Sut y caiff eiddo domestig ei asesu ar gyfer bandiau Treth Gyngor
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn egluro sut y caiff eiddo domestig ei brisio ar gyfer bandiau Treth Gyngor.
Mae prisiadau Treth Gyngor yn seiliedig ar werth eiddo nad yw鈥檔 cael ei ddefnyddio at ddibenion busnes.
Mae鈥檙 gwerth yn seiliedig ar y pris y byddai鈥檙 eiddo wedi鈥檌 gael pe bai wedi鈥檌 werthu ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 1991 yn Lloegr ac 1 Ebrill 2003 yng Nghymru.
Pennir band i bob eiddo ar yr un sail, gan gynnwys eiddo a brynwyd o dan gynlluniau disgownt, megis Hawl i Brynu.
Ni chaiff y disgownt yn y pris prynu a gymhwysir at yr eiddo hwn ei ystyried wrth bennu鈥檙 band. Nid yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn defnyddio mynegeion pris eiddo ar gyfer gwybodaeth na phrisiadau
Bandiau Treth Gyngor yn Lloegr (yn seiliedig ar werthoedd 1 Ebrill 1991)
Band |
Gwerth ar 1 Ebrill 1991 |
A |
hyd at 拢40,000 |
B |
拢40,001 i 拢52,000 |
C |
拢52,001 i 拢68,000 |
D |
拢68,001 i 拢88,000 |
E |
拢88,001 i 拢120,000 |
F |
拢120,001 i 拢160,000 |
G |
拢160,001 i 拢320,000 |
H |
mwy na 拢320,000 |
Bandiau Treth Gyngor yng Nghymru (yn seiliedig ar werthoedd 1 Ebrill 2003)
Band |
Gwerth ar 1 Ebrill 2003 |
A |
hyd at 拢44,000 |
B |
拢44,001 i 拢65,000 |
C |
拢65,001 i 拢91,000 |
D |
拢91,001 i 拢123,000 |
E |
拢123,001 i 拢162,000 |
F |
拢162,001 i 拢223,000 |
G |
拢223,001 i 拢324,000 |
H |
拢324,001 i 拢424,000 |
I |
mwy na 拢424,000 |
Asesiadau bandiau Treth Gyngor
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn asesu eiddo i sicrhau ei fod yn y band Treth Gyngor cywir. Mae鈥檔 asesu peth eiddo yn awtomatig, er enghraifft pan fydd eiddo wedi鈥檌 wneud yn llai neu pan fydd eiddo鈥檔 cael ei adeiladu o鈥檙 newydd. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio hefyd yn asesu eiddo pan ofynnir iddi wneud hynny, megis yn ystod ap锚l Treth Gyngor neu yn ystod adolygiad bandiau.
Mae asesiadau鈥檔 seiliedig ar nifer o ffactorau, megis:
- maint yr eiddo
- cynllun yr eiddo
- cymeriad yr eiddo
- lleoliad yr eiddo
- newid yn y defnydd o鈥檙 eiddo
- gwerth yr eiddo ar 1 Ebrill 1991 (Lloegr) neu 1 Ebrill 2003 (Cymru)
Gwirio鈥檆h band Treth Gyngor yng Nghymru a Lloegr 苍别耻鈥檙 .
Gall eiddo sydd wedi cynyddu o ran maint symud i fand uwch pan gaiff ei brynu nesaf.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch yr asesiad o鈥檆h band Treth Gyngor cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Eiddo newydd
Pan fydd eiddo newydd wedi鈥檌 adeiladu, neu pan fydd eiddo sydd ohoni yn cael ei addasu ar gyfer defnydd domestig (er enghraifft, addasiad warws), bydd yn rhaid i鈥檙 eiddo gael band Treth Gyngor.
Os ydych wedi symud i mewn i eiddo sydd heb fand Treth Gyngor, dylech gysylltu 芒鈥檆h cyngor lleol.
Bydd y cyngor yn rhoi鈥檙 wybodaeth sydd ei hangen ar Asiantaeth y Swyddfa Brisio i bennu band.
Mae arweiniad ar gael ar sut i ddechrau talu Treth Gyngor.
Ymweliadau gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Os nad yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gallu cael digon o wybodaeth i bennu band i eiddo, bydd yn trefnu ymweliad.
Fel arfer, gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arni o鈥檙 tu allan, felly ni fydd angen iddi darfu arnoch.
Bydd yr arolygydd yn aml yn tynnu lluniau i arbed amser.
Yn gyffredinol, dim ond 1 neu 2 o luniau allanol sy鈥檔 angenrheidiol 鈥 fel y bydd asiant tai yn eu defnyddio. Os na all Asiantaeth y Swyddfa Brisio gael yr holl wybodaeth o鈥檙 tu allan, efallai y bydd yn gofyn am gael mynd i mewn i鈥檙 eiddo.
Os oes angen lluniau o鈥檙 tu mewn, ni fyddant yn cael eu tynnu heb eich caniat芒d.
Gellir ond cynnal archwiliadau gyda鈥檆h caniat芒d. Mae staff Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn archwilio eiddo yn unol 芒 chod ymarfer y llywodraeth ar roi pwerau mynediad ar waith.
Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn trefnu鈥檙 ymweliad pan fydd yn gyfleus i chi. Mae ymweliadau fel arfer yn cymryd rhwng 10 a 30 munud.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch 芒 ni. Mae鈥檙 manylion cyswllt i鈥檞 gweld ar y llythyr apwyntiad. Mae staff bob amser yn cario ac yn cyflwyno cardiau adnabod sy鈥檔 cynnwys eu llun.
Os yw rhywun yn honni bod angen archwilio鈥檆h cartref at ddibenion Treth Gyngor a bod gennych amheuon, peidiwch 芒 rhoi mynediad iddo.
Cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio i wirio a yw galwyr yn swyddogol os oes gennych unrhyw bryderon.
Ymholiadau
Ff么n (Cymru) 03000 505505
Ff么n (Lloegr) 03000 501501
Oriau agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 08:30 i 17:00. Ar gau ar wyliau鈥檙 banc.
Gwybodaeth am gostau galwadau: /costau-galwadau
Pennu bandiau ar gyfer tai amlbreswyliaeth
Gelwir eiddo domestig sydd ag anheddau ar wah芒n yn dai amlbreswyliaeth. Mae pob rhan o eiddo a osodir ar wah芒n yn gymwys fel annedd ar wah芒n gyda鈥檌 band ei hun. Efallai y bydd amgylchiadau pan all Asiantaeth y Swyddfa Brisio gyfuno鈥檙 bandiau.
Enghreifftiau
Tai amlbreswyliaeth heb fawr o addasiad, os o gwbl: Pan fo m芒n addasiadau wedi鈥檜 hychwanegu, gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio roi鈥檙 holl eiddo mewn un band.
Gallai hyn fod yn berthnasol pan fo cloeon drws yn cael eu hychwanegu a bod preswylwyr y rhannau a osodir ar wah芒n yn rhannu cegin ac ystafell ymolchi y t欧 gwreiddiol.
Tai amlbreswyliaeth gydag addasiadau i bob llawr: Gellir rhoi un band pan fo gan bob llawr o d欧 a osodir mewn rhannau gyfleusterau safonol a phan ellir trin pob llawr fel uned hunangynhaliol.
Mae hyn yn berthnasol pan fo meddianwyr y llawr yn rhannu cegin ac ystafell ymolchi.
Tai amlbreswyliaeth gydag ystafelloedd ar osod sydd wedi鈥檜 haddasu: Efallai y bydd ystafelloedd a osodir ar wah芒n mewn t欧 amlbreswyliaeth wedi鈥檜 haddasu, er enghraifft, fel bod ganddynt eu cegin fach eu hunain neu gawod/bath a thoiled ar wah芒n.
Byddant yn cael eu band eu hunain er y gallant rannu rhai cyfleusterau. Wrth benderfynu, bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ystyried i ba raddau y mae pob rhan wedi鈥檌 newid yn strwythurol.
Tai amlbreswyliaeth sydd wedi鈥檜 hadeiladu鈥檔 bwrpasol: Yn gyffredinol, ni fyddai鈥檙 mathau hyn o eiddo yn cael eu cyfuno a byddai asesiadau ar wah芒n ar gyfer pob uned fewnol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am dai amlbreswyliaeth.
Mae鈥檆h awdurdod lleol yn cyfrifo bil Treth Gyngor ar wah芒n ar gyfer pob eiddo y pennwyd band iddo ac yn casglu taliadau. Mae鈥檙 cyngor yn gyfrifol am weithredu鈥檙 disgowntiau 苍别耻鈥檙 eithriadau perthnasol.
Os ydych yn credu bod eich band yn anghywir, neu na ddylai鈥檆h cartref fod 芒 band o gwbl, efallai y byddwch yn gymwys i apelio.
Bandiau Treth Gyngor a rhandai
Os bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn penderfynu bod eich eiddo yn cynnwys mwy nag 1 llety byw ar wah芒n, efallai y codir t芒l arnoch am fwy nag un band Treth Gyngor.
Yn 么l y gyfraith, mae鈥檔 ofynnol i Asiantaeth y Swyddfa Brisio gyflwyno band Treth Gyngor ar wah芒n i bob:
鈥渁deilad, neu ran o adeilad, sydd wedi鈥檌 adeiladu neu ei addasu i鈥檞 ddefnyddio fel llety byw ar wah芒n鈥
Mae鈥檙 cyfarwyddiadau gweithredol a ddilynir wrth gymhwyso hyn i鈥檞 gweld yn Nodyn ymarfer 5: dadgyfuno anheddau yn llawlyfr Treth Gyngor Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Enghraifft
鈥淢ae teulu yn addasu dwy ystafell yn eu t欧 fel bod perthynas yn gallu byw gyda nhw.
Mae hyn yn cynnwys gosod offer cegin a thoiled a chawod yn ogystal 芒 chreu mynedfa unigol i鈥檙 rhandy newydd. Fel llety byw ar wah芒n, byddai angen band Treth Gyngor ei hun ar y rhandy hwn fel arfer.鈥
Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gwneud penderfyniad ar bob achos yn seiliedig ar natur benodol adeiladu a/neu addasu鈥檙 eiddo, megis:
- mynediad annibynnol i gyntedd, landin neu fan cyffredin arall, neu fynediad oddi wrth y rhain
- ei gyfleusterau ei hun ar gyfer cysgu a pharatoi bwyd
- cyfleusterau ymolchi a thoiled
Nodweddion ffisegol yn unig sy鈥檔 cael eu hystyried wrth benderfynu a yw man ychwanegol o lety byw yn bodoli o fewn eiddo domestig, nid sut y caiff ei ddefnyddio.
Mae dal angen band Treth Gyngor ar wah芒n os yw rhan o d欧, fflat neu eiddo domestig arall y gellid ei meddiannu ar wah芒n yn wag.
Os oes gennych randy, efallai y bydd gennych yr hawl i ryddhad gan yr awdurdod lleol. Cysylltwch 芒鈥檆h awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth.
Ni fyddai llety a feddiannir gan denantiaid yn cael ei drin fel rhandy, ond byddai ganddo ei fand Treth Gyngor ei hun o hyd.
Gweinyddir disgowntiau ac eithriadau amrywiol gan eich awdurdod lleol (cyngor).
Os ydych wedi cael gwared ar lety byw ar wah芒n drwy wneud newidiadau ffisegol i鈥檆h t欧, fflat neu eiddo domestig arall, dylech gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Dim ond os yw鈥檙 rhan o鈥檙 llety byw 苍别耻鈥檙 rhandy wedi鈥檌 newid yn ddigonol fel na ellid byw ynddo ar wah芒n mwyach y bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gallu tynnu band Treth Gyngor.
Nid yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gallu rhoi cyngor penodol ar unrhyw newidiadau a gynllunnir i eiddo. Gall ond esbonio sut y cymhwysir rheoliadau Treth Gyngor perthnasol.
Os ydych o鈥檙 farn bod eich eiddo wedi cael band Treth Gyngor ychwanegol yn anghywir, mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
Talu Treth Gyngor
Mae鈥檆h awdurdod lleol (cyngor) yn pennu cyfraddau ac yn casglu鈥檆h taliadau Treth Gyngor.
Gallwch gael hyd i鈥檙 cyfraddau Treth Gyngor a bennir gan eich awdurdod lleol.
Mae鈥檔 bosibl talu鈥檆h Treth Gyngor ar-lein.
Sut mae eiddo yn cael eu mesur at ddibenion Treth Gyngor
Caiff tai eu mesur ar sail Arwynebedd Dan Do wedi鈥檌 Leihau (RCA) ac mae fflatiau鈥檔 cael eu mesur ar sail Arwynebedd Llawr Effeithiol (EFA).
Arwynebedd dan do wedi鈥檌 leihau (RCA)
Mae鈥檙 RCA yn cynnwys yr arwynebedd sydd dan do o fewn y waliau allanol, wedi鈥檌 fesur yn allanol.
Mae鈥檙 RCA yn eithrio鈥檙 isod (h.y. tynnir y canlynol o鈥檙 arwynebedd dan do):
- bargod bondo
- balcon茂au agored
- llwybrau dan do a choridorau allanol
- arwynebeddau llofft heb eu trosi
- garejys cysylltiedig a rhai integrol*
- golchdai* a storfeydd tanwydd*/bynceri glo
- ystafelloedd gwydr* a phortshys*
- unrhyw estyniad o natur dros dro neu o ansawdd sylweddol is i鈥檙 brif annedd*.
- lle bo atriwm, dim ond y lefel isaf y dylid ei chynnwys (mae grisiau, fodd bynnag, yn cael eu cynnwys ar bob lefel)
Os bydd unrhyw un o鈥檙 eitemau ar y rhestr* yn cael eu cyrraedd o鈥檙 prif d欧 ac wedi鈥檜 gorffen i safon debyg, byddant yn cael eu cynnwys yn y mesuriad.
Mae adeiladau allanol yn cael eu cofnodi ar wah芒n.
Mae arwynebeddau mewnol sydd ag uchder o dan 1.5m wedi鈥檜 heithrio 鈥 heblaw am arwynebeddau o dan y grisiau. Mae trwch wal allanol tybiannol yn cael ei ychwanegu at bob dimensiwn cyn cyfrifo鈥檙 arwynebeddau er mwyn cynnal cysondeb e.e. mewn byngalos cabanau gwyliau neu drosiadau llofft gyda nenfydau ar oleddf.
Sylwer: RCA o鈥檌 chymharu ag Arwynebedd Allanol Gros (GEA)
Mae GEA yn cael ei ddefnyddio yn bennaf yn y diwydiant eiddo i fesur adeiladau annomestig. Mae鈥檔 cynnwys garejys, cromgelloedd o dan y palmant, mannau llwytho, adeiladau allanol sy鈥檔 rhannu o leiaf un wal gyda鈥檙 prif adeilad, ystafelloedd gwydr, balcon茂au mewnol a storfeydd tanwydd.
Mae diffiniad VOA o RCA yn wahanol iawn i ddiffiniad RICS o GEA.
Mesur trosiadau llofft gyda nenfydau ar oleddf a gwneud addasiadau o ran trwch wal
Dim ond arwynebeddau dros uchder o 1.5m sydd wedi鈥檜 cynnwys. Mae swm ar gyfer trwch wal allanol tybiannol yn cael ei ychwanegu at bob mesuriad (ar gyfer t欧) er mwyn ei addasu i RCA.
- waliau ceudod allanol - gweler y tabl isod am ychwanegiadau ar gyfer pob wal
- waliau allanol solet - ychwanegu 23cm ar gyfer pob wal
Y Math o Wal | Ychwanegu | ||
---|---|---|---|
听 | Waliau Ceudod | Eiddo a/neu estyniadau a adeiladwyd cyn 1995 | 28cm |
听 | Eiddo ac estyniadau a adeiladwyd rhwng 1995 a 2002 | 30.5cm | 听 |
听 | Eiddo ac estyniadau a adeiladwyd yn 2002-2022 | 33cm | 听 |
听 | Eiddo ac estyniadau a adeiladwyd o 2022 ymlaen* | 35.5cm | 听 |
Isloriau
Mae arwynebeddau islawr sydd wedi鈥檜 gorffen i safon llety鈥檙 prif d欧 wedi鈥檜 cynnwys yn yr RCA. Mae trwch wal allanol tybiannol yn cael ei ychwanegu at y mesuriadau mewnol i gyfrifo ffigur yr RCA.
*Newidiodd rheoliadau adeiladu ym mis Mehefin 2022 i鈥檞 gwneud hi鈥檔 ofynnol cael bwlch wal o 125mm. Mae cyfnod pontio i鈥檞 gael, felly ni fydd hyn yn berthnasol i eiddo lle gwnaed y cais cynllunio cyn Mehefin 2022 a lle dechreuodd y gwaith cyn Mehefin 2023.
Arwynebedd llawr effeithiol (EFA)
Arwynebedd Llawr Effeithiol (EFA) yw arwynebedd ystafelloedd y gellir ei ddefnyddio o fewn annedd, wedi鈥檌 fesur hyd at wyneb mewnol waliau鈥檙 ystafelloedd hynny. Defnyddir y sail hon o fesur ar gyfer fflatiau.
Mae hyn yn eithrio鈥檙 canlynol:
- cynteddau a phennau grisiau
- cypyrddau mewn arwynebeddau sydd wedi鈥檜 heithrio
- colofnau, pierau, brestiau simnai ac ati.
- ystafelloedd ymolchi/toiledau/cawodydd
- pob man sydd ag uchder sy鈥檔 llai na 1.5m
- arwynebeddau a gwmpesir gan waliau styd a phartisiynau
Mae EFA yn cynnwys yr arwynebedd a feddiannir gan unedau neu gypyrddau gosod mewn ystafelloedd mesuredig. Mae hefyd yn cynnwys arwynebedd storfeydd a chypyrddau mawr y mae modd cerdded i mewn iddynt, a鈥檜 cyrraedd o鈥檙 tu mewn i鈥檙 annedd.
Sylwer: EFA o鈥檌 chymharu ag Arwynebedd Mewnol Net (NIA)
Arwynebedd Mewnol Net (NIA) yw鈥檙 arwynebedd y gellir ei ddefnyddio o fewn adeilad, wedi鈥檌 fesur hyd at wyneb mewnol waliau perimedr ar bob llawr. Mae鈥檔 cynnwys arwynebeddau sydd wedi鈥檜 hamg谩u a鈥檜 croesi gan bartisiynau an-strwythurol, megis coridorau. Mae coridorau ond yn cael eu heithrio os maent yn cael eu defnyddio鈥檔 gymunedol.
Mae EFA yn cael ei gydnabod yng nghod Ymarfer Mesur RICS.
Mae rhestr fechan o awdurdodau bilio yn Lloegr lle nad yw fflatiau yn cael eu mesur yn 么l EFA. Nid yw鈥檔 effeithio ar sut rydym yn asesu eich Band.
Updates to this page
-
'How properties are measured for Council Tax purposes' has been added.
-
We have amended the guidance to include changes to English HMOs
-
The contents on this page were updated in all sections.
-
Added translation
-
Added Welsh translation.
-
Consolidation of information of two pages ('Banding of houses in multi occupation (HMOs)' and 'Council Tax bands and annexes')
-
First published.