Gofyn i CThEM beidio 芒 chyhoeddi manylion eich hawliadau drwy鈥檙 Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws
Dysgwch beth i鈥檞 wneud os ydych yn gyflogwr a gallai cyhoeddi manylion eich hawliad beri fod unigolion mewn perygl o drais neu fygythiadau.
Gallwch chi neu鈥檆h asiant ofyn i CThEM beidio 芒 chyhoeddi manylion eich hawliadau drwy鈥檙 Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws os gallwch ddangos tystiolaeth y byddai gwneud hynny鈥檔 arwain at risg ddifrifol o drais neu fygythiadau i:
- chi neu unrhyw un sy鈥檔 byw gyda chi
- unigolyn sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檆h busnes neu unrhyw un sy鈥檔 byw gyda nhw
Mae enghreifftiau o unigolion sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檆h busnes yn cynnwys:
- cyflogai
- cyfarwyddwr, swyddog neu gyflogai i鈥檙 cwmni hwnnw
- partner, swyddog neu gyflogai i鈥檙 bartneriaeth honno
- aelod neu gyflogai partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
- setlwr, ymddiriedolwr neu fuddiolwr ymddiriedolaeth
Ni fyddwn yn cyhoeddi鈥檆h manylion nes bydd penderfyniad wedi鈥檌 wneud a鈥檆h bod wedi cael gwybod amdano.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
I gyflwyno cais, bydd angen y canlynol arnoch:
- eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a鈥檆h cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth fel cyflogwr
- eich cyfeirnod TWE y cyflogwr
- enw鈥檆h busnes
- eich manylion cyswllt
Mae鈥檔 rhaid i chi ddarparu manylion ysgrifenedig sy鈥檔 nodi pam rydych yn credu y gallai cyhoeddi gwybodaeth arwain at risg o drais neu fygythiadau, ynghyd 芒 thystiolaeth sy鈥檔 egluro pam rydych yn credu y byddai risg ddifrifol. Gall tystiolaeth gynnwys:
- rhif ymchwiliad yr heddlu os ydych eisoes wedi cael eich bygwth neu wedi bod yn destun ymosodiad
- lluniau o fygythiad neu ymosodiad blaenorol
- tystiolaeth o darfu neu dargedu posibl
- unrhyw ddeunydd arall a all ategu鈥檆h cais
Cyflwyno cais
Ni allwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn mwyach. Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw ddata newydd ynghylch hawliadau ar 么l 16 Rhagfyr 2021.
Ar 么l i chi gyflwyno鈥檆h cais
Cewch e-bost i gadarnhau ei fod wedi ein cyrraedd. Yna byddwn yn adolygu鈥檆h cais ac yn cysylltu 芒 chi gyda鈥檔 penderfyniad.
Updates to this page
-
You can no longer use this service. HMRC will not publish any new claims data after 16 December 2021.
-
Added translation
-
Updated to show you or your agent can request your Coronavirus Job Retention Scheme claim details are not published.
-
Added translation
-
First published.