Policy paper

Adolygiad Amddiffyn Strategol 2025: Gwneud Prydain yn Fwy Diogel: yn gadarn gartref, yn gydnerth dramor

Updated 11 June 2025

Rhagair gan yr Adolygwyr

Pan ofynnodd y Prif Weinidog a鈥檙 Ysgrifennydd Amddiffyn i鈥檙 tri ohonom鈥攗n gwleidydd, un milwr, ac un arbenigwr polisi tramor鈥攊 arwain, yn allanol, yr Adolygiad Amddiffyn Strategol newydd, yr oedd y byd eisoes mewn cyfnod cythryblus. Roedd Rwsia, sy鈥檔 wladwriaeth ag arfau niwclear, wedi goresgyn a meddiannu rhan o wladwriaeth sofran gyfagos mewn modd creulon ofnadwy. Ac wrth wneud hyn, cafwyd cefnogaeth gan Tsieina, cyfarpar o Iran, a milwyr o Ogledd Corea ar dir Ewrop am y tro cyntaf erioed.

Mae natur anrhagweladwy y digwyddiadau hyn a digwyddiadau byd-eang eraill, ynghyd 芒 chyflymder y newid ym mhob maes, wedi creu bygythiadau a gwendidau brawychus newydd i鈥檔 gwlad鈥攇yda鈥檙 byd mewn cyfnod o gymhlethdod peryglus.

A dweud y gwir, mae鈥檙 cyd-destun geo-wleidyddol wedi gwaethygu fwy fyth ers i ni ddechrau ar ein gwaith. Mae鈥檙 heriau i鈥檙 Byd Rhydd wedi dwysau gyda鈥檙 gystadleuaeth i fod y 鈥榩rif b诺er鈥 honedig ac wrth i鈥檙 consensws ar 么l yr Ail Ryfel Byd ddatgymalu. Mae鈥檙 sicrwydd o amgylch y drefn ryngwladol a dderbyniwyd ers cyhyd bellach yn cael ei herio鈥攁c nid gan yr awdurdodwyr yn unig. Mae鈥檙 bwrdd gwyddbwyll rhyngwladol wedi cael ei droi ben i wared.

Mewn byd lle mae鈥檙 amhosibl heddiw yn dod yn anochel yfory, ni ellir gorffwys ar ein rhwyfau ynghylch amddiffyn ein gwlad. Ni ellir ystyried mwyach bod amddiffyn yn rhywbeth sy鈥檔 cael ei gontractio i鈥檔 Lluoedd Arfog yn unig, er cystal a dewr ydynt hwythau. Wrth i ni wynebu nifer o fygythiadau a heriau nawr ac yn y dyfodol, mae鈥檔 hanfodol ein bod yn gweithredu fel cymdeithas gyfan. Mae gan bawb ran i鈥檞 chwarae ac mae angen cael sgwrs genedlaethol am sut rydym ni鈥檔 gwneud hyn.

I ddechrau, gofynnodd y Prif Weinidog a鈥檙 Ysgrifennydd Amddiffyn i ni, yr Adolygwyr, 鈥榖ennu鈥檙 rolau, y galluoedd a鈥檙 diwygiadau sydd eu hangen i fynd i鈥檙 afael 芒 heriau, bygythiadau a chyfleoedd yr unfed ganrif ar hugain鈥. Dros y naw mis diwethaf, dyna yr ydym wedi ceisio鈥檌 wneud. Mae鈥檙 adroddiad hwn, felly, yn ffrwyth llafur o graffu manwl ar bob agwedd ar Amddiffyn, ac mae wedi cynnwys un o鈥檙 ymgynghoriadau dwysaf a mwyaf trylwyr erioed ar y pwnc.

Mae鈥檔 adolygiad trawsnewidiol a strategol go-iawn. Fe鈥檌 luniwyd i atgyfnerthu ataliaeth drwy ail-adeiladu ein parodrwydd i ymladd rhyfel. Mae鈥檔 dwyn i gof y geiriau 鈥極s ydych chi鈥檔 deisyfu heddwch, paratowch am ryfel鈥. Mae ein rhaglen niwclear ataliol annibynnol, un o鈥檙 ffactorau dylanwadol sydd ar flaen meddwl ein gelynion, wedi ymrwymo i NATO ac, o鈥檙 herwydd, mae鈥檔 cyfrannu at ddiogelwch y gymuned Ewro-Iwerydd gyfan. Mae hyn yn cael ei adnewyddu.

Rydym yn cynnig cyfuniad o gryfhau ein gwydnwch gartref a model newydd o Lu Integredig, sy鈥檔 rhoi NATO yn gyntaf. Drwy hynny, rydym yn sicrhau y bydd pobl Prydain yn fwy diogel gartref ac yn fwy dylanwadol dramor. Fodd bynnag, ni fyddwn byth yn disgwyl brwydro yn y dyfodol yn erbyn p诺er milwrol 鈥榗yfatebol鈥 mawr ar ein pen ein hunain. NATO yw carreg sylfaen ein hamddiffyniad, gyda 31 o wledydd eraill wedi ymrwymo i ddiogelu鈥檔 gilydd. Mae biliwn o bobl yn ardal yr Ewro-Iwerydd yn cysgu鈥檔 dawel bob nos, wedi鈥檜 gwarchod gan gymal amddiffyn ar y cyd, sef Erthygl V o Gytuniad Gogledd Iwerydd. Rhaid i ni weithio鈥檔 galed i sicrhau bod hyn yn parhau, gan roi hwb i鈥檙 Gynghrair drwy ein dull gweithredu a鈥檔 hymdrechion beunyddiol.

Drwy archwilio pob agwedd ar Amddiffyn yn drwyadl, mae鈥檙 Adolygiad yn herio鈥檙 syniad o 鈥榝usnes fel arfer鈥, yn union fel y mae ein gelynion ninnau hefyd wedi datblygu a moderneiddio. Mae鈥檔 cynnig partneriaeth newydd gyda diwydiant, dan arweiniad Cyfarwyddwr Arfau Cenedlaethol newydd pwerus, i sicrhau bod gan ein lluoedd y cyfarpar sydd eu hangen arnynt鈥攜n brydlon ac o fewn y gyllideb. Mae gan drethdalwyr hawl i fod yn hyderus bod yr arian y maent yn ei dalu i鈥檞 cadw鈥檔 ddiogel yn cael ei ddefnyddio鈥檔 ddoeth ac yn briodol.

Bydd yr Adolygiad yn rhoi hwb i鈥檙 Lluoedd Wrth Gefn, yn rhoi bywyd newydd i hyfforddiant, yn mynd i鈥檙 afael 芒 phroblemau llety milwyr, yn cael gwared ar fiwrocratiaeth gynhenid, ac yn newid y diwylliant ym maes Amddiffyn. Gan ddysgu o鈥檙 datblygiadau arloesol sydd ar waith yn Wcr谩in, y wers sylfaenol ar gyfer y presennol yw bod yn rhaid i dechnoleg ddatblygu鈥檔 gyflymach nawr nag ar unrhyw adeg yn hanes dyn鈥攔haid i鈥檔 lluoedd ein hunain, a鈥檙 adran Amddiffyn gyfan, arloesi ar gyflymder rhyfel. Dros amser, bydd rhaid gwyrdroi鈥檙 duedd o wanhau ein lluoedd鈥攕ef nodwedd o鈥檙 鈥榙ifidend heddwch鈥 mawr ar 么l i鈥檙 Rhyfel Oer ddod i ben.

Gofynnwyd i ni gynnal ein Hadolygiad o fewn cyd-destun cyllidebol o drawsnewid i 2.5% o GDP. Rydym yn cydnabod, diolch byth, y bydd hyn yn berthnasol o 2027, ac nid dim hwyrach. Yr hyn sydd hefyd yn arwyddocaol yw鈥檙 dyhead i wario 3% o GDP ar Amddiffyn yn y 2030au os bydd yr amodau economaidd ac ariannol yn caniat谩u hynny. Mae hyn yn newyddion da o ystyried y gallai鈥檙 2.3% presennol (sy鈥檔 cynnwys buddsoddiad sylweddol yn y rhaglen niwclear ataliol, sef prif flaenoriaeth amddiffyn y DU, ac ymrwymiadau craidd eraill) fod wedi gorfodi gwneud arbedion mewn galluoedd hanfodol.

Rydym yn hyderus bod y trawsnewidiad rydym yn ei gynnig ar gyfer y byd caletach hwn rydym yn byw ynddo nawr yn mynd i fod yn fforddiadwy dros ddeng mlynedd, o ystyried yr adnoddau newydd hyn sy鈥檔 cael eu haddo. Fodd bynnag, gan ein bod yn byw mewn cyfnod mor gythryblus, efallai y bydd angen symud yn gyflymach. Mae modd cyflymu鈥檙 cynllun rydym wedi鈥檌 gyflwyno i naill ai roi mwy o sicrwydd neu i gynnull system Amddiffyn mewn argyfwng.

Rydym wedi cynnal yr Adolygiad hwn ar y cyd 芒鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn (nid ar ei chyfer), ac rydym wedi gweithio鈥檔 agos gyda鈥檙 Prif Weinidog a鈥檙 Ysgrifennydd Amddiffyn. Felly, ni ddylai鈥檙 cynnwys achosi unrhyw sioc iddynt鈥攈yd yn oed os nad oeddem wedi sicrhau consensws ac yn sicr nid ydym yn cefnu ar y cyfle i fod yn feiddgar ac yn radical.

Mae鈥檙 Adolygiad wedi elwa o ymdrechion ac arbenigedd ein cyd-arolygwyr, 鈥楾卯m Adolygiad Amddiffyn 6鈥: Grace Cassy; Edward Dinsmore; Jean-Christophe Gray; Angus Lapsley; Robin Marshall; a鈥檙 Gwir Anrhydeddus Syr Jeremy Quin. Rydym hefyd wedi cael cymorth arwrol drwyddi draw gan d卯m o bobl ymroddedig, talentog, o sawl adran wahanol鈥攐鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn, y Lluoedd Arfog, adrannau eraill y Llywodraeth, a charfan o swyddogion cyswllt milwrol rhyngwladol a swyddogion sifiliaid. Rydym yn hynod o ddiolchgar iddynt oll.听

Yr Arglwydd Robertson o Port Ellen KT GCMG Y Cadfridog Syr Richard Barrons KCB CBE Dr Fiona Hill CMG

Cyflwyniad a Throsolwg

Mae鈥檙 her i鈥檔 cenhedlaeth ni heddiw yn gofyn am ymateb dros genhedlaeth. Am y tro cyntaf ers diwedd y Rhyfel Oer, mae鈥檙 DU yn wynebu bygythiadau lluosog, uniongyrchol i鈥檞 diogelwch, ei ffyniant a鈥檌 gwerthoedd democrataidd. Mae鈥檙 byd i gyd yn wynebu cyfnod anwadal ac ansicrwydd difrifol.

Mewn ymateb, rhaid i鈥檙 DU, gyda鈥檌 chynghreiriaid鈥攜n enwedig y rhai yn NATO鈥攆od yn barod unwaith eto i ddelio 芒鈥檙 amgylchiadau anoddaf un: atal a rhwystro rhyfel llawn drwy fod yn barod i ymladd ac i ennill. Tan yn ddiweddar, byddai rhyfel o鈥檙 fath yn erbyn gwlad arall sydd 芒 lluoedd milwrol datblygedig yn anodd ei gredu. Mae鈥檔 debyg y byddai鈥檙 ymateb hwn yn llawn dwyster, hirfaith a chostus ym mhob ffordd. Mae symud i sefyllfa lle鈥檙 ydym yn barod i ymladd rhyfel yn yr oes newydd hon yn hanfodol.

Wrth i ddatblygiadau cyflym mewn technoleg yrru鈥檙 newidiadau mwyaf ers dros ganrif o ran brwydro mewn rhyfel, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 DU droi at ffordd newydd o ryfela. Rhaid harneisio technoleg newydd yn barhaus a meddwl yn wahanol am beth yw 鈥榩诺er milwrol鈥 confensiynol a sut i鈥檞 gynhyrchu. Mewn rhyfela modern, mae metrigau syml, fel nifer y bobl a鈥檙 platfformau a ddefnyddir, wedi dyddio ac yn annigonol. Bellach, rhaid cael rhwydweithiau deinamig o asedau 芒 chriw, asedau heb griw, asedau awtonomaidd a llifoedd data i greu effaith filwrol a chapasiti i achosi angau,[footnote 1] gyda systemau milwrol yn gwneud penderfyniadau ar gyflymder peiriant ac yn gweithredu鈥檔 hyblyg ar draws parthau.

Rhaid i Luoedd Arfog y DU allu goroesi unwaith eto mewn ymgyrchoedd hir drwy gael mynediad sicr at alluoedd allweddol鈥攁 hyn i gyd yn cael ei seilio ar ddiwydiant ffyniannus sy鈥檔 barod i dyfu a chynnal arloesedd a chynhyrchiant yn 么l yr angen.

Ac mewn newid pendant o鈥檙 cyfnod ar 么l y Rhyfel Oer, mae鈥檔 hanfodol rhoi pwyslais o鈥檙 newydd ar amddiffyn a gwydnwch gartref hefyd, gyda gweithgareddau 鈥榦 dan y trothwy鈥,[footnote 2] mwy o fynediad at y gofod a鈥檙 gofod seiber, a datblygiadau di-ben-draw mewn systemau arfau i gyd yn ei gwneud yn haws i鈥檔 gelynion achosi niwed i鈥檙 DU, hyd yn oed o bell.

Lle mae adolygiadau blaenorol wedi mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 Lluoedd Arfog yn fwy cyfyng, mae鈥檙 Adolygiad Amddiffyn Strategol hwn yn adolygiad 鈥榦鈥檙 gwraidd i鈥檙 brig鈥 o Amddiffyn yn y DU a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog ym mis Gorffennaf 2024 mewn ymateb i fyd sy鈥檔 newid yn gyflym. Mae鈥檔 amlinellu鈥檙 diwygiadau dwfn sydd eu hangen i 鈥榮icrhau bod y Deyrnas Unedig yn gadarn gartref ac yn gydnerth dramor鈥攏awr ac am flynyddoedd i ddod鈥. [footnote 3]

Dan oruchwyliaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, cafodd yr Adroddiad Amddiffyn Strategol ei arwain gan Adolygwyr allanol: Yr Arglwydd (George) Robertson; y Cadfridog Syr Richard Barrons; a Dr Fiona Hill. Cafodd ei gynnal o fewn y Cylch Gorchwyl a bennwyd gan y Llywodraeth a鈥檌 gostio wedyn o fewn y gyllideb amddiffyn uwch o 2.5% o GDP o Ebrill 2027 a 3% yn y 2030s, yn amodol ar yr amodau economaidd a chyllidol. [footnote 4] Nodir proses yr Adolygiad, gan gynnwys ei ymgysylltiad sylweddol ag arbenigedd mewnol ac allanol, yn yr Atodiad.

Yn yr adroddiad hwn rydym yn nodi:

  • Pam mae angen newidiadau i Amddiffyn yn y DU, gan ystyried y cyd-destun rhyngwladol a鈥檙 cyd-destun diogelwch yn y cyfnod hyd at 2040 a chyflwr presennol Amddiffyn (Pennod 2).[footnote 5]
  • Pa rolau y dylai Amddiffyn eu chwarae ac ymhle yn y blynyddoedd nesaf (Pennod 3).

  • Sut dylai鈥檙 Lluoedd Arfog frwydro a sut dylai Amddiffyn ehangach gefnogi鈥檙 frwydr honno, gyda gweithlu sydd wedi鈥檌 rymuso a hyblyg i drawsnewid dulliau ymladd rhyfeloedd y DU (Pennod 4).

  • Ochr yn ochr 芒 phwy y dylai Amddiffyn ymladd: pa mor ganolog yw cynghreiriaid a phartneriaid er mwyn i鈥檙 DU allu adeiladu p诺er diwydiannol a galluoedd cyffredin, ac yn y pen draw ymladd ac ennill (Pennod 5); a phwysigrwydd creu cysylltiad o鈥檙 newydd 芒 chymdeithas y DU i sicrhau gwydnwch a dyfnder strategol yn achos argyfwng neu wrthdaro (Pennod 6).

  • Galluoedd brwydro鈥檙 Llu Integredig (Pennod 7), gan roi sylw i elfennau rheng flaen a galluoedd Amddiffyn sylfaenol y DU鈥攃reu grym sy鈥檔 addas ar gyfer rhyfel yn yr 21ain Ganrif drwy Gynllun Buddsoddi mewn Amddiffyn newydd dros ddeng mlynedd.[footnote 6]

Oes newydd o fygythiadau

Mae hon yn foment bwysig iawn i鈥檙 DU a鈥檌 chynghreiriaid (Pennod 2). Roedd ymosodiad Rwsia ar Wcr谩in yn 2022 yn drobwynt strategol. Dangosodd hyn natur cyfnewidiol a deinamig y bygythiad, gyda rhyfel gwladwriaethol yn dychwelyd i Ewrop, gelynion yn defnyddio rhethreg niwclear mewn ymgais i ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau, a鈥檙 DU a鈥檌 chynghreiriaid o dan warchae yn ddyddiol gan weithredoedd o dan drothwy rhyfel wrth i gystadleuaeth ryngwladol ddwysau. Mae鈥檙 gwrthdaro hefyd wedi dangos grym technoleg newydd sydd wedi newid ble y caiff rhyfeloedd eu hymladd, sut a gyda beth. Mae perygl y bydd y Lluoedd Arfog nad ydynt yn newid ar yr un cyflymder 芒 thechnoleg yn mynd yn ddiwerth.

Mae鈥檔 bwysig nodi mai dim ond un fflachbwynt o lawer yw Wcr谩in ymysg ansefydlogrwydd ac anwadalrwydd cynyddol yn y byd a amlygir gan gyflymder rhyfeddol y newidiadau yn y dirwedd ryngwladol ers lansio鈥檙 Adolygiad hwn yn 2024. Yr hyn sydd fwyaf amlwg adeg ysgrifennu鈥檙 adroddiad hwn yw鈥檙: trafodaethau am gadoediad yn rhyfel Wcr谩in-Rwsia; y posibilrwydd o ddanfon 鈥榣lu sicrwydd鈥 i Wcr谩in petai yna gadoediad; a chwestiynau mawr am ddyfodol diogelwch yn Ewrop sy鈥檔 anochel ar 么l i鈥檙 Unol Daleithiau newid ei blaenoriaethau diogelwch gyda鈥檌 ffocws nawr yn troi at yr Indo-Basiffig a diogelu鈥檙 famwlad.[footnote 7] Yn y b么n, nid yw rhagdybiaethau hirsefydlog y DU am strwythurau a balansau p诺er byd-eang mor sicr mwyach.

Mae Lluoedd Arfog y DU wedi dechrau ar broses angenrheidiol o newid mewn ymateb i鈥檙 realiti newydd hwn. Ond nid yw鈥檙 cynnydd wedi bod yn ddigon cyflym na radical. Mae鈥檙 Lluoedd Arfog yn dal i gael eu siapio gan risgiau a gofynion y cyfnod ar 么l y Rhyfel Oer鈥攚edi鈥檜 teilwra鈥檔 bennaf ar gyfer gwrthdaro yn erbyn gweithredwyr nad ydynt yn wladwriaethau ar ymylon Ewrop a thu hwnt. Er bod y rhain yn sylweddol ac yn heriol, nid oedd y gweithrediadau hyn yn gofyn bod 鈥榗ymdeithas gyfan鈥 yn ymbaratoi ar gyfer rhyfel, amddiffyn gartref, cadernid, a chynhyrchiant diwydiannol.

Oes newydd i Amddiffyn yn y DU

Mewn ymateb i鈥檙 cyd-destun strategol hwn, mae ein Hadolygiad yn disgrifio oes newydd ar gyfer Amddiffyn. Gan adeiladu ar y newidiadau sydd eisoes ar waith, ein gweledigaeth yw y bydd Amddiffyn y DU, erbyn 2035:

Yn b诺er amddiffyn blaenllaw sy鈥檔 defnyddio technoleg, gyda Llu Integredig i atal, i ymladd ac i ennill drwy arloesi鈥檔 gyson ar gyflymder rhyfel.

Rhaid i Amddiffyn allu cyflawni ei r么l sylfaenol: sef atal bygythiadau i鈥檙 DU a鈥檌 chynghreiriaid drwy ymbaratoi ar gyfer rhyfel, a darparu polisi yswiriant cadarn petai ataliaeth yn methu. Dylid mynd ar drywydd hyn fel rhan o ddull gweithredu cymdeithas gyfan ar gyfer atal ac amddiffyn, lle mae Amddiffyn yn cyfuno ei gryfderau 芒 rhai鈥檙 Llywodraeth, diwydiant a chymdeithas yn ehangach.

Rolau Amddiffyn y DU

Y man cychwyn ar gyfer yr Adolygiad hwn yw polisi 鈥楴ATO yn Gyntaf鈥 y Llywodraeth (Pennod 3). Mae angen amlwg i鈥檙 DU ddyblu ei hymdrechion o fewn y Gynghrair a chynyddu ei chyfraniad at ddiogelwch yr Ewro-Iwerydd yn fwy eang鈥攜n enwedig wrth i ymddygiad ymosodol Rwsia dyfu ar draws Ewrop ac wrth i Unol Daleithiau America addasu ei blaenoriaethau rhanbarthol. Wrth wneud y newid hwn, rhaid prif-ffrydio鈥檙 Gynghrair o ran sut mae Amddiffyn yn cynllunio, yn meddwl ac yn gweithredu.

Nid yw 鈥楴ATO yn Gyntaf鈥 yn golygu 鈥楴ATO yn unig鈥. Dylai鈥檙 DU fabwysiadu dull pragmatig o gryfhau cyd-ddiogelwch yn yr Ewro-Iwerydd drwy gyfrwng partneriaethau dwyochrog ac amlochrog cryfach.[footnote 8] Mae鈥檙 Gynghrair ei hun yn cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda phartneriaid y tu allan i鈥檙 rhanbarth鈥攇an adlewyrchu鈥檙 cysylltiad rhwng diogelwch yr Ewro-Iwerydd a diogelwch rhanbarthau eraill fel y Dwyrain Canol a鈥檙 Indo-M么r Tawel. Rhaid i Amddiffyn hefyd allu canlyn a diogelu buddiannau, ymrwymiadau a chyfrifoldebau sylweddol y DU y tu allan i鈥檙 rhanbarth, gan gynnwys amddiffyn ei thiriogaeth sofran.

Serch hynny, gwelir pwysigrwydd sylfaenol diwallu ymrwymiadau鈥檙 Gynghrair a siapio ataliaeth yn yr Ewro-Iwerydd bob dydd yn y rolau parhaus sy鈥檔 atgyfnerthu ei gilydd, y mae鈥檔 rhaid i Amddiffyn eu cyflawni. Dyma鈥檙 tair r么l graidd i Amddiffyn:

  • R么l 1: Amddiffyn, gwarchod a gwella gwydnwch y DU, ei Thiriogaethau Tramor, a鈥檌 Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron.

  • R么l 2: Amddiffyn ac atal yn yr Ewro-Iwerydd.

  • R么l 3: Dylanwadu ar yr amgylchedd diogelwch byd-eang.

Y ddwy swyddogaeth galluogi ar gyfer Amddiffyn yw:聽

  • Datblygu sylfaen ddiwydiannol ac arloesedd ffyniannus a chadarn o ran amddiffyn.
  • Cyfrannu at gydlyniant a pharodrwydd cenedlaethol.

Trawsnewid gallu鈥檙 DU i ymladd rhyfeloedd

Er mwyn ymateb i fygythiadau heddiw ac yfory, rhaid i Amddiffyn newid yn sylfaenol sut mae鈥檔 brwydro a sut mae鈥檔 cefnogi鈥檙 frwydr honno: gan gynyddu鈥檔 gyflym capasiti鈥檙 Lluoedd Arfog i achosi angau, ac i frwydro drwy arloesi ym maes technoleg (Pennod 4). Gan ddefnyddio gwersi o鈥檙 rhyfel yn Wcr谩in a鈥檙 newidiadau sefydliadol a alluogir drwy Diwygio Amddiffyn, dylai鈥檙 cyfan o鈥檙 gwaith Amddiffyn (y Lluoedd Arfog ac Adran y Wladwriaeth gyda鈥檌 gilydd) gael ei sbarduno gan resymeg y cylch arloesi鈥攕ef gallu darganfod arloesedd, ei brynu a鈥檌 ddefnyddio, a鈥檌 wthio drwodd o鈥檙 cysyniad cychwynnol i鈥檙 rheng flaen yn gyflym.

Wrth wraidd y trawsnewidiad hwn mae tri newid sylfaenol yn y dull gweithredu. Rhaid i Amddiffyn gyflawni鈥檙 canlynol:

  • Integreiddio drwy ddyluniad.
    Er mwyn i鈥檙 Lluoedd Arfog fod mor effeithiol 芒 phosibl o ran capasiti achosi angau, rhaid iddynt gwblhau鈥檙 daith o newid o 鈥榞ydweithio鈥 i 鈥榠ntegredig鈥: wedi鈥檜 dylunio a鈥檜 cyfarwyddo fel un llu o dan awdurdod Pennaeth y Staff Amddiffyn, ac yn cael eu darparu yn unol 芒鈥檙 dyluniad hwn gan un Drefn Reoli Strategol a Gwasanaethau. O dan y model newydd hwn, nid oes angen darparu dyluniad llu sefydlog erbyn dyddiad penodol. Rhaid i ddyluniad a galluoedd y Llu Integredig, a鈥檙 ffordd y caiff ei gefnogi gan Amddiffyn yn ehangach, barhau i esblygu yn yr un modd 芒 bygythiadau a thechnoleg. Rhaid i鈥檙 Llu Integredig allu gweithredu mewn gwahanol ffurf: fel rhan o Drefniadau Rheoli NATO yn 么l ei ddyluniad; mewn clymblaid; ac fel grym sofran. Er mwyn cyflawni newid sylweddol yn ei gapasiti i achosi angau, rhaid i鈥檙 Llu Integredig fod yn seiliedig ar sylfaen ddigidol gyffredin a data a rennir. Dylai darparu fod yn un o鈥檙 prif flaenoriaethau. Dylai un 鈥榗enhadaeth ddigidol鈥欌攊 ddarparu 鈥榞we targedu鈥 digidol[footnote 9] erbyn 2027鈥攁lluogi Amddiffyn i lwyddo lle mae wedi methu o鈥檙 blaen, yn ogystal 芒 chreu gr诺p arbenigol o Ymladdwyr Rhyfel Digidol y gellid eu defnyddio ochr yn ochr 芒鈥檙 person茅l rheng flaen (Pennod 4.1).

  • Arwain gan arloesedd.
    Heddiw, mae llawer o鈥檙 arloesi gorau i鈥檞 weld yn y sector preifat, tra bo鈥檙 cynnydd mewn amlygrwydd technolegau defnydd deuol[footnote 10] wedi ehangu鈥檙 rhwyd o ddarpar gyflenwyr sy鈥檔 gallu cyfrannu at ganlyniadau Amddiffyn. Rhaid i amddiffyn gofleidio ei r么l o ran sbarduno arloesedd a thwf, gan fabwysiadu technoleg newydd yn gyflym i gadw鈥檙 Llu Integredig ar flaen y gad o ran rhyfela. Yn benodol, dylai Amddiffyn feithrin perthynas 芒鈥檙 buddsoddwyr y tu 么l i鈥檙 arloeswyr. Dylid ceisio arbenigedd allanol yn systematig drwy Gr诺p Cynghori newydd ar gyfer Buddsoddwyr Amddiffyn, gydag aelodau鈥檔 cynnwys buddsoddwyr cyfalaf menter ac ecwiti preifat, a bod cyllid preifat yn cael ei ddwyn i mewn o dan fodelau cyllido newydd. Er mwyn paratoi ar gyfer llwyddiant yn fewnol, dylai Amddiffyn ad-drefnu鈥檙 strwythurau presennol i greu dau sefydliad ar wah芒n o dan y Cyfarwyddwr Arfau Cenedlaethol:

    • Sefydliad Ymchwil a Gwerthuso Amddiffyn,[footnote 11] sy鈥檔 canolbwyntio ar alluogi ymchwil camau cynnar allanol ac sy鈥檔 agor y drws i academia.
    • Sefydliad newydd ar gyfer Arloesedd Amddiffyn y DU (UKDI),[footnote 12] sy鈥檔 canolbwyntio ar harneisio arloesedd masnachol, gan gynnwys ar gyfer technolegau defnydd deuol. Bydd gan UKDI gyllideb flynyddol wedi鈥檌 chlustnodi o 拢400m o leiaf (Pennod 4.2).
  • Cefnogir gan ddiwydiant.
    Er mwyn datblygu sylfaen ddiwydiannol ac arloesedd ffyniannus a chadarn i gefnogi鈥檙 Llu Integredig, rhaid i Amddiffyn greu partneriaeth newydd gyda diwydiant. Wedi鈥檌 arwain gan y Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn sydd ar y gweill ac o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Arfau Cenedlaethol, mae hyn yn golygu ailwampio prosesau caffael o鈥檙 gwaelod i鈥檙 brig: gan ymgysylltu 芒 diwydiant yn gynnar mewn prosesau caffael ar ganlyniadau dymunol; sicrhau bod cyflenwyr yn cael eu gwobrwyo am gynhyrchiant a chymryd risgiau; a lleihau鈥檙 baich ar ddarpar gyflenwyr, boed y rheini鈥檔 fusnesau newydd neu鈥檔 brif gwmn茂au. Wrth galon y bartneriaeth hon, dylid meithrin agwedd newydd, wedi鈥檌 segmentu, at gaffael:[footnote 13]

  • Platfformau modiwlaidd mawr (contractio o fewn dwy flynedd).
  • Uwchraddio鈥檔 gyflym ar batrwm troellen a modiwlaidd (contractio o fewn blwyddyn).
  • Ecsbloetio masnachol yn gyflym (contractio o fewn tri mis), gydag o leiaf 10% o gyllideb caffael offer Amddiffyn yn cael ei wario ar dechnolegau newydd bob blwyddyn.

Dylid hefyd prif-ffrydio allforion a phartneriaethau gyda galluoedd rhyngwladol[footnote 14] i brosesau caffael o鈥檙 cychwyn cyntaf, gyda鈥檙 cyfrifoldeb dros allforion amddiffyn yn cael ei roi yn 么l i鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) yn ogystal 芒 fframwaith newydd ar gyfer adeiladu a chynnal cydberthnasau 聽llywodraeth-i-lywodraeth. Dylai penderfyniadau buddsoddi ystyried y costau cysylltiedig i sicrhau eu bod yn wirioneddol fforddiadwy鈥攅r enghraifft, caffael, cymorth ac uwchraddio gydol oes, a newidiadau i seilwaith (Pennod 4.2).

Drwy ddefnyddio ei b诺er marchnad yn fwy pwrpasol a thrwy flaenoriaethu busnes yn y DU, dylai Amddiffyn hefyd anelu at gyflawni ar gyfer economi鈥檙 DU a darparu ar gyfer ymladdwyr rhyfel yr un pryd. Mae gan amddiffyn botensial sylweddol heb ei wireddu i fod yn beiriant newydd ar gyfer twf wrth galon strategaeth economaidd y DU. Byddai diwygio radical o鈥檙 b么n i鈥檙 brig ym maes caffael amddiffyn鈥攜nghyd 芒 buddsoddiad sylweddol mewn arloesi, technoleg newydd, gweithgynhyrchu uwch, a sgiliau鈥攜n cynyddu gallu cynhyrchiol economi鈥檙 DU. Dylai Amddiffyn anelu鈥檔 uchel, gan fesur llwyddiant o ran nifer a maint cwmn茂au technoleg amddiffyn a defnydd deuol yn y DU. Bydd llwyddiant hefyd yn golygu gwelliant sylweddol mewn cynhyrchiant Amddiffyn, cystadleurwydd, allforion a gwerth am arian, a chaiff hyn ei gefnogi gan y Cynllun Effeithlonrwydd a Diwygio Amddiffynnewydd (Pennod 4.2).[footnote 15]

Yn y pen draw, rhaid i bobl y DU gyflawni鈥檙 trawsnewidiad hwn i Amddiffyn (Pennod 4.3), wedi鈥檜 grymuso gan newidiadau mewn polis茂au 鈥榩obl鈥 a diwylliant sy鈥檔 cael gwared ar fiwrocratiaeth ac sy鈥檔 dileu ymddygiad annerbyniol yn y gweithle. Mae angen ymyriad wedi鈥檌 dargedu i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 argyfwng yn y gweithlu Amddiffyn鈥攇wella recriwtio drwy opsiynau cyflymach a mwy hyblyg fel 鈥榖lynyddoedd i ffwrdd鈥 milwrol, gwella lefelau cadw drwy gynllun 鈥榞weithio hyblyg鈥 arfaethedig y Weinyddiaeth Amddiffyn, a blaenoriaethu buddsoddiad yn y Senedd hon yn y llety sy鈥檔 bell iawn o鈥檙 safonau angenrheidiol ar hyn o bryd.

Rhaid canolbwyntio ar sicrhau bod y 鈥榣lu cyfan鈥[footnote 16] mor effeithiol 芒 phosibl:

  • Er mwyn cyflawni鈥檙 rolau a nodir yn yr Adolygiad hwn, nid oes lle i leihau nifer y Milwyr Parhaol sydd wedi鈥檜 hyfforddi a鈥檜 harfogi鈥檔 dda ar draws y tri Gwasanaeth, hyd yn oed wrth i鈥檙 lluoedd symud tuag at roi llawer mwy o bwyslais ar awtonomi. Yn gyffredinol, rydym yn rhagweld cynnydd yng nghyfanswm nifer y person茅l Rheolaidd pan fydd cyllid yn caniat谩u hynny. Mae hyn yn cynnwys cynnydd bach yn nifer Milwyr Rheolaidd y Fyddin fel blaenoriaeth.
  • Gan gynyddu nifer y Milwyr Wrth Gefn 20% pan fydd cyllid yn caniat谩u (yn fwyaf tebygol yn y 2030au), ac adfywio鈥檙 berthynas 芒鈥檙 Lluoedd Wrth Gefn Strategol.
  • Ail-lunio gweithlu鈥檙 Gwasanaeth Sifil gyda phwyslais ar berfformiad, cynhyrchiant a sgiliau, gan leihau costau o leiaf 10% erbyn 2030.
  • Rhyddhau staff milwrol o swyddogaethau swyddfa gefn i rolau rheng flaen ac awtomeiddio 20% o swyddogaethau AD, Cyllid a Masnachol erbyn Gorffennaf 2028. Dylai hyn fod yn gam cyntaf o leiaf.
  • Diwygio hyfforddiant ac addysg fel eu bod yn addasu llawer mwy i wersi gweithredol, gan sicrhau y gellir cymryd risgiau dan reolaeth mewn hyfforddiant milwrol, a chreu mwy o gapasiti a hyblygrwydd drwy ddatblygu un amgylchedd ar-lein. Dylid defnyddio cymwysterau a darpariaeth addysg sifil lle bo hynny鈥檔 bosibl i gynyddu effeithlonrwydd ac i leihau鈥檙 rhwystrau rhwng Amddiffyn, diwydiant a chymdeithas ehangach.

Cryfhau ataliaeth drwy gynghreiriau a phartneriaethau

Rhaid i鈥檙 DU gryfhau cyd-ddiogelwch a chreu dyfnder strategol drwy fuddsoddi鈥檔 weithredol yn ei berthnasoedd (Pennod 5). Mae adnoddau cyfyngedig yn golygu na all y DU fod yn bopeth i bawb. Rhaid i鈥檙 DU flaenoriaethu ei ffordd o weithio, yn seiliedig ar y rolau a amlinellir ym Mhennod 3 a gan ddefnyddio鈥檙 ystod lawn o ddulliau sydd ar gael.

Mae cytundebau dwyochrog a phartneriaethau galluogrwydd鈥攇yda鈥檙 Unol Daleithiau a Chynghreiriaid NATO Ewropeaidd鈥攜n cynnig arf pwerus i gryfhau perthnasoedd a sefydlogrwydd Ewro-Iwerydd. Mae鈥檙 un peth yn wir am weithgarwch dwyochrog 芒 nifer fach o wledydd, gan gynnwys y Fyddin Ymgyrchol ar y Cyd, a鈥檙 fformatau E3 ac E5.[footnote 17] Caiff hyn ei ategu drwy weithredu Partneriaeth Diogelwch ac Amddiffyn y DU a鈥檙 UE. Rhaid datblygu AUKUS a鈥檙 Rhaglen Brwydro Awyr Byd-eang fel patrwm o gydweithio ar alluogrwydd ac fel arwydd pwerus o uchelgais y DU i ddod 芒 phartneriaid o ranbarthau daearyddol gwahanol yn nes at ei gilydd i gefnogi cyd-ddiogelwch. Mae ategu cefnogaeth i Wcr谩in er mwyn ceisio setliad gwleidyddol gwydn yn hanfodol, yn ogystal 芒 dysgu o鈥檙 profiadau eithriadol mewn rhyfela ar y tir, gyda dr么n, a brwydro hybrid.

Amddiffyn a gwydnwch gartref: dull cymdeithas gyfan

Mae ffocws o鈥檙 newydd ar wydnwch ac amddiffyn gartref yn hanfodol i ataliaeth fodern, gan sicrhau parhad bywyd cenedlaethol mewn argyfwng (Pennod 6). Dylai ail-greu鈥檙 cysylltiad rhwng Amddiffyn a chymdeithas fod yn fan cychwyn, fel rhan o sgwrs genedlaethol dan arweiniad y Llywodraeth ar amddiffyn a diogelwch. Gellir cyflawni hyn yn rhannol drwy ehangu鈥檙 Lluoedd Cadetiaid 30% erbyn 2030 (gydag uchelgais i gyrraedd 250,000 yn y tymor hwy) a gweithio gyda鈥檙 Adran Addysg i ddatblygu dealltwriaeth o鈥檙 Lluoedd Arfog ymysg pobl ifanc mewn ysgolion.

Mae angen corff mwy sylweddol o waith i sicrhau diogelwch a gwydnwch y seilwaith cenedlaethol hanfodol a鈥檙 gwasanaethau hanfodol mae鈥檔 eu darparu. Dylai鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda鈥檙 Llywodraeth ehangach, archwilio 鈥榗ytundeb newydd鈥 ar gyfer diogelu ac amddiffyn y seilwaith cenedlaethol hanfodol sydd wedi鈥檌 wreiddio mewn partneriaeth 芒鈥檙 sector preifat a gweithredwyr cysylltiedig. I gefnogi hyn, dylai鈥檙 Llynges Frenhinol chwarae r么l arweiniol a chydlynol newydd i warchod piblinellau a cheblau o dan y m么r a thraffig morol.

Rhaid i鈥檙 Llywodraeth hefyd allu sicrhau trosglwyddiad cynaliadwy ac effeithiol i ryfel os oes angen. Dylai Bil Parodrwydd i Amddiffyn newydd roi pwerau wrth gefn i鈥檙 Llywodraeth i ymbaratoi鈥檙 Lluoedd Wrth Gefn a diwydiant petai argyfwng yn datblygu鈥檔 wrthdaro. Dylai hefyd hwyluso craffu allanol ar barodrwydd y DU i ymladd rhyfeloedd.

Y Llu Integredig: llu sy鈥檔 addas i ryfel yn yr 21ain ganrif

Y dasg hanfodol yw trawsnewid y Lluoedd Arfog, adfer eu parodrwydd i ymladd, a gwrthdroi鈥檙 duedd o 鈥榳anhau鈥 y galluoedd sylfaenol na ellir dygymod hebddynt mewn gwrthdaro hirfaith a dwys (Pennod 7).

Rhaid i鈥檙 DU barhau i ymroi ei rhaglen niwclear ataliol annibynnol gyda NATO (Pennod 7.1), gan addasu ei chynghreiriau, ei sylfaen ddiwydiannol, a鈥檌 galluoedd milwrol i sicrhau y gall barhau i atal y bygythiadau mwyaf eithafol. Bydd angen i鈥檙 DU gael sbectrwm llawn o opsiynau i reoli unrhyw ddwysau fel rhan o NATO, a hynny drwy ei grymoedd niwclear a chonfensiynol ar y cyd. Dylai Amddiffyn ddechrau trafod 芒鈥檙 Unol Daleithiau a NATO am fanteision ac ymarferoldeb posibl cyfraniad pellach y DU yn ymgyrch niwclear NATO. Byddai rhagor o fuddsoddiad mewn galluoedd ymosodiadau manwl confensiynol ac Amddiffyniad Awyr a Thaflegrau Integredig yn cynyddu鈥檙 opsiynau ar gyfer atal ac ymateb i fygythiadau difrifol.

Rhaid i Uwch Weinidogion sbarduno ymdrechion i gynnal y rhaglen niwclear ataliol fel y brif flaenoriaeth Amddiffyn ac fel 鈥榊mdrech Genedlaethol鈥. Mae鈥檙 rhaglen i ddisodli鈥檙 arfben sofran yn hollbwysig a bydd angen buddsoddiad sylweddol gan y Senedd hon. Byddai cadarnhau niferoedd arfaethedig y llongau tanfor ymosod SSN yn rhoi eglurder ynghylch y capasiti adeiladu a鈥檙 tempo angenrheidiol ar gyfer pob llong danfor niwclear. I sicrhau dyfodol hirdymor y rhaglen niwclear ataliol, rhaid i鈥檙 Llywodraeth ddechrau gweithio yn y Senedd hon i ddiffinio鈥檙 gofyniad am olynydd i鈥檙 llong danfor Dreadnought.

Dylai symud tuag at ddefnyddio mwy o awtonomi a Deallusrwydd Artiffisial (AI) yng ngrymoedd confensiynol y DU fod yn flaenoriaeth uniongyrchol ar gyfer trawsnewid y llu (Pennod 7). Fel yn Wcr谩in, byddai hyn yn darparu mwy o gywirdeb, rhagor o gapasiti i achosi angau, a galluoedd rhatach鈥攇an newid economeg Amddiffyn. Dylai鈥檙 symudiad hwn tuag at ddeallusrwydd artiffisial ac awtonomi fanteisio ar y datblygiad cyfochrog o sylfaen ddigidol gyffredin, Cronfa Fuddsoddi Amddiffyn mewn Deallusrwydd Artiffisial sydd wedi鈥檌 gwarchod, a galluogrwydd gweithredol cychwynnol ar gyfer Canolfan Systemau Amddiffyn Heb Griw newydd a gaiff ei sefydlu erbyn mis Chwefror 2026.

Dylai鈥檙 Lluoedd Arfog gyflymu鈥檙 newid hwn i gymysgedd 鈥榰chel-isel鈥 o offer鈥攅r enghraifft:

  • Cysyniad 鈥楢tlantic Bastion鈥 y Llynges Frenhinol ar gyfer diogelu Gogledd yr Iwerydd ar ran y DU a NATO a鈥檌 chynlluniau ar gyfer llongau cludo asgell awyr hybrid (Pennod 7.2).
  • Model 鈥楻ecce-Strike鈥 y Fyddin ar gyfer grym ymladd ar y tir, gyda鈥檙 nod o arwain at ddatblygu deg gwaith y capasiti i achosi angau.[footnote 18] Dylai鈥檙 model newydd hwn fod yn sail i drawsnewid y ddwy adran a Phencadlys y Corfflu sydd wedi ymrwymo i Gorfflu Llu Wrth Gefn Strategol NATO (Pennod 7.3).
  • Datblygiad yr RAF o鈥檙 System Brwydro Awyr yn y Dyfodol鈥攃hweched genhedlaeth y jet gyda chriw yn gweithredu drwy blatfformau cydweithredol awtonomaidd (Pennod 7.4).

Gyda鈥檙 Llu Integredig yn ymladd fel un ar draws pob un o鈥檙 pum maes, rhaid rhoi mwy o sylw i鈥檙 parthau gofod a seiber ac electromagnetig (SeiberEM):[footnote 19]

  • Mae mynediad sicr i weithredu yn y gofod, oddi yno a thrwyddo yn sail i ddiogelwch a ffyniant y DU. Dylai鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn fuddsoddi yng ngwydnwch systemau gofod milwrol, gan ganolbwyntio ar reoli鈥檙 gofod, mantais gwneud penderfyniadau, a galluoedd sy鈥檔 cefnogi swyddogaethau 鈥楧eall鈥 ac 鈥榊mosod鈥. Dylai鈥檙 is-bwyllgor Cabinet ar ei newydd wedd bennu dull strategol y DU o ymdrin 芒鈥檙 gofod, gan fanteisio i鈥檙 eithaf ar y synergeddau rhwng sector gofod sifil y DU ac anghenion milwrol clir (Pennod 7.5).
  • Mae鈥檙 parth SeiberEM yr un mor hanfodol i ddiogelu a gweithredu yn yr holl barthau eraill ac mae鈥檔 hanfodol ar gyfer y we targedu digidol. Mae鈥檔 hanfodol cryfhau swyddogaethau Amddiffyn hanfodol i ymosodiadau seiber. Rhaid i Amddiffyn symud i sylfaen fwy rhagweithiol yn y maes hwn. Dylai鈥檙 Drefn Reoli Seiber-EM newydd鈥攁 sefydlwyd o fewn y Drefn Reoli Gweithredol Arbenigol (SOC) neu鈥檙 Drefn Reoli Strategol yn flaenorol鈥攅felychu鈥檙 Drefn Reoli Gofod wrth sicrhau cydlyniad y parth, yn hytrach na chyfarwyddo gweithrediad. Dylid sefydlu gallu gweithredu cychwynnol erbyn diwedd 2025 (Pennod 7.6).

Wrth Ddiwygio Amddiffyn, bydd y Drefn Reoli Gweithredoedd Arbenigol (SOC) yn gyfrifol am gyflawni (ar gyfarwyddyd y Pencadlys Strategol Milwrol newydd) llawer o gyd-alluogwyr a galluoedd arbenigol y Llu Integredig鈥攐 Ddeallusrwydd Amddiffyn i鈥檙 Rhwydwaith Amddiffyn Byd-eang Integredig, Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn, y Lluoedd Arfog Arbennig (SF) a鈥檙 Lluoedd Gweithredoedd Arbennig (SOF). Mae Lluoedd Arbennig y DU鈥攏eu 鈥渇laen y llafn鈥 fel y c芒nt eu hadnabod鈥攜n cynrychioli model gweithredol y Llu Integredig, gan arwain y ffordd o ran arloesi technolegau a systemau newydd ar draws pob parth. Rhaid i Amddiffyn ddal ati i wella鈥檙 Lluoedd Arfog Arbennig, gan sicrhau dewis sofran y DU drwy gynnal y gallu strategol hwn ar y lefel uchaf un.

Er bo rhai adolygiadau yn y gorffennol wedi canolbwyntio ar offer rheng flaen ar draul galluoedd sylfaenol, rydym wedi ceisio unioni鈥檙 cydbwysedd hwn. Rydym yn argymell canolbwyntio ar y canlynol:

  • Grymuso Deallusrwydd Amddiffyn fel arweinydd swyddogaethol yr holl sefydliadau sy鈥檔 ymwneud 芒 deallusrwydd amddiffyn鈥攔hoi sylw i flaenoriaethau a safonau cyffredin, wedi鈥檜 hategu gan siarter Deallusrwydd Amddiffyn newydd, ac, ymhen amser, sy鈥檔 gwbl rhyngweithredol 芒 Chymuned Cudd-wybodaeth y DU (Pennod 7.9).
  • Ail-adeiladu Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn, cydlynu gwahanol adnoddau meddygol amddiffyn a chychwyn adolygiad sbrint gyda鈥檙 Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau y gellir diwallu anghenion person茅l adeg heddwch ac adeg rhyfel (Pennod 7.10).
  • Adfer y Pencadlys Strategol[footnote 20] y mae鈥檙 Lluoedd Arfog yn gweithredu oddi yno: cyflwyno Cynllun Ailgyfalafu鈥檙 Seilwaith Amddiffyn erbyn mis Chwefror 2026 i fynd i鈥檙 afael 芒 blynyddoedd o danariannu a chanfod ffyrdd o gynyddu gwerth yr ystad fel ased cenedlaethol (Pennod 7.11).
  • Targedu buddsoddiad mewn cyd-gefnogi galluogwyr ac arfau rhyfel. Dylai Amddiffyn gynnal galluoedd arfau sydd 鈥榓r waith bob amser鈥, gan osod y sylfeini diwydiannol i allu cyflymu cynhyrchiant os oes angen. Dylai hyn gael ei ategu gan ddatblygu ymhellach arfau newydd sy鈥檔 targedu ynni (Pennod 7).

Y rheidrwydd i drawsnewid

Mae angen dilyniant darbodus i sicrhau bod gan y Lluoedd Arfog yr hyn sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt o fewn yr adnoddau sydd ar gael ac i sicrhau鈥檙 budd gorau posibl ar fuddsoddiad. Mae hyn yn cynnwys bod yn barod i sbarduno ymdrechion i drawsnewid y Lluoedd Arfog ac adfer parodrwydd petai鈥檙 amodau鈥檔 gwaethygu ymhellach, neu i fyddino Amddiffyn y DU yn gyflym os bydd argyfwng.

Nid oes rheswm dros oedi cyn newid yn sylfaenol sut mae Amddiffyn yn gweithio. Gellir defnyddio Diwygio Amddiffyn鈥攜 rhaglen barhaus o newid sefydliadol a diwylliannol (Blwch 1)鈥攆el gyrrwr ar gyfer diwygio ar draws yr Adran Wladol a鈥檙 Lluoedd Arfog. Yn wahanol i adrannau eraill yn y Llywodraeth, nid oes gan y Weinyddiaeth Amddiffyn reolaeth dros yr amserlen adeg anghydfod a gwrthdaro. Ond mae gan 鈥榙digwyddiadau鈥 a gelynion y DU hynny. Mae angen gweithredu鈥檔 feiddgar a phendant. Nid yw 鈥榖usnes fel arfer鈥 yn opsiwn.

Rydym yn ymwybodol iawn bod geiriau fel 鈥榯rawsnewid鈥 wedi cael eu defnyddio o鈥檙 blaen mewn adolygiadau amddiffyn ond mai pur anaml y mae鈥檙 bwriad wedi cael ei gyflawni. Bydd Diwygio Amddiffyn yn ffactor allweddol o ran llwyddiant yn y blynyddoedd i ddod. Lle mae鈥檙 Adolygiad Amddiffyn Strategol yn datgan beth mae鈥檔 rhaid i Amddiffyn ei wneud yn y ddegawd nesaf a鈥檙 tu hwnt, bydd y rhaglen Diwygio Amddiffyn yn penderfynu yn y pen draw sut mae鈥檔 cael ei gyflawni, a pha mor llwyddiannus ydyw. I gefnogi gweithredu, rydym wedi nodi ymyriadau allweddol a dyddiadau profi i roi hwb pellach i gynnydd lle bu鈥檔 araf yn y gorffennol a lle bu diffyg atebolrwydd. Yn anorfod, y Weinyddiaeth Amddiffyn fydd yn bwrw ymlaen 芒鈥檙 gwaith hwn o greu cynlluniau gweithredu manwl鈥攕y鈥檔 gam hanfodol i sicrhau bod yr adran yn cymryd perchnogaeth dros ganfyddiadau ac argymhellion yr Adolygiad.

Blwch 1: Diwygio Amddiffyn: paratoi ar gyfer llwyddiant ym maes Amddiffyn

Pwrpas Diwygio Amddiffyn yw sefydlu trefniadau llywodraethu cadarn a symlach, creu atebolrwydd cliriach, a phrosesau gwneud penderfyniadau cyflymach ar draws y Weinyddiaeth Amddiffyn a鈥檙 Lluoedd Arfog. Y man cychwyn yw ailstrwythuro Amddiffyn o dan bedwar maes (Ffigur 1).

Ffigur 1: Cyfrifoldebau uwch swyddogion a staff milwrol o dan y rhaglen Diwygio Amddiffyn

Rydym yn cefnogi鈥檔 gryf y newid sefydliadol a lansiwyd gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn ac a geisir o dan Diwygio Amddiffyn. Wrth iddo fynd rhagddo dylai ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Cefnogi meddylfryd 鈥楿n Gwasanaeth Amddiffyn鈥 drwy strwythurau rheoli gyrfa sy鈥檔 gwobrwyo ymddygiad a gweithrediad yn unol 芒 hynny, gyda NATO yn brif ystyriaeth. Dylid edrych ar opsiynau mwy radical i ddileu seilos Gwasanaeth unigol, fel byrddau dyrchafu ar y cyd neu drefniadau rheoli gyrfaoedd canolog.
  • Creu newid sylweddol yn nhrefniadau rheoli ariannol a rheoli rhaglenni鈥檙 adran. Fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu, rhaid i鈥檙 Is-ysgrifennydd Parhaol gadw鈥檙 prif gyfrifoldeb dros gynllunio ariannol a rhaid iddo allu rhoi cyfrif am sefyllfa ariannol yr adran, hyd yn oed wrth i uwch arweinwyr eraill gael mwy o awdurdod ariannol yn eu priod feysydd cyfrifoldeb. Gellid symleiddio鈥檙 broses o gymeradwyo prosiectau a rhaglenni ymhellach drwy weithredu鈥檔 llawn y model 鈥榯air llinell amddiffyn鈥 safonol yn y diwydiant ar gyfer sicrhau risg.[footnote 21] Mae ymgorffori Trysorlys EM a Swyddogaeth Fasnachol Swyddfa鈥檙 Cabinet yn y model hwn yn rhoi鈥檙 seiliau yn eu lle ar gyfer gwell perthynas waith.
  • Sicrhau bod r么l y Cyfarwyddwr Arfau Cenedlaethol yn canolbwyntio ar ymgysylltu 芒鈥檙 diwydiant a phartneriaid rhyngwladol i ddatblygu agenda diwydiant amddiffyn ac allforion y Llywodraeth. Bydd hyn yn gofyn am ddirprwyo awdurdod dros reoli caffael ac elfennau eraill o waith Gr诺p y Cyfarwyddwr Arfau Cenedlaethol.
  • Bydd cefnogi鈥檙 gwaith o fabwysiadu technolegau newydd yn barhaus, yn enwedig deallusrwydd artiffisial (AI), yn galluogi Amddiffyn i gymryd camau breision yn y ffordd y mae鈥檔 brwydro a鈥檙 cynhyrchiant y mae鈥檔 ei gyflawni. Rhaid i鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn gyfrannu at waith y Cynllun Gweithredu Cyfleon Deallusrwydd Artiffisial,[footnote 22] dan arweiniad yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, lle bynnag y bo modd.

Cawsom ein harwain yn bennaf gan y t卯m Diwygio Amddiffyn, neu drwy gydweithio 芒 nhw, ar y strwythurau sefydliadol mwyaf effeithiol ar gyfer llywodraethu a chyflawni ym maes Amddiffyn. Fodd bynnag, yn yr adroddiad hwn, byddwn weithiau鈥檔 gwneud awgrymiadau i鈥檞 hystyried ynghylch rolau a chyfrifoldebau i鈥檙 rhaglen Diwygio Amddiffyn ddatblygu ymhellach.


  1. Mae 鈥榗apasiti i achosi angau鈥 yn cyfeirio at b诺er ymladd (grym niweidiol a dinistriol) y Lluoedd Arfog.听

  2. Mae ymosodiadau 鈥榦 dan y trothwy鈥 yn ymosodiadau nad ydynt bob amser yn cyrraedd y trothwy cyfreithiol ar gyfer 鈥榬hyfel鈥. Maent yn cynnwys defnyddio ysb茂o, dylanwad gwleidyddol, sabotaj, llofruddio a gwenwyno, ymyrraeth etholiadol, twyllwybodaeth, propaganda, a dwyn Eiddo Deallusol (IP). Mae ymosodiadau o鈥檙 fath yn aml yn anodd eu priodoli鈥檔 ddiamheuol i droseddwr oherwydd y dulliau a ddefnyddir a鈥檙 ffaith bod gwladwriaethau鈥檔 aml yn dibynnu ar weithredwyr procsi. Yn yr Adolygiad hwn, rydym yn defnyddio鈥檙 term ymosodiad 鈥榦 dan y trothwy鈥. Efallai y bydd eraill yn cyfeirio atynt fel 鈥榶mosodiadau tir llwyd鈥 oherwydd bod gweithredoedd o鈥檙 fath yn y tir llwyd rhwng 鈥榟eddwch鈥 a 鈥榬hyfel鈥, gan herio eglurder y gwahaniaeth cyfreithiol rhwng y ddau. Defnyddir y term 鈥榬hyfela hybrid鈥 yn gyfnewidiol yn aml o fewn y termau hyn ond rydym ni鈥檔 ystyried bod ganddo ystyr mwy penodol, lle defnyddir gweithredoedd milwrol 鈥榗inetig鈥 ar yr un pryd ag ymosodiadau o dan y trothwy i gyflawni amcanion y wladwriaeth.听

  3. Adolygiad Amddiffyn Strategol 2024-2025: Cylch gorchwyl - 伊人直播, 17 Gorffennaf 2024.听

  4. Adolygiad Amddiffyn Strategol 2024-2025: Cylch gorchwyl - 伊人直播, 17 Gorffennaf 2024; Datganiad Llafar y Prif Weinidog i D欧鈥檙 Cyffredin: 25 Chwefror 2025. Cyhoeddodd y Prif Weinidog hefyd y bwriad i gydnabod cyfraniad UKIC (Cymuned Cudd-wybodaeth y DU) at amddiffyn y DU, gydag Amddiffyn ac UKIC gyda鈥檌 gilydd yn gwario 2.6% o鈥檙 GDP ar amddiffyn erbyn 2027.听

  5. Mae鈥檙 Adolygiad hwn wedi ystyried y cyd-destun strategol yn y cyfnod hyd at 2040. Fodd bynnag, mae rhaglenni鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweithio ar gylchoedd o ddeng mlynedd. Caiff hyn ei adlewyrchu yn yr adroddiad hwn, sy鈥檔 cyfleu gweledigaeth ar gyfer Amddiffyn a llwybr at drawsnewid Amddiffyn erbyn 2035.听

  6. A fydd yn disodli鈥檙 Cynllun Cyfarpar.听

  7. , Brwsel, Gwlad Belg, 12 Chwefror 2025.听

  8. Hynny yw, mewn grwpiau gyda nifer fach o wledydd a grwpiau gyda nifer fwy o wledydd.听

  9. Byddai鈥檙 we targedu digidol yn cysylltu 鈥榮ynwyryddion鈥, 鈥榩enderfynwyr鈥, ac 鈥榚ffeithiau鈥. Mae hyn yn arwain at ddewis a chyflymder wrth benderfynu sut i ddifrodi neu ddinistrio targed penodol ar draws parthau, ac mewn parth seiber ac electromagnetig cystadleuol.听

  10. Technoleg a ddatblygwyd at ddefnydd bywyd sifil ond sydd hefyd 芒 defnydd milwrol o bosibl.听

  11. Gan gadw鈥檙 brand Dstl o bosib.听

  12. Cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025. Government to turbocharge defence innovation - 伊人直播.听

  13. Cyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys ym mis Mawrth 2025. , tud. 36.听

  14. Megis AUKUS a鈥檙 Rhaglen Brwydro Awyr Byd-eang (GCAP). O dan AUKUS, bydd Awstralia, y DU a鈥檙 Unol Daleithiau yn datblygu llongau tanfor niwclear wedi鈥檜 harfogi鈥檔 gonfensiynol y gellir eu cyfnewid, yn ogystal 芒 thechnolegau datblygedig fel AI, systemau awtonomaidd, seiber, taflegrau hypersonig, a rhyfela o dan y d诺r. O dan GCAP, bydd yr Eidal, Japan a鈥檙 DU yn datblygu awyren y chweched cenhedlaeth鈥攔han o鈥檙 System Brwydro Awyr yn y Dyfodol (Future Combat Air System), sy鈥檔 cynnwys awyrennau 芒 chriw, platfformau heb griw, arfau鈥檙 genhedlaeth nesaf, rhwydweithiau a rhannu data.听

  15. Datganiad Llafar y Prif Weinidog i D欧鈥檙 Cyffredin: 25 Chwefror 2025.听

  16. Yn cynnwys y Lluoedd Rheolaidd ac Wrth Gefn, gweision sifil a chontractwyr.听

  17. Mae鈥檙 Llu Ymgyrchol ar y Cyd (Joint Expeditionary Force) yn cael ei harwain gan y DU ac mae鈥檔 cynnwys naw aelod arall: Denmarc; Estonia; y Ffindir; Gwlad yr I芒; Latfia; Lithwania; yr Iseldiroedd; Norwy; a Sweden. Mae鈥檙 E3 yn fformat ar gyfer cydweithredu diplomyddol rhwng Ffrainc, yr Almaen a鈥檙 DU, tra bo鈥檙 E5 yn fformat ar gyfer cydweithredu diplomyddol rhwng Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Gwlad Pwyl a鈥檙 DU.听

  18. Wedi鈥檌 fesur yn erbyn model brig芒d arfogedig confensiynol.听

  19. Mae鈥檙 sbectrwm electromagnetig a seiberofod bellach yn cael eu trin fel un parth milwrol (Pennod 7.6).听

  20. Y rhwydwaith seilwaith (meysydd awyr, porthladdoedd, warysau, pencadlysoedd a chanolfannau ymgyrchoedd), 鈥榓sedau trafnidiaeth鈥 (fel trenau a llongau), a gweithgareddau i gludo milwyr a deunyddiau.听

  21. Lle mai鈥檙 rheolwr rhaglen neu bortffolio yw鈥檙 pwynt sicrwydd risg (neu鈥檙 鈥榣linell amddiffyn鈥) cyntaf, y bwrdd cymeradwyo mewnol yw鈥檙 ail bwynt, a鈥檙 Swyddfa Archwilio Genedlaethol sy鈥檔 darparu鈥檙 trydydd pwynt sicrwydd drwy graffu allanol聽

  22. Cynllun Gweithredu Cyfleoedd AI, 13 Ionawr 2025 鈥 伊人直播.听