Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2025
Published 21 May 2025
1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2025
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd 拢271,000
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 6.4%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.1%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 104.0
Mae鈥檙 amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2025 am 9.30am ddydd Mercher 18 Mehefin 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i鈥檙 cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi鈥檙 ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.
Cyn hyn, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Yn natganiad Chwefror 2025, diweddarwyd cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU i Ionawr 2023, felly erbyn hyn mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd bod Ionawr 2023 yn hafal i 100. Mae ailgyfeirio yn sicrhau bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu pris eiddo 鈥渃yfartalog鈥 sy鈥檔 cael ei werthu ar hyn o bryd ac yn symud y gyfres lefel prisiau gyfan ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad gan ganran gyson heb effeithio ar gyfraddau chwyddiant. Darllenwch ragor ar flog y Swyddfa Ystadegau Gwladol a datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU 19 Chwefror 2025.
2. Datganiad economaidd
6.4% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025, i fyny o鈥檙 amcangyfrif diwygiedig o 5.5% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025.
拢271,000 oedd pris t欧 cyfartalog y DU ym Mawrth 2025 (amcangyfrif dros dro), sy鈥檔 拢16,000 yn uwch na 12 mis yn 么l. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025 yn Lloegr i 拢296,000 (6.7%), cynyddodd yng Nghymru i 拢208,000 (3.6%) a chynyddodd yn yr Alban i 拢186,000 (4.6%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2025 i 拢185,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.5%).
Ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% rhwng Chwefror 2025 a Mawrth 2025, o鈥檌 gymharu 芒 chynnydd o 0.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn 么l. Ar sail wedi ei haddasu鈥檔 dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.4% rhwng Chwefror 2025 a Mawrth 2025.
O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 14.3% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025. Llundain oedd y rhanbarth gyda鈥檙 chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 0.8% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025.
Adroddodd 聽Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod dangosyddion ymholiadau gan brynwyr a gwerthiannau a gytunwyd wedi symud yn ddyfnach i dir negyddol. Adroddodd RICS hefyd fod prisiau tai yn lefelu i raddau helaeth dros y misoedd diwethaf ar draws y rhan fwyaf o rannau鈥檙 DU, er bod yr Alban a Gogledd Iwerddon yn parhau i ddangos tuedd ar i fyny fwy gwydn.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU聽Cyllid a Thollau EF ar gyfer Mawrth 2025, ar sail wedi ei haddasu鈥檔 dymhorol, mai鈥檙 nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o 拢40,000 neu fwy oedd 177,000. Mae hyn 104.3% yn uwch na 12 mis yn 么l (Mawrth 2024). Rhwng Chwefror 2025 a Mawrth 2025, cynyddodd trafodion y DU gan 61.7% ar sail wedi ei haddasu鈥檔 dymhorol. Ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, adroddodd Cyllid a Thollau EF fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 89% a 47% yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn y drefn honno, tra bod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 15% ac 19% yn unig yn yr Alban a Chymru, yn y drefn honno. Mae鈥檙 cynnydd sydyn yn nifer trafodion y DU ym Mawrth 2025 (yn enwedig yn Lloegr a Gogledd Iwerddon) i lefelau nas welwyd er 2021 (pan gafwyd newidiadau blaenorol i鈥檙 Dreth Stamp), yn debygol o adlewyrchu prynwyr yn rhuthro i gwblhau prynu eiddo cyn y newidiadau i鈥檙 Dreth Stamp ar 1 Ebrill 2025 yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Adroddodd datganiad 聽fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy鈥檔 ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi lleihau am y trydydd mis yn olynol, gyda lleihad o 800 i 64,300 ym Mawrth 2025.
础诲谤辞诲诲辞诲诲听 farchnad werthu dawel lle mae darpar brynwyr yn ansicr ynghylch yr amgylchedd economaidd. Nid yw鈥檙 cynnydd yn Nhreth Tir y Dreth Stamp o Ebrill wedi cael effaith sylweddol ar amseriad y trafodiad yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn 么l gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
(CSV, 1KB)
6.4% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025, i fyny o鈥檙 amcangyfrif diwygiedig o 5.5% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025.
拢271,000 oedd pris t欧 cyfartalog y DU ym Mawrth 2025 (amcangyfrif dros dro), sy鈥檔 拢16,000 yn uwch na 12 mis yn 么l. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025 yn Lloegr i 拢296,000 (6.7%), cynyddodd yng Nghymru i 拢208,000 (3.6%) a chynyddodd yn yr Alban i 拢186,000 (4.6%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2025 i 拢185,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.5%).
3.2 Pris cyfartalog yn 么l gwlad a rhanbarth swyddfa鈥檙 llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn 么l gwlad a rhanbarth swyddfa鈥檙 llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa鈥檙 llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | 拢208,093 | 0.2% | 3.6% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 鈥 2025) | 拢185,037 | 1.0% | 9.5% |
Lloegr | 拢295,654 | 1.3% | 6.7% |
Yr Alban | 拢185,939 | 0.4% | 4.6% |
De Ddwyrain Lloegr | 拢386,316 | 0.4% | 5.3% |
De Orllewin Lloegr | 拢310,837 | 0.7% | 5.3% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 拢243,973 | 0.7% | 7.1% |
Dwyrain Lloegr | 拢343,876 | 1.4% | 6.5% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 拢250,015 | 1.2% | 7.8% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 拢168,227 | 4.2% | 14.3% |
Gogledd Orllewin Lloegr | 拢217,063 | 2.5% | 9.4% |
Llundain | 拢552,073 | -0.3% | 0.8% |
Swydd Gaerefrog a Humber | 拢211,155 | 2.3% | 9.5% |
(CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn 么l gwlad a rhanbarth swyddfa鈥檙 llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% rhwng Chwefror 2025 a Mawrth 2025, o鈥檌 gymharu 芒 chynnydd o 0.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn 么l. Ar sail wedi ei haddasu鈥檔 dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.4% rhwng Chwefror 2025 a Mawrth 2025.
3.3 Pris cyfartalog yn 么l math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn 么l math o eiddo
Math o eiddo | Mawrth 2025 | Mawrth 2024 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
T欧 sengl | 拢437,325 | 拢416,298 | 5.1% |
T欧 p芒r | 拢275,162 | 拢254,265 | 8.2% |
T欧 teras | 拢228,968 | 拢211,943 | 8.0% |
Fflat neu fflat deulawr | 拢199,520 | 拢193,000 | 3.4% |
Holl | 拢271,415 | 拢255,082 | 6.4% |
(CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Yn 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% o鈥檙 amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed a bennwyd yn y cyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU). Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd yn parhau鈥檔 is na鈥檙 cyfartaleddau hanesyddol, ond yn gwella o hyd. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag yn hanesyddol a dylent nodi鈥檙 ansicrwydd uwch ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd.
Mae gwelliannau posibl i鈥檙 fethodoleg yn cael eu harchwilio, gyda鈥檙 nod o leihau diwygiadau yn amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU. Darllenwch ragor ym gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn 么l gwlad
Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2025 yn seiliedig ar oddeutu 58,600 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 6,400 ar gyfer yr Alban, a 1,800 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 41% o鈥檙 amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Mawrth 2025, fel y manylir yn ei gyhoeddiad 聽Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth 拢40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol 芒鈥檙聽polisi diwygiadau聽a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.
Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd聽Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau鈥檙 gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae鈥檙 prynwr neu鈥檙 gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu鈥檔 fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Gan gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol 芒鈥檙 amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Gwlad | Ionawr 2025 | Ionawr 2024 |
---|---|---|
Lloegr | 36,265 | 41,790 |
Gogledd Iwerddon | 1,822 | 1,616 |
Yr Alban | 6,813 | 6,139 |
Cymru | 1,874 | 2,082 |
Sylwer: Gan gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol 芒鈥檙 amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.
(CSV, 1KB)
Sylwer: Mae鈥檙 golofn 鈥楪wahaniaeth鈥 wedi cael ei symud ymaith o鈥檙 tabl hwn oherwydd nid yw data鈥檙 mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2025 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau聽am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2024 芒鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 87.3% yn Lloegr, gan 12.7% yn yr Alban, a chan 80.0% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 20.6% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2025.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU聽a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy鈥檔 wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, yn y 12 mis hyd at Ionawr 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 23.0% yn Lloegr, gan 12.9% yn yr Alban, gan 22.2% yng Nghymru, a chan 19.5% yng Ngogledd Iwerddon.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2020 i 2024 yn 么l gwlad: Ionawr
(CSV, 1KB)
Sylwer: Mae鈥檙 golofn 鈥楪wahaniaeth鈥 wedi cael ei symud ymaith o鈥檙 tabl hwn oherwydd nid yw data鈥檙 mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau聽am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2024聽芒鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2025, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 67.3%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU聽a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy鈥檔 wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF ar gyfer y DU wedi cynyddu gan 22.0% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2025.
Tai a adeiledir o鈥檙 newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Ionawr 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o鈥檙 newydd | 拢381,055 | -0.7% | 17.1% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | 拢261,959 | 0.2% | 3.7% |
(CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i鈥檔 model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i鈥檞 gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig 鈥 nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Mawrth 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | 拢230,857 | 1.7% | 7.1% |
Cyn berchen-feddiannydd | 拢331,844 | 0.4% | 5.4% |
(CSV, 1KB)
6. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig 鈥 nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
Statws cyllido | Pris cyfartalog Mawrth 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | 拢258,369 | 1.1% | 5.5% |
Morgais | 拢281,080 | 1.1% | 6.7% |
(CSV, 1KB)
7. Cyrchu鈥檙 data
Mae modd llwytho鈥檙 data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda鈥檔 .
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
8.听顿辞蝉产补谤迟丑颈补诲补耻 trafodion tai
Rhwng Hydref a Rhagfyr 2024, cafwyd 190,576 o werthiannau eiddo.
Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:
- Lloegr oedd 拢225,000 i 拢249,999 鈥 prynwyd 9,975 o eiddo
- Yr Alban oedd 拢125,000 i 拢149,999 鈥 prynwyd 2,590 o eiddo
- Cymru oedd 拢150,000 i 拢174,999 鈥 prynwyd 1,019 o eiddo
- Gogledd Iwerddon oedd 拢175,000 i 拢199,999 鈥 prynwyd 872 o eiddo
Mae鈥檙 siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2024 ar gyfer gwledydd y DU. Mae鈥檙 data ar gyfer Prydain Fawr mewn bandiau o 拢25,000 hyd at 拢10 miliwn, ac yna band mwy am dros 拢10 miliwn. Cyflwynir data ar gyfer Gogledd Iwerddon mewn bandiau o 拢25,000 i 拢500,000, ac yna band mwy am dros 拢500,000.
Yn unol 芒聽pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, , ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
Un o鈥檙 prif ffactorau sy鈥檔 penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio鈥檙 dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o鈥檙 model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae鈥檙 eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae鈥檙 gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd T卯m Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ff么n 0300 006 5288
Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost aimee.north@ons
Ff么n 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ff么n 028 90 336035
Anne MacDonald, Rheolwr T卯m Data Tir ac Eiddo, Cofrestri鈥檙 Alban
Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk
Ff么n 0131 378 4991