Llenwi eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol
Sut i roi gwybod am eich incwm a hawlio rhyddhadau treth ac unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i chi drwy ddefnyddio Ffurflen Dreth SA100, ar gyfer 6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025.
Dewch o hyd i ffurflenni treth ar gyfer 5 Ebrill 2024 neu’n gynharach.
Cyflwyno ar-lein
Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar-lein — mae 97% o bobl yn cyflwyno ar-lein eisoes.
 Os ydych yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar-lein:
-
mae’n haws gwneud diwygiadau, ac yn fwy diogel
-
bydd gennych 3 mis yn ychwanegol i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth
-
does dim rhaid i chi ei llenwi i gyd ar yr un adeg — os dymunwch gallwch gadw’ch manylion a chwblhau’r ffurflen yn nes ymlaen
Sut i lenwi’ch Ffurflen Dreth
Dewch o hyd i arweiniad i’ch helpu i ddeall ac i lenwi’r adrannau yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r nodiadau arweiniad i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth.
Cael gafael ar dudalennau atodol
Mae’n bosibl bydd angen i chi gwblhau ffurflenni ychwanegol, a’u hanfon atom gyda’ch Ffurflen Dreth SA100. Mae’r rhain yn cael eu hadnabod fel tudalennau atodol.
Mae tudalennau atodol os ydych yn un o’r canlynol:
-
cyflogai neu gyfarwyddwr cwmni —SA102: Cyflogaeth
-
clerigwr neu weinidog crefydd —SA102M: Gweinidogion yr Efengyl
-
aelod Seneddol (AS) neu weinidog —SA102MP: Seneddol
-
aelod o Senedd Cymru —SA102MS: Cynulliad Cenedlaethol Cymru
-
aelod o Gynulliad Deddfwriaethol Gogledd Iwerddon —SA102MLA: Cynulliad Deddfwriaethol Gogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg)
-
aelod o Senedd yr Alban —SA102MSP: Senedd yr Alban (yn agor tudalen Saesneg)
-
aelod o Lloyd’s sy’n danysgrifennwr —SA103L: tanysgrifenwyr Lloyd’s (yn agor tudalen Saesneg)
-
rhywun sydd ddim yn preswylio yn y DU neu sy’n breswylydd deublyg —SA109: Preswylfa, sail trosglwyddo ac ati
Hefyd, mae tudalennau atodol os ydych eisiau cofnodi’r canlynol:
-
ffynonellau llai cyffredin o incwm, didyniadau a rhyddhadau treth —SA101: Gwybodaeth Ychwanegol
-
incwm o hunangyflogaeth —SA103S: Hunangyflogaeth (byr)Ìý²Ô±ð³ÜÌýSA103F: Hunangyflogaeth (lawn)
-
incwm o bartneriaeth —SA104S: Partneriaeth (byr)Ìý²Ô±ð³ÜÌýSA104F:Partneriaeth (lawn)
-
incwm o eiddo yn y DU —SA105: Eiddo yn y DU
-
enillion neu incwm tramor —SA106: Tramor
-
incwm o ymddiriedolaeth, setliad, neu ystâd person ymadawedig —SA107: Ymddiriedolaethau ac ati
-
colledion ac enillion cyfalaf —SA108: crynodeb o Enillion Cyfalaf
-
canlyniad o’ch cyfrifiad treth —SA110: Cyfrifiad treth
Os byddwch yn llenwi Ffurflen Dreth bapur
Bydd yn rhaid i chi bostio’ch Ffurflen Dreth bapur wedi’i llenwi i CThEF.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi gynnwys tudalennau atodol ar gyfer mathau penodol o incwm.
Os ydych yn byw yn y DU, anfonwch hi i:
Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig
Os ydych yn byw y tu allan i’r DU, anfonwch hi i:
Cyllid a Thollau EF / HM Revenue & Customs
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig
Mae’n rhaid i CThEF gael eich Ffurflen Dreth bapur erbyn y dyddiad cau.
Os byddwch yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ar bapur, anfonwch eich Ffurflen Dreth ar-lein yn lle hynny i osgoi cael cosb.