Hanes niwclear y DU
Gwastraff ymbelydrol yn ei gyd-destun
Ein gwaddol niwclear
Mae’r Deyrnas Unedig yn arloeswr ym maes technoleg niwclear, ac yma yr agorwyd yr orsaf pŵer niwclear fasnachol gyntaf yn y byd yn 1956 yn Calder Hall ger Sellafield yn Cumbria. Mae pŵer niwclear wedi creu buddion mawr: mae wedi cyfrannu at amddiffyn, cynhyrchu trydan am dros 60 o flynyddoedd ac mae ein gwlad yn parhau i fod yn fenter niwclear flaenllaw yn fyd-eang.
Heddiw mae’r DU yn wynebu’r her o lanhau gwaddol ei gweithgareddau niwclear cynnar - rhaglen ar raddfa fawr a roddir ar waith gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA). Mae hynny’n cynnwys darparu datrysiadau arloesol ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol sy’n bodloni safonau diogelwch heddiw ac a fydd yn ein gwarchod i’r dyfodol pell.
Pam ein bod yn defnyddio ynni niwclear heddiw
Polisi Llywodraeth y DU yw cael cymysgedd eang o gyflenwadau ynni, felly rydym yn defnyddio niwclear yn ogystal â ffynonellau ynni eraill, megis nwy a solar. Heddiw mae ynni niwclear yn cynhyrchu tua un rhan o bump o drydan y wlad, ac o dan gynlluniau presennol y llywodraeth sy’n cynnwys , bydd peth o’n pŵer yn dod o ffynonellau niwclear yn y dyfodol.
Mae yna resymau pwysig pam fod niwclear yn rhan o’r gymysgedd:
-
mae’n ddewis carbon isel sy’n ategu amcanion y DU mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd: mae gorsafoedd pŵer niwclear yn cynhyrchu trydan heb allyrru nwyon tŷ gwydr megis carbon deuocsid a methan.
-
mae gorsafoedd pŵer niwclear yn cynhyrchu trydan 24 awr y dydd, beth bynnag fo’r tywydd
-
nid yw gorsafoedd pŵer niwclear angen cyflenwad dyddiol o danwydd newydd i weithredu, sy’n wahanol i orsafoedd nwy, glo a biomas
O ble arall y daw gwastraff ymbelydrol?
Ar wahân i gynhyrchu pŵer niwclear, daw gwastraff ymbelydrol o:
-
Meddygol - yn benodol defnyddir deunyddiau ymbelydrol i sterileiddio offer a helpu i ddiagnosio a thrin afiechydon meddygol.
-
Diwydiant - er enghraifft, defnyddir pelydrau gama i brofi ansawdd weldio neu drwch cynhyrchion, megis papur.
-
Amddiffyn - mae’n cynnwys gweithredu llongau tanfor pŵer niwclear a dadgomisiynu hen longau tanfor.
-
Ymchwil a datblygu - o dechnoleg ymasiad niwclear i ddatblygu triniaethau radiotherapi i brofi deunyddiau solid newydd ar gyfer mewngapsiwleiddio gwastraff ymbelydrol hylifol.
Mae’r rhestr lawn o’r gwastraff ymbelydrol sy’n bodoli yn ein gwlad yn cael ei diweddaru a’i chyhoeddi ar .
I ddysgu mwy am ymbelydredd, darllenwch neu lawrlwythwch Beth yw gwastraff ymbelydrol?
Beth sydd angen i ni ei wneud nawr
Mae angen rheoli’r gwastraff ymbelydrol sy’n deillio o gynhyrchu pŵer, meddygaeth a diwydiannau eraill yn ofalus. Ar hyn o bryd mae’r gwastraff presennol yn cael ei storio ar yr wyneb mewn mwy na 30 o safleoedd o gwmpas y DU. Gall y storfeydd yma ar yr wyneb fod yn ddiogel am nifer o ddegawdau, ond mae angen eu gwarchod yn barhaus er mwyn eu cadw’n ddiogel ac mewn cyflwr da, oherwydd mae’r gwastraff yn parhau’n ymbelydrol am gannoedd o filoedd o flynyddoedd.

Safleoedd niwclear yn y DU
Mae yna gonsensws rhyngwladol mai gwaredu daearegol yw’r ffordd fwyaf diogel o reoli gwastraff gweithgaredd uwch yn yr hirdymor, ac y bydd Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) yn sicrhau nad yw’r cyfrifoldeb o ddiogelu’r gwastraff hwn yn barhaus yn cael ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.

Beth fydd yn cael ei roi mewn GDF?
Ffeil wyddoniaeth
I gael mwy o wybodaeth am wastraff ymbelydrol, darllenwch ein ffeil wyddoniaeth, Beth yw gwastraff ymbelydrol?:
Ynglŷn â ni
Mae Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM) yn sefydliad cyhoeddus sy’n gyfrifol am waredu daearegol diogel yn y DU. Mwy o wybodaeth am RWM.
Os hoffech dderbyn hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau i’r tudalennau yma,