Aros a pharcio (238 i 252)
Rheolau ar gyfer aros a pharcio, gan gynnwys rheolau am barcio yn y nos a gorfodaeth parcio cyfreithlon.
Rheol 238
²Ñ²¹±ð‵µ RHAID I CHI BEIDIO ag aros na pharcio ar linellau melyn yn ystod y cyfnod gweithredu a ddangosir ar blatiau amser gerllaw (neu arwydd mynediad parth os mewn Parth Parcio a Reolir) – gweler ‘Arwyddion traffig’ a ‘Marciau ffyrdd’. Mae llinellau melyn dwbl yn nodi gwahardd aros ar unrhyw adeg hyd yn oed os nad oes arwyddion unionsyth. ²Ñ²¹±ð‵µ RHAID I CHI BEIDIO ag aros neu barcio, na stopio i ollwng a chasglu teithwyr, ar farciau mynediad i’r ysgol (gweler ‘Marciau fyrdd’) pan fydd arwyddion unionsyth yn dangos gwaharddiad stopio.
Y ddeddf a
Rheol 239
Defnyddiwch fannau parcio oddi ar y stryd, neu gilfachau wedi’u marcio â llinellau gwyn ar y ffordd fel mannau parcio, lle bynnag y bo modd. Os bydd rhaid i chi stopio ar ochr y ffordd:
-
peidiwch â pharcio yn wynebu’r llif traffig
-
stopiwch mor agos ag y gallwch at yr ochr
-
peidiwch â stopio’n rhy agos at gerbyd sy’n arddangos Bathodyn Glas: cofiwch, efallai y bydd angen mwy o le ar y meddiannydd i fynd i mewn neu allan o’r cerbyd
-
³¾²¹±ð‵µ RHAID i chi ddiffodd y peiriant, prif oleuadau a goleuadau niwl
-
³¾²¹±ð‵µ RHAID i chi ddefnyddio’r brêc llaw cyn gadael y cerbyd
-
³¾²¹±ð‵µ RHAID i chi sicrhau nad ydych yn taro neb pan fyddwch yn agor eich drws. Gwyliwch am feicwyr neu draffig arall
-
lle rydych yn gallu gwneud hynny, dylech agor y drws gan ddefnyddio’ch llaw ar yr ochr gyferbyn â’r drws rydych yn ei agor, er enghraifft, defnyddiwch eich llaw chwith i agor drws ar eich ochr dde. Bydd hyn yn gwneud i chi droi eich pen dros eich ysgwydd. Rydych wedyn yn fwy tebygol o osgoi achosi anaf i seiclwyr neu feicwyr modur sy’n mynd heibio i chi ar y ffordd, neu i bobl ar y palmant
-
³¾²¹±ð‵µ fwy diogel i’ch teithwyr (yn enwedig plant) fynd allan o’r cerbyd ar yr ochr wrth ymyl y cwrb
-
rhowch yr holl bethau gwerthfawr o’r golwg a gwnewch yn siŵr fod eich cerbyd yn ddiogel
-
clowch eich cerbyd.
Cyn defnyddio dyfais llaw i’ch helpu i barcio, ³¾²¹±ð‵µ RHAID i chi wneud yn siŵr ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Yna, dylech symud y cerbyd i mewn i’r lle parcio yn y ffordd fwyaf diogel, ac yn ôl y llwybr byrraf posibl.
Pan fyddwch yn defnyddio dyfais llaw i’ch helpu i barcio, ³¾²¹±ð‵µ RHAID i chi reoli’r cerbyd bob amser. Peidiwch â defnyddio’r ddyfais llaw ar gyfer unrhyw beth arall pan fyddwch yn ei ddefnyddio i’ch helpu i barcio, a pheidiwch â rhoi unrhyw un mewn perygl. Defnyddiwch y ddyfais llaw yn ôl cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.
Wrth ddefnyddio man gwefru cerbyd trydan, dylech barcio’n agos at y man gwefru ac osgoi creu perygl baglu i gerddwyr o geblau sydd yn eu ffordd. Arddangoswch arwydd rhybudd os gallwch chi. Ar ôl defnyddio’r man gwefru, dylech ddychwelyd ceblau a chysylltwyr gwefru yn daclus i leihau’r perygl i gerddwyr ac osgoi creu rhwystr i ddefnyddwyr eraill y ffordd.
Deddfau , , a , a
Rheol 240
²Ñ²¹±ð‵µ RHAID I CHI BEIDIO â stopio na pharcio ar:
-
y gerbydffordd, ardal argyfwng neu lain galed traffordd ac eithrio mewn argyfwng (gweler Rheolau 270 a 271)
-
croesfan i gerddwyr, gan gynnwys yr ardal sydd wedi’i marcio gan y llinellau igam-ogam (gweler Rheol 191)
-
clirffordd (gweler ‘Arwyddion traffig’)
-
cilfachau tacsis fel y dangosir gan arwyddion unionsyth a marciau
-
Clirffordd Drefol o fewn ei oriau gweithredu, ac eithrio i gasglu teithwyr neu eu gollwng (gweler ‘Arwyddion traffig’
-
ffordd wedi’i marcio â llinellau gwyn dwbl, hyd yn oed pan fydd llinell wen wedi’i thorri ar eich ochr chi o’r ffordd, ac eithrio i gasglu teithwyr neu eu gollwng, neu i lwytho neu ddadlwytho nwyddau
-
lôn dramiau neu feiciau yn ystod ei gyfnod gweithredu
-
llwybr beicio
-
llinellau coch, yn achos ‘llwybrau coch’ penodol, oni nodir fel arall gan arwyddion. Caiff unrhyw gerbyd fynd i mewn i lôn fysiau i stopio, llwytho neu ddadlwytho lle nad yw hyn yn waharddedig (gweler Rheol 141).
Deddfau a fel y’u diwygiwyd gan , a , , a , , ,
Rheol 241
²Ñ²¹±ð‵µ RHAID I CHI BEIDIO â pharcio mewn mannau parcio a gedwir ar gyfer defnyddwyr penodol, megis deiliaid Bathodyn Glas, trigolion neu feiciau modur, oni bai bod hawl gennych i wneud hynny.
Cyfreithiau a a
Rheol 242
²Ñ²¹±ð‵µ RHAID I CHI BEIDIO â gadael eich cerbyd neu’ch trelar mewn lle peryglus neu lle ³¾²¹±ð‵µ achosi unrhyw rwystr diangen i’r ffordd.
Deddfau a
Rheol 243
PEIDIWCH â stopio na pharcio:
-
ger mynedfa ysgol
-
unrhyw le y byddech yn atal mynediad i Wasanaethau Brys
-
ar neu’n agos at safle bws neu dram neu safle tacsis
-
ar y ffordd ddynesu at groesfan gwastad/tramffordd
-
gyferbyn neu o fewn 10 metr (32 troedfedd) o gyffordd, ac eithrio mewn man parcio awdurdodedig
-
ger ael bryn neu bont groca
-
gyferbyn ag ynys draffig neu (pe byddai hyn yn achosi rhwystr) gerbyd arall wedi’i barcio
-
lle byddech yn gorfodi traffig arall i fynd i mewn i lôn tram
-
lle mae’r cwrbyn wedi’i ostwng i helpu defnyddwyr cadeiriau olwyn a cherbydau symudedd modur
-
o flaen mynedfa tÅ·
-
ar droad
-
lle byddech yn rhwystro beicwyr rhag defnyddio cyfleusterau beicio
ac eithrio pan orfodir i wneud hynny oherwydd traffig llonydd.
Yn yr Alban RHAID I CHI BEIDIO â dwbl parcio na pharcio yn unrhyw le y mae’r cwrbyn wedi’i ostwng i helpu cerddwyr neu feicwyr. Caniateir eithriadau mewn amgylchiadau cyfyngedig.
Y ddeddf
Rheol 244
RHAID I CHI BEIDIO â pharcio’n rhannol neu’n gyfan gwbl ar y palmant yn Llundain neu’r Alban. Caniateir eithriadau mewn amgylchiadau cyfyngedig. Ni ddylech barcio’n rhannol neu’n gyfan gwbl ar y palmant yn rhywle arall heblaw bod arwyddion yn caniatáu hynny. Gall parcio ar y palmant rwystro ac achosi anghyfleustra difrifol i gerddwyr, pobl mewn cadeiriau olwyn neu â nam ar eu golwg a phobl â phramiau neu gadeiriau gwthio.
Y ddeddf a
Rheol 245
Parthau parcio a reolir. Mae’r arwyddion mynediad i’r parth yn dangos yr adegau y mae’r cyfyngiadau aros o fewn y parth mewn grym. Efallai y caniateir parcio mewn rhai mannau ar adegau eraill. Fel arall, bydd parcio o fewn cilfachau sydd wedi’u harwyddo a’u marcio ar wahân.
Rheol 246
Cerbydau nwyddau. ²Ñ²¹±ð‵µ RHAID i gerbydau sydd â’u pwysau llwythog o dros 7.5 o dunelli (gan gynnwys unrhyw drelar) BEIDIO â chael eu parcio ar lain ymyl, palmant neu unrhyw dir rhwng cerbydffyrdd, heb ganiatâd yr heddlu. Yr unig eithriad yw pan fo parcio’n hanfodol ar gyfer llwytho a dadlwytho, ac os felly ³¾²¹±ð‵µ RHAID I’R CERBYD BEIDIO â chael ei adael heb neb i ofalu amdano.
Y ddeddf
Rheol 247
Llwytho a dadlwytho. Peidiwch â llwytho na dadlwytho lle mae marciau melyn ar y palmant ac arwyddion unionsyth yn cynghori bod cyfyngiadau mewn grym (gweler ‘Marciau ffyrdd ‘). Gellir caniatáu hyn lle bo parcio’n gyfyngedig fel arall. Ar lwybrau coch, mae cilfachau penodol ag arwyddion a marciau yn dangos ble a phryd y caniateir llwytho a dadlwytho.
Y ddeddf a
Rheol 248
²Ñ²¹±ð‵µ RHAID I CHI BEIDIO â pharcio ar ffordd yn y nos sy’n wynebu cyfeiriad llif y traffig oni bai ei fod mewn lle parcio cydnabyddedig.
Deddfau a
Rheol 249
²Ñ²¹±ð‵µ RHAID i bob cerbyd arddangos goleuadau parcio pan fyddant wedi’u parcio ar ffordd neu gilfan ar ffordd sydd â therfyn cyflymder yn fwy na 30 mya (48 km/ya).
Y ddeddf
Rheol 250
Caniateir parcio ceir, cerbydau nwyddau nad ydynt yn fwy na 2500 kg o bwysau llawn, cerbydau annilys, beiciau modur a beiciau heb oleuadau ar ffordd (neu gilfan) â therfyn cyflymder o 30 mya (48 km/ya) neu lai os byddant:
-
o leiaf 10 metr (32 troedfedd) i ffwrdd o unrhyw gyffordd, yn agos at y palmant ac yn wynebu yng nghyfeiriad llif y traffig
-
mewn lle parcio cydnabyddedig neu gilfan.
²Ñ²¹±ð‵µ RHAID i gerbydau a threlars eraill, a phob cerbyd â llwythi sy’n gorhongian, BEIDIO â chael eu gadael ar ffordd yn y nos heb oleuadau ymlaen.
Deddfau a
Rheol 251
Parcio mewn niwl. ²Ñ²¹±ð‵µ beryglus iawn i barcio ar y ffordd mewn niwl. Os nad oes modd osgoi hyn, gadewch eich goleuadau parcio neu oleuadau ystlys ymlaen.
Rheol 252
Parcio ar fryniau. Os byddwch yn parcio ar fryn, dylech:
-
barcio yn agos at y cwrbyn a rhoi’r brêc llaw ymlaen yn gadarn
-
dewis gêr ymlaen a throi eich olwyn lywio i ffwrdd o’r cwrbyn wrth wynebu ar i fyny
-
dewis gêr bacio a throi eich olwyn lywio tuag at y cwrbyn wrth wynebu ar i lawr
-
defnyddio gêr ‘parcio’ os oes gan eich car focs gêr awtomatig.
Mae DPE yn dod yn fwyfwy cyffredin wrth i ragor o awdurdodau ymgymryd â’r rôl hon. Mae’r awdurdod traffig lleol yn cymryd cyfrifoldeb am orfodi llawer o droseddau parcio yn lle’r heddlu. Ceir manylion ychwanegol am DPE ar y gwefannau canlynol:
(tu allan i Lundain)
(tu mewn i Lundain)