganfyddir wrth gynnal y chwiliad y mae鈥檔 amau鈥檔 rhesymol eu bod yn eitemau 芒 llafn neu鈥檔 arfau ymosodol, a鈥檜 cadw.
50. Wrth arfer y p诺er stopio a chwilio, bydd darpariaethau adran 2 a 3 o PACE yn gymwys wrth gynnal a chofnodi鈥檙 chwiliad. C芒nt eu hadlewyrchu yng Nghod A PACE, sef y cod ymarfer statudol sy鈥檔 llywodraethu鈥檙 defnydd o bwerau stopio a chwilio.
51. Gallai methu 芒 chydymffurfio 芒鈥檙 Cod arwain at sefyllfa lle bydd tystiolaeth a geir yn ystod y chwiliad yn cael ei heithrio o achosion troseddol dilynol yn deillio o鈥檙 chwiliad. Gallai hefyd gefnogi achosion troseddol a/neu sifil eraill yn erbyn yr heddlu am ymosod ar unigolyn/cadw unigolyn yn anghyfreithlon.
52. Mae Cod A PACE hefyd yn ei gwneud hi鈥檔 ofynnol i bwerau stopio a chwilio gael eu defnyddio鈥檔 deg ac yn gyfrifol, gan barchu鈥檙 bobl sy鈥檔 cael eu chwilio a heb wahaniaethu鈥檔 anghyfreithlon. Dim ond pan fetho popeth arall y gellir defnyddio grym i gynnal chwiliad neu gadw person. Rhaid i swyddogion gynnal y safonau ymddygiad proffesiynol uchaf ac mae鈥檔 rhaid bod sail wrthrychol a rhesymol dros stopio a chwilio bob amser. Yn yr amgylchiadau hyn, mae hyn yn seiliedig ar y ffaith bod SVRO mewn grym. Gweler: .
53. Fodd bynnag, mae defnyddio鈥檙 p诺er stopio a chwilio o dan SVRO hefyd yn ddewisol, a disgwylir i swyddogion yr heddlu arfer eu barn broffesiynol wrth benderfynu ym mha amgylchiadau a sawl gwaith y dylid stopio a chwilio unigolyn sy鈥檔 destun SVRO. Felly dylai swyddogion ystyried yr holl amgylchiadau sy鈥檔 ymddangos yn berthnasol i鈥檙 penderfyniad hwnnw gan fod swyddogion yn parhau鈥檔 atebol am ddefnyddio鈥檙 p诺er. Er enghraifft, y lleoliad penodol mewn man cyhoeddus, pa mor agos yw鈥檙 lleoliad hwnnw at gartref y troseddwr ac aelodau eraill o鈥檙 teulu, yn ogystal 芒 lleoliadau ac unigolion eraill y gwyddys eu bod yn gysylltiedig 芒鈥檌 hanes troseddu.
54. Ar 么l stopio a chwilio unigolyn, rhaid i鈥檙 heddlu gofnodi鈥檙 chwiliad a rhoi copi o鈥檙 cofnod i鈥檙 troseddwr yn unol ag adran 4 o God A PACE. Lle bo hynny ar gael, dylai鈥檙 swyddog sy鈥檔 chwilio ddefnyddio camera wedi鈥檌 wisgo ar y corff wrth gynnal gweithdrefn stopio a chwilio o dan SVRO, yn unol 芒 chanllawiau gweithredol y prif swyddog.
55. Cyfeiriwch at Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar Stopio a Chwilio. [footnote 6]
Hyd SVRO
56. Daw鈥檙 SVRO yn weithredol ar y diwrnod y caiff ei wneud. Mae adran 342D(3) a (4) o鈥檙 Cod Dedfrydu (fel y鈥檜 mewnosodwyd gan Ddeddf PCSC 2022) yn nodi pan fydd troseddwr wedi鈥檌 gadw yn y ddalfa neu wedi鈥檌 anfon i鈥檙 ddalfa neu pan fydd dedfryd o garchar wedi鈥檌 rhoi, neu fod y troseddwr yn bwrw dedfryd o鈥檙 fath neu鈥檔 destun dedfryd o鈥檙 fath fel arall, y gall y llys benderfynu na fydd y gorchymyn yn dod yn weithredol hyd nes y caiff y troseddwr ei ryddhau o鈥檙 ddalfa neu na fydd yn destun dedfryd o garchar mwyach.
57. Rhaid i SVRO gynnwys dyddiad dechrau a bydd am gyfnod penodol o chwe mis o leiaf hyd at uchafswm o ddwy flynedd, gyda鈥檙 llys yn penderfynu ar y cyfnod o fewn yr ystod hwn.
58. Pan gaiff cais ei wneud, mae鈥檔 bosibl y bydd yr heddlu am roi gwybodaeth berthnasol er mwyn helpu鈥檙 erlyniad wrth wneud argymhellion ar hyd SVRO i鈥檙 llys. Y llys fydd yn penderfynu ar hyd terfynol y gorchymyn.
Torri SVRO
59. Os canfyddir bod gan berson sy鈥檔 destun SVRO eitem 芒 llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant, gellir ystyried troseddau sy鈥檔 bodoli eisoes mewn perthynas 芒 meddu ar eitem 芒 llafn neu arf ymosodol. Lle caiff y troseddwr ei euogfarnu o drosedd a ailadroddir am feddu ar eitem 芒 llafn neu arf ymosodol o dan y ddeddfwriaeth 鈥渄au gyfle鈥 bresennol yn adran 315 o鈥檙 Cod Dedfrydu, gallai ddisgwyl cael dedfryd o garchar.
60. Yn ogystal, mae adran 342G(1) o鈥檙 Cod Dedfrydu (fel y鈥檌 mewnosodwyd gan Ddeddf PCSC 2022) yn nodi bod person sy鈥檔 destun SVRO yn cyflawni trosedd os bydd yn gwneud y canlynol:
-
Methu, heb esgus rhesymol, 芒 gwneud unrhyw beth y mae鈥檔 ofynnol iddo ei wneud gan y gorchymyn;
-
Heb esgus rhesymol, gwneud unrhyw beth y mae wedi鈥檌 wahardd rhag gwneud gan y gorchymyn;
-
Hysbysu鈥檙 heddlu, gan honni ei fod yn cydymffurfio 芒鈥檙 gorchymyn, am unrhyw wybodaeth y mae鈥檔 gwybod ei bod yn ffug;
-
Dweud wrth un o gwnstabliaid yr heddlu nad yw鈥檔 destun SVRO; neu
-
Atal un o gwnstabliaid yr heddlu, yn fwriadol, rhag arfer unrhyw b诺er a roddwyd o dan adran 342E.
61. Bydd yr heddlu yn gyfrifol am unrhyw waith monitro ac unrhyw gamau i鈥檞 cymryd os caiff trosedd ei chyflawni.
62. Y gosb am dorri gorchymyn yn dilyn euogfarn ddiannod yw cyfnod o garchar hyd at ddeuddeg mis neu ddirwy (diderfyn) neu鈥檙 ddau.
63. Y gosb yn dilyn euogfarn ar dditiad yw cyfnod o garchar hyd at ddwy flynedd, neu ddirwy (diderfyn) neu鈥檙 ddau.
Sut y gellir monitro SVROs, casglu data amdanynt a chraffu arnynt yn effeithiol?
Monitro鈥檙 p诺er stopio a chwilio
64. Rhaid monitro鈥檙 p诺er i stopio a chwilio o dan SVRO, a rhaid i swyddogion yr heddlu ystyried Cod A PACE, sef y cod ymarfer statudol sy鈥檔 llywodraethu鈥檙 defnydd o bwerau stopio a chwilio.
65. Rhaid i swyddogion yr heddlu gofnodi鈥檙 chwiliad yn unol ag adran 4 o God A PACE, gan nodi ei fod wedi鈥檌 gynnal o dan b诺er SVRO, drwy gofnodi鈥檙 dyddiad y gwnaed y SVRO ac y daeth yn weithredol a鈥檙 llys a wnaeth y gorchymyn. Wedyn, caiff y data hyn eu rhannu 芒鈥檙 Swyddfa Gartref a鈥檜 cyhoeddi drwy鈥檙 Gofyniad Data Blynyddol, ochr yn ochr 芒 data eraill ar stopio a chwilio.
66. Fel sy鈥檔 ofynnol gan God A PACE, rhaid i鈥檙 cofnod o chwiliad bob amser gynnwys y wybodaeth ganlynol: (a) Nodyn o ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig y person a chwiliwyd ac, os yw鈥檔 wahanol, canfyddiad y swyddog a gynhaliodd y chwiliad o鈥檌 ethnigrwydd; (b) Y dyddiad a鈥檙 amser y cafodd y person ei chwilio a鈥檙 lleoliad; (c) Gwrthrych y chwiliad yn nhermau鈥檙 eitem neu鈥檙 eitemau y mae p诺er i chwilio amdani/amdanynt. Yn achos SVRO, eitem 芒 llafn neu arf ymosodol fydd yr eitem hon.
67. Er mwyn hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y defnydd o bwerau SVRO, rhaid i heddluoedd, gan ymgynghori 芒 chomisiynwyr yr heddlu a throseddu, wneud trefniadau i gynrychiolwyr o鈥檙 gymuned graffu ar y cofnodion a gwybodaeth a data cysylltiedig, yn enwedig y rhai hynny yr ystyrir bod y defnydd o bwerau鈥檙 heddlu wedi cael effaith anghymesur arnynt neu lle y digwyddodd hynny, ac egluro鈥檙 defnydd o鈥檙 pwerau ar lefel leol, er enghraifft drwy baneli craffu cymunedol.
68. Mae angen trefniadau craffu effeithiol er mwyn sicrhau bod cymunedau yn deall bod yr heddlu yn defnyddio pwerau SVRO yn briodol. Gall proses graffu gymunedol gadarn rymuso a rhoi hyder i鈥檙 heddlu fynd i鈥檙 afael 芒 throseddau yn fwy effeithiol, rhoi sicrwydd a deall y cymunedau a wasanaethir ganddynt yn well, a galluogi鈥檙 heddlu i ganolbwyntio eu hymdrechion mewn ffordd gyfreithlon a chymesur wedi鈥檌 thargedu鈥檔 briodol.
69. Mae adran 5 o God A PACE hefyd yn nodi bod yn rhaid i uwch-swyddogion 芒 chyfrifoldebau am ardal neu heddlu cyfan fonitro鈥檙 defnydd ehangach o bwerau stopio a chwilio a, lle y bo angen, gymryd camau ar y lefel berthnasol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys defnyddio pwerau stopio a chwilio o dan SVROs.
70. Mae unrhyw gamddefnydd o bwerau stopio a chwilio yn debygol o fod yn niweidiol i blismona ac arwain at ddiffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu ymhlith y gymuned leol a鈥檙 cyhoedd yn gyffredinol. Lle ceir cwynion am y ffordd y defnyddiodd swyddog b诺er stopio a chwilio o dan SVRO, dylid dilyn yr arferion perthnasol ar gyfer cofnodi achosion o鈥檙 fath ac ymdrin 芒 nhw. Mae鈥檔 bwysig bod swyddogion yn cymryd camau amserol a phriodol i ymdrin 芒 chwynion. Cyfeiriwch at y
Goruchwylio unigolion sy鈥檔 destun SVRO
71. Dylid sicrhau bod troseddwyr yn ymwybodol y caiff eu cydymffurfiaeth 芒鈥檙 gorchymyn ei monitro (e.e. drwy ofynion adrodd) ac y bydd yr heddlu yn gyfrifol am unrhyw gamau i鈥檞 cymryd os byddant yn torri鈥檙 gorchymyn.
72. Bydd yr heddlu yn defnyddio p诺er SVRO i reoli鈥檙 risg sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 troseddwr, a gall hyn fwydo i mewn i strategaethau ehangach ar gyfer rheoli troseddwyr.
73. Dylai swyddogion sy鈥檔 rhyngweithio 芒 throseddwyr sy鈥檔 destun SVRO eu hannog i ymgysylltu 芒 gwasanaethau cymorth ychwanegol 鈥 fel addysg, cyflogaeth a thriniaeth am broblemau cyffuriau 鈥 fel y bo鈥檔 briodol.
Pennod 3: Ystyriaethau Tystiolaethol
Rheolau tystiolaeth sifil
74. Gwneir ceisiadau am SVROs o dan y rheolau tystiolaeth sifil. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, mae鈥檙 rheolau tystiolaeth yr un peth 芒鈥檙 rheolau ar gyfer llysoedd troseddol. Fodd bynnag, y prawf yw鈥檙 safon prawf sifil, yn 么l pwysau tebygolrwydd. Yn arbennig, mae鈥檙 rheolau ar gyfer tystiolaeth achlust yn wahanol.
Tystiolaeth achlust
75. Caiff tystiolaeth achlust ei llywodraethu gan Ddeddf Tystiolaeth Sifil 1995 (CEA) a Rheolau Llysoedd Ynadon (Tystiolaeth Achlust mewn Achosion Sifil) 1999.
76. Ystyr achlust yw 鈥渁 statement made otherwise than by a person while giving oral evidence in the proceedings which is tendered as evidence of the matters stated鈥 (adran 1(2) Deddf Tystiolaeth Sifil 1995). [footnote 7]
77. Lle bynnag y bo鈥檔 bosibl, dylid cyflwyno鈥檙 hysbysiad achlust ar yr un pryd 芒鈥檙 hysbysiad o fwriad i wneud cais am SVRO, ac yn unrhyw achos o leiaf 21 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad. Rhaid i ffurf yr hysbysiad achlust gydymffurfio 芒 Rheol 2 o鈥檙 Rheolau Achlust. Gall y diffynnydd wneud cais am i鈥檙 person a wnaeth y datganiad gael ei alw i roi tystiolaeth yn bersonol.
78. Os caiff tystiolaeth achlust ei chyflwyno鈥檔 hwyr i鈥檙 diffyniad (h.y. o leiaf 21 diwrnod cyn y gwrandawiad), mae perygl na wnaiff y llys ganiat谩u i鈥檙 dystiolaeth gael ei chyflwyno. Mae gan y llys y p诺er i lacio鈥檙 terfyn amser, ond dim ond lle na fyddai hynny鈥檔 rhagfarnu鈥檙 diffynnydd. Os bydd y llys yn gwrthod llacio鈥檙 terfyn amser, gall wrando鈥檙 cais ond wrthod derbyn y dystiolaeth o gwbl. Fel arall, gall ohirio鈥檙 gwrandawiad er mwyn rhoi mwy o amser i鈥檙 diffynnydd ystyried y dystiolaeth. Mewn achos o鈥檙 fath, gall orchymyn y ceisydd i dalu鈥檙 costau a fydd yn gysylltiedig 芒 gohirio鈥檙 achos. Felly, mae bob amser yn well cyflwyno鈥檙 dystiolaeth gyda鈥檙 cais.
79. Lle na chaiff euogfarnau blaenorol eu derbyn (h.y. ar 么l ystyried yr argraffiad o Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu), gellir eu profi drwy gyflwyno rhan o gofrestr y llys (bydd ffi yn daladwy) o dan adran 73 o PACE 1984.
Pennod 4: Gweithdrefn y Llys
Cyfrifoldebau鈥檙 Llys
80. Gall unrhyw lys sy鈥檔 ymdrin 芒鈥檙 troseddwr (e.e. Llys y Goron, neu Lys yr Ynadon) wneud SVRO.
81. Dim ond fel rhan o鈥檙 ymarfer dedfrydu yn dilyn euogfarn ar gais yr erlyniad y gellir gwneud SVRO. Fodd bynnag, gall y llys ohirio鈥檙 cais am SVRO hyd yn oed ar 么l dedfrydu鈥檙 troseddwr. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd pan fydd y diffynnydd yn gwrthwynebu gwneud y gorchymyn, gan olygu bod angen mwy o amser i鈥檙 llys.
82. Gall y llys glywed tystiolaeth gan y troseddwr a鈥檙 erlyniad wrth ystyried a ddylid gwneud SVRO.
83. Gall y llys ystyried tystiolaeth (mewn perthynas 芒 ph鈥檜n a ddylid gwneud SVRO ai peidio) na fyddai wedi gallu ei derbyn fel rhan o鈥檙 achos lle cafodd y troseddwr ei euogfarnu.
84. Rhaid i鈥檙 llys benderfynu yn gyntaf a oes sail dros wneud y gorchymyn. Os bydd y llys yn fodlon bod yr erlyniad, yn 么l pwysau tebygolrwydd, wedi profi bod yr amodau wedi鈥檜 bodloni a bod angen y gorchymyn, bydd yn penderfynu a ddylid gwneud gorchymyn. Os gwneir gorchymyn, rhaid esbonio ei ffeithiau mewn iaith gyffredin.
85. Gweler pennod 1 am fanylion ar ystyriaethau鈥檙 llys cyn gwneud gorchymyn.
Amrywio, adnewyddu a diddymu
86. O dan adran 342H, gellir gwneud cais i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu SVRO. Rhaid gwneud cais o鈥檙 fath i鈥檙 llys priodol naill ai gan:
(i) y troseddwr;
(ii) prif swyddog heddlu ar gyfer yr ardal heddlu y mae鈥檙 troseddwr yn byw ynddi;
(iii) prif swyddog heddlu ar gyfer yr ardal heddlu lle cyflawnodd y troseddwr y drosedd y gwnaed SVRO mewn perthynas 芒 hi;
(iv) prif swyddog heddlu sydd o鈥檙 farn bod y troseddwr yn ardal y prif swyddog neu ei fod yn bwriadu dod i鈥檙 ardal honno; neu
(v) prif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig lle mae鈥檙 drosedd y gwnaed SVRO mewn perthynas 芒 hi yn drosedd a gyflawnwyd mewn man, neu mewn perthynas 芒 man o fewn adran 31(1)(a) i (f) o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2002 (awdurdodaeth yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig) neu鈥檔 gysylltiedig fel arall 芒 rheilffordd o fewn yr ystyr a roddir gan adran 67 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith 1992 neu dramffordd o fewn ystyr yr adran honno.
87. Rhaid gwneud y cais yn uniongyrchol i鈥檙 llys priodol yn hytrach nag i鈥檙 erlyniad.
88. Ystyr y llys priodol yw:
(i) Llys y Goron lle gwnaed y SVRO yn Llys y Goron neu鈥檙 Llys 础辫锚濒;
(ii) lle gwnaed y SVRO gan lys ynadon ac y caiff y cais i amrywio, adnewyddu neu ryddhau ei wneud gan y troseddwr neu brif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, y llys ynadon hwnnw, neu lys ynadon ar gyfer yr ardal y mae鈥檙 troseddwr yn byw ynddi;
(iii) lle gwnaed y SVRO gan lys ynadon ac y caiff y cais i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu ei wneud gan brif swyddog yr heddlu, y llys ynadon hwnnw, llys ynadon ar gyfer yr ardal y mae鈥檙 troseddwr yn byw ynddi, neu lys ynadon sy鈥檔 gweithredu ar gyfer ardal cyfiawnder leol sy鈥檔 cynnwys unrhyw ran o ardal heddlu鈥檙 prif swyddog.
89. Gall y llys amrywio, adnewyddu neu ddiddymu gorchymyn fel y gw锚l yn briodol. Gall y llys adnewyddu gorchymyn, neu amrywio gorchymyn er mwyn cynyddu hyd y gorchymyn at yr uchafswm cyfnod o ddwy flynedd, dim ond os bydd o鈥檙 farn bod angen gwneud hynny er mwyn diogelu鈥檙 cyhoedd neu unrhyw aelod penodol o鈥檙 cyhoedd yng Nghymru a Lloegr rhag y risg o niwed yn deillio o eitem 芒 llafn neu arf ymosodol, neu er mwyn atal y troseddwr rhag cyflawni trosedd gan ddefnyddio eitem 芒 llafn neu arf ymosodol.
90. Gall fod amgylchiadau lle y byddai angen adnewyddu鈥檙 SVRO am gyfnod arall o rhwng 6 mis a 2 flynedd. Dylai鈥檙 heddlu ystyried amgylchiadau unigol yn ofalus, gan gynnwys a gafodd gorchymyn ei adnewyddu eisoes, wrth benderfynu gwneud cais i鈥檙 llys. Bydd y llys yn penderfynu a fyddai adnewyddu鈥檙 gorchymyn yn gymesur ac yn angenrheidiol.
91. Rhaid i鈥檙 llys esbonio effaith amrywio neu adnewyddu鈥檙 gorchymyn a鈥檙 pwerau sydd gan gwnstabliaid yr heddlu o dan y p诺er stopio a chwilio yn adran 342E o鈥檙 Cod Dedfrydu i鈥檙 troseddwr mewn iaith gyffredin.
Apeliadau
92. Lle gwneir SVRO, gall y troseddwr apelio yn erbyn y penderfyniad i wneud y gorchymyn fel petai鈥檙 gorchymyn yn ddedfryd a wnaed mewn perthynas 芒鈥檙 troseddwr am y drosedd.
93. Lle gwneir cais i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu gorchymyn:
(i) Gall y person a wnaeth y cais apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod gwneud gorchymyn;
(ii) Gall y troseddwr apelio yn erbyn y penderfyniad i wneud gorchymyn a wnaed yn dilyn cais gan un o brif swyddogion yr heddlu neu brif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig;
(iii) gall un o brif swyddogion yr heddlu apelio yn erbyn penderfyniad i wneud gorchymyn a wnaed ar gais y troseddwr; neu
(iv) lle mae鈥檙 drosedd y gwnaed y gorchymyn mewn perthynas 芒 hi yn drosedd a gyflawnwyd mewn man neu mewn perthynas 芒 man o dan awdurdodaeth yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig neu lle bo鈥檙 drosedd yn ymwneud fel arall 芒 rheilffordd neu dramffordd, gall prif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig apelio yn erbyn y penderfyniad i wneud gorchymyn a wnaed ar gais y troseddwr.
94. Gellir apelio yn erbyn penderfyniad i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu gorchymyn, neu benderfyniad i wrthod gwneud hynny, i鈥檙 Llys 础辫锚濒 lle gwnaed y cais i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu i Lys y Goron, neu i Lys y Goron mewn unrhyw achos arall (h.y. lle mai llys ynadon glywodd yr achos).
95. Wrth wneud penderfyniad ar ap锚l, gall Llys y Goron wneud y cyfryw orchmynion ag sydd eu hangen i roi ei benderfyniad ar yr ap锚l ar waith a鈥檙 cyfryw orchmynion cysylltiedig a chanlyniadol ag yr ymddengys eu bod yn briodol.
Pennod 5: Rhyngweithio 芒 gorchmynion ac ymyriadau eraill
A ellir defnyddio Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol ochr yn ochr 芒 gorchymyn arall?
96. Dylid defnyddio SVROs fel rhan o ddull ehangach ar gyfer atal troseddau er mwyn ymyrryd 芒 gweithgarwch troseddwyr a鈥檜 goruchwylio, i鈥檞 hannog i beidio 芒 throseddu.
97. Er mwyn helpu鈥檙 erlyniad i wneud cais am SVRO, mae鈥檔 bosibl y bydd yr heddlu am drafod 芒鈥檙 erlyniad p鈥檜n a fyddai鈥檔 briodol gwneud cais hefyd am orchymyn arall, ochr yn ochr 芒 SVRO, ar gyfer yr un troseddwr.
98. Gallai SVRO ategu gorchymyn arall gan lys lle y bo鈥檔 berthnasol ac yn angenrheidiol a byddai gan y llys yr hawl i benderfynu gwneud SVRO a gorchymyn arall, er enghraifft, Gorchymyn Atal Troseddau Cyllyll (KCPO), Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) neu Waharddeb Gangiau, ar gyfer yr un unigolyn (gweler rhagor o fanylion am orchmynion ychwanegol yn Atodiad A).
99. Byddai angen i鈥檙 llys fod yn fodlon bod hyn yn briodol ac yn angenrheidiol o dan yr holl amgylchiadau ac nad yw鈥檙 amrywiol ofynion yn gwrthdaro 芒鈥檌 gilydd.
100. Mae鈥檔 bosibl y bydd yr heddlu am ymgynghori 芒 phartneriaid ehangach yn lleol ar ymyriadau ychwanegol i hwyluso鈥檙 broses o oruchwylio troseddwyr a鈥檜 hannog i beidio 芒 throseddu.
Pennod 6: Cynllun Peilot
101. Mae adran 141 o Ddeddf PCSC 2022 yn nodi dau amod y mae鈥檔 rhaid eu bodloni cyn y gellir gweithredu鈥檙 darpariaethau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 SVROs ledled Cymru a Lloegr gyfan at bob diben.
102. Yn gyntaf, rhaid cynnal cynllun peilot mewn un ardal neu fwy yng Nghymru a Lloegr at un diben penodedig neu fwy; ac yn ail, rhaid i鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno adroddiad ger bron Senedd y DU ar weithrediad y cynllun peilot. Cynhelir cynlluniau peilot o SVROs yn ardaloedd heddlu Glannau Mersi, Thames Valley, Sussex a Gorllewin Canolbarth Lloegr.
103. Dim ond yn y pedair ardal heddlu beilot y gellir gwneud SVROs; fodd bynnag, gall cwnstabliaid yr heddlu ddefnyddio pwerau stopio a chwilio ledled Cymru a Lloegr. Y nod yw cefnogi ymateb gweithredol ar draws awdurdodaethau, gan alluogi cwnstabliaid o heddluoedd nad ydynt yn rhan o鈥檙 cynllun peilot stopio a chwilio unigolion sy鈥檔 destun SVRO.
104. Diben cynnal cynllun peilot o SVROs yw meithrin dealltwriaeth o鈥檜 heffaith a鈥檜 heffeithiolrwydd, a phrofi a llywio鈥檙 prosesau ar gyfer eu cyflwyno ar sail ehangach.
105. Bydd y cynllun peilot yn profi effaith SVROs, ymatebion cymunedau i SVROs, gan gynnwys unrhyw faterion o ran anghymesuredd, a鈥檙 canlyniadau i droseddwyr sy鈥檔 destun SVRO. Er mwyn llywio鈥檙 asesiad hwn, caiff data eu casglu am nifer o fesurau, gan gynnwys oedran, rhyw ac ethnigrwydd pobl sy鈥檔 destun SVRO.
106. Pan ddaw鈥檙 cynllun peilot i ben, caiff adroddiad ei lunio a鈥檌 gyflwyno ger bron Senedd y DU.
107. Caiff y canllawiau hyn eu hadolygu yn sgil canfyddiadau鈥檙 cynllun peilot a鈥檙 gwersi a ddysgir, a鈥檜 diweddaru cyn cyflwyno SVROs ledled Cymru a Lloegr.
Pennod 7: Ystyriaethau eraill
Cwmpas tiriogaethol
108. Cwmpas tiriogaethol SVROs yng Nghymru a Lloegr.
109. Bydd y SVRO yn parhau鈥檔 weithredol am y cyfnod a ddynodir yn y gorchymyn ac os bydd y troseddwr wedi symud y tu allan i Gymru a Lloegr, bydd yn ofynnol iddo gydymffurfio 芒鈥檙 gofynion a鈥檙 gwaharddiadau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 gorchymyn, os bydd y person hwnnw yn dychwelyd i Gymru neu Loegr o rywle arall.
Ystyried dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a hawliau dynol
110. Wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas 芒 SVROs, mae鈥檔 ofynnol i gwnstabliaid, prif swyddogion yr heddlu a phrif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, yn unol ag adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, roi ystyriaeth briodol i鈥檙 angen i ddileu achosion o wahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth, ac annog cyfle cyfartal ni waeth unrhyw ffactorau fel oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd neu gred neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae hefyd yn ofynnol i gwnstabliaid, prif swyddogion yr heddlu a phrif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, yn 么l adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998, weithredu mewn ffordd sy鈥檔 gydnaws 芒 hawliau鈥檙 Confensiwn fel y鈥檜 nodir yn Atodlen 1 i鈥檙 Ddeddf honno.
Canllawiau ac Adnoddau Defnyddiol
111. Mae鈥檔 bosibl y bydd yr heddlu hefyd am gyfeirio at y dogfennau canllaw a鈥檙 adnoddau canlynol:
-
Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll (KCPOs) 鈥 伊人直播 (www.gov.uk)
-
Codau ymarfer Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) 鈥 伊人直播 (www.gov.uk)
-
.)
Atodiad A
Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll (KCPOs)
Cyflwynwyd Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll (KCPOs) o dan Ddeddf Arfau Ymosodol 2019. Mae鈥檙 gorchmynion sifil ataliol newydd hyn yn adnodd ychwanegol y bydd yr heddlu yn gallu eu defnyddio i weithio gyda phobl ifanc ac eraill er mwyn helpu i鈥檞 hatal rhag cyflawni troseddau cyllyll a thrais difrifol gan ddefnyddio gofynion cadarnhaol i ymdrin 芒 ffactorau yn eu bywydau a all gynyddu鈥檙 tebygolrwydd y byddant yn troseddu, ochr yn ochr 芒 mesurau i wahardd rhai gweithgareddau penodol er mwyn helpu i鈥檞 hatal rhag troseddu yn y dyfodol.
Gellir gwneud KCPOs naill ai pan geir euogfarn, neu fel arall.
KCPO a wneir pan geir euogfarn
Gall unrhyw lys sy鈥檔 ymdrin 芒鈥檙 diffynnydd (e.e. Llys y Goron, llys ynadon neu lys ieuenctid) wneud KCPO pan geir euogfarn.
Mae adran 19 o Ddeddf Arfau Ymosodol 2019 yn nodi鈥檙 amodau y mae鈥檔 rhaid eu bodloni er mwyn i鈥檙 llys wneud KCPO pan geir euogfarn.
KCPO a wneir fel arall
Mae gan y llysoedd hefyd y p诺er i wneud KCPOs yn dilyn cwyn gan yr heddlu. Gellir gwneud KCPO mewn perthynas ag unrhyw berson dros 12 oed.
Mae adran 14 o Ddeddf Arfau Ymosodol 2019 yn nodi鈥檙 amodau y gellir gwneud KCPO oddi tanynt yn dilyn cais gan yr heddlu.
Pwy all fod yn destun KCPO?
Gellir gwneud cais am KCPO ar gyfer unrhyw unigolyn 12 oed neu drosodd. Y nod yn hyn o beth yw atal yr unigolion hynny sy鈥檔 wynebu鈥檙 risg fwyaf neu sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys, lle y bo鈥檔 briodol, plant rhag meddu ar gyllyll a rhag dod yn gysylltiedig 芒 throseddau cyllyll.
Mae torri KCPO heb esgus rhesymol yn drosedd y gellir ei rhoi ar brawf naill ai mewn llys ynadon neu yn Llys y Goron. Mewn llys ynadon, yr uchafswm dedfryd ar hyn o bryd yw 6 mis o garchar a/neu ddirwy; yn Llys y Goron, yr uchafswm dedfryd ar hyn o bryd yw 2 flynedd o garchar a/neu ddirwy.
Cynhelir cynllun peilot o KCPOs ar hyn o bryd yn ardal yr Heddlu Metropolitanaidd. I gael rhagor o wybodaeth am Orchmynion Atal Troseddau Cyllyll, gweler: Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll (KCPOs) 鈥 伊人直播 (www.gov.uk)
Gorchmynion Ymddygiad Troseddol (CBO)
Gellir gwneud Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) pan gaiff unigolyn ei euogfarnu am unrhyw drosedd mewn unrhyw lys troseddol. Gall y llys wneud CBO ar yr amod y bydd y llys yn pennu dedfryd mewn perthynas 芒鈥檙 drosedd neu鈥檔 rhyddhau鈥檙 troseddwr ag amodau i鈥檞 bodloni. Er mwyn gwneud CBO, rhaid i鈥檙 llys fod yn fodlon bod y troseddwr wedi ymddwyn mewn ffordd a achosodd, neu a oedd yn debygol o achosi, achos o aflonyddu, braw neu drallod i unrhyw berson ac y bydd gwneud y gorchymyn yn helpu i atal y troseddwr rhag ymddwyn yn y fath fodd. Mae鈥檙 gorchymyn yn anelu at fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 troseddwyr mwyaf difrifol a rheolaidd pan fydd eu hymddygiad wedi eu dwyn ger bron llys troseddol.
Dim ond yn dilyn cais gan yr erlyniad y gall y llys wneud CBO. Gall yr erlyniad wneud cais o鈥檙 fath naill ai鈥檔 dilyn penderfyniad ganddo鈥檌 hun neu鈥檔 dilyn cais gan gyngor neu鈥檙 heddlu. Bydd gwrandawiad y CBO yn digwydd ar 么l y gwrandawiad dedfrydu ar gyfer yr euogfarn droseddol, neu ar yr un pryd 芒鈥檙 gwrandawiad hwnnw.
Gellir defnyddio鈥檙 CBO i ymdrin ag amrywiaeth eang o fathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar 么l i unigolyn gael ei euogfarnu am drosedd; er enghraifft, bygwth eraill yn y gymuned, bod yn feddw ac yn ymosodol yn rheolaidd yn gyhoeddus, neu er mwyn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy鈥檔 gysylltiedig ag euogfarn fwy difrifol, ar gyfer bwrgleriaeth neu ladrad ar y stryd, er enghraifft. Gellir defnyddio鈥檙 CBO i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan aelodau o gangiau, er enghraifft i鈥檞 hatal rhag ymwneud ag unigolion penodol neu i鈥檞 gwneud yn ofynnol iddynt fynychu cwrs parodrwydd i weithio i鈥檞 helpu i ddod o hyd i swydd.
Rhaid i delerau鈥檙 CBO gynnwys hyd y gorchymyn. Ar gyfer oedolion, isafswm o ddwy flynedd hyd at gyfnod amhenodol. Ar gyfer unigolion o dan 18 oed, rhaid i鈥檙 gorchymyn fod am gyfnod o rhwng blwyddyn a thair blynedd.
Mae鈥檔 drosedd i droseddwr fethu 芒 chydymffurfio naill ai 芒 gofynion neu waharddiadau鈥檙 CBO heb esgus rhesymol. Dylid rhoi gwybod i鈥檙 heddlu am achos o fethu 芒 chydymffurfio 芒 gwaharddiad neu ofyniad. Mae gan y llys y p诺er i orfodi cosbau difrifol pan gaiff unigolyn ei euogfarnu, gan gynnwys: yn dilyn euogfarn ddiannod yn y llys ynadon: uchafswm o chwe mis o garchar neu ddirwy neu鈥檙 ddau; yn dilyn euogfarn ar dditiad yn Llys y Goron: uchafswm o bum mlynedd o garchar neu ddirwy neu鈥檙 ddau.
I gael rhagor o wybodaeth am Orchmynion Ymddygiad Troseddol, gweler: