Datrys problemau gyda rhedeg cyflogres

Printable version

1. Nid yw’ch bil TWE yr hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl

Bob mis mae’n rhaid i chi dalu Cyllid a Thollau EF (CThEF) yr hyn sydd arnoch fel rhan o redeg y gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer eich cyflogeion.

Mae yna bethau y dylech eu gwirio os nad yw’ch bil TWE yr hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl wrth i chi fwrw golwg dros eich .

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Yr hyn i’w wirio

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi anfon eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (yn agor tudalen Saesneg) (FPS) ²Ô±ð³Ü’c³ó Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg) (EPS) mewn da bryd i’r cyfrif allu cael ei ddiweddaru.

Dylech hefyd wirio eich bod wedi gwneud y canlynol:

  • defnyddio’r dyddiad y gwnaethoch dalu’ch cyflogeion ar eich adroddiad FPS, nid y dyddiad y gwnaethoch ei anfon
  • adrodd manylion eraill yn eich FPS yn gywir, er enghraifft cyflog a didyniadau
  • adrodd eich EPS yn gywir, er enghraifft er mwyn adennill unrhyw gyflog statudol
  • talu’r swm cywir i CThEF yn flaenorol - mae’n bosibl eich bod wedi talu gormod neu rhy ychydig os oedd eich adroddiadau yn anghywir

Cyflogeion yn dechrau ac yn gadael

Gwiriwch eich bod wedi rhoi gwybod yn gywir am unrhyw gyflogeion sy’n dechrau (yn agor tudalen Saesneg) neu gyflogeion sy’n gadael (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n bosibl y cewch fil anghywir a chofnodion cyflogres dyblyg os gwnaethoch gamgymeriad. Fel arfer, caiff y ddau eu cywiro’n awtomatig – cysylltwch â CThEF os yw’ch bil TWE yn dal i fod yn anghywir erbyn y 12fed o’r mis treth nesaf.

Cywiro gwallau

Os byddwch yn dod o hyd i gamgymeriad, dilynwch yr arweiniad er mwyn:

Gallwch hefyd gywiro camgymeriadau os gwnaethoch dalu’r swm anghywir i’ch cyflogai neu gwnaethoch ddidyniadau anghywir.

Help i gywiro’ch bil TWE

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen help arnoch.

2. Gwnaethoch gamgymeriad yn eich FPS ²Ô±ð³Ü’c³ó EPS

Mae’n bosibl y bydd eich bil TWE yn anghywir os gwnaethoch gamgymeriad yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) ²Ô±ð³Ü’c³ó Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS). Mae’n bosibl bydd yn rhaid i chi gywiro’r canlynol:

Bydd cosb yn cael ei chodi arnoch am gamgymeriad dim ond os nad oeddech wedi cymryd gofal rhesymol neu os oedd yn fwriadol.

Os ydych wedi rhoi gwybod am y cyflog neu ddidyniadau anghywir

I gywiro camgymeriad a wnaed yn y flwyddyn dreth bresennol, diweddarwch y ffigurau ar gyfer y flwyddyn hyd yma yn eich FPS rheolaidd nesaf.

Mae’r rheolau’n wahanol os byddwch yn dod o hyd i gamgymeriad yn eich FPS olaf ar gyfer y flwyddyn (yn agor tudalen Saesneg).

Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod y blynyddoedd treth rhwng 6 Ebrill 2020 a 5 Ebrill 2025

Cyflwynwch FPS arall yn dangos y ffigurau cywir ar gyfer y flwyddyn hyd yma.

Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod y flwyddyn treth rhwng 6 Ebrill 2019 a 5 Ebrill 2020

Gallwch gyflwyno’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • FPS pellach yn dangos y ffigurau cywir ar gyfer y flwyddyn hyd yma
  • Diweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) yn dangos y gwahaniaeth rhwng beth y gwnaethoch ei ddidynnu yn wreiddiol a’r swm cywir

Gallwch ond defnyddio EYU ar gyfer blynyddoedd treth pan oeddech yn rhoi gwybod ar-lein mewn amser real.

Os na all eich meddalwedd gyflogres anfon EYU, gallwch ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol CThEF.

Cywiro buddiant marwolaeth pensiwn neu daliad hyblyg

Os ydych yn weinyddwr pensiwn sydd angen cywiro taliad hyblyg neu daliad buddiant marwolaeth:

  • dewiswch y dynodydd ar gyfer taliad pensiwn hyblyg neu’r dynodydd ar gyfer taliad buddiant marwolaeth pensiwn
  • diweddarwch y maes ar gyfer taliad trethadwy pensiynau a godir o’r gronfa neu’r maes ar gyfer taliad nad yw’n drethadwy pensiynau a godir o’r gronfa (neu’r ddau), gyda’r gwahaniaeth rhwng yr hyn gwnaethoch roi gwybod amdano yn wreiddiol a’r ffigurau cywir

Os na all eich meddalwedd gyflogres wneud hyn, cysylltwch â’ch darparwr meddalwedd.

Os yw’ch cyflogai wedi rhoi’r gorau i weithio i chi

Dylech ei gynnwys yn eich FPS nesaf a chywiro ei ffigurau blwyddyn hyd yma. Nodwch ei ‘Dyddiad gadael’ gwreiddiol a rhowch yr un ‘Dyddiad talu’ a ddangosir ar ei FPS olaf, neu ddyddiad hwyrach.

Cywiro’r dyddiad talu yn eich FPS

Dylech ddefnyddio’r dyddiad y gwnaethoch dalu’ch cyflogeion yn eich FPS.

Anfonwch FPS ychwanegol gyda’r dyddiad talu cywir os ydych wedi anfon un gyda’r dyddiad talu anghywir. Ysgrifennwch ‘H - Cywiriad i gyflwyniad cynharach / H - Correction to earlier submission’ yn y maes ar gyfer nodi’r rheswm dros gyflwyno’n hwyr.

Anfonwch eich FPS wedi’i gywiro erbyn y 19eg o’r mis treth ar ôl i chi anfon eich FPS gwreiddiol. Bydd CThEF yn rhoi’r cywiriad ar waith ar gyfer y mis cywir.

Os oedd y dyddiad anghywir mewn mis treth gwahanol, mae’n rhaid i chi adlinio’ch cyflogres i’r cyfnod treth cywir (yn agor tudalen Saesneg).

Cywiro dyddiad dechrau neu ddyddiad gadael cyflogai

Diweddarwch gofnodion eich cyflogres gyda’r dyddiad cywir os gwnaethoch roi’r dyddiad dechrau neu ddyddiad gadael anghywir ar gyfer cyflogai yn eich FPS.

Peidiwch â rhoi gwybod am y diwygiad yn eich FPS nesaf oherwydd ei bod yn bosibl y gall hyn greu cofnod dyblyg ar gyfer y cyflogai.

Cywiro manylion personol eich cyflogai

Cywirwch eich FPS nesaf os ydych wedi gwneud camgymeriad gyda manylion personol eich cyflogai.

Peidiwch â rhoi gwybod am ddiweddariadau i fwy nag un o fanylion personol eich cyflogai (er enghraifft ei enw, dyddiad geni neu rywedd) yn yr un FPS. Gall cofnodion eich cyflogres gael eu dyblygu os gwnewch hynny, ac mae’n bosibl y bydd eich bil TWE yn anghywir.

Os yw manylion eich cyflogai (er enghraifft cyfeiriad neu gyfenw) yn newid:

Cywiro adroddiadau FPS a anfonwyd ymlaen llaw

Os ydych wedi anfon adroddiadau FPS ymlaen llaw ac mae angen eu cywiro (er enghraifft oherwydd bod cyflogai’n gadael), dylech wneud y canlynol:

  • anfon FPS arall ar gyfer y mis treth y mae’r cywiriad yn berthnasol iddo, gan wneud yn siŵr eich bod yn llenwi’r meysydd perthnasol i gyd a diwygio’r ffigurau blwyddyn hyd yma os oes angen

  • cywiro unrhyw adroddiad FPS arall a anfonwyd gennych ymlaen llaw y mae’r newid wedi effeithio arno

Cywiro llythyren gategori Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogai

Mae sut rydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar y rheswm dros newid y llythyren gategori, ac ym mha flwyddyn dreth y digwyddodd hynny.

Rydych wedi defnyddio’r llythyren gategori anghywir yn y flwyddyn dreth bresennol

Rhowch wybod am y camgymeriad yn eich FPS nesaf.

  1. Ychwanegwch y llythyren gategori rydych wedi’i defnyddio’n anghywir.

  2. Rhowch ‘0’ ym mhob maes Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer y llythyren gategori hon heblaw am y maes ar gyfer nodi CYG y cyflogai ar gyfer y taliad hwn, a nodwch y swm rydych wedi’i ad-dalu neu ei adennill yma. Er enghraifft, nodwch ‘-£300’ os ydych yn ad-dalu £300 y mae cyflogai wedi’u gordalu.

  3. Ychwanegwch y llythyren gategori gywir, a nodwch yr Yswiriant Gwladol cywir am y flwyddyn hyd yma ar gyfer y llythyren gategori hon.

  4. Rhowch ‘0’ ym mhob maes Yswiriant Gwladol ar gyfer y llythyren gategori anghywir am weddill y flwyddyn dreth – does dim angen i chi wneud hyn os na ddylai’r categori byth fod wedi cael ei ddefnyddio.

Mae rhai pecynnau meddalwedd yn eich galluogi i gywiro hyn drwy addasu’r cyflog net. Bydd yn dal i fod yn rhaid i chi gadw cofnod o’r newid.

Os gwnaeth llythyren gategori’ch cyflogai newid yn ystod y flwyddyn dreth

Yn eich FPS nesaf:

  1. Parhewch i roi gwybod am wybodaeth ynghylch yr hen gategori ar gyfer y flwyddyn hyd yma.

  2. Rhowch ‘0’ ym mhob maes ‘yn y cyfnod cyflog hwn’ ar gyfer y categori hwn, a defnyddiwch y maes ar gyfer CYG y cyflogai ar gyfer y taliad hwn i addasu unrhyw dandaliad neu ordaliad o Yswiriant Gwladol.

  3. Ychwanegwch y llythyren gategori gywir, a nodwch yr Yswiriant Gwladol cywir am y flwyddyn hyd yma ar gyfer y llythyren gategori hon.

Rydych wedi defnyddio’r llythyren gategori anghywir yn ystod y blynyddoedd treth rhwng 6 Ebrill 2021 a 5 Ebrill 2025

Anfonwch FPS ychwanegol gyda’r llythyren gategori gywir a’r Yswiriant Gwladol cywir am y flwyddyn hyd yma.

Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod blwyddyn dreth 2020 i 2021 neu cyn hynny

Anfonwch EYU sy’n dangos:

  • symiau negyddol ym mhob maes Yswiriant Gwladol am y flwyddyn hyd yma ar gyfer y llythyren gategori anghywir, er mwyn dod ag Yswiriant Gwladol y cyflogai i lawr i sero
  • y llythyren gategori gywir, a’r Yswiriant Gwladol cywir am y flwyddyn hyd yma

Os ydych yn cywiro camgymeriad a ddigwyddodd yn ystod blynyddoedd treth 2019 i 2020 neu 2020 i 2021, efallai y gallwch anfon FPS yn lle hynny – defnyddiwch eich meddalwedd gyflogres i wirio hynny. Anfonwch hwn gan ddangos y llythyren gategori gywir a’r Yswiriant Gwladol cywir am y flwyddyn hyd yma.

Os gwnaeth y camgymeriad arwain at ordaliad neu dandaliad

Mae’n rhaid i chi gywiro didyniadau Yswiriant Gwladol eich cyflogai os gwnaeth dalu gormod neu os na wnaeth dalu digon oherwydd y defnyddiwyd y llythyren gategori anghywir.

Cywiro cod post gweithle’r cyflogai wrth hawlio rhyddhad Yswiriant Gwladol mewn Parthau Buddsoddi neu Borthladdoedd Rhydd y DU sy’n safleoedd treth arbennig

Os ydych wedi cyflwyno FPS gyda chod post gweithle’r cyflogai, defnyddiwch y cod post gweithle cywir o’ch FPS rheolaidd nesaf.

Cywiro EPS

I gywiro camgymeriad yn y flwyddyn dreth bresennol, anfonwch EPS gyda’r ffigurau cywir am y flwyddyn hyd yma.

Ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol, anfonwch EPS gyda’r ffigurau cywir am y flwyddyn hyd yma ar gyfer y flwyddyn dreth lle gwnaethoch y camgymeriad.

3. Gwnaethoch dalu’r swm anghywir i CThEF

Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud i gywiro taliad yn dibynnu a wnaethoch dalu gormod neu rhy ychydig, a sut digwyddodd y gwall.

Os ydych wedi talu rhy ychydig i CThEF

Os gwnaethoch dandalu o ganlyniad i wall yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) ²Ô±ð³Ü’c³ó Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS), cywirwch hyn yn eich cyflwyniad rheolaidd nesaf. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ychwanegu’r tandaliad at eich bil TWE nesaf.

Os gwnaethoch dandalu oherwydd eich bod wedi nodi’r swm anghywir wrth dalu CThEF, talwch y gweddill cyn gynted â phosibl neu efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog neu gosb. Defnyddiwch eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon wrth dalu.

Os ydych wedi talu gormod i CThEF

Os gwnaethoch ordalu o ganlyniad i gamgymeriad yn eich FPS ²Ô±ð³Ü’c³ó EPS, mae’n rhaid i chi gywiro hyn yn eich cyflwyniad rheolaidd nesaf. Bydd CThEF yn didynnu’r gordaliad o’ch bil TWE nesaf.

Os gwnaethoch ordalu oherwydd eich bod wedi nodi’r swm anghywir wrth dalu CThEF, neu oherwydd eich bod wedi gwneud taliad dyblyg, gallwch fantoli’ch cyfrif drwy dalu llai yn eich bil TWE nesaf.

Gallwch hefyd hawlio ad-daliad os ydych wedi gordalu (yn agor tudalen Saesneg).

4. Gwnaethoch dalu’r swm anghywir i’ch cyflogai neu gwnaethoch y didyniadau anghywir

Gallwch gywiro camgymeriad gyda chyflog neu ddidyniadau cyflogai drwy ddiweddaru’r ffigurau blwyddyn hyd yma yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (yn agor tudalen Saesneg) (FPS) rheolaidd nesaf.

Gallwch hefyd ei gywiro drwy anfon FPS ychwanegol cyn bod eich FPS rheolaidd nesaf yn ddyledus. Mae angen i chi wneud y canlynol:

  • diweddarwch y ffigurau ar gyfer y cyfnod cyflog hwn gyda’r gwahaniaeth rhwng yr hyn gwnaethoch roi gwybod amdano yn wreiddiol a’r ffigurau cywir
  • cywirwch y ffigurau am y flwyddyn hyd yma
  • rhowch yr un dyddiad talu â’r FPS gwreiddiol
  • rhowch yr un amlder talu â’r FPS gwreiddiol
  • rhowch ‘H - Cywiriad i gyflwyniad cynharach / H - Correction to earlier submission’ yn y maes ar gyfer nodi’r rheswm dros gyflwyno’n hwyr

Cywiro buddiant marwolaeth pensiwn neu daliad hyblyg

Os ydych yn weinyddwr pensiwn sydd angen cywiro taliad hyblyg neu daliad buddiant marwolaeth, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • dewiswch y dynodydd ar gyfer taliad pensiwn hyblyg neu’r dynodydd ar gyfer taliad buddiant marwolaeth pensiwn
  • diweddarwch y maes ar gyfer taliad trethadwy pensiynau a godir o’r gronfa neu’r maes ar gyfer taliad nad yw’n drethadwy pensiynau a godir o’r gronfa (neu’r ddau), gyda’r gwahaniaeth rhwng yr hyn gwnaethoch roi gwybod amdano yn wreiddiol a’r ffigurau cywir

Os gwnaethoch dandalu’ch cyflogai

Talwch yr un swm i’ch cyflogai â’r un a dandalwyd gennych. Ar neu cyn diwrnod y taliad hwn, anfonwch FPS ychwanegol gyda’r canlynol:

  • y gwahaniaeth rhwng yr hyn gwnaethoch roi gwybod amdano yn wreiddiol a’r swm cywir yn y maes ‘yn y cyfnod cyflog hwn’
  • ffigurau wedi’u diweddaru am y flwyddyn hyd yma
  • ‘H - Cywiriad i gyflwyniad cynharach / H - Correction to earlier submission’ yn y maes ar gyfer nodi’r rheswm dros gyflwyno’n hwyr

Cywiro didyniadau Yswiriant Gwladol cyflogai

Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar bryd gwnaethoch y camgymeriad.

Os oedd y camgymeriad yn ystod y flwyddyn dreth hon

Ad-dalwch neu didynnwch y balans oddi wrth eich cyflogai. Diweddarwch y ffigurau ar gyfer y flwyddyn hyd yma i’r swm cywir yn eich FPS rheolaidd nesaf neu anfonwch FPS ychwanegol.

Os na wnaethoch ddidynnu digon, ni allwch adennill mwy na chyfraniad Yswiriant Gwladol y cyflogai a oedd yn ddyledus y mis hwnnw.

Enghraifft:

Gwnaethoch ddidynnu £100 yn llai nag y dylech ym mis Ionawr. Ym mis Chwefror, mae’ch meddalwedd yn cyfrifo didyniad Yswiriant Gwladol sy’n £80. Mae hyn yn golygu eich bod yn gallu adennill hyd at £80 tuag at dandaliad y mis hwnnw (didyniad sy’n dod i gyfanswm o £160).

Adenillwch yr £20 sy’n weddill mewn mis arall.

Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod y blynyddoedd treth rhwng 6 Ebrill 2020 a 05 Ebrill 2025

Anfonwch FPS gyda’r swm y dylech fod wedi ei ddidynnu.

Bydd angen i chi ysgrifennu at CThEF os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r gwahaniaeth yn negyddol oherwydd eich bod wedi didynnu gormod o Yswiriant Gwladol, neu wedi rhoi gwybod am ormod ohono
  • mae arnoch ad-daliad i’ch cyflogai o hyd, er enghraifft, oherwydd ei fod wedi gadael eich cyflogaeth

Yn eich llythyr bydd angen i chi gynnwys y canlynol:

  • y cyfeirnod ‘Cyfraniadau YG a ordalwyd’
  • enw, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol eich cyflogai
  • pam y gwnaethoch ordalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • ym mha flynyddoedd treth y gwnaethoch ordalu
  • faint o Yswiriant Gwladol y gwnaethoch ei ordalu
  • pam na allwch wneud y taliad i’r cyflogai

Ar gyfer hawliad am un cyflogai neu fwy nag un cyflogai, anfonwch y llythyr at:

Cyllid a Thollau EF
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod y flwyddyn treth rhwng 6 Ebrill 2019 a 5 Ebrill 2020

Anfonwch FPS gyda’r Yswiriant Gwladol cywir am y flwyddyn hyd yma os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’ch meddalwedd gyflogres yn eich galluogi i gyflwyno FPS
  • gallwch dalu unrhyw ad-daliadau Yswiriant Gwladol sydd arnoch

Os na allwch ddefnyddio FPS, anfonwch Ddiweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) gyda’r gwahaniaeth rhwng y canlynol:

  • swm yr Yswiriant Gwladol y gwnaethoch ei ddidynnu’n wreiddiol
  • y swm cywir y dylech fod wedi ei ddidynnu

Os yw’r gwahaniaeth yn negyddol (oherwydd eich bod wedi nodi gormod wrth roi gwybod am Yswiriant Gwladol neu wedi didynnu gormod ohono), mae hefyd angen i chi osod y dangosydd ad-daliad CYG ar:

  • ‘Iawn’, os ydych wedi ad-dalu’ch cyflogai neu os nad oedd ad-daliad yn ddyledus
  • ‘Na’, os oes arnoch ad-daliad i’ch cyflogai o hyd (er enghraifft, oherwydd ei fod wedi gadael eich cyflogaeth)

Os oes tandaliad

Os na wnaethoch ddidynnu digon o Yswiriant Gwladol, talwch y tandaliad i CThEF ar unwaith. Gallwch adennill y swm oddi wrth eich cyflogai drwy wneud didyniadau o’i gyflog.

Ni allwch adennill mwy na swm yr Yswiriant Gwladol sydd ar y cyflogai mewn mis (fel nad yw’r cyflogai’n talu mwy na dwbl ei gyfraniad arferol). Trosglwyddwch y gwahaniaeth i fisoedd hwyrach - gallwch ond gwneud didyniadau yn y flwyddyn dreth pan wnaethoch y camgymeriad a’r flwyddyn ar ôl hynny.

Cywiro ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr cyflogai

Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar bryd gwnaethoch y camgymeriad.

Os oedd y gwall yn ystod y flwyddyn dreth hon

Ad-dalwch neu didynnwch y balans oddi wrth eich cyflogai. Diweddarwch y ffigurau ar gyfer y flwyddyn hyd yma i’r swm cywir yn eich FPS rheolaidd nesaf neu anfonwch FPS ychwanegol.

Os gwnaethoch ddidynnu rhy ychydig, ni allwch adennill mwy na’r ad-daliad benthyciad myfyriwr a oedd yn ddyledus y mis hwnnw.

Enghraifft:

Gwnaethoch ddidynnu £50 yn rhy ychydig ym mis Mehefin. Ym mis Gorffennaf, mae’ch meddalwedd yn cyfrifo didyniad benthyciad myfyriwr sy’n £30, mae hyn yn golygu eich bod yn gallu adennill hyd at £30 tuag at dandaliad y mis hwnnw (didyniad sy’n dod i gyfanswm o £60).

Adenillwch y £20 sy’n weddill mewn mis arall.

Os oedd y gwall yn ystod blynyddoedd treth blaenorol

Does dim rhaid i chi gymryd unrhyw gamau pellach os yw’r naill neu’r llall yn berthnasol:

  • nid ydych wedi didynnu digon
  • rydych eisoes wedi cyflwyno eich FPS terfynol ar gyfer y flwyddyn honno

Dylai’ch cyflogai gysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i weld sut y mae’n effeithio arno.

Os gwnaethoch ddidynnu gormod, ac nid ydych wedi anfon eich FPS terfynol ar gyfer y flwyddyn honno, gallwch ad-dalu eich cyflogai. Anfonwch FPS gyda’r ffigur cywir ar gyfer ad-daliad benthyciad myfyriwr am y flwyddyn hyd yma fel yr oedd ar 5 Ebrill ar gyfer y flwyddyn flaenorol.