Canllawiau

Sancsiynau Credyd Cynhwysol

Gellir lleihau eich taliadau Credyd Cynhwysol os na fyddwch yn cwblhau eich gweithgareddau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith y cytunwyd arnynt heb reswm da. Gelwir hyn yn sancsiwn.

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland

Beth yw sancsiwn

I gael taliadau Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi dderbyn cytundeb o鈥檙 enw 鈥榶mrwymiad hawlydd鈥. Mae hyn yn cynnwys 鈥榞ofynion sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith鈥 - unrhyw weithgareddau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith y mae鈥檔 rhaid i chi eu cwblhau i dderbyn Credyd Cynhwysol.

Bydd yr hyn y mae鈥檔 rhaid i chi ei wneud yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gallai gynnwys:

  • apwyntiadau gyda鈥檆h anogwr gwaith

  • 诲颈飞别诲诲补谤耻鈥檆丑 CV

  • chwilio am swyddi

Mae鈥檔 rhaid i chi wneud popeth rydych chi鈥檔 cytuno iddo fel rhan o鈥檆h ymrwymiad neu efallai y bydd eich taliad yn cael ei leihau. Gelwir hyn yn sancsiwn.

Sut i osgoi sancsiwn

Gwnewch yn si诺r eich bod yn deall:

  • yr holl bethau y mae鈥檔 rhaid i chi eu gwneud i dderbyn Credyd Cynhwysol

  • beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn cwblhau un neu fwy o鈥檆h gweithgareddau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith

Er mwyn osgoi sancsiwn, mae鈥檔 rhaid i chi wneud popeth rydych chi wedi cytuno iddo fel rhan o鈥檆h ymrwymiad hawlydd, fel:

  • mynd i bob apwyntiad Credyd Cynhwysol ar amser a chymryd rhan mewn cyfweliadau

  • gwneud popeth rydych wedi cytuno i鈥檞 wneud i ddod o hyd i waith, fel cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi a gwneud cais am swyddi addas

Gwnewch yn si诺r bod eich ymrwymiad hawlydd yn seiliedig ar eich amgylchiadau presennol drwy roi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau.

Os na allwch gwrdd 芒鈥檆h ymrwymiadau

Os na allwch wneud y pethau yn eich ymrwymiad hawlydd, rhaid i chi gysylltu 芒 ni ar unwaith drwy ychwanegu nodyn at eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol, neu drwy ddefnyddio鈥檙 manylion cyswllt a ddarperir gan eich anogwr gwaith.

Er enghraifft, os:

  • oes gennych apwyntiad ysbyty ar yr un pryd 芒 chyfarfod gyda ni

  • rydych yn mynd yn s芒l yn annisgwyl ac yn methu 芒 gwneud gweithgaredd sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith

  • mae argyfwng domestig yn golygu na allwch fynd i gyfweliad am swydd

Os penderfynwn fod gennych reswm da, ni fydd eich taliad yn cael ei leihau. Os penderfynwn nad oedd gennych reswm da, efallai y byddwch yn cael sancsiwn.

Os ydych yn cael sancsiwn

Os ydych yn cael sancsiwn, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf, neu gyfres o daliadau, yn cael ei leihau. Byddwch yn cael neges dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol neu lythyr yn dweud wrthych:

  • o faint mae eich taliad yn cael ei leihau

  • am ba hyd y gall y sancsiwn barhau neu beth sydd angen i chi ei wneud i ddod 芒鈥檙 sancsiwn i ben

  • beth rydych wedi methu ei wneud

Ni fydd gennych 2 sancsiwn ar unwaith, ond gall sancsiynau redeg gefn wrth gefn.

O faint fydd eich taliadau yn cael eu lleihau gan

Mae sancsiwn yn lleihau swm y lwfans safonol o Gredyd Cynhwysol rydych chi鈥檔 ei dderbyn.

Bydd eich taliadau yn cael eu lleihau 100% o gyfradd lwfans safonol Credyd Cynhwysol ar gyfer pob diwrnod y mae鈥檙 sancsiwn mewn lle. Fodd bynnag, os ydych yn 16 neu 17 oed, neu os mai eich unig gyfrifoldeb yw mynychu apwyntiadau gyda ni i drafod gwaith, bydd eich taliadau鈥檔 cael eu lleihau gan 40% o鈥檙 gyfradd lwfans safonol ar gyfer pob diwrnod mae鈥檙 sancsiwn mewn lle.

Os yw eich taliadau eisoes wedi鈥檜 lleihau oherwydd enillion neu incwm arall ac nad oes digon o鈥檆h Credyd Cynhwysol i gymryd swm llawn y sancsiwn, bydd eich taliadau鈥檔 cael eu gostwng i ddim ac ystyrir bod y sancsiwn yn cael ei chymhwyso鈥檔 llawn.

Os ydych yn cael symiau ychwanegol ar ben eich lwfans safonol, fel ar gyfer plant neu gostau tai, bydd y rhain yn dal i gael eu talu i chi.

Efallai y byddwch yn colli鈥檆h hawl i fudd-daliadau eraill, fel cymorth ariannol gyda chostau鈥檙 GIG os cewch sancsiwn.

Cyfraddau lleihau dyddiol

Eich amgylchiadau Cyfradd lleihau 100% y diwrnod Cyfradd lleihau 40% y diwrnod
Sengl dan 25 oed 拢10.40 拢4.10
Sengl 25 neu drosodd 拢13.10 拢5.20
Hawlwyr ar y cyd o dan 25 oed (fesul hawlydd sydd wedi鈥檜 sancsiynu) 拢8.10 拢3.20
Hawlwyr ar y cyd, un neu鈥檙 ddau 25 neu drosodd (fesul hawlydd sydd wedi鈥檜 sancsiynu) 拢10.30 拢4.10

Gallai eich cyfradd lleihau dyddiol newid os bydd swm y Credyd Cynhwysol rydym yn ei dalu neu eich amgylchiadau鈥檔 newid.

Pryd efallai y bydd gennych lai o arian yn cael ei dynnu i ffwrdd

Efallai y bydd gennych lai o arian yn cael ei dynnu i ffwrdd o鈥檆h Credyd Cynhwysol mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft:

  • rydych yn gofalu am blant ifanc a phobl ag anableddau

  • rydych yn feichiog ac mae disgwyl i鈥檆h babi gael ei eni mewn llai nag 11 wythnos

  • rydych wedi cael babi llai na 15 wythnos yn 么l

  • rydych yn mabwysiadu plentyn, ac mae鈥檔 llai na blwyddyn ers i鈥檙 plentyn gael ei leoli gyda chi

Lefelau o sancsiwn

Mae 4 lefel sancsiwn yn dibynnu ar ba gr诺p gweithgaredd sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith (neu 鈥榓modoldeb鈥) rydych chi ynddo.

Y lefelau sancsiwn yw:

Sancsiynau lefel isaf

Ar gyfer beth mae鈥檙 rhain

Efallai y cewch y sancsiwn isaf os mai eich unig gyfrifoldeb yw cymryd rhan mewn apwyntiadau gyda ni i drafod gwaith, ac nid ydych yn cymryd rhan heb reswm da.

Am faint o amser maent yn para

Mae鈥檙 sancsiynau hyn yn para o ddyddiad yr apwyntiad tan y diwrnod cyn i chi gysylltu 芒 ni i drefnu un newydd. Mae鈥檔 rhaid i chi gymryd rhan yn yr apwyntiad newydd.

Sancsiynau lefel isel

Ar gyfer beth mae鈥檙 rhain

Mae鈥檙 rhan fwyaf o sancsiynau Credyd Cynhwysol yn lefel isel. Maent yn gysylltiedig 芒鈥檙 hyn y disgwylir i chi ei wneud i gael eich Credyd Cynhwysol.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael sancsiwn lefel isel os, heb reswm da, byddwch yn methu:

  • mynychu a chymryd rhan mewn cyfweliadau neu apwyntiadau sy鈥檔 canolbwyntio ar waith, ac nid yw sancsiwn lefel isaf yn berthnasol

  • darparu tystiolaeth sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith rydym wedi gofyn amdani

  • rhoi gwybod am newidiadau yn ymwneud 芒 gwaith fel colli t芒l

  • mynd i neu gymryd rhan mewn cwrs hyfforddi neu gynllun cyflogaeth sydd wedi鈥檌 argymell fel rhan o鈥檆h paratoi am waith

  • cymryd camau penodol i gael gwaith cyflogedig, neu i gynyddu eich enillion o waith

Am faint o amser maent yn para os ydych chi鈥檔 18 oed neu drosodd

Mae sancsiwn lefel isel fel arfer yn para o鈥檙 dyddiad y gwnaethoch fethu 芒 gwneud y weithgaredd y cawsoch eich sancsiwn amdano, tan y diwrnod cyn i chi wneud y weithgaredd, ynghyd 芒 nifer penodol o ddiwrnodau ychwanegol.

Os nad ydych wedi derbyn sancsiwn yn ystod y 365 diwrnod diwethaf, 7 yw鈥檙 nifer sefydlog o ddiwrnodau ychwanegol fel arfer.

Enghraifft

Mae Tom yn 20. Roedd i fod i fynychu cwrs hyfforddi a argymhellwyd gan ei anogwr gwaith, ond anghofiodd fynd.聽

Nid oes ganddo reswm da dros beidio 芒 mynychu.聽

Mae鈥檔 mynd i鈥檙 sesiwn hyfforddi nesaf 3 diwrnod yn ddiweddarach.聽

Dyma鈥檙 tro cyntaf iddo gael ei gosbi.聽

Ei gyfnod sancsiwn fydd 2 ddiwrnod a 7 diwrnod ychwanegol = 9 diwrnod.

Os cawsoch sancsiwn yn ystod y 365 diwrnod diwethaf, mae鈥檙 nifer sefydlog o ddiwrnodau ychwanegol a ychwanegir at eich sancsiwn nesaf fel arfer yn dibynnu ar faint o ddyddiau ychwanegol y mae eich sancsiwn ddiweddaraf yn ei gynnwys:

Dyddiau ychwanegol wedi鈥檜 hychwanegu at eich sancsiwn diweddaraf Dyddiau ychwanegol wedi鈥檜 hychwanegu at hyd eich sancsiwn nesaf
7 diwrnod ychwanegol 14 diwrnod ychwanegol
14 diwrnod ychwanegol 28 diwrnod ychwanegol
28 diwrnod ychwanegol 28 diwrnod ychwanegol

Os oedd eich sancsiwn lefel isel flaenorol o fewn y 14 diwrnod diwethaf, nid yw nifer y diwrnodau ychwanegol a ychwanegir at eich sancsiwn nesaf yn codi. Mae鈥檙 diwrnodau ychwanegol yr un nifer ag a gawsoch am eich sancsiwn ddiweddaraf.

Am faint o amser maent yn para os ydych chi鈥檔 16 neu 17 oed

Os na chawsoch sancsiwn lefel isel yn ystod y 365 diwrnod diwethaf, mae sancsiwn lefel isel fel arfer yn para o鈥檙 dyddiad y gwnaethoch fethu 芒 gwneud y weithgaredd y cawsoch sancsiwn amdano, tan y diwrnod cyn i chi wneud y weithgaredd.

Os cawsoch sancsiwn lefel isel yn ystod y 15 i 365 diwrnod diwethaf, mae eich sancsiwn fel arfer yn para o鈥檙 dyddiad y gwnaethoch fethu 芒 gwneud y weithgaredd y cawsoch sancsiwn amdano, tan y diwrnod cyn i chi wneud y weithgaredd, ynghyd 芒 7 diwrnod ychwanegol.

Os oedd eich sancsiwn lefel isel ddiweddaraf o fewn y 14 diwrnod diwethaf, mae eich sancsiwn fel arfer yn para o鈥檙 dyddiad y gwnaethoch fethu 芒 gwneud y weithgaredd y cawsoch sancsiwn amdano, tan y diwrnod cyn i chi wneud y weithgaredd, ynghyd 芒鈥檙 un nifer o ddiwrnodau ychwanegol oedd eich sancsiwn ddiweddaraf yn ei gynnwys.

Sancsiynau lefel canolradd

Ar gyfer beth mae鈥檙 rhain

Os nad ydych yn gwneud digon i chwilio am waith neu os nad ydych ar gael i weithio, efallai y cewch sancsiwn lefel canolradd.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael sancsiwn lefel canolradd os, heb reswm da, rydych:

  • yn gorfod chwilio am waith, ond nid ydych yn gwneud cais am swydd benodol pan ofynnir i chi wneud hynny

  • ddim yn cymryd pob cam rhesymol i ddod o hyd i waith cyflogedig neu gynyddu eich enillion o waith

  • yn gorfod bod ar gael ar gyfer cyfweliadau am swydd, ond nid ydych ar gael i fynd i gyfweliadau na dechrau gweithio

  • yn gorfod bod ar gael ar gyfer gwaith, ond nid ydych yn gallu na bod yn barod i wneud gwaith 芒 th芒l ar unwaith

Am faint o amser maent yn para

Byddwch yn cael eich sancsiynu am 28 diwrnod (4 wythnos) am eich sancsiwn lefel canolradd cyntaf mewn unrhyw gyfnod o 365 diwrnod. Os ydych wedi cael sancsiwn lefel canolradd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond nid o fewn y 14 diwrnod diwethaf, gallai鈥檙 sancsiwn bara am 91 diwrnod (13 wythnos).

16 a 17 oed

Os ydych yn 16 neu 17 oed, bydd sancsiwn lefel canolradd fel arfer yn 7 diwrnod. Os ydych chi wedi cael sancsiwn lefel canolradd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bydd y sancsiwn fel arfer yn 14 diwrnod.

Sancsiynau lefel uchel

Ar gyfer beth mae鈥檙 rhain

Mae sancsiwn lefel uchel ar gyfer rhai mathau o fethiannau sy鈥檔 ymwneud 芒 gwaith cyflogedig.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael sancsiwn lefel uchel os ydych:

  • yn gorfod chwilio am waith, ond nid ydych yn gwneud cais am swydd benodol pan ofynnir i chi wneud hynny heb reswm da

  • yn gorfod bod ar gael ar gyfer gwaith, ond nid ydych yn derbyn swydd sy鈥檔 cael ei chynnig i chi heb reswm da

  • yn gadael swydd neu golli cyflog drwy ddewis tra鈥檔 hawlio Credyd Cynhwysol neu ychydig cyn i chi hawlio, heb reswm da

  • yn gadael swydd neu golli t芒l oherwydd camymddwyn, tra鈥檔 hawlio Credyd Cynhwysol neu ychydig cyn i chi hawlio

Am faint o amser maent yn para

Byddwch yn cael eich sancsiynu am 91 diwrnod (tua 3 mis) am eich sancsiwn lefel uchel gyntaf mewn unrhyw gyfnod o 365 diwrnod. Os ydych wedi cael sancsiwn lefel uchel o鈥檙 blaen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond nid o fewn y 14 diwrnod diwethaf, gall y sancsiwn fod hyd at uchafswm o 182 diwrnod (tua 6 mis).

Os byddwch yn gadael gwaith neu鈥檔 methu 芒 derbyn cynnig swydd cyn i chi hawlio Credyd Cynhwysol mae yna reolau arbennig ar gyfer pa mor hir y bydd eich sancsiwn yn para.

16 a 17 oed

Os ydych yn 16 neu 17 oed, bydd sancsiwn lefel uchel fel arfer yn 14 diwrnod. Os ydych chi wedi cael sancsiwn lefel uchel yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bydd y sancsiwn fel arfer yn 28 diwrnod.

Os ydych yn anghytuno 芒 phenderfyniad sancsiwn

Os ydych yn anghytuno 芒 phenderfyniad sancsiwn, neu os oes gennych fwy o dystiolaeth, gallwch ofyn am adolygiad. Gelwir hyn yn ailystyriaeth orfodol.

Gallwch wneud hyn drwy roi nodyn yn eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol, dros y ff么n, wyneb yn wyneb neu yn ysgrifenedig. I gael gwybod mwy, gweler Herio penderfyniad budd-daliadau (ailystyriaeth orfodol).

Cymorth ariannol os yw eich taliad yn cael ei leihau

Os na allwch dalu am eich anghenion rhent, gwres, bwyd neu hylendid oherwydd eich bod wedi cael sancsiwn, gallwch ofyn am daliad caledi.

Byddwch yn ad-dalu鈥檙 taliad caledi trwy eich taliadau Credyd Cynhwysol. Bydd y rhain yn is hyd nes y byddwch yn ei dalu鈥檔 么l.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Ebrill 2025 show all updates
  1. From 7 April, daily reduction rates increased.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon