Gofyn i gyflymu cais
Gofyn i Gofrestrfa Tir EF brosesu鈥檆h cais trwy lwybr carlam.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Proses llwybr cyflym ar gyfer ceisiadau preswyl a masnachol yw cyflymu cais.
Os caiff ei gymeradwyo ac os nad oes unrhyw geisiadau neu geisiadau am wybodaeth (ymholiadau) heb eu datrys, ein nod yw prosesu cais i gyflymu o fewn 10 niwrnod gwaith.
Lle mae angen rhagor o wybodaeth i barhau, gofynnwn i gwsmeriaid ymateb yn gyflym i sicrhau ein bod yn gallu cwblhau鈥檙 cais.
Meini prawf gofynnol
Gallwch ofyn i gyflymu cais pe bai鈥檙 oedi:
- yn achosi problemau cyfreithiol, ariannol neu bersonol nad ydynt yn gysylltiedig 芒 thrafodiad tir
- yn peryglu trafodiad eiddo, er enghraifft, cytundeb ail-gyllido neu ddatblygiad.
Ni fyddwn yn cyflymu cais:
-
sydd eisoes yn cael ei brosesu
-
i chwilio鈥檙 gofrestr, gan gynnwys chwiliadau o鈥檙 map mynegai
Tystiolaeth sy鈥檔 ofynnol i gefnogi鈥檙 cais
Ni allwn ystyried unrhyw gais heb dystiolaeth gefnogol.
Mae enghreifftiau o dystiolaeth rydym yn ei derbyn yn cynnwys:
- copi o鈥檙 contract gwerthu neu brynu
- llythyr cynnig morgais yn cadarnhau dyddiad dod i ben y cynnig
- cadarnhad bod trafodiad bwriadedig yn dibynnu ar y cais rydych am ei gyflymu
- esboniad o broblemau ariannol neu bersonol sy鈥檔 dangos yr angen i gyflymu
Rydym yn derbyn dogfennau golygedig os ydynt yn dangos yn glir pam eich bod yn gofyn inni gyflymu鈥檆h cais.
Sut i wneud cais
Dylai鈥檙 cais gael ei anfon gan un o鈥檙 canlynol:
- y prynwr
- y gwerthwr
- y sefydliad a gyflwynodd y cais
Cyflwynwch bob cais i gyflymu yn erbyn un rhif teitl a chyfeirnod Cofrestrfa Tir EF. Mae hyn yn ein galluogi i baru鈥檆h cais i gyflymu gyda鈥檙 cais yn fwy effeithlon.
Os ydych yn weithiwr cyfreithiol proffesiynol
Dylai trawsgludwyr a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol sydd 芒 chyfrif porthol ddefnyddio 鈥楢pplication Enquiry鈥.
-
Yn 鈥楢pplication Enquiry鈥, dewiswch 鈥楽till need to contact us?鈥
-
Llenwch y manylion cysylltu priodol a dewiswch 鈥楻equest an expedite鈥.
-
Dewiswch y rheswm am y cyflymu er mwyn cwblhau鈥檙 cais.
Ni allwch wneud cais i gyflymu gan ddefnyddio 鈥楻eply to requisition鈥.
Os na ddefnyddiwyd gweithiwr cyfreithiol proffesiynol, neu os ydych yn weithiwr cyfreithiol proffesiynol heb gyfrif porthol
Os nad ydych wedi defnyddio trawsgludwr neu gyfreithiwr, neu os nad oes gennych gyfrif porthol, defnyddiwch y ffurflen .
Updates to this page
-
We have updated our guidance on applying for an expedite to clarify that, if a delay in registration is causing legal, financial or personal problems, our criteria for expedition are met.
-
We have made clear we accept redacted documents that contain commercially sensitive information as evidence.
-
Added a link to our application processing times.
-
We have updated our guidance to clarify that the expedite (fast-track) process is available for residential and commercial applications, and where any kind of property transaction is at risk.
-
Added translation