Canllawiau

Bod yn Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA)

Deall eich r么l fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA), a elwir hefyd yn asiant awdurdodedig T欧'r Cwmn茂au.

Mae cofrestru fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA) yn ofyniad newydd a fydd yn ein helpu i wybod pwy sy鈥檔 ffeilio gwybodaeth ar y gofrestr gyhoeddus.

Gelwir DGCA hefyd yn asiantau awdurdodedig T欧鈥檙 Cwmn茂au.

Gall asiant awdurdodedig fod yn fusnes (er enghraifft, cwmni neu bartneriaeth gyfyngedig), neu鈥檔 berson sy鈥檔 ffeilio ar ran eraill (unig fasnachwr).

I gofrestru, rhaid i asiantau gael eu goruchwylio gan gorff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian (AML) y Deyrnas Unedig. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys:

  • asiantau ffurfio cwmn茂au
  • cyfreithwyr
  • cyfrifwyr

Pwy sydd angen cofrestru fel asiant awdurdodedig

Am y tro, dim ond asiantau sy鈥檔 bwriadu gwirio hunaniaeth cleientiaid ar gyfer T欧鈥檙 Cwmn茂au sydd angen cofrestru.

Yn y dyfodol, bydd angen i bob asiant sy鈥檔 ffeilio gyda Th欧鈥檙 Cwmn茂au ar ran cleientiaid gofrestru.

I wneud cais, mae鈥檔 rhaid bod gennych r么l uwch yn y busnes. Er enghraifft, rhaid i chi fod yn gyfarwyddwr os ydych yn cofrestru cwmni cyfyngedig.

Gall unig fasnachwyr gofrestru eu hunain fel asiant awdurdodedig.

Unwaith y bydd busnes wedi鈥檌 gofrestru, byddwn yn creu cyfrif ar-lein ar gyfer yr asiant awdurdodedig. Byddwch yn gallu ychwanegu pobl eraill sy鈥檔 gweithio i鈥檙 asiant i鈥檙 cyfrif.

Darllenwch y cyfarwyddyd ar wneud cais i gofrestru fel asiant awdurdodedig i ddarganfod sut i wneud cais.

Gofynion cyfreithiol ar gyfer asiantau awdurdodedig

Rhaid i asiantau awdurdodedig T欧鈥檙 Cwmn茂au gydymffurfio 芒鈥檙 gofynion cyfreithiol canlynol.

  1. Rhaid i鈥檙 asiant bob amser fod wedi cofrestru gydag o leiaf un corff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian (AML).
  2. Rhaid i鈥檙 asiant ddweud wrthym os oes newid i unrhyw ran o鈥檙 wybodaeth sydd gennym am yr asiant. Rhaid gwneud hyn o fewn 14 diwrnod.
  3. Os byddwn yn gofyn amdano, rhaid i鈥檙 asiant ddarparu mwy o wybodaeth:
    • am ffeilio鈥檙 asiant gyda Th欧鈥檙 Cwmn茂au
    • am wiriadau hunaniaeth, os yw鈥檙 asiant yn gwirio hunaniaeth rhywun ar gyfer T欧鈥檙 Cwmn茂au
    • i brofi bod yr asiant yn cydymffurfio 芒鈥檌 gyfrifoldebau cyfreithiol
  4. Rhaid i鈥檙 asiant gadw cofnodion o unrhyw wiriadau hunaniaeth am 7 mlynedd, os yw wedi gwirio hunaniaeth rhywun ar gyfer T欧鈥檙 Cwmn茂au.

Pwy sy鈥檔 gyfrifol am gydymffurfio 芒鈥檙 gofynion cyfreithiol

Os ydych chi鈥檔 unig fasnachwr ac wedi cofrestru鈥檆h hun fel asiant awdurdodedig, chi sy鈥檔 gyfrifol am sicrhau eich bod yn cydymffurfio.

Ar gyfer busnesau eraill, mae pob swyddog yn gyfrifol. Mae hyn yn golygu鈥檙 holl gyfarwyddwyr, neu unrhyw un y mae ei rolau a鈥檌 gyfrifoldebau yn cyfateb i r么l cyfarwyddwr cwmni.

Beth sy鈥檔 digwydd os nad yw asiant yn cydymffurfio 芒 gofynion cyfreithiol

Bydd yr asiant yn cyflawni trosedd os nad yw鈥檔 cydymffurfio 芒 gofynion cyfreithiol. Mae hyn yn golygu y gallai鈥檙 unig fasnachwr, neu holl gyfarwyddwyr y cwmni (neu gyfwerth) dderbyn dirwy neu wynebu erlyniad troseddol.

Efallai y byddwn hefyd yn atal neu鈥檔 stopio statws yr asiant awdurdodedig. Byddai hyn yn atal yr asiant rhag gallu ffeilio neu wirio hunaniaeth pobl ar gyfer T欧鈥檙 Cwmn茂au.

Os oes angen i ni atal asiant awdurdodedig

Byddwn yn anfon e-bost at gyfeiriad e-bost gohebiaeth yr asiant gyda gwybodaeth am beth i鈥檞 wneud nesaf.

Efallai y bydd angen i ni ofyn i鈥檙 asiant ddarparu mwy o wybodaeth neu gofnodion am eu ffeilio. Bydd gan yr asiant 28 diwrnod i wneud hyn.

Ni fydd defnyddwyr sydd wedi鈥檜 hychwanegu at y cyfrif asiant awdurdodedig yn gallu cael mynediad at wasanaethau i鈥檙 asiant awdurdodedig tra caiff ei atal. Mae hyn yn golygu na fyddant yn gallu:

  • ffeilio fel asiant awdurdodedig
  • gwirio hunaniaeth pobl ar gyfer T欧鈥檙 Cwmn茂au

Efallai y bydd angen i bobl sydd wedi gwirio eu hunaniaeth gan asiant T欧鈥檙 Cwmn茂au wirio eu hunaniaeth eto. Byddwn yn cysylltu ag unrhyw un sydd angen gwneud hyn.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth i ddangos bod yr asiant awdurdodedig wedi鈥檌 atal. Byddwn yn cyhoeddi enw, statws yr asiant a鈥檙 dyddiad y cafodd ei atal.

Os oes angen i ni stopio statws yr asiant awdurdodedig

Byddwn yn anfon e-bost at gyfeiriad e-bost gohebiaeth yr asiant i roi gwybod iddo ein bod wedi stopio eu statws. Bydd hyn yn golygu nad ydynt bellach wedi鈥檜 cofrestru fel asiant awdurdodedig gyda Th欧鈥檙 Cwmn茂au.

Ni fydd yr asiant yn gallu ffeilio ar ran cleientiaid, na gwirio hunaniaeth pobl ar gyfer T欧鈥檙 Cwmn茂au.

Byddwn ni鈥檔:

  • cau cyfrif ar-lein yr asiant 鈥 ni fydd gan unrhyw ddefnyddwyr sydd wedi鈥檜 hychwanegu mynediad mwyach
  • cyhoeddi enw鈥檙 asiant a鈥檙 dyddiad y gwnaethom ddod 芒鈥檌 statws i ben
  • cysylltu ag unrhyw un y mae鈥檙 asiant wedi gwirio eu hunaniaeth, os oes angen iddynt wirio eto

Sut i ddefnyddio鈥檆h cyfrif asiant awdurdodedig

Gallwch gael mynediad i鈥檙 cyfrif asiant awdurdodedig pan fyddwch yn mewngofnodi i鈥檆h cyfrif T欧鈥檙 Cwmn茂au.

Ychwanegu a dileu defnyddwyr

Pan fyddwch yn ychwanegu pobl sy鈥檔 gweithio i鈥檙 asiant i鈥檙 cyfrif, ni fydd angen iddynt wirio eu hunaniaeth.

Bydd yr holl ddefnyddwyr rydych chi鈥檔 eu hychwanegu at y cyfrif yn gallu:

  • ffeilio ar ran cleientiaid
  • gwirio hunaniaeth pobl ar gyfer T欧鈥檙 Cwmn茂au

Gallwch reoli鈥檙 hyn y gall defnyddwyr ei wneud trwy ddewis eu r么l pan fyddwch yn eu hychwanegu at y cyfrif. Mae 3 r么l y gall defnyddwyr eu cael ar gyfer asiant awdurdodedig:

  • perchnogion cyfrifon 鈥 yn gallu diweddaru manylion yr asiant awdurdodedig, ac ychwanegu a dileu pob defnyddiwr
  • gweinyddwyr 鈥 yn gallu ychwanegu a dileu gweinyddwyr a defnyddwyr safonol
  • defnyddwyr safonol - ni all ychwanegu a dileu defnyddwyr eraill

Gallwch ddileu defnyddwyr o鈥檙 cyfrif ar unrhyw adeg. Ar 么l i chi dileu defnyddiwr, ni fyddant bellach yn gallu cyrchu鈥檙 cyfrif na鈥檙 gwasanaethau ar gyfer yr asiant awdurdodedig.

Diweddaru manylion yr asiant awdurdodedig

Rhaid i berchennog cyfrif ddweud wrthym os oes unrhyw newidiadau i鈥檙 wybodaeth sydd gennym am yr asiant awdurdodedig. Mae hyn yn cynnwys os nad yw鈥檙 asiant bellach wedi鈥檌 gofrestru gyda chorff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian.

Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol. Rhaid iddynt wneud hyn o fewn 14 diwrnod neu bydd yr asiant yn cyflawni trosedd.

I ddweud wrthym am newidiadau, rhaid i berchennog cyfrif e-bostio enquiries@companieshouse.gov.uk gan ddefnyddio鈥檙 un cyfeiriad e-bost ag y maent yn ei ddefnyddio i fewngofnodi. Bydd angen iddynt ddefnyddio鈥檙 llinell pwnc 鈥楧iweddaru manylion DGCA鈥.

Yn yr e-bost, bydd angen iddynt gynnwys y canlynol:

  • rhif ac enw鈥檙 asiant awdurdodedig
  • manylion sydd angen eu diweddaru - bydd angen iddyn nhw gadarnhau鈥檙 manylion presennol a dweud wrthym beth yw鈥檙 rhai newydd
  • dyddiad y newidiwyd y manylion

Yn y dyfodol, bydd perchnogion cyfrif yn gallu dweud wrthym am newidiadau trwy ddiweddaru鈥檙 manylion ar gyfrif ar-lein yr asiant awdurdodedig.

Cau鈥檙 asiant awdurdodedig

I gau鈥檙 asiant awdurdodedig, bydd angen i berchennog cyfrif anfon e-bost gan ddefnyddio鈥檙 llinell pwnc 鈥楥au DGCA鈥. Bydd angen iddynt gadarnhau:

  • rhif ac enw鈥檙 asiant awdurdodedig
  • eu r么l i鈥檙 asiant, er enghraifft os yw鈥檔 gyfarwyddwr, yn bartner neu鈥檔 unig fasnachwr
  • os ydynt am gau鈥檙 asiant awdurdodedig

Gwasanaethau i asiantau awdurdodedig

Bydd pob defnyddiwr sydd wedi鈥檌 ychwanegu at gyfrif asiant awdurdodedig yn gallu cael mynediad at wasanaethau ar gyfer asiantau awdurdodedig pan fyddant yn mewngofnodi i鈥檞 cyfrif T欧鈥檙 Cwmn茂au.

Dywedwch wrth D欧鈥檙 Cwmn茂au eich bod wedi gwirio hunaniaeth rhywun

Gallwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn i ddweud wrthym pryd rydych wedi gwirio hunaniaeth rhywun ar gyfer T欧鈥檙 Cwmn茂au.

Os ydych chi鈥檔 defnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn, rhaid i chi gadw cofnodion o鈥檙 gwiriadau hunaniaeth rydych chi鈥檔 eu gwneud am 7 mlynedd.

Ffeilio fel asiant awdurdodedig

O鈥檙 Gwanwyn 2026, gallwch ffeilio ar ran cleientiaid fel asiant awdurdodedig.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Ebrill 2025 show all updates
  1. From 8 April 2025, ACSPs can use our online service to tell Companies House when they've verified someone's identity. Link added to guidance page.

  2. You can tell Companies House you have verified someone鈥檚 identity from 8 April 2025.

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon