Canllawiau

Cynhyrchu Wisgi Cymreig Brag Sengl

Dysgwch am sut i wneud cais am y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol, sut i gyflwyno gwybodaeth am frand, ffioedd, a sut i sicrhau bod eich proses gynhyrchu yn cydymffurfio.

Os yw eich busnes yn ymwneud 芒 chynhyrchu neu farchnata Wisgi Cymreig Brag Sengl, bydd yr arweiniad hwn yn eich helpu i ddarganfod y canlynol:

  • pwy ddylai wneud cais am ddilysiad
  • gwybodaeth am y ffioedd y bydd angen i chi eu talu
  • beth sy鈥檔 digwydd os canfyddir nad yw proses gynhyrchu yn cydymffurfio
  • sut mae CThEF yn gwirio cydymffurfiad 芒鈥檙 Fanyleb Cynnyrch ar gyfer Wisgi Cymreig Brag Sengl ac yn adennill ei gostau dilysu

Bydd y rhestr termau ar ddiwedd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall rhai o鈥檙 termau a鈥檙 byrfoddau a ddefnyddir.

Dilysu Wisgi Cymreig Brag Sengl

Mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn Ddynodiad Daearyddol cofrestredig o dan Reoliad a ddargedwir 2019/787 sy鈥檔 ei gwneud yn ofynnol sicrhau bod cynhyrchion yn cydymffurfio 芒 manylebau eu Manyleb Cynnyrch gofrestredig.

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 holl Wisgi Cymreig Brag Sengl a gynhyrchir yn y DU gael ei ddilysu. Mae hefyd yn rhaid iddo gydymffurfio 芒鈥檙 Fanyleb Cynnyrch ar gyfer Wisgi Cymreig Brag Sengl (yn agor tudalen Saesneg).

Byddwn yn:

  • cynnal ymweliadau dilysu 芒 chyfleusterau cynhyrchu
  • gwirio bod prosesau鈥檔 cydymffurfio 芒鈥檙 Fanyleb Cynnyrch
  • cadarnhau bod cynhyrchion yn cydymffurfio, er enghraifft drwy wirio anfonebau, cofnodion dosbarthu, offer a gweithdrefnau
  • sicrhau prosesau cynhyrchu gan ddefnyddio鈥檙 (ODT, 31.6 KB)
  • cofnodi prosesau sy鈥檔 cydymffurfio fel rhai 鈥榮icredig鈥 鈥 dim ond os yw鈥檙 holl brosesau dan sylw wedi鈥檜 sicrhau, gan gynnwys cyfleusterau labelu y tu allan i鈥檙 DU, y bydd CThEF yn gallu dilysu brand
  • cyhoeddi manylion cyfleusterau cynhyrchu a brandiau sydd wedi鈥檜 dilysu ar ein
  • cael mynediad dim ond at gofnodion sy鈥檔 ymwneud 芒 sicrwydd treth a thollau sydd gennym eisoes ac sy鈥檔 ofynnol i ategu鈥檙 dilysu, fel yr amlinellir yn y gwiriadau dilysu

Nid yw dyletswyddau CThEF yn ymestyn i waith gorfodi, a gyflawnir gan awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd y porthladdoedd. Byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth berthnasol i鈥檙 awdurdodau gorfodi priodol pan fo鈥檔 briodol a phan ganiateir hynny.

Oni bai bod angen cynnal dilysiad yn amlach, neu ein bod wedi cytuno ar gyfnod hirach, byddwn yn dilysu cynhyrchwyr bob 2 flynedd.

Y ddeddfwriaeth

Rhoddir y prif ddarnau canlynol o ddeddfwriaeth mewn perthynas 芒 dynodiad daearyddol ar gyfer Wisgi Cymreig Brag Sengl.

Y prif reoliadau sy鈥檔 berthnasol ym Mhrydain Fawr

Mae鈥檙 rheoliadau yn cynnwys:

  • , a ddiwygiwyd gan鈥(OS 2020/1637), ar gyfer diffinio, disgrifio, cyflwyno a labelu diodydd gwirodol
  • , a ddiwygiwyd gan鈥(OS 2020/1637) a 鈥(OS 2020/1661), sy鈥檔 cynnwys darpariaethau ynghylch termau cyfansawdd, cyfeiriadau a gwanediadau
  • , a ddiwygiwyd gan鈥(OS 2020/1637) a 鈥(OS 2020/1661), ar gyfer gwarchod dynodiadau daearyddol ar gyfer diodydd gwirodol
  • 鈥(OS 2008/3206), fel y鈥檜 diwygiwyd yn fwyaf diweddar gan y canlynol (mae鈥檙 rhain yn darparu ar gyfer gorfodi鈥檙 rheoliadau eraill):
    • 鈥(OS 2020/1636)
    • 鈥(OS 2020/1637)
    • 鈥(OS 2020/1661)

Mae鈥檙 rhain yn darparu ar gyfer gorfodi鈥檙 rheoliadau eraill. O dan Reoliad 5, CThEF yw鈥檙 awdurdod dynodedig sy鈥檔 gyfrifol am ddilysu diodydd gwirodol 芒 dynodiad daearyddol gwarchodedig. Mae CThEF hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod cynhyrchion yn cydymffurfio 芒鈥檙 Fanyleb Cynnyrch. Caiff awdurdodau gorfodi (awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd y porthladdoedd) eu dynodi o dan Reoliad 6.

Mae hefyd yn berthnasol, gan ddarparu鈥檙 sail gyfreithiol ar gyfer cynlluniau dilysu CThEF a galluogi CThEF i godi ffi er mwyn adennill ei gostau dilysu.

Pwy ddylai wneud cais

顿测濒别肠丑鈥wneud cais am y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol鈥痮s ydych yn cynnal unrhyw un o鈥檙 prosesau cynhyrchu canlynol ar gyfer Wisgi Cymreig Brag Sengl yng Nghymru:

  • brec谩u neu fragu
  • eplesu
  • distyllu
  • aeddfedu
  • potelu a labelu

Dylai cynhyrchwyr Wisgi Cymreig Brag Sengl ddewis 鈥楧angosyddion Daearyddol Eraill鈥 ar y ffurflen hon, a theipio enw鈥檙 cynnyrch priodol.

Wrth lenwi鈥檙 adran prosesau cynhyrchu ar y ffurflen, dylai cynhyrchwyr sy鈥檔 cynnal gwaith brec谩u neu fragu ddewis 鈥榓rall (rhowch fanylion)鈥 a theipio brec谩u neu fragu.

Trefniadau trosiannol

Trefniadau dilysu trosiannol ar gyfer cynhyrchwyr Wisgi Cymreig Brag Sengl presennol yng Nghymru

Bydd trefniadau trosiannol yn cael eu cyflwyno i gwmpasu cynhyrchwyr, a oedd eisoes yn gweithredu pan gyhoeddwyd y Fanyleb Cynnyrch i Defra, neu a ddechreuodd weithredu鈥檔 fuan wedi hynny. Yn amodol ar y trefniadau trosiannol hynny, ni all cynhyrchwyr gynhyrchu na marchnata鈥檜 cynnyrch fel Wisgi Cymreig Brag Sengl yn gyfreithiol, os nad yw eu prosesau wedi鈥檜 sicrhau neu os nad yw eu cynhyrchion wedi鈥檜 dilysu gan CThEF.

Bydd unrhyw gynhyrchwyr Wisgi Cymreig Brag Sengl a oedd yn gweithredu ar 13 Awst 2021 (pan gyflwynwyd y cais Dangosydd Daearyddol), neu a ddechreuodd gynhyrchu cyn 21 Awst 2023 (dyddiad lansio鈥檙 cynllun) yn cael eu trin fel pe baent wedi鈥檜 dilysu tan 21 Awst 2024 ar yr amod bod y canlynol yn wir:

  • mae cais cyflawn cywir am ddilysiad wedi dod i law CThEF ar gyfer pob cyfleuster cynhyrchu o鈥檙 fath erbyn 21 Medi 2023 (cyn pen mis i lansio鈥檙 cynllun dilysu)
  • mae鈥檙 ffi ddilysu briodol wedi鈥檌 thalu
  • mae CThEF yn fodlon y cynhelir gwaith cynhyrchu yn unol 芒鈥檙 Fanyleb Cynnyrch ar 么l 21 Awst 2023 a mae hynny鈥檔 cael ei gadarnhau yn dilyn ymweliad dilysu cychwynnol gan CThEF

Os byddwch yn dechrau busnes newydd ar 么l 21 Awst 2023, bydd yn rhaid i chi wneud cais am ddilysiad cyn i chi ddechrau cynhyrchu gan mai dim ond ar 么l i CThEF ddilysu bod eich prosesau cynhyrchu鈥檔 cydymffurfio y cewch eich trin fel petaech yn cydymffurfio 芒鈥檙 Fanyleb Cynnyrch. Fodd bynnag, os canfyddir bod y cyfleuster cynhyrchu yn cydymffurfio, gall CThEF 么l-ddyddio鈥檙 dilysiad i鈥檙 dyddiad y daeth y cais am ddilysiad i law. Dylai cyfleusterau cynhyrchu newydd felly wneud cais am ddilysiad cyn dechrau gweithredu.

Trefniadau trosiannol ar gyfer ffurflen gais ar-lein ar gyfer y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol (SDVS) mewn perthynas 芒 Wisgi Cymreig Brag Sengl

Tra bo鈥檙 ffurflen gais ar-lein yn cael ei diweddaru i gynnwys yr iaith Gymraeg, gall cwsmeriaid gysylltu 芒鈥檙 Uned Dilysu Diodydd Gwirodol os oes angen fersiwn Gymraeg o鈥檙 ffurflen gais arnynt (darllenwch yr adran: Rhagor o wybodaeth).

Sut i gyflwyno gwybodaeth am frand

Unwaith y bydd eich cynnyrch wedi鈥檌 ddilysu o dan y cynllun, dylai potelwyr dilys鈥gyflwyno gwybodaeth am frand.

Os ydych chi鈥檔 berchennog brand, a bod rhywun arall yn cynhyrchu neu鈥檔 potelu ac yn labelu鈥檆h brand, nid oes angen i chi wneud cais am ddilysiad. Y potelwr sydd 芒鈥檙 cyfrifoldeb am wneud cais am ddilysiad ac am roi gwybod i ni am eich brandiau.

Ail-botelu ac ail-labelu

Mae angen dilysiad os yw Wisgi Cymreig Brag Sengl yn cael ei botelu am y tro cyntaf, neu鈥檔 cael ei ail-botelu neu ei ail-labelu, neu鈥檙 ddau.

Mae ail-labelu鈥檔 broses ddilysadwy sy鈥檔 dod o dan y dilysiad ar gyfer potelu a labelu neu labelu yn unig. Os byddwch yn cyflawni鈥檙 broses hon ac os nad ydych eisoes wedi鈥檆h dilysu ar gyfer potelu a labelu neu labelu yn unig, dylech wneud cais am ddilysiad.

Dylai potelwyr a labelwyr wneud cais am ddilysiad a dangos bod eu prosesau鈥檔 cydymffurfio 芒鈥檙 manylebau yn y Fanyleb Cynnyrch ar gyfer Wisgi Cymreig Brag Sengl yn yr un modd ag unrhyw gynhyrchydd neu brosesydd Wisgi Cymreig Brag Sengl arall. Os na chaiff y prosesau hyn eu sicrhau, ni ellir dilysu鈥檙 cynnyrch terfynol wedi鈥檌 botelu neu ei labelu ac ni ellir ei farchnata鈥檔 gyfreithlon.

Mae enghreifftiau o ail-labelu neu ail-botelu y mae angen eu dilysu yn cynnwys:

  • pan fo busnes yn ardywallt stoc potel i boteli llai ac yn defnyddio ei labeli ei hun
  • labelu poteli mewn canolfannau ymwelwyr. Yn aml, bydd y rhain wedi鈥檜 personoli ac mae鈥檔 bosibl eu cymryd o鈥檙 canolfannau 鈥 byddai angen i鈥檙 safleoedd hyn gadw cofnodion yn manylu ar y poteli a werthwyd a鈥檙 stoc 鈥 efallai y bydd yr Uned Dilysu Diodydd Gwirodol yn gofyn am gael gweld y labeli i sicrhau cydymffurfiad 芒鈥檙 Fanyleb Cynnyrch
  • ail-labelu poteli os yw鈥檙 label wedi鈥檌 ddifrodi neu os yw brand presennol sydd wedi鈥檌 labelu yn mynd i gael ei anfon i farchnad wahanol ac felly mae angen label gwahanol arno (am resymau cyfreithiol neu farchnata) 鈥 mae鈥檙 cyfleusterau hyn yn gyfrifol am sicrhau bod y labeli鈥檔 cydymffurfio 芒 gofynion y Fanyleb Cynnyrch

Dim ond yng Nghymru y gall potelu a labelu, gan gynnwys ail-botelu ac ail-labelu, ddigwydd.

Faint y bydd angen i chi ei dalu

Os ydych yn gynhyrchydd Wisgi Cymreig Brag Sengl, bydd yn rhaid i chi dalu ffi ddilysu safonol cyn eich ymweliad dilysu.

Bydd angen i chi dalu:

  • 拢1,375 os ydych yn cyflawni鈥檙 holl brosesau cynhyrchu (gweler yr adran 鈥楶wy ddylai wneud cais鈥)
  • 拢688 os nad ydych yn cyflawni鈥檙 holl brosesau cynhyrchu, er enghraifft os ydych yn cynnal gwaith potelu yn unig neu waith potelu ac aeddfedu

Mae angen ffi ar wah芒n ar gyfer pob safle lle mae proses gynhyrchu yn digwydd.

Mae CThEF yn adolygu ffioedd yn flynyddol ac yn cyhoeddi unrhyw newidiadau yn yr arweiniad hwn.

Dysgwch sut i dalu鈥檙 ffi dilysu.

Ffi ddilysu newydd

O 1 Gorffennaf 2025 ymlaen, byddwn yn disodli鈥檙 ffioedd presennol gyda ffi ddilysu unffurf, sef 拢250 ar gyfer pob cyfleuster.

Byddwch yn talu鈥檙 ffi newydd:

  • os bydd eich dilysiad presennol yn dod i ben ar neu ar 么l 1 Gorffennaf 2025
  • ar gyfer ail-ymweliadau, gan gynnwys dilysu prosesau newydd a gwiriadau cydymffurfio

Bydd y ffi newydd ar waith hyd at 30 Mehefin 2031.

Bydd rhagor o fanylion yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon unwaith i鈥檙 ffi newydd gael ei rhoi ar waith.

Beth sy鈥檔 digwydd os nad yw proses gynhyrchu yn cydymffurfio

Bydd CThEF yn nodi prosesau cynhyrchu nad ydynt yn cydymffurfio, a brandiau efallai nad ydynt yn cydymffurfio (heb eu dilysu), naill ai:

  • yn ystod ymweliadau dilysu
  • drwy hysbysiadau gan gynhyrchwyr eraill
  • drwy wybodaeth a ddarperir gan aelodau o鈥檙 cyhoedd

Os nad yw eich prosesau鈥檔 cydymffurfio, bydd yr Uned Dilysu Diodydd Gwirodol yn trafod 芒 chi sut y gallwch chi sicrhau bod eich prosesau鈥檔 cydymffurfio. Bydd CThEF yn cytuno ar gyfnod cywiro rhesymol i sicrhau bod eich prosesau鈥檔 cydymffurfio. Bydd y cyfnod hwn fel arfer yn cael ei awgrymu gan yr Uned Dilysu Diodydd Gwirodol a bydd yn cael ei gytuno gennych chi.

Os na fyddwch yn cymryd camau unioni yn ystod y cyfnod hwn y cytunwyd arno i gydymffurfio, bydd CThEF yn diwygio eich manylion ar y , neu鈥檔 eu tynnu oddi arno, neu鈥檔 peidio 芒鈥檜 cynnwys yno.

Os bydd proses gynhyrchu yn colli ei statws sicredig, ni fydd unrhyw wirodydd a gynhyrchir wedyn yn cael eu dilysu ac ni ellir eu gwerthu fel Wisgi Cymreig Brag Sengl. Dylech sicrhau bod eich cwsmeriaid yn ymwybodol o hyn, fel y gallant wneud trefniadau cyflenwi amgen.

Gall CThEF hefyd:

  • hysbysu鈥檙 awdurdod gorfodi perthnasol fel y鈥檌 penodwyd gan Reoliadau Diodydd Gwirodol 2008
  • hysbysu perchennog y brand am y newid yn statws y broses gynhyrchu a allai effeithio ar ei gynhyrchion
  • hysbysu鈥檙 perchennog neu鈥檙 cynhyrchydd am y newid yn statws ei frand
  • dangos ar y gwasanaeth chwilio y newid yn statws y brandiau yr effeithir arnynt

Gallai diffyg cydymffurfio hefyd arwain at dorri cyfreithiau lleol mewn gwledydd lle mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn cael ei ddiffinio neu ei warchod fel Dynodiad Daearyddol.

Pan na fydd CThEF yn cyhoeddi manylion cyfleusterau cynhyrchu a brandiau

Ni fyddwn yn cyhoeddi manylion cyfleusterau cynhyrchu na brandiau pan fo鈥檙 canlynol yn wir:

  • nid oes cais am ddilysiad
  • nid yw cyfleuster cynhyrchu erioed wedi gweithredu proses sicredig
  • nid ydym wedi cael gwybod am frand
  • nid yw brand erioed cael ei ddilysu

Pan na chyhoeddir cyfleuster cynhyrchu fel un sydd 芒 phrosesau sicredig, bydd hyn yn peryglu pob brand sy鈥檔 defnyddio prosesau yn y cyfleuster cynhyrchu hwnnw.

Os nad yw cyfleuster cynhyrchu yn cadw ei brosesau cynhyrchu鈥檔 sicredig, neu os nad yw brand yn cynnal ei statws wedi鈥檌 ddilysu, bydd dyddiad dod i rym y newid statws hwnnw yn cael ei ddangos yn y manylion a gyhoeddir ar y gwasanaeth chwilio, yn hytrach na bod y manylion yn cael eu dileu neu ddim yn cael eu cyhoeddi.

Ni fydd cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio a werthir, a ddarperir o鈥檙 cyfleuster cynhyrchu neu sy鈥檔 destun proses gynhyrchu ddilynol yn cael eu dilysu fel Wisgi Cymreig Brag Sengl. Ni ellir gwerthu鈥檙 cynhyrchion hyn fel Wisgi Cymreig Brag Sengl yn gyfreithiol.

Os daw proses yn un sydd heb ei dilysu mwyach, bydd unrhyw gynnyrch a ddarperir o鈥檙 cyfleuster cynhyrchu hwnnw ar neu ar 么l y dyddiad y caiff y statws dilysu ei ddileu yn gynnyrch nad yw鈥檔 cydymffurfio.

Os oes gennych bryderon am gynhyrchion heb eu dilysu

Dylech gysylltu 芒鈥檙 awdurdodau gorfodi dynodedig yn uniongyrchol. Gallwch ddod o hyd i鈥檙 rhain drwy .

Geirfa

Mae鈥檙 arweiniad hwn yn defnyddio termau a all fod 芒 gwahanol ystyron yn dibynnu ar y cyd-destun. Er mwyn sicrhau eglurder, dylai鈥檙 termau isod bob amser fod yn gysylltiedig 芒鈥檙 diffiniadau perthnasol.

Term Diffiniad
Cynhyrchydd Perchennog cyfleuster cynhyrchu sy鈥檔 cynnal o leiaf un broses o gynhyrchu Wisgi Cymreig Brag Sengl.
Gweithredwr Person sy鈥檔 gyfrifol am weithredu cyfleuster cynhyrchu. Gall hwn fod yn rheolwr distyllfa, er enghraifft.
Cyfleuster neu gyfleuster cynhyrchu Cyfleuster sy鈥檔 gweithredu un neu fwy o鈥檙 prosesau cynhyrchu sydd eu hangen i greu Wisgi Cymreig Brag Sengl.
Proses neu broses gynhyrchu Un o鈥檙 prosesau sydd eu hangen i greu Wisgi Cymreig Brag Sengl.
Brand Enw鈥檙 label ar gynnyrch mewn potel heb gynnwys oedrannau, disgrifyddion na rhanbarthau.
Perchennog y brand Perchennog brand Wisgi Cymreig Brag Sengl sy鈥檔 cael ei roi ar y farchnad i鈥檞 werthu.
Manyleb Cynnyrch Dogfen sy鈥檔 manylu ar ofynion Wisgi Cymreig Brag Sengl. Mae hyn yn cynnwys gofynion ar gyfer cynhyrchu, disgrifio, cyflwyno a labelu Wisgi Cymreig Brag Sengl.
Eplesu Dyma鈥檙 broses o drosi siwgrau yn alcohol drwy ychwanegu burum. Mae hyn yn cynnwys pob cam yn y broses gynhyrchu hyd at, ond heb gynnwys, y broses ddistyllu.
Distyllu Dyma鈥檙 broses o gaffael diodydd gwirodol drwy ddefnyddio cymysgedd eplesedig. Mae hyn yn cynnwys pob cam sy鈥檔 dilyn yr eplesu, hyd at y pwynt pan gaiff gwirod newydd ei ddistyllu.
Aeddfedu Dyma鈥檙 broses o heneiddio gwirod.
Brec谩u neu fragu Paratoi brag gwlyb o farlys wedi鈥檌 fragu.
Potelu a labelu Y prosesau canlynol gwagio cynwysyddion o Wisgi Cymreig Brag Sengl at ddiben potelu, gwanhau鈥檙 cynnwys i鈥檙 cryfder cywir ar gyfer potelu, potelu鈥檙 cynnwys gwanha毛dig, a labelu ar gyfer cyflwyniad. Unrhyw ail-botelu ac ail-labelu Wisgi Cymreig Brag Sengl a botelwyd yn flaenorol. Mae labelu鈥檔 golygu pob disgrifiad a phob nod masnach, dyluniad, arwydd neu gyfeiriad arall sy鈥檔 hynodi diod, ac sy鈥檔 ymddangos ar yr un cynhwysydd. Mae hyn yn cynnwys y ddyfais sy鈥檔 selio鈥檙 cynhwysydd neu鈥檙 tag sydd wedi鈥檌 atodi i鈥檙 cynhwysydd a鈥檙 gorchudd sydd dros wddf y botel.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich cais, os hoffech ragor o gyngor, neu os oes angen newid eich manylion, e-bostiwch yr Uned Dilysu Diodydd Gwirodol yn enquiries.sdvs@hmrc.gov.uk.

Gallwch hefyd gysylltu 芒 th卯m Polisi Alcohol CThEF naill ai drwy e-bost i mailbox.alcoholpolicy@hmrc.gov.uk鈥痭eu drwy鈥檙 post:

HMRC
Alcohol Policy Team
Trinity Bridge House
2 Dearmans Place
Salford
M3 5BS
United Kingdom

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Ebrill 2025 show all updates
  1. Added details of a new verification fee that will start on 1 July 2025.

  2. Added translation

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon