Talu Treth Gorfforaeth os ydych yn gwmni mawr
Sut i gyfrifo taliadau, a phryd y dylech wneud y taliadau hyn, os yw elw trethadwy blynyddol eich cwmni rhwng 拢1.5 miliwn a 拢20 miliwn.
Fel arfer, os yw elw eich cwmni ar gyfradd flynyddol o dros 拢1.5 miliwn ar gyfer cyfnod cyfrifyddu, mae鈥檔 rhaid i chi dalu鈥檆h Treth Gorfforaeth ar gyfer y cyfnod hwnnw mewn ffordd electronig a fesul rhandaliad.
Mae rheolau gwahanol mae鈥檔 rhaid i chi eu dilyn os oes gennych elw o dros 拢20 miliwn (yn agor tudalen Saesneg).
Cwmn茂au mawr
Mae cwmni mawr yn gwmni sydd ag elw ar gyfradd flynyddol rhwng 拢1.5 miliwn a 拢20 miliwn ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu sydd dan sylw.
Yn gyffredinol, mae鈥檔 rhaid i gwmn茂au 鈥榤awr鈥 dalu eu Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) mewn ffordd electronig a fesul rhandaliad.
Eithriadau
Does dim angen i鈥檆h cwmni dalu fesul rhandaliad ar gyfer cyfnod cyfrifyddu (er bod ganddo elw dros 拢1.5 miliwn) os yw鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol yn wir:
- roedd cyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yn llai na 拢10,000 (neu, ar adegau pan fydd cyfnod cyfrifyddu yn llai na 12 mis, roedd cyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni ar gyfradd flynyddol o lai na 拢10,000)
- roedd elw eich cwmni ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yn llai na 拢10 miliwn, ac mae鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol hefyd yn wir:
- nid oedd y cwmni鈥檔 bodoli, neu nad oedd ganddo gyfnod cyfrifyddu ar unrhyw adeg yn ystod y 12 mis blaenorol
- roedd ei elw ar gyfradd flynyddol o lai na 拢1.5 miliwn, neu roedd ei rwymedigaeth treth ar gyfradd flynyddol o lai na 拢10,000 鈥 a hynny ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu a ddaeth i ben yn ystod y 12 mis blaenorol
Os yw鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 amodau hyn yn berthnasol, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 cwmni dalu ei dreth yn llawn erbyn y dyddiad dyledus arferol ar gyfer talu.
Cyfnodau cyfrifyddu sy鈥檔 dechrau cyn 1 Ebrill 2015, ac sy鈥檔 dechrau ar neu ar 么l 1 Ebrill 2023
Os oes gan eich cwmni gwmn茂au cysylltiedig (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu a ddechreuodd naill ai cyn 1 Ebrill 2015 neu ar 1 Ebrill 2023, neu ar 么l hynny, gostyngwyd y trothwyon o 拢1.5 miliwn a 拢10 miliwn drwy eu rhannu 芒 nifer y cwmn茂au cysylltiedig, gan gynnwys eich cwmni chi.
Y ffigur newydd hwn yw鈥檙 trothwy perthnasol ar gyfer eich cwmni.
Enghraifft 鈥 cyfnod cyfrifyddu o 1 Rhagfyr 2023 i 30 Tachwedd 2024
Mae gan gwmni 5 o gwmn茂au cysylltiedig. Mae ganddo elw o 拢300,000 ar gyfer cyfnod cyfrifyddu o 12 mis a ddaeth i ben ar 30 Tachwedd 2024. Ei rwymedigaeth Treth Gorfforaeth yw 拢75,000. Y trothwy blynyddol wedi鈥檌 addasu yw:
拢1.5 miliwn wedi鈥檌 rannu 芒 6 (hynny yw, 5 + y cwmni ei hun) = 拢250,000.
Mae鈥檙 cwmni yn gwmni mawr ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn. Er bod ei elw o dan 拢1.5 miliwn, mae gan y cwmni drothwy blynyddol sydd wedi鈥檌 addasu o dros 拢250,000, ac mae ganddo rwymedigaeth treth o dros 拢10,000.
Mae cwmni yn gysylltiedig 芒 chwmni arall os yw鈥檙 canlynol yn wir:
- mae un cwmni o dan reolaeth y cwmni arall
- mae鈥檙 ddau gwmni o dan reolaeth yr un person neu bersonau
Fel arfer, caiff 鈥榦 dan reolaeth鈥 ei ddiffinio drwy gyfeirio at berchnogaeth o gyfranddaliadau cyfalaf, neu b诺er pleidleisio.
Gall cwmni fod yn gwmni cysylltiedig, ni waeth ble y mae wedi鈥檌 leoli at ddibenion treth.
Cyfnodau cyfrifyddu sy鈥檔 dechrau ar neu ar 么l 1 Ebrill 2015, a chyn 1 Ebrill 2023
Cafodd y rheolau ar gyfer cwmn茂au cysylltiedig eu disodli gan brawf cwmn茂au gr诺p 51% ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu a ddechreuodd ar neu ar 么l 1 Ebrill 2015, a chyn 1 Ebrill 2023.
Os oes gan y cwmni gwmn茂au gr诺p 51% cysylltiedig, gostyngwyd y trothwyon o 拢1.5 miliwn a 拢10 miliwn drwy eu rhannu 芒 nifer y cwmn茂au gr诺p 51% cysylltiedig, gan gynnwys eich cwmni chi.
Y ffigur newydd hwn yw鈥檙 trothwy perthnasol ar gyfer eich cwmni.
Mae cwmni A yn gwmni gr诺p 51% cysylltiedig o gwmni B os yw鈥檙 canlynol yn wir:
- mae A yn is-gwmni 51% o B
- mae B yn is-gwmni 51% o A
- mae A a B yn is-gwmn茂au 51% o鈥檙 un cwmni
Mae 鈥楢鈥 yn is-gwmni 51% o 鈥楤鈥 os taw 鈥楤鈥 sy鈥檔 berchen yn llesiannol (naill ai鈥檔 uniongyrchol neu鈥檔 anuniongyrchol) ar dros 50% o gyfalaf cyfranddaliadau cyffredin 鈥楢鈥.
Enghraifft 鈥 cyfnod cyfrifyddu o 1 Mai 2019 i 30 Ebrill 2020
Mae gan gwmni 4 o gwmn茂au gr诺p 51% cysylltiedig. Mae ganddo elw o 拢400,000 ar gyfer cyfnod cyfrifyddu o 12 mis a ddaeth i ben ar 30 Ebrill 2020. Ei rwymedigaeth Treth Gorfforaeth yw 拢76,000.
Y trothwy blynyddol wedi鈥檌 addasu yw: 拢1.5 miliwn wedi鈥檌 rannu 芒 5 (hynny yw, 4 + y cwmni ei hun) = 拢300,000.
Er bod yr elw ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu o dan 拢1.5 miliwn, mae鈥檙 elw dros y trothwy blynyddol wedi鈥檌 addasu o 拢300,000.
Gan fod y rhwymedigaeth treth hefyd dros 拢10,000, mae鈥檙 cwmni yn gwmni mawr ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwnnw.
Pryd y mae angen talu rhandaliadau
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu o 12 mis, byddwch fel arfer yn talu鈥檆h Treth Gorfforaeth fesul 4 rhandaliad chwarterol, a bydd 2 o鈥檙 rhandaliadau hyn yn ddyledus cyn diwedd eich cyfnod cyfrifyddu.
Cyfnodau cyfrifyddu o 12 mis
Os oes gan eich cwmni gyfnod cyfrifyddu o 12 mis, mae angen i chi dalu fesul 4 rhandaliad cyfartal, a rhieni鈥檔 ddyledus fel a ganlyn:
- 6 mis a 13 diwrnod ar 么l diwrnod cyntaf y cyfnod cyfrifyddu
- 3 mis ar 么l y rhandaliad cyntaf
- 3 mis ar 么l yr ail randaliad (14 diwrnod ar 么l diwrnod olaf y cyfnod cyfrifyddu)
- 3 mis a 14 diwrnod ar 么l diwrnod olaf y cyfnod cyfrifyddu
Mae hyn yn berthnasol i gyfnodau cyfrifyddu sy鈥檔 dod i ben ar 么l 30 Mehefin 2002.
Enghraifft 鈥 cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2026 i 31 Rhagfyr 2026
Taliad | Dyddiad dyledus y taliad |
---|---|
Y taliad cyntaf | 14 Gorffennaf 2026 |
Yr ail daliad | 14 Hydref 2026 |
Y trydydd taliad (yn ddyledus ar 么l i鈥檙 cyfnod cyfrifyddu ddod i ben) | 14 Ionawr 2027 |
Y taliad terfynol | 14 Ebrill 2027 |
Cyfnodau cyfrifyddu o lai na 12 mis
Os oes gan eich cwmni gyfnod cyfrifyddu o lai na 12 mis, bydd eich taliad olaf yn ddyledus 3 mis a 14 diwrnod ar 么l diwrnod olaf eich cyfnod cyfrifyddu.
Os yw鈥檆h cyfnod cyfrifyddu yn hirach na 3 mis, bydd y taliad cyntaf yn ddyledus 6 mis a 13 diwrnod ar 么l diwrnod cyntaf y cyfnod cyfrifyddu.
Os yw鈥檆h cyfnod cyfrifyddu yn ddigon hir, mae鈥檔 bosibl y bydd taliadau eraill hefyd yn ddyledus bob 3 mis ar 么l hynny.
Enghraifft 鈥 cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2027 i 31 Awst 2027
Taliad | Dyddiad dyledus y taliad |
---|---|
Y taliad cyntaf | 14 Gorffennaf 2027 |
Ail daliad yn ddyledus ar 么l diwedd y cyfnod cyfrifyddu | 14 Hydref 2027 |
Y taliad terfynol | 14 Rhagfyr 2027 |
Enghraifft 鈥 cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2027 i 31 Mawrth 2027
Mae鈥檙 holl Dreth Gorfforaeth yn ddyledus mewn un taliad llawn ar 14 Gorffennaf 2027.
Cyfrifo rhandaliadau
Cam 1: amcangyfrifwch gyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni
Er mwyn cyfrifo鈥檆h rhandaliadau, amcangyfrifwch eich rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu, gan gynnwys unrhyw dreth sy鈥檔 ddyledus ar y canlynol:
- benthyciadau i gyfarwyddwyr (yn agor tudalen Saesneg) ac unrhyw gyfranogwyr eraill mewn cwmn茂au 鈥榗au鈥
- cwmn茂au tramor a reolir (yn agor tudalen Saesneg)
Wedyn, tynnwch yr holl ryddhadau a gwrthbwysiadau i gyfrifo cyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni, fel y byddech yn gwneud wrth gyfrifo鈥檙 Dreth Gorfforaeth sydd arnoch yn eich Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg).
Defnyddiwch y ffigur hwn i gyfrifo鈥檆h rhandaliadau.
Cam 2: cyfrifwch swm pob rhandaliad
Ar gyfer cyfnod cyfrifyddu o 12 mis, rydych yn talu cyfanswm eich rhwymedigaeth fesul 4 rhandaliad cyfartal. Mae pob rhandaliad yn gyfwerth ag un chwarter o gyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu o 3 mis neu lai, gwnewch 1 taliad unigol o gyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy鈥檔 hirach na 3 mis, ond sy鈥檔 llai na 12 mis, bydd pob rhandaliad (oni bai am yr un olaf) yn cael ei gyfrifo drwy rannu cyfanswm rhwymedigaethau鈥檙 cwmni 芒 nifer y misoedd sydd yn y cyfnod cyfrifyddu, a lluosi鈥檙 ffigur hwnnw 芒 3.
Y rhandaliad olaf bydd cyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni, llai y taliadau a wnaed hyd yma.
Enghraifft 鈥 cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2027 i 31 Awst 2027, a 拢900,000 o Dreth Gorfforaeth yn ddyledus
Cam cyfrifo | Canlyniad |
---|---|
Cyfanswm rhwymedigaeth y cwmni | 拢900,000 |
Nifer y misoedd yn y cyfnod cyfrifyddu | 8 |
Cyfanswm rhwymedigaeth y cwmni 梅 nifer y misoedd yn y cyfnod cyfrifyddu x 3 | 拢900,000 梅 8 x 3 = 拢337,500 |
Y rhan leiaf o gyfanswm rhwymedigaeth y cwmni a chyfanswm rhwymedigaeth y cwmni 梅 nifer y misoedd yn y cyfnod cyfrifyddu x 3 | 拢337,500 |
Y rhandaliad cyntaf a鈥檙 ail randaliad | 拢337,500 |
Y trydydd rhandaliad a鈥檙 rhandaliad terfynol | 拢900,000 - (2 脳 拢337,500) = 拢225,000 |
Cam 3: diwygiwch eich amcangyfrif ac addaswch eich rhandaliadau
Mae鈥檔 bosibl y bydd amcangyfrif eich rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth yn newid wrth i鈥檙 cyfnod cyfrifyddu fynd yn ei flaen. Gall hyn ddigwydd ar 么l eich rhandaliad olaf. Bydd angen i chi gyfrifo pob rhandaliad yn seiliedig ar y ffigur diwygiedig.
Os ydych yn disgwyl i鈥檆h rhwymedigaeth fod yn fwy na鈥檆h amcangyfrifon blaenorol, bydd angen i chi wneud un taliad atodol (neu fwy) i dalu鈥檙 gwahaniaeth.
Gallwch wneud taliadau ychwanegol ar unrhyw adeg. Mae鈥檔 bosibl y bydd angen i chi dalu llog os ydych yn gwneud rhandaliadau sy鈥檔 llai na鈥檆h rhwymedigaeth wirioneddol.
Os ydych yn darganfod yn ddiweddarach eich bod wedi gordalu (neu os na ddylech fod wedi talu o gwbl), byddwch fel arfer yn gallu hawlio鈥檆h gordaliad yn 么l, neu gallwch adael y gordaliad gyda CThEF a鈥檌 ddefnyddio i fynd tuag at dalu rhandaliadau yn y dyfodol.
Mae鈥檔 bosibl y cewch log ar ordaliadau o randaliadau, ac ar daliadau a wnaed yn gynnar.
Cwmn茂au a ddiogelir
Os yw鈥檆h cwmni鈥檔 agored i Dreth Gorfforaeth, ac yn agored i d芒l atodol ar elw o weithgareddau a ddiogelir (gweithgareddau Sgafell Gyfandirol y DU sy鈥檔 ymwneud ag olew sydd, o dan gyfraith y DU, yn cyfrif fel masnach ar wah芒n), byddwch yn talu unrhyw Dreth Gorfforaeth sy鈥檔 ddyledus ar elw sydd heb ei ddiogelu 鈥 a hynny fesul rhandaliad gan ddefnyddio鈥檙 rheolau arferol.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy鈥檔 dechrau ar neu ar 么l 1 Ebrill 2019, os yw鈥檆h elw dros 拢20 miliwn, byddwch yn talu unrhyw dreth sy鈥檔 ddyledus ar elw sydd heb ei ddiogelu gan ddefnyddio鈥檙 rheolau ar gyfer cwmn茂au mawr iawn. Dysgwch ragor am y rheolau mae鈥檔 rhaid i chi eu dilyn os oes gennych elw o dros 拢20 miliwn (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd angen i chi hefyd dalu鈥檙 Dreth Gorfforaeth a鈥檙 t芒l atodol ar eich elw a ddiogelir. Gwnewch hyn mewn 3 rhandaliad cyfartal ar y mwyaf. Bydd y rhain yn ddyledus fel a ganlyn:
- 6 mis a 13 diwrnod ar 么l diwrnod cyntaf y cyfnod cyfrifyddu
- 3 mis ar 么l y rhandaliad cyntaf
- 14 diwrnod ar 么l diwrnod olaf y cyfnod cyfrifyddu
Mae hyn yn berthnasol i gyfnodau cyfrifyddu sy鈥檔 dod i ben ar 么l 30 Mehefin 2005.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu o 12 mis a ddaeth i ben ar 么l 30 Mehefin 2005, ond cyn 1 Gorffennaf 2006, mae鈥檙 rhandaliadau yn 25%, 25% a 50% o鈥檙 rhwymedigaeth a ddiogelir.
Enghraifft 鈥 cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2027 i 31 Rhagfyr 2027
Taliad | Dyddiad dyledus y taliad |
---|---|
Y taliadau cyntaf ar gyfer treth a ddiogelir a Threth Gorfforaeth arall | 14 Gorffennaf 2027 |
Yr ail daliadau ar gyfer treth a ddiogelir a Threth Gorfforaeth arall | 14 Hydref 2027 |
Y trydydd taliad (sef, y taliad terfynol) ar gyfer treth a ddiogelir, a鈥檙 trydydd taliad ar gyfer Treth Gorfforaeth arall | 14 Ionawr 2028 |
Taliad terfynol ar gyfer Treth Gorfforaeth arall | 14 Ebrill 2028 |
Enghraifft 鈥 cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2027 i 31 Mai 2027
Taliad | Dyddiad dyledus y taliad |
---|---|
Mae鈥檙 holl dreth a ddiogelir yn ddyledus ar y dyddiad hwn | 14 Mehefin 2027 |
Y taliad cyntaf ar gyfer Treth Gorfforaeth arall | 14 Gorffennaf 2027 |
Yr ail daliad (sef, y taliad terfynol) ar gyfer Treth Gorfforaeth arall | 14 Medi 2027 |
Mae鈥檙 dyddiad y byddai鈥檙 trydydd rhandaliad yn ddyledus (14 Mehefin 2027) yn disgyn cyn unrhyw ddyddiad dyledus arall ar gyfer taliadau, felly, mae鈥檙 holl dreth a ddiogelir yn ddyledus ac yn daladwy ar 14 Mehefin 2027.
Cyfrifo rhandaliadau ar gyfer cwmn茂au a ddiogelir
Os yw鈥檆h cwmni鈥檔 agored i Dreth Gorfforaeth, ac yn agored i d芒l atodol ar elw o weithgareddau a ddiogelir, dylech gyfrifo鈥檙 rhandaliadau ar gyfer y Dreth Gorfforaeth sy鈥檔 ddyledus ar elw sydd heb ei ddiogelu gan ddefnyddio鈥檙 rheolau arferol.
Bydd angen i chi hefyd gyfrifo鈥檙 rhandaliadau ar gyfer y Dreth Gorfforaeth a鈥檙 t芒l atodol ar eich elw a ddiogelir.
Cam 1: cyfrifwch eich swm a ddiogelir
Amcangyfrifwch y Dreth Gorfforaeth a ddiogelir a鈥檙 t芒l atodol sy鈥檔 daladwy ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu.
Cam 2: cyfrifwch swm eich rhandaliadau
Ar gyfer cyfnod cyfrifyddu o 12 mis, rydych yn talu cyfanswm eich rhwymedigaeth fesul 3 rhandaliad cyfartal 鈥 bydd pob rhandaliad yn gyfwerth ag un traean o鈥檙 swm a ddiogelir.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu o 4 mis neu lai, gwnewch 1 taliad unigol o gyfanswm eich rhwymedigaeth.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sydd yn hirach na 4 mis, ond sy鈥檔 llai na 12 mis, eich taliadau yw rhan leiaf y balans o鈥檙 swm a ddiogelir sydd heb ei dalu, neu鈥檙 swm a ddiogelir wedi鈥檌 rannu 芒 nifer y misoedd yn y cyfnod cyfrifyddu, wedi鈥檌 luosi 芒 4.
Mae鈥檙 rheolau hyn yn berthnasol i gyfnodau cyfrifyddu sy鈥檔 dod i ben ar neu ar 么l 1 Gorffennaf 2006.
Os hoffech wirio鈥檙 cyfrifiadau ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy鈥檔 dod i ben ar 么l 30 Mehefin 2005, ond cyn 1 Gorffennaf 2006, gallwch ddefnyddio鈥檙 canlynol:
Y swm a ddiogelir 梅 nifer y misoedd yn y cyfnod cyfrifyddu ar gyfer cyfnodau byrrach x 3.
Cam 3: diwygiwch eich amcangyfrif ac addaswch eich rhandaliadau
Mae鈥檔 bosibl y bydd amcangyfrif eich rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth yn newid wrth i鈥檙 cyfnod cyfrifyddu fynd yn ei flaen. Gall hyn ddigwydd ar 么l eich rhandaliad olaf. Bydd angen i chi gyfrifo鈥檆h rhandaliadau yn seiliedig ar y ffigur diwygiedig.
Os ydych yn disgwyl i鈥檆h rhwymedigaeth fod yn fwy na鈥檆h amcangyfrifon blaenorol, bydd angen i chi wneud un taliad atodol (neu fwy) i dalu鈥檙 gwahaniaeth.
Gallwch wneud taliadau ychwanegol ar unrhyw adeg. Mae鈥檔 bosibl y bydd angen i chi dalu llog os ydych yn gwneud rhandaliadau sy鈥檔 llai na鈥檆h rhwymedigaeth wirioneddol.
Os ydych yn darganfod yn ddiweddarach eich bod wedi gordalu (neu os na ddylech fod wedi talu o gwbl), byddwch fel arfer yn gallu hawlio鈥檆h gordaliad yn 么l, neu gallwch adael y gordaliad gyda CThEF a鈥檌 ddefnyddio i fynd tuag at dalu rhandaliadau yn y dyfodol. Mae鈥檔 bosibl y cewch log ar ordaliadau o randaliadau, ac ar daliadau a wnaed yn gynnar.
Grwpiau o gwmn茂au
Gall grwpiau o gwmn茂au ddewis gwrthbwyso swm a ordalwyd gan un cwmni yn erbyn swm a dandalwyd gan gwmni arall yn y gr诺p.
Mae CThEF hefyd yn cynnig Trefniadau Talu Gr诺p (yn agor tudalen Saesneg), sy鈥檔 galluogi鈥檙 grwpiau i wneud rhandaliadau ar y cyd. Gallwch enwebu un cwmni o鈥檙 gr诺p i dalu鈥檙 rhandaliadau ar ran y gr诺p cyfan, yn hytrach na bob cwmni yn talu rhandaliadau ar wah芒n.
Gwneud rhandaliad
Mae鈥檔 rhaid i chi wneud pob taliad sy鈥檔 ymwneud 芒 Threth Gorfforaeth, ac unrhyw daliadau perthnasol, mewn ffordd electronig.
Mae taliadau perthnasol yn cynnwys llog a godwyd ar Dreth Gorfforaeth sydd heb ei thalu, a chosbau am beidio 芒 chyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth y Cwmni mewn pryd.
Gallwch wneud eich rhandaliadau mewn ffordd electronig ar-lein drwy ddefnyddio鈥檙 dulliau canlynol:
- taliad gan ddefnyddio鈥檆h cyfrif bancio ar-lein
- Debyd Uniongyrchol
- cerdyn debyd
- cerdyn credyd y cwmni
- gwasanaeth bancio ar-lein eich banc neu鈥檆h cymdeithasau adeiladu
Gallwch wneud eich rhandaliadau mewn ffordd electronig (heb fynd ar-lein) drwy ddefnyddio鈥檙 dulliau canlynol:
- Credyd Uniongyrchol Bacs
- gwasanaeth bancio dros y ff么n eich banc neu鈥檆h cymdeithasau adeiladu
- CHAPS
- Giro Banc
Llog a rhandaliadau
Llog a godwyd gan CThEF
Mae CThEF yn codi llog ar randaliadau a wneir yn hwyr, neu a dandalwyd (yn agor tudalen Saesneg). Os oes angen i chi dalu鈥檙 llog hwn, bydd modd i chi ei ddidynnu oddi wrth dreth sydd i鈥檞 thalu at ddibenion Treth Gorfforaeth.
I wahaniaethu rhwng y llog hwn a鈥檙 llog arferol am dalu鈥檔 hwyr, mae CThEF yn galw鈥檙 llog hwn yn 鈥樷.
Dim ond ar 么l i chi gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth y Cwmni y caiff y llog hwn ei gyfrifo a鈥檌 godi.
Talu llog i chi
Bydd CThEF yn talu llog i鈥檆h busnes os gwnaethoch y canlynol:
- rhandaliad diangen
- taliad cynnar
- taliad rhy uchel
Bydd unrhyw log a dalwyd yn cael ei gyfrifo naill ai o adeg y rhandaliad cyntaf, neu pan fydd gordaliad yn digwydd, p鈥檜n bynnag sydd hwyraf.
Mae鈥檙 llog a dalwyd gan CThEF yn drethadwy at ddibenion Treth Gorfforaeth. Caiff y llog hwn ei gyfrifo a鈥檌 godi yn 么l-weithredol yn unig, a hynny unwaith i鈥檙 rhwymedigaeth gael ei gyfrifo, sy鈥檔 digwydd, fel arfer, ar 么l i chi gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth y Cwmni.
Mae鈥檙 gyfradd ar gyfer y llog hwn yn wahanol i gyfradd y llog a godwyd am dalu鈥檔 hwyr ac am wneud tandaliadau. Mae CThEF yn galw hyn yn 鈥樷.
Enghraifft 鈥 dim rhwymedigaeth a ddiogelir, a chyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr
Mae鈥檙 cwmni鈥檔 adolygu鈥檙 amcangyfrif o鈥檌 rwymedigaeth derfynol yn rheolaidd ac, lle bo鈥檔 briodol, yn diwygio鈥檌 randaliad (neu, os oes angen, yn gwneud taliadau atodol) er mwyn lleihau鈥檙 posibilrwydd o dalu unrhyw log. Mae鈥檔 cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni sy鈥檔 dangos rhwymedigaeth treth derfynol o 拢120 miliwn.
Amcangyfrif y cwmni o ran ei rwymedigaeth | Taliadau a wnaed yn seiliedig ar ffigurau wedi鈥檜 hamcangyfrif (a鈥檙 dyddiad y gwnaed y taliad) | Rhwymedigaeth wirioneddol yn seiliedig ar rwymedigaeth derfynol | Dyddiad dyledus |
---|---|---|---|
拢80 miliwn | 拢20 miliwn (14 Gorffennaf) | 拢30 miliwn (rhandaliad 1) | 14 Gorffennaf |
拢110 miliwn | 拢35 miliwn (14 Hydref) | 拢30 miliwn (rhandaliad 2) | 14 Hydref |
拢130 miliwn | 拢10 miliwn (taliad atodol) (1 Tachwedd) | 鈥 | 鈥 |
拢140 miliwn | 拢40 miliwn (14 Ionawr) | 拢30 miliwn (rhandaliad 3) | 14 Ionawr |
拢120 miliwn | 拢15 miliwn (14 Ebrill) | 拢30 miliwn (rhandaliad 4) | 14 Ebrill |
Yn yr enghraifft hon, mae鈥檙 llog yn ddyledus fel a ganlyn:
Dyddiadau | Cyfanswm a dalwyd hyd yma | Rhwymedigaeth wirioneddol hyd yma | Manylion y llog sy鈥檔 ddyledus |
---|---|---|---|
14 Gorffennaf i 13 Hydref | 拢20 miliwn | 拢30 miliwn | Llog ar ddebyd sy鈥檔 ddyledus ar 拢10 miliwn o 14 Gorffennaf i 13 Hydref |
14 Hydref i 31 Hydref | 拢55 miliwn | 拢60 miliwn | Llog ar ddebyd sy鈥檔 ddyledus ar 拢5 miliwn o 14 Hydref i 31 Hydref |
1 Tachwedd i 13 Ionawr | 拢65 miliwn | 拢60 miliwn | Llog ar gredyd sy鈥檔 ddyledus ar 拢5 miliwn o 1 Tachwedd i 31 Ionawr |
14 Ionawr i 13 Ebrill | 拢105 miliwn | 拢90 miliwn | Llog ar gredyd sy鈥檔 ddyledus ar 拢15 miliwn o 14 Ionawr i 13 Ebrill |
14 Ebrill | 拢120 miliwn | 拢120 miliwn | Ni fydd unrhyw log pellach yn cael ei godi na鈥檜 gredydu |
Cosbau ar randaliadau
Mae鈥檔 bosibl y codir cosb os byddwch yn gwneud y canlynol yn fwriadol:
- methu 芒 gwneud rhandaliad
- gwneud rhandaliad sy鈥檔 rhy isel
Dysgwch ragor am gosbau Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Hawlio ad-daliadau
Yn dilyn adolygiad o鈥檙 cyfrifon rheoli a鈥檙 rhagolygon diweddaraf yn ystod dyddiad y rhandaliad nesaf, os ydych yn darganfod y bydd eich rhwymedigaethau Treth Gorfforaeth yn llai na鈥檙 hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl, gallwch wneud hawliad am ad-daliad o鈥檆h rhandaliad i gyd, neu ran ohono.
Mae鈥檔 rhaid i hawliadau gael eu gwneud i swyddog CThEF, ac mae鈥檔 rhaid i鈥檙 hawliad hwnnw nodi鈥檙 ddau beth canlynol:
- y swm y credwch y dylid cael ei ad-dalu
- eich rhesymau dros gredu鈥檙 canlynol (a hynny oherwydd newidiadau mewn amgylchiadau ers gwneud y taliad(au)):
- rydych o鈥檙 farn y bydd cyfanswm eich rhwymedigaeth ar gyfer y cyfnod yn llai na鈥檙 hyn a gyfrifwyd yn flaenorol
- mae鈥檙 taliadau cronnus yn fwy na鈥檙 rhwymedigaeth ddiwygiedig
O dan rai amgylchiadau, gallwch hawlio ad-daliad pan fydd eich rhwymedigaeth ddiwygiedig yn cynnwys colledion disgwyliedig o鈥檆h cyfnod cyfrifyddu presennol sydd heb ddod i ben ar hyn o bryd.
Gall hyn ddigwydd os ydych wedi dioddef colledion sylweddol. Bydd angen i chi roi tystiolaeth ategol er mwyn cadarnhau鈥檙 colledion hyn ac i ategu鈥檆h hawliad am ad-daliad. Dysgwch ragor am hawlio ad-daliadau yn llawlyfr trethiant cwmn茂au CThEM (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
Information about making instalment payments through an online bank account has been added to the page.
-
Welsh translation added.
-
Information about accounting periods ending on or after 1 April 2015 and before 1 April 2023 has been added. This is due to a change in legislation with effect from 1 April 2023.
-
Guidance updated with information on repayment claims if your Corporation Tax liability is less than expected due to exceptional circumstances.
-
Guidance on paying by instalments if your annual profits are over 拢20 million has been added.
-
Guidance updated to show it won't be possible to make a payment with a personal credit card from 13 January 2018.
-
The Corporation Tax (Instalment Payments) (Amendment) Regulations 2014 (SI 2014/2409)) has been amended and will apply to accounting periods ending on or after 1 April 2015.
-
First published.