Rhoi awdurdod i weithredu ar gyfer heriau i鈥檙 Dreth Gyngor
Llenwch ffurflen i roi awdurdod i rywun arall i herio eich band Treth Gyngor ar eich rhan.
Anfonwch y ffurflen hon i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) er mwyn apwyntio rhywun arall i herio eich band Treth Gyngor ar eich rhan. Gall y person hwn fod yn asiant, ffrind neu aelod o鈥檙 teulu.
Bydd hyn hefyd yn rhoi awdurdod i ASB rannu gwybodaeth am yr eiddo gyda鈥檙 person yr ydych wedi鈥檌 enwi. Mi fydd hefyd yn cynnwys unrhyw gyswllt yr ydych wedi ei gael gyda ASB am yr eiddo yn y gorffennol.
Mae鈥檙 ffurflen hon yn diystyru unrhyw awdurdod blaenorol a roddwyd i ASB. Byddwn yn dal yr awdurdod yma nes y byddwch naill ai:
- yn dweud yn wahanol wrthym
- yn rhoi gwybodaeth inni fod y manylion wedi newid
- yn anfon ffurflen wedi鈥檌 diweddaru atom
Rhaid i chi lenwi聽Ffurflen herio y Dreth Gyngor聽ac anfon y ddwy ffurflen gyda鈥檌 gilydd i ASB. Os nad ydych yn anfon y ddwy ffurflen ar yr un pryd, efallai y bydd eich her yn cael ei nodi fel un annilys.
Sut i lenwi鈥檙 ffurflen
Gallwch naill ai:
- lawrlwytho鈥檙 ffurflen a鈥檌 llenwi ar y sgrin
- argraffu鈥檙 ffurflen a鈥檌 llenwi 芒鈥檆h llaw
Ble i anfon y ffurflen
Atodwch y ffurflen wedi鈥檌 chwblhau i e-bost. Anfonwch yr e-bost at ctinbox@voa.gov.uk.
Efallai y byddech yn hoffi anfon y ffurflen wedi鈥檌 chwblhau drwy鈥檙 post i:
Valuation Officer
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW