Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ebrill 2022
Cyhoeddwyd 22 Mehefin 2022
1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2022
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £281,161
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 12.4%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.1%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 147.5
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2022 am 9.30am dydd Mercher 20 Gorffennaf 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai y DU gan 12.4% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2022, i fyny o 9.7% ym Mawrth 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% rhwng Mawrth ac Ebrill 2022, i fyny o ostyngiad o 1.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mawrth ac Ebrill 2021).
Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yn Ne Orllewin Lloegr lle cynyddodd prisiau gan 14.1% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2022. Roedd y twf blynyddol lleiaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 7.9% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2022.
Nododd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ymholiadau gan brynwyr newydd wedi cynyddu ryw ychydig, gyda’r twf mewn prisiau tai yn parhau’n gryf ar draws pob rhan o’r DU.
Adroddodd fod cynnydd cymedrol yn yr eiddo sydd ar gael i’w gwerthu ar draws y DU a bod chwyddiant prisiau tai yn dechrau cymedroli mewn rhai ardaloedd.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Ebrill 2022, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 106,780. Mae hyn 12.1% yn is na flwyddyn yn ôl (Ebrill 2021). Rhwng Mawrth ac Ebrill 2022, lleihaodd trafodion gan 3.9% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.
Adroddodd datganiad fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi lleihau ychydig i 66,000 yn Ebrill 2022 o 69,500 ym Mawrth 2022. Mae hyn ychydig yn is na’r cyfartaledd 12 mis cyn y pandemig hyd at Chwefror 2020 o 66,700.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
(CSV, 1KB)
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 12.4% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2022, i fyny o 9.7% ym Mawrth 2022.
Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2022 yng Nghymru a’r Alban, lle cynyddodd prisiau tai gan 16.2%.
Yn Lloegr cynyddodd prisiau tai gan 11.9% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2022.
Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 10.4% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2022.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £211,990 | 2.2% | 16.2% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2022) | £164,590 | 3.4% | 10.4% |
Lloegr | £299,249 | 0.8% | 11.9% |
Yr Alban | £187,954 | 3.0% | 16.2% |
De Ddwyrain Lloegr | £382,791 | -0.3% | 11.9% |
De Orllewin Lloegr | £318,610 | 1.9% | 14.1% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £237,904 | -0.5% | 12.4% |
Dwyrain Lloegr | £344,943 | 0.4% | 11.9% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £242,145 | 0.5% | 11.8% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £155,215 | 0.1% | 10.7% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £208,867 | 2.0% | 13.3% |
Llundain | £529,829 | 1.0% | 7.9% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £201,806 | 1.6% | 12.1% |
(CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% rhwng Mawrth 2022 ac Ebill 2022, i fyny o -1.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mawrth 2021 ac Ebrill 2021).
Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Mawrth 2022 ac Ebrill 2022.
Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Ebrill 2022 | Ebrill 2021 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £443,797 | £386,228 | 14.9% |
Tŷ pâr | £271,436 | £238,956 | 13.6% |
Tŷ teras | £228,975 | £204,691 | 11.9% |
Fflat neu fflat deulawr | £227,061 | £210,972 | 7.6% |
Holl | £281,161 | £250,210 | 12.4% |
(CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Chwefror 2022 | Chwefror 2021 |
---|---|---|
Lloegr | 44,259 | 82,420 |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2022) | 1,812 | 2,505 |
Yr Alban | 6,435 | 7,357 |
Cymru | 2,676 | 3,799 |
(CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Chwefror 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2022, lleihaodd nifer y trafodion gan 31.7% yn Lloegr, lleihaodd gan 10.6% yn yr Alban a lleihaodd gan 9.1% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 19.3% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2022.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 24.3% yn Lloegr, 9.2% yn yr Alban, 12.8% yng Ngogledd Iwerddon a 7.5% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Ionawr
(CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Chwefror 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2022, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 28.5% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 22.5% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Chwefror 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £382,217 | 6.0% | 23.7% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £269,582 | 0.6% | 9.7% |
(CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Math o brynwr | Pris cyfartalog Ebrill 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £234,468 | 1.1% | 11.8% |
Cyn berchen-feddiannydd | £329,184 | 1.0% | 13.2% |
(CSV, 1KB)
7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
Statws cyllido | Pris cyfartalog Ebrill 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £266,263 | 1.2% | 12.3% |
Morgais | £293,594 | 1.0% | 12.6% |
(CSV, 1KB)
8. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n .
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, , ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288
Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost ceri.lewis@ons.gov.uk
Ffôn 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ffôn 028 90 336035
Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk
Ffôn 07919 570915