Gwiriwch pryd i adrodd am gymorth treth newid yn yr hinsawdd
Cyfrifwch eich anrhegion cymorth ar gyfer y Tax Newid Hinsawdd a gwirio pryd y mae angen i chi eu cofrestru i CThEF.
Pwy sy鈥檔 gorfod adrodd
Mae鈥檙 llywodraeth yn casglu ac yn cyhoeddi聽manylion ynghylch unrhyw gymorthdaliadau a roddwyd i fusnesau gan awdurdodau cyhoeddus y DU (yn agor tudalen Saesneg).
Mae angen i chi adrodd am eich dyfarniad cymhorthdal blynyddol o ran Ardoll Newid yn yr Hinsawdd os yw鈥檙 cymhorthdal hwnnw gwerth dros 拢100,000 ar gyfer blwyddyn galendr, ac mae鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol yn berthnasol i chi:
- rydych yn rhan o Gytundeb Newid yn yr Hinsawdd ac yn cael rhyddhad rhag yr Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
- rydych wedi鈥檆h esemptio rhag yr Ardoll Newid yn yr Hinsawdd oherwydd eich bod yn weithredwr rheilffordd 芒 mynediad agored
Ar gyfer busnesau sydd wedi鈥檜 cofrestru yng Ngogledd Iwerddon
Os ydych yn fusnes sydd wedi鈥檌 gofrestru yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi adrodd wrthym os yw鈥檙 canlynol i gyd yn berthnasol:
- rydych yn masnachu mewn nwyddau neu鈥檙 farchnad drydan gyfanwerthu
- rydych yn rhan o Gytundeb Newid yn yr Hinsawdd
- rydych yn cael dyfarniad cymhorthdal gwerth dros 100,000 ewro ar gyfer blwyddyn galendr
Dylech wirio聽聽ar gyfer y flwyddyn galendr berthnasol er mwyn cyfnewid ewro i bunt. Mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio鈥檙 cyfraddau cyfnewid hyn 鈥 ni allwn dderbyn unrhyw gyfraddau eraill.
Er enghraifft, ar gyfer blwyddyn galendr 2024, bydd angen i chi adrodd wrthym os oedd eich dyfarniad cymhorthdal gwerth dros 拢84,825.
Pryd i adrodd
Bydd angen i chi adrodd am gymorthdaliadau ar gyfer blwyddyn galendr. Unwaith i鈥檙 flwyddyn galendr ddod i ben, bydd yn rhaid i chi adrodd am eich dyfarniadau cymhorthdal yn ystod y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi.
Er enghraifft, os ydych am adrodd am gymorthdaliadau ar gyfer blwyddyn galendr 2024:
- gallwch adrodd wrthym o 1 Gorffennaf 2025 ymlaen
- bydd angen i chi adrodd wrthym erbyn 30 Medi 2025
Mae鈥檔 rhaid i chi gysylltu 芒 ni os ydych wedi methu鈥檙 dyddiad cau ar gyfer adrodd am flwyddyn galendr, neu rydych yn credu y byddwch yn methu鈥檙 dyddiad hwn. Darllenwch yr adran 鈥楥ysylltwch 芒 CThEF i gael help鈥 i ddysgu sut i wneud hynny.
Cyfrifo鈥檆h dyfarniad
Gwiriwch y cyfraddau diweddaraf ar gyfer yr Ardoll Newid yn yr Hinsawdd (yn agor tudalen Saesneg)聽i wneud yn si诺r eich bod yn defnyddio鈥檙 gyfradd gywir ar gyfer y flwyddyn berthnasol.
Er enghraifft, os ydych yn adrodd am ddyfarniadau cymhorthdal ar gyfer blwyddyn galendr 2024, roedd newidiadau i rai o gyfraddau鈥檙 Ardoll Newid yn yr Hinsawdd yn ystod mis Ebrill 2024. Felly, gwnewch yn si诺r eich bod yn defnyddio鈥檙 cyfraddau cywir ar gyfer pob mis er mwyn rhoi cyfanswm o鈥檆h cymorthdaliadau ar gyfer y flwyddyn galendr honno.
Y sawl sy鈥檔 rhan o Gytundeb Newid yn yr Hinsawdd
Os ydych yn rhan o Gytundeb Newid yn yr Hinsawdd, swm eich dyfarniad cymhorthdal yw鈥檙 gwahaniaeth rhwng swm yr Ardoll Newid Hinsawdd a dalwyd ar y gyfradd is, a鈥檙 swm y byddai wedi cael ei dalu ar y brif gyfradd ar eich cyflenwadau trethadwy.
Gall cyflenwadau trethadwy gynnwys y canlynol:
- trydan
- nwy naturiol
- nwy petrolewm hylifedig
- unrhyw gyflenwadau trethadwy eraill (tanwydd solet)
Gweithredwyr gwasanaethau rheilffordd 芒 mynediad agored
I gyfrifo鈥檆h dyfarniad cymhorthdal, bydd angen i chi wneud y canlynol:
-
Cyfrifo faint o drydan a ddefnyddir ar brif gyfradd yr Ardoll Newid Hinsawdd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr.
-
Lluosi鈥檙 swm hwnnw 芒鈥檙 brif gyfradd ar gyfer y cyfnod perthnasol.
-
Os ydych yn defnyddio cymysgedd o danwydd, dylech adrodd am y defnydd o drydan yn unig.
Sut i adrodd
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i聽adrodd am gymorthdaliadau Ardoll Newid yn yr Hinsawdd.
Cysylltwch 芒 CThEF i gael help
Cysylltwch 芒 ni drwy e-bost:聽energy.taxes@hmrc.gov.uk:
- os ydych wedi methu鈥檙 dyddiad cau ar gyfer adrodd am flwyddyn galendr, neu rydych yn credu y byddwch yn methu鈥檙 dyddiad hwn
- os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch adrodd am gymorthdaliadau Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
Updates to this page
-
Information about completing the online form for VAT registered businesses has been updated.
-
The 'What you need to report' section has been updated to include who should complete the online form for VAT registered businesses.
-
The guide has been updated as you can now report subsidies online. You can now also report Climate Change Levy subsidy awards received for the previous calendar year 鈥 1 January 2023 to 31 December 2023.
-
This guide has been updated as the transition period has ended, and to inform you that state aid reporting will change due to the EU agreement.
-
The 'How to report section' has been updated.
-
First published.