Cyfrifo eich rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu
Dysgwch sut i gyfrifo eich rhyddhad Treth Gorfforaeth Ymchwil a Datblygu ar gyfer eich Ffurflen Dreth y Cwmni.
Mae’n bosibl y bydd camau eraill y bydd yn rhaid i chi eu cymryd cyn i chi gyfrifo eich rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu. Gwiriwch y camau y mae angen i chi eu cymryd i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu’n gywir.
Mae angen i chi gyfrifo’ch rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu fel y gallwch gynnwys y manylion hyn ar eich ffurflen gwybodaeth ychwanegol cyn i chi wneud hawliad ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni.Ìý
Mae 4 math gwahanol o ryddhad treth Ymchwil a Datblygu, mae’r un rydych yn ei ddefnyddio yn dibynnu ar bryd y dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2024, mae’r cynlluniau’r canlynol ar gael:
-
Credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC)
-
rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu ar gyfer menter bach a chanolig (MBaCh)
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, mae’r cynlluniau canlynol ar gael:
-
y cynllun cyfun
-
cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (ERIS)
Os ydych yn hawlio Credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC)
Mae credyd gwariant yn gredyd treth, a gall gael ei hawlio gan gwmnïau mawr a rhai MBaChau. Cael gwybod a ydych yn gymwys ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu.ÌýÌý
Dilynwch y camau hyn i gyfrifo’r credyd gwariant.Ìý
-
Cyfrifwch y costau sy’n ymwneud â’ch gwaith Ymchwil a Datblygu — .
-
Ychwanegwch yr holl gostau at ei gilydd.Ìý
-
Lluoswch y ffigur â’r gyfradd credyd gwariant i gyfrifo’r credyd gwariant.
Cyfraddau credyd gwariantÂ
Y gyfradd credyd gwariant ar gostau ar gyfer y cyfnodau canlynol:Â
-
o 1 Ebrill 2015 hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 2017 yw 11%Â
-
o 1 Ionawr 2018 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2020 yw 12%Â
-
o 1 Ebrill 2020 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2023 yw 13%Â
-
o 1 Ebrill 2023 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2024 yw 20%
Os ydych yn hawlio rhyddhad treth ar gyfer menter mach a mhanolig (MBaCh)Ìý
I weld a ydych yn gymwys ar gyfer ryddhad treth menter bach a chanolig, gwiriwch yr arweiniad ynghylch mentrau bach a chanolig a’r amod dwyster.Ìý
Dilynwch y camau hyn i gyfrifo’r rhyddhad.
-
Cyfrifwch y costau sy’n ymwneud â’ch gwaith Ymchwil a Datblygu — .Ìý
-
Ychwanegwch yr holl gostau at ei gilydd — dyma’ch gwariant cymhwysol.
-
Lluoswch eich gwariant cymwysol â 86% — dyma swm y didyniad rhyddhad Ymchwil a Datblygu ychwanegol.
-
Lluoswch eich gwariant cymwysol â 186% — dyma swm y gwariant uwch.
Os ydych wedi gwneud colled masnachu
Gallwch ddewis ildio ba un bynnag o’r canlynol sy’n is yn gyfnewid am gredyd treth daladwy:
-
swm y gwariant uwch a gyfrifoch yng ngham 4
-
cyfanswm y golled masnachu ar ôl i chi gymryd y didyniad rhyddhad Ymchwil a Datblygu ychwanegol a gyfrifoch yng ngham 3
Mae’r credyd treth taladwy yn:
-
14.5% o swm y golled rydych wedi’i ildio os yw’ch cwmni yn bodloni’r amod dwyster
-
10% o swm y golled rydych wedi’i ildio os nad yw’ch cwmni yn bodloni’r amod dwyster
I weld a ydych yn bodloni’r amod dwyster gwiriwch yr arweiniad ynghylch mentrau bach a chanolig a’r amod dwyster.Ìý
Ni all y credyd treth yr ydych yn ei hawlio fod yn fwy na’r cap TWE, oni bai eich bod wedi’ch esemptio o’r cap.ÌýI weld beth sy’n digwydd os yw’ch credyd yn fwy na’r cap TWE, gwiriwch yr arweiniad ynghylch mentrau bach a chanolig a’r amod dwyster.
Os ydych yn hawlio o dan y cynllun cyfun
Mae’r cynllun cyfun yn gredyd gwariant trethadwy, a gall gael ei hawlio gan gwmnïau masnachu sy’n gymwys. I weld a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun cyfun, gwiriwch yr arweiniad ynghylch cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys a’r cynllun cyfun.
Dilynwch y camau hyn i gyfrifo’r credyd gwariant.Ìý
-
Cyfrifwch y costau sy’n ymwneud â’ch gwaith Ymchwil a Datblygu — .
-
Ychwanegwch yr holl gostau at ei gilydd.
-
Lluoswch y ffigur â 20% i gael swm y credyd gwariant.Ìý
Ni all swm y credyd gwariant a gewch yn y cyfnod cyfrifyddu fod yn fwy na’r cap TWE, oni bai eich bod wedi’ch esemptio o’r cap. I weld beth sy’n digwydd os yw’ch credyd yn fwy na’r cap TWE, gwiriwch yr arweiniad ynghylch cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys a’r cynllun cyfun.
Os ydych yn hawlio cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (ERIS)
Mae’r cynllun ERIS ar gyfer MBaChau ag Ymchwil a Datblygu dwys, sy’n gwneud colled, sydd â chyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024.
Os ydych chi’n MBaCh ag Ymchwil a Datblygu dwys sy’n gwneud colled, gallwch ddewis hawlio o dan y cynllun cyfun neu’r cynllun ERIS. Ni allwch hawlio o dan y ddau gynllun am yr un costau.
I weld a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun ERIS, gwiriwch yr arweiniad ynghylch cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys a’r cynllun cyfun.
-
Cyfrifwch y costau sy’n ymwneud â’ch gwaith Ymchwil a Datblygu — .
-
Ychwanegwch yr holl gostau at ei gilydd — dyma’ch gwariant cymhwysol.
-
Lluoswch eich costau cymhwysol â 86% — dyma swm y didyniad rhyddhad Ymchwil a Datblygu ychwanegol.
-
Lluoswch eich costau cymhwysol â 186% — dyma swm y gwariant uwch.
Gallwch ddewis ildio ba un bynnag o’r canlynol sy’n is yn gyfnewid am gredyd treth daladwy:
-
swm y gwariant uwch a gyfrifoch yng ngham 4
-
cyfanswm y golled masnachu ar ôl i chi gymryd y didyniad rhyddhad Ymchwil a Datblygu ychwanegol a gyfrifoch yng ngham 3
Mae’r credyd treth taladwy yn 14.5% o’r swm rydych wedi’i ildio. Ni all y credyd treth yr ydych yn ei hawlio fod yn fwy na’r cap TWE, oni bai eich bod wedi’ch esemptio o’r cap. I weld beth sy’n digwydd os yw’ch credyd yn fwy na’r cap TWE, gwiriwch yr arweiniad ynghylch cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys a’r cynllun cyfun.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf Â
Ar ôl i chi gyfrifo’ch rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu, mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen gwybodaeth ychwanegol cyn i chi hawlio.